Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/John Jones, Penyparc

Oddi ar Wicidestun
Owen Evan, Tyddynmeurig Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I

gan Robert Owen, Pennal

Richard Jones, Ceunant


John Jones, Penyparc

Ffermdy ydyw Penyparc, o fewn chwarter milldir i bentref Bryncrug. Yr oedd y lle yn adnabyddus iawn am yr haner cyntaf o'r ganrif hon, am mai yno y preswyllai John Jones. Efe a ystyrid y dyn pwysicaf o bawb ymhlith y Methodistiaid rhwng y Ddwy Afon, o ddechreuad cyntaf crefydd am haner can' mlynedd o amser, ar gyfrif ei ysgolheigdod, ei fedrusrwydd i gyfranu addysg yn wythnosol a Sabbothol, ac oherwydd ei ymroddiad llwyr i grefydd yn ei hamrywiol gylchoedd. Mab ydoedd i Lewis Jones, Penyparc, un o'r rhai cyntaf a agorodd ei ddrws i grefydd yn Bryncrug. Ganwyd ef yn Berthlwyd Fach, yn 1769. Cymerodd ei rieni brydles ar Benyparc, a symudasant yno i fyw. Yr oeddynt mewn amgylchiadau cysurus, fel y gallasent roddi addysg well na'r cyffredin i'w mab, a gwnaeth yntau ddefnydd da o honi. Nid oedd ynddo. gymhwysder i fod yn amaethwr. Y chwedl ganlynol a ddengys hyny. Yr oedd yn aredig ar y fferm un tro gydag aradr bren, o'r hen ffasiwn, a rhyw bwt o swch ar ei phen, a bachgen o'i flaen yn gyru y ceffylau. "Ho, fachgen," meddai, dal atat, nid oes genyf yr un gwys." Ar ol myned i'r pen, dywedodd y bachgen wrtho, "Meistr, meistr, nid oes yr un swch ar yr aradr!" Gan nad oedd cymhwysder ynddo at ffermio, a chan ei fod wedi cael ysgol dda yn yr Amwythig, ymgymerodd â chadw ysgol ddyddiol. Dechreuodd ei chadw oddeutu yr adeg yr oedd yr eglwysi cyntaf yn yr ardaloedd hyn yn cael eu ffurfio, oblegid yr ydym yn cael fod Parch. Owen Jones, y Gelli, gyda ef yn yr ysgol yn 1794.

Yr oedd John Jones, a Dafydd Ionawr, y prydydd, yn gyfoedion, wedi eu geni yn agos i'r un adeg, ac yn preswylio yn y ddau dyddyn agosaf; y naill yn Eglwyswr, a'r llall yn Fethodist Calfinaidd. Gwnaeth Dafydd Ionawr brydyddiaeth i John Jones, ac yr oedd yntau yn falch iawn o honi. Deallai navigation yn well na llawer yn yr oes hono, ac fe fyddai bechgyn y môr yn dyfod ato, o Aberystwyth, Aberdyfi, a'r Abermaw. Adroddir hanesyn am dano yn y cysylltiad hwn sydd yn dangos y ffordd y daeth i ymgymodi â sefydliad Athrofa y Methodistiaid yn y Bala. Naw mlynedd cyn ei farw y sefydlwyd yr Athrofa. Yr oedd ef yn un o'r hen bobl, ac nid oedd y cyfryw, fel rheol, yn gweled angen am Athrofa. Modd bynag, yn fuan wedi ei sefydliad, yr oedd rhai o'r efrydwyr ar eu ffordd o'r Bala i Sir Aberteifi, ac yn lletya yn Penyparc. Aeth yr hen ysgolhaig i holi yr efrydwyr am eu gwybodaeth, ac am navigation, ei hoff bwnc. Daeth yr efrydwyr i fyny a'i holiadau, gan eu bod yn alluog i'w hateb yn llawn. Mawr oedd llawenydd yr hen athraw wrth weled yr efrydwyr yn ateb ei holiadau ar forwriaeth, a bu hyny yn foddion i'w enill o blaid yr Athrofa. Yr oedd John Jones yn dduwinydd galluog, ac ystyrid of yn gryn dipyn o awdurdod yn y ffordd hono ymhlith ei gydoeswyr. Gwnaeth holiadau manwl ar holl bynciau y Gyffes Ffydd, a chyhoeddwyd hwy yn y Drysorfa o fis i fis; ac os nad ydym yn camgymeryd, trwy anogaeth y Gymdeithasfa y gwnaeth hyn.

Ystyrid ef yn ysgrifenwr o radd uchel yr amseroedd hyny. Y mae ei enw i'w weled yn fynych mewn cyfrolau o'r hen Drysorfa a Goleuad Cymru, yn ysgrifenu mewn rhyddiaeth a barddoniaeth. Cyhoeddodd rai llyfrau a chofiantau. Efe oedd awdwr y Silliadur, llyfr elfenol at wasanaeth yr Ysgol Sul, a bu defnyddio mawr arno yn ystod ei fywyd, ac ar ol ei farwolaeth, ac nid oedd ei ragorach i'w gael y pryd hwnw, beth bynag.

Ond y lle y bu ef yn dra defnyddiol, a'i wasanaeth yn anmhrisiadwy werthfawr ydoedd yn ei gartref, ac yn y Dosbarth rhwng y Ddwy Afon. Bu yn cadw lle diacon a gweinidog yn ei eglwys gartref am yn agos i 60 mlynedd. Y tebyg ydyw mai efe oedd y cyntaf oll yn y wlad hon a ddewiswyd yn flaenor eglwysig. Mynych y byddai y daith heb yr un pregethwr y Sabbath, a phan y digwyddai hyny, cymerai J. J. benod neu Salm i'w hesbonio, ac i roddi cynghorion oddiwrth i'r gwrandawyr. Gwnai yr un peth hefyd gyda y lleoedd bychain cylchynol. "Yr oedd," ebe un oedd yn aelod o eglwys Bryncrug yn ei amser, "yn arw am fyned yn erbyn pechod, a chadw disgyblaeth i fyny, a byddai yn hollol ddidderbyn wyneb wrth ddisgyblu. Dywedai am saint y Beibl, wedi iddynt syrthio i ryw fai, a chael eu ceryddu, y byddent ar eu gwyliadwriaeth i ochel y pechod hwnw mwyach." Ebe yr un person drachefn, "Holi yr ysgol yn bur ddwfn y byddai; rhoddai orchymyn pendant i bawb gau eu llyfrau, a dywedai os byddent am eu defnyddio, 'mai yr hwyaf ei wynt am dani hi. Nid mewn dawn yr oedd ei ragoriaeth, ond yn ei gynlluniau a'i ofal am yr achos, a'i ymroddiad i wasanaethu crefydd ymhob modd. Yr ydoedd yn haelionus hefyd yn ol ei amgylchiadau. Bu Penyparc yn gartref i bregethwyr, teithwyr, a fforddolion dros amser maith. Pan oedd y Parch. Richard Humphreys a Mr. Williams, Ivy House, yn yr eglwys yn casglu at ddiddyledu y capelau, wedi traethu ar y mater, elai Mr. Humphreys o gwmpas i ofyn am addewidion, ac meddai, yn ei ffordd wreiddiol ei hun, Wel, money now, John; y chwi sydd i addaw gyntaf!" "Mae fy oes bron wedi dirwyn i'r pen," ebe yntau, "gwell i mi wneyd cymaint allaf," ac addawodd 10p. Ymwelai yn fynych âg Ysgolion Sabbothol y cylchoedd, i hyrwyddo eu sefydliad a'u dygiad ymlaen, ac i ddysgu yr ysgolion i ddarllen yn gywir, trwy gadw at yr atalnodau, a rhoddi y pwysleisiad yn briodol wrth ddarllen, ar yr hyn bethau y rhoddai ef bwys mawr.

Un o drigolion hynaf Corris a ddywed ei fod yn ei gofio yn ymweled â'r Ysgol Sul yno, ac iddo ar y diwedd alw holl ddynion yr ysgol ynghyd yn un cylch mawr, er mwyn eu profi yn gyhoeddus mewn darllen; a phan y byddai un yn methu, rhoddai gyfle i'r lleill ei gywiro, ac elai y rhai fyddent yn methu i lawr yn y rhestr, a'r rhai fyddent yn cywiro i fyny, a'r goreu am ddarllen, o angenrheidrwydd, a safai ar ben y rhestr yn y diwedd. Efe oedd ysgrifenydd y Cyfarfod Ysgolion yn y dosbarth, a pharhaodd yn ei swydd nes iddo fethu gan henaint. Aeth llawer o'i lyfrau a'i bapurau ar goll, ac felly collwyd cyfrifon yr ysgolion am y deugain mlynedd cyntaf o'i hanes. Ond daeth ychydig o'i ysgrifau i'r golwg yn ddiweddar, y rhai oeddynt wedi eu trosglwyddo i ofal y diweddar G. Pugh, Berthlwyd. Cedwid y rhai hyn mewn bag bychan o groen gwyn, pwrpasol at ei gario o amgylch, ac yn ysgrifenedig o'r tuallan iddo—"Llyfrau, Pynciu, &c., i'r Ysgolion Sabbothol, J. J." Holwyddoreg ydyw y rhan fwyaf o'r rhai hyn, yn cynwys canoedd o ofyniadau ar wahanol bynciau, megis Dirwest, y Swper Sanctaidd, Gweddi, &c., ac amryw ganeuon ar faterion Ysgrythyrol. Ceir hefyd ymhlith papyrau L. Williams, Llanfachreth, amryw o'i lythyrau, y rhai a ddangosant y dyddordeb a gymerai yn achos yr eglwysi cylchynol. Ac yr ydoedd ef yn un o'r siaradwyr a'r trefnwyr yn y Cymdeithasfaoedd Chwarterol yn ei ddydd.

Un peth, modd bynag, a dynai dipyn oddiwrth ei liaws rhagoriaethau ydoedd, afrywiogrwydd ei dymer. Dywedid y byddai yn un pur lym a garw yn ei ffordd, yn enwedig gyda'r plant yn yr ysgol ddyddiol. Un o brif erthyglau credo ysgolfeistriaid ei oes of oedd, bod yn rhaid defnyddio y wialen fedw. Aeth ef rai troion i eithafion pell gyda'r mater hwn, ac oherwydd iddo gael y gair o fod yn curo y plant, atelid rhai rhag myned i'r ysgol ato. Ceir arwyddion hefyd ei fod am ei ffordd ei hun i raddau gormodol gyda dygiad yr achos ymlaen yn rhai o'r eglwysi cylchynol. Cafodd llawer o'r rhai fu yn ei wasanaeth fel gweision a morwynion, mae'n wir, le da i feithrin eu crefydd, ond nid oedd ef yn un o'r rhai tirionaf bob amser tuag at ei wasanaethyddion. Yr oedd yn ddiwrnod ympryd unwaith, ac aeth y gwas, sef Evan Morris, y pregethwr, ato yn y boreu, a gofynodd: "Beth gaf i'w wneyd heddyw?" Amser dyrnu ydoedd. "Wel," ebe yntau, "beth wyt yn feddwl a wnei di: mae yn anodd i ti wneyd dim byd yn well i ymprydio na myned i'r 'sgubor i ddyrnu."

Ond er y ffaeleddau hyn, bu o wasanaeth mawr i grefydd yn ei oes, safai yn uchel yn marn ei gydoeswyr, a choffheir ei enw yn fynych hyd heddyw gan yr hen bobl. Dywed awdwr Methodistiaeth Cymru am dano,—"Ymysg eraill a fu yn ddefnyddiol yn y parthau hyn, y mae yn deilwng gwneuthur sylw arbenig o'r hybarch John Jones, Penyparc, yr hwn sydd wedi gorphwyso oddiwrth ei lafur er's blynyddoedd rai. Fe fu y gŵr hwn yn cadw ysgol am faith flynyddau. . . . Rhoddid iddo gyfleusdra yn y modd yma i egwyddori a rhybuddio plant ei ardal; defnyddiodd yntau y cyfleusdra, bu yn ddiwyd a ffyddlon dros amser maith gyda'i orchwyl; a bendithiwyd ei lafur mewn llawer dull, ac i lawer un o'r trigolion." Golygydd y Traethodydd, y diweddar Barch. Roger Edwards, a wnaeth y sylw canlynol am dano yn y Traethodydd am 1847. "Yr ydym yn deall yn awr fod yr hen bererin hybarch, Mr. John Jones, o Benyparc, wedi gorphen ei yrfa, a myned i dangnefedd er's rhai misoedd bellach; ac y mae yn syn genym na welsom gymaint a chrybwylliad am ei farwolaeth mewn na Thrysorfa nac un lle arall. Nid gŵr cyffredin yn ei oes oedd Mr. Jones. Yr oedd yn Gristion disglaer, yn wladwr da, yn ddarllenwr mawr, yn ieithydd ac ysgrifenydd medrus, yn ddiacon gweithgar, ac yn athraw defnyddiol. A'i gymeryd ymhob peth nid hawdd y ceid ei gyffelyb." Yn llyfr cofnodion Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd, Awst 4ydd, 1816, ceir y sylw canlynol,—

"Coffhawd am farwolaeth yr hen athraw ffyddlon a duwiol, Mr. John Jones, Penyparc, gerllaw Towyn—a dymunwyd ar yr ysgolion feddwl am brynu y Silliadur gwerthfawr a wnaeth at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol. Rhoddwyd hefyd ar Mr. Williams, a Mr. R. O. Rees, Dolgellau, i ysgrifenu coffadwriaeth am dano i'r Drysorfa." Eto, yn Nghyfarfod Misol y Bwlch, Mai 25ain, 1848, "Anogwyd ar fod i'r cyfeillion a benodwyd arnynt yn Nghyfarfod Misol Llanelltyd, Awst, 1846, i feddwl am gyflawni y gorchwyl a ymddiriedwyd iddynt o ysgrifenu i'r Drysorfa goffadwriaeth am y diweddar anwyl frawd, Mr. John Jones, Penyparc," Drachefn, yn Nghyfarfod Misol Dolgellau, Mawrth 29ain, 1849, "Dymunwyd ar y Parch. Mr. Morgan, i wneuthur Cofiant i'r hen frawd Mr. John Jones, Penyparc, a'i anfon i'r Drysorfa, am na wnaed gan y brodyr a benodwyd i hyny o'r blaen." Ond er penderfynu deirgwaith, ni ysgrifenwyd dim hyd heddyw. Ac y mae yn anhawdd yn yr amser pell hwn ar ol ei farwolaeth ysgrifenu llawer mewn trefn am y gwaith a wnaeth. Digon yw y crybwyllion hyn i ddangos y sefyllfa uchel y safai ef ynddi yn ngolwg ei gydwladwyr ar gyfrif y gwasanaeth a wnaethai gyda theyrnas yr Arglwydd Iesu. Yr oedd John Jones, yn ei glefyd olaf yn bur isel ei feddwl. Dywedai y brawd oedd yn gwylied gydag ef, na byddai i'r Arglwydd ddim ei adael ac yntau wedi bod mor ffyddlon. "O fy mywyd diffrwyth!" meddai yntau. "Yr oedd y wlad yma fel anialwch pan y dechreuais i fy mywyd; gymaint o fanteision a gefais i wneyd daioni, ac mor lleied a wnaethum!" Y mae yr ysgrifen ganlynol ar gareg ei fedd yn mynwent blwyfol Towyn:—

COFFADWRIAETH

Am y diweddar John Jones, A. Y.,

Penyparc.

Yr hwn a ymadawodd a'r bywyd hwn

Y 27ain o Gorphenaf, 1846, yn 77ain oed.

Ac a gladdwyd yma mewn gobaith am orfoleddus

Adgyfodiad i fywyd a gogoniant tragwyddol.

"Efe oedd wr ffyddlawn, ac yn ofni Duw yn fwy na llawer."

———————

Nodiadau[golygu]