Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/Seion (Arthog)

Oddi ar Wicidestun
Llanfachreth Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I

gan Robert Owen, Pennal

Llanelltyd
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Arthog
ar Wicipedia

SION (Arthog)

Enw yr ardal hon ar y cyntaf mewn cysylltiad â'r Methodistiaid oedd "Ty Dafydd," oddiwrth enw y gŵr a roddodd ei dŷ i gynal yr achos ynddo. Cynhelid y moddion crefyddol cyntaf y mae dim hanes am danynt (heblaw y moddion a fu yn Pantphylip, yn amser Hugh Owen, Bronclydwr), mewn lle a elwir Capel Ellis. Adeilad yw hwn ar ochr y ffordd fawr, ychydig uwchlaw Arthog, i gyfeiriad Dolgellau, a ddefnyddid y ganrif ddiweddaf fel math o "Chapel of Ease" perthynol i'r Eglwys Wladol. Ond gan mai yn awr ac yn y man yn unig y byddai gwasanaeth ynddo, deuai rhai Methodistiaid o Ddolgellau, ac yn eu plith Hugh Lloyd, i gynorthwyo yr ychydig grefyddwyr yma mewn cynal cyfarfodydd gweddi, ac yn Capel Ellis y cynhelid hwy. Cedwid yr agoriad yn nhŷ Richard Lewis, Erwgoed. Un Sabbath, modd bynag, wedi i'r cyfeillion ddyfod i lawr o Ddolgellau, cawsant y lle wedi ei gloi, a'r meistr tir wedi rhoddi gorchymyn i Richard Lewis na roddai yr agoriad iddynt. Cynhaliwyd y cyfarfod gweddi y tro hwnw allan ar y "clwt glas" o flaen Capel Ellis. Ar ddiwedd y cyfarfod aethpwyd i ymgynghori pa beth a wneid rhagllaw, ac atebodd un Dafydd Robert fod ganddo ef dŷ yn feddiant iddo ei hun, y caent ddyfod yno i gadw y moddion. Felly y cytunwyd. Yna daeth yn arferiad i alw y lle wrth yr enw "Tŷ Dafydd." Peth anghyffredin yn yr oes hono oedd fod dyn cyffredin yn meddu tŷ o'i eiddo ei hun. Ond digwyddodd fel hyn yn rhagluniaethol, i'r drws gael ei agor yn yr ardal hon i'r efengyl. Yr oedd yr achos yn dechreu yma yn y wedd hon arno, o leiaf, yn 1792. Dywed y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, ei fod yn myned pan yn ddyn ieuanc, cyn dechreu pregethu, gyda chyfeillion eraill, y flwyddyn ddilynol i Tŷ Ddafydd, i gynorthwyo i gynal cyfarfodydd gweddiau. Ty bychan ydoedd, yr hwn, gyda llaw, sydd yn aros hyd heddyw. Y mae wedi ei adeiladu yn ngodreu y graig, ar fin y ffordd, yn union gyferbyn â Gorsaf bresenol Arthog. Hen ŵr dall oedd Dafydd Robert, yn cadw cwch i gludo nwyddau dros yr afon, a'i ferch bob amser gydag ef, yn rhwyfo y cwch. Yr oedd y gamlas y pryd hwnw yn cyraedd o'r afon i ymyl ei dy. Ac y mae traddodiad yn yr ardal fod yr hen wr wedi cludo Mr. Charles unwaith yn ei gwch i'w dŷ i bregethu, ac wedi rhwymo y cwch gyda rhaff wrth bost y gwely. Bu yr achos yn cael ei gynal yn y tŷ hwn o leiaf 15 mlynedd. Y mae yn cael ei adrodd yn lled gyffredin gan hen bobl hynaf yr ardal, y rhai a glywsant yr hanes gan eu tadau, nad oedd neb yn perthyn i'r eglwys hon a fedrai ddarllen. Eu cynllun oedd, gadael i Robert Richard, Fegla Fawr, yr hwn oedd yn ddarllenwr da, ddyfod i'r cyfarfod eglwysig i ddarllen yn y dechreu, yna elai allan o'r cyfarfod ar ol darllen, gan nad oedd yn proffesu crefydd.

Dyddiad gweithred capel cyntaf Sion ydyw Hydref 26, 1806. Prydles 60 mlynedd; ardreth flynyddol, deg swllt. Richard Lewis, Erwgoed, a fedrodd gael lle i adeiladu, trwy ryw gymwynas a wnaethai i Lewis Evans, aer Garthyfog. Yr ymddiriedolwyr oeddynt—John Davies, Prisca, John Vaughan, College, Lewis Morris, Thomas Charles, Bala, Robert Griffith, Dolgellau, John Ellis, Abermaw, Richard Lewis, Erwgoed, a Robert Richard, Fegla Fawr. Hynod o'r hynafol oedd y capel yn ei wedd gyntefig llawr pridd ar ei waelod, ac heb yr un sêt fawr, na bach ychwaith, mae'n debygol. Gwnaed helaethiad arno yn 1839, trwy estyn un talcen iddo allan. Wedi hyn, yr oedd yr areithfa yn ei ochr, a'r bobl ar dde ac aswy y llefarwr, ac yntau hyd at glicied ei ên yn y pulpud, er iddo sefyll ar ben blocyn gyda hyny. A dyma'r wedd fu arno am agos i 30 mlynedd. Prynwyd y capel, sef y tir o dano, yn y flwyddyn 1857, am £100. Yn 1868 cymerwyd cam ymlaen, trwy adeiladu capel newydd. Aeth yn dipyn o ddadl ynghylch y lle i osod y newydd i lawr—rhai eisiau iddo fod yn yr hen le, ac eraill eisiau ei symud haner milldir yn uwch i fyny, yn nghyfeiriad cloddfa Arthog. Y pryd hwn y cynygiodd y Parch. G. Williams, Talsarnau, mewn cynulliad yn Nolgellau, wrth benderfynu anfon cenhadon yno dros y Cyfarfod Misol, i geisio cael y pleidiau i gydweled, fod i'r cenhadon gynal cyfarfod gweddi yn y lle, gan ychwanegu, "os nad oes digon o râs yn Sion, y mae digon yn y nefoedd." Ond adeiladu y capel yn y lle newydd a wnaed, ar y draul o £600, a thrwy ymdrech y cyfeillion y mae y ddyled wedi ei llwyr dalu er's blynyddau. Nid ydyw yr holl hanes am ddygiad ymlaen yr achos yma wedi myned yn gwbl ango. Tybia rhai o'r hen bobl hynaf fod yr Ysgol Sabbothol wedi dechreu yn Nhŷ Ddafydd. Ond yn y benod ar hanes yr ysgol yn Nosbarth rhwng y Ddwy Afon, rhoddwyd manylion am dani yn cael ei sefydlu gan Lewis Williams, yn y flwyddyn 1813. Bu yr hen ysgolfeistr yma yn cadw ysgol ddyddiol amryw adegau, a'r enw yn ei lyfrau ef ar yr ardal bob amser ydyw, "Blaenau Plwy Celynin." Y mae wedi cofnodi ei fod yn dechreu yr ysgol yma "Chwefror 17, 1813, ar yr amod i Lewis Morris, Richard Lewis, Thomas Jones, a Griffith Davies, i fod yn feichiafon am £6 o gyflog yn y chwarter." Yr oedd yma hefyd yn nechreu 1812, pryd y gwnaed ymchwiliad manwl i ansawdd yr ardal, o berthynas i nifer y trigolion uwchlaw 7 oed a fedrai ddarllen, a'r nifer ni fedrai ddarllen &c. "Rhifedi holl bobl yr ardal 253; yn medru darllen 151; heb fedru darllen, 102; penau teuluoedd, 77; teuluoedd heb Feiblau ynddynt 20. Casglwyd at y Feibl Gymdeithas £6 15s. 8½c." Yna ceir enwau pump o bersonau fel tystion i gywirdeb y cyfrifon uchod.

Ar ol Dafydd Robert, y gŵr a roddodd ei dŷ i gynal y moddion ynddo, hysbysir am deulu arall a wnaeth wasanaeth mawr tuagat gychwyn a chynal yr achos yn y lle dros lawer o flynyddoedd, sef Richard Lewis, Erwgoed, a Jane Lewis, ei wraig. Yr oedd y rhai hyn yn daid a nain i'r Parchn. E. J. Evans, Llanbedr, ac R. Evans, Harlech. Treuliasant ill dau oes faith i wasanaethu crefydd yn ngwir ystyr y gair. Yn eu tŷ hwy bob amser yr arhosai y pregethwyr, a charient fwyd iddynt i dŷ y capel, pan yr elent at Lwyngwril. Canmolir Jane Lewis fel mam yn Israel ac un nodedig am ei duwioldeb. Un arall o'r chwiorydd hynod am ei chrefydd oedd Betty Dafydd, Ty'r capel. Byddai y ddwy hyn, yn nghyda chwiorydd eraill, ar un adeg, yn cynal cyfarfod gweddi merched. Bu gwedd isel ar yr achos yma ar wahanol amserau. Yr oedd felly, medd ein hysbysydd, yn flaenorol i 1840. Oddeulu y pryd hwnw y daeth y Parch. Evan Roberts i'r ardal o'r Abermaw, a gŵr o'r enw Evan Jones (yr hwn a weithiai yn ei wasanaeth fel crydd). Yr oedd yr olaf yn meddu llawer o gymwysderau at y gwaith, yn deall cerddoriaeth, ac yn athraw defnyddiol yn yr Ysgol Sul. Rhoddwyd ychydig o'i hanes ynglyn âg eglwys Maethlon. Daeth Ellis Jones hefyd yma o Lanelltyd oddeutu yr un adeg. Yr oedd y symudiadau hyn yn gaffaeliad mawr i'r achos yn Sion. Mr. Elias Pierce, 20 Palm Grove, Birkenhead, yr hwn sydd yn frodor o'r ardal hon, mewn nodiadau helaeth o'i adgofion am y lle pan oedd yn ieuanc, a ddywed:—

Un bregeth a geid ar y Sabbath, sef am 10, ysgol am 2, a chyfarfod gweddi am 6. Yn y cyfarfod gweddi tri o frodyr a elwid at y gwaith. Byddai y cyntaf a'r olaf yn darllen penod, ac fel rheol, yn canu cyn ac wedi darllen, a byddai y weddi yn para yn fynych am ugain mynyd. Gofelid am i'r ddau hyn fod yn ddarllenwyr gweddol, ond am y canol, ni ofelid pa un a fedrai ddarllen ai peidio, ac ni fyddai neb yn teimlo angen am lyfr hymnau. Byddai gan y brodyr mwyaf anllythrenog ddau neu dri o benillion ar eu côf, a byddem ninau, y bechgyn direidus, yn dechreu dyfalu pa benill a geid. Heblaw y tri blaenor, yr oedd yno amryw o frodyr yn meddu graddau helaeth o gymwysderau i gymeryd rhan yn y gwaith cyhoeddus, ac nid wyf yn cofio gweled neb yn anufuddhau pan y gelwid arno. Enw y dechreuwr canu oedd Ellis William, hen lanc lled bigog ac anhawdd ei drin yn fynych, ond yr oedd yn hynod o fedrus fel cerddor, ac yn feddianol ar y llais mwyaf soniarus. Nid yn fynych y gwelid Lewis Morris (y pregethwr) yn y seiat, gan ei fod yn byw mewn lle pur anghysbell, ond pan y deuai cymerai yr arweiniad i'w law ei hun yn hollol, ac os byddai achos o ddisgyblaeth ger bron, gwnai fyr waith, a thra effeithiol. Unwaith yr oedd gŵr a gwraig yn arfer ffraeo a'u gilydd, a daeth L. Morris yno i drin eu hachos, ac ar ol dweyd yn llym ar y pechod o gweryla, dywedai:— Cerdd allan Wmffra, cerdd dithau ar ei ol o, Nelly,' heb ofyn arwydd o gwbl gan yr eglwys.

Arferai y pregethwyr, gan mwyaf, letya yn Erwgoed, ac weithiau ceid pregeth yno nos Sadwrn. Y pregethwr mwyaf poblogaidd genym ni y bechgyn oedd, John Williams, Llecheiddior, ac wedi iddo ddyfod i drigianu i Lanfachreth, deuai i Sion yn lled fynych, a chan ein bod wedi deall ei fod yn bur hoff o gocos, byddem yn gofalu am fyned i'r traeth i hel cocos erbyn swper nos Sadwrn, a'u hanfon i John Williams, i Erwgoed. Ac fel cydnabyddiaeth am hyn o wasanaeth, caem ninau farchogaeth ei geffyl glas, 'Simon,' dranoeth, bob yn ail ar ein ffordd i Lwyngwril, at yr odfa 2. Yr oedd yn arferiad genym fyned i Lwyngwril at 2 gyda'r pregethwyr a ystyrem ni yn rhai enwog."

Heblaw y pesonau a nodwyd, yr oedd Edward Jones, joiner, tad Richard Jones, blaenor a'r dechreuwr canu presenol, yn flaenllaw gyda'r achos. David Lewis, Fegla Fawr, ac un o'r enw Richard Jones, a gymerent ran yn fynych yn y moddion cyhoeddus. Gŵr arall llawn mor flaenllaw â'r un o'r rhai a enwyd oedd John Pierce, tad Mr. Pierce, Birkenhead. Yn ychwanegol at ei dduwioldeb diamheuol, ystyrid ef y mwyaf galluog o'r holl frodyr. Yr oedd yn ddarllenwr ac yn fyfyriwr mawr ar hyd ei oes, a byddai bob amser ar y blaen gyda phob diwygiad. Arferai yn gyffredin esbonio y benod a ddarllenai yn y cyfarfod gweddi, ac yr oedd yn feddianol ar ddawn gweddi neillduol. Ceid ganddo hefyd sylwadau gwerthfawr yn y seiat. Dywedai Mr. Humphreys, Dyffryn, wrtho unwaith—"Yr wyt ti, John, ryw led llaw neu ddwy yn uwch Calfin na mi." A dywediad Lewis Morris oedd y dylasai ei enw fod yn John Calvin. Oherwydd rhyw anghydwelediad bu ef am ychydig amser gyda'r Bedyddwyr. Ac ar ol iddo ddychwelyd yn ol at y Methodistiaid dywedai Dafydd Rolant, y Bala, am dano, "Y mae pob peth oedd yn fai yn John Pierce wedi myned hefo'r dŵr tra bu gyda'r Bedyddwyr."

Pan ddechreuodd y brodyr y Bedyddwyr achos yn yr ardal hon a Llwyngwril, yr oedd cryn nifer yn eu canlyn ar y cychwyn. O leiaf, elai llawer i edrych ar y ddefod o drochi,' fel y gwelir yn gyffredin gydag unrhyw symudiad newydd mewn cymydogaeth. Un boreu Sabbath, yr oedd y pregethwr poblogaidd, Dafydd Rolant, y Bala, yn pregethu yma, pryd y gweinyddid yr ordinhad o fedydd yn gyhoeddus gan yr enwad crybwylledig, a'r bobl wedi myned i edrych ar y ddefod, yntau a ddywedai uwchben ei gynulleidfa fechan ei hun,— "Wel, 'does yma ddim ond y gwenith heddyw, mae yr ûs wedi myned i edrych ar y mân ûs yn myn'd hefo'r dŵr." Yn Llwyngwril y prydnhawn, drachefn, yr oedd y ddefod o drochi yn cymeryd lle, a llawer wedi gadael capel y Methodistiaid, ac meddai yr hen batriarch ar ganol ei bregeth, "By be sy' ar y bobol! Pe bae nhw yn myn'd trwy gymaint o ddŵr ag sydd oddiyma i Bwllheli, fydda' nhw damad cymwysach wed'yn i deyrnas nefoedd !"

Yn yr ardal hon y treuliodd Lewis Morris, yr hen bregethwr enwog, y rhan helaethaf o'i oes, yr hwn a fu farw Mawrth 11eg, 1855, yn 95 mlwydd oed. Rhoddwyd ei hanes mewn penod flaenorol. Nid ymddengys iddo adael llawer o'i ôl ar yr ardal, oblegid teithio y wlad i bregethu y byddai ef, a threulio llawer o'i amser oddicartref, fel bron yr oll o'r hen bregethwyr. Nid oedd yn bosibl felly iddynt wneuthur llawer o ddaioni gartref, yr hyn ymhen blynyddoedd a droes yn golled i'r Methodistiaid mewn llawer man. Bu Rowland Davies (Rolant Dafydd), y pregethwr, yma yn hir yn gofalu am yr achos, ac yn byw, os nad ydym yn camgymeryd, yn nhŷ y capel. Gwelir oddiwrth lyfrau y Cyfarfod Misol ddarfod i'w weddw dderbyn cynorthwy arianol ar ol ei farwolaeth. Daeth Evan Roberts yma o'r Abermaw rhwng 1835 ac 1840. Symudodd i Sir Drefaldwyn yn nechreu 1854. Bu un pregethwr ieuanc a berthynai i'r eglwys hon farw 24 mlynedd yn ol.

Evan Jones— Ei dad oedd Ellis Jones, gŵr defnyddiol gyda'r achos yma, ac a fu farw ychydig o flaen ei fab; ei fam, yr hon sydd yn ferch i'r hen ddiacon, Hugh Barrow, Llanelltyd, a erys hyd y dydd hwn. Dygwyd Evan Jones i fyny yn pupil teacher yn Nolgellau. Bu yn Ngholeg Athrawol Bangor, ac am ychydig yn cadw ysgol yn Ponterwyd, Sir Aberteifi, ac yn Porthmadog. Dechreuodd bregethu, ac Awst, 1864, aeth i Athrofa y Bala, ond ni bu ei arosiad yno ond mis. Ymaflodd afiechyd yn ei gyfansoddiad, dychwelodd o'r Athrofa, a bu farw yn fuan. Gŵr ieuanc da ei air ymhob cylch y bu yn troi ynddo.

Robert Richard, Fegla Fawr.—Efe oedd blaenor cyntaf yr eglwys. Ni chafwyd hanes am ei neillduad i'r swydd, nac am ei farwolaeth. Efe oedd yr un a fyddai yn myned i'r cyfarfodydd eglwysig i ddarllen penod yn y dechreu cyn iddo ymuno â chrefydd. Efe, hefyd, oedd un o ychydig nifer a ymrwyment am gyflog yr ysgolfeistr yn amser L. W. Sonir hefyd am un Robert Morris wedi bod yn flaenor yma mewn adeg foreu.

John Lewis.—Efe a ystyrid y blaenor bron o ddechreu yr achos hyd ei farwolaeth. Bu yn llenwi y swydd am oddeutu 50 mlynedd, a diweddodd ei oes yn 1873. Yr oedd ganddo fedr (tact) i fod ar y blaen. Cerddodd lawer i Gyfarfodydd Ysgolion a Chyfarfodydd Misol, am y rheswm, ebe fe, nad ai neb arall i'r cyfarfodydd hyn.

John Davies. Daeth yma o Lwyngwril, a chan ei fod yn flaenor yno, galwai John Lewis sylw at hyn mewn cyfarfod eglwysig, a dymunai iddo weithredu fel blaenor yn Sion, a'r hyn y cydsyniwyd trwy godiad llaw. Parhaodd yn y swydd yn ddibrofedigaeth i'w frodyr hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Mehefin 26ain, 1881, yn 80 mlwydd oed.

Dafydd Owen. Daeth yma o Bontddu, oddeutu 1845. Gosodwyd yntau yn y swydd trwy godiad llaw. Gan ei fod yn byw yn y Penrhyn, yn agos i Ferry Abermaw, bu ef a'i deulu yn ffyddlon i groesawu pregethwyr, trwy eu lletya, a'u cyfarwyddo ol a blaen dros yr afon. Safai yn uchel ei gymeriad yma, fel yn y lleoedd eraill y bu yn byw ynddynt. Symudodd oddiyma i'r Dyffryn.

Bu y tri hyn yn blaenori yr eglwys gyda'u gilydd am dymor maith. Yn y Cyfarfod Misol a gynhelid yma Mai 1853, rhoddai y Parch. Robert Williams, Aberdyfi, yr hwn oedd yn olygwr ar yr eglwys ar y pryd, hanes yr achos yn y lle, a dywedai, "Fod Dafydd Owen yn un ar ei ben ei hun, yn barchus, ac heb ddim gan neb i'w ddweyd yn ei erbyn:— John Davies wedi bod mewn rhyw dipyn o rwystrau a phrofedigaethau efo'r byd er's blynyddoedd, ond yn arwyddo yn awr i gael y lan—John Lewis wedi cael tywydd na chlybuwyd am ei fath yn yr oes hon yn cwrdd â neb."

John Jones, Cefncoed, a ddewiswyd yn flaenor Mawrth 1878, ac a fu farw Ebrill 20, 1880, wedi bod yn y swydd am ddwy flynedd a mis. Lewis Pugh, Ynysgyffylog, a fu yn flaenor yma am dymor, lawer o amser yn ol, ac a symudodd i'r Bwlch; Richard Jones hefyd, yr hwn a symudodd i Gorris, a fu yn y swydd yma.

Gweddus ydyw crybwyll am garedigrwydd teulu Ynysfechan i'r achos. Y blynyddoedd diweddaf y maent hwy wedi bod yn gefn mawr iddo ymhob ystyr, ac yno y lletya y pregethwyr oll er's amser maith. Y mae Mr. Jones, yr hwn sydd yn awr yn hynafgwr, ac yn analluog i fyned o'i dy, wedi ei neillduo yn flaenor er y flwyddyn 1871.

Y blaenoriaid eraill ydynt Mri. Evan Jones, a ddewiswyd yn 1870; Richard Jones, Arthog Terrace, yn 1878; Lewis Evans yn 1883.

Mae Sion wedi myned yn daith gyda Rehoboth er y flwyddyn 1867, ac o hyny allan mae yma ddwy bregeth y Sabbath. Yn y flwyddyn 1863 ymgymerodd y Parch. Owen Roberts, a bod yn weinidog ar eglwysi Sion, Llwyngwril, a'r Bwlch. Telerau ei gytundeb â'r eglwysi oeddynt; Ei gyflog—Sion 15p, Llwyngwril £5, Bwlch £3, y Cyfarfod Misol £10—£33. Ei waith —pregethu yn nhaith Sion a Llwyngwril 12 Sabbath yn y flwyddyn, ac unwaith yn y mis yn y tri lle ar noson waith. Cynal society yn y tri lle unwaith bob wythnos, oddieithr yr wythnos y byddo yn pregethu ynddynt, a chaniateid iddo beidio cynal society ond mewn dau le wythnos y Cyfarfod Misol. Parhaodd cysylltiad O. Roberts â Sion hyd 1872, ac â'r ddau le arall ynghyd a Saron hyd ei farwolaeth. Y flwyddyn hon (1888) mae eglwysi Sion a Rehoboth wedi rhoddi galwad unfrydol i Mr. John Wilson Roberts.

Nodiadau[golygu]