Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/Llanfachreth

Oddi ar Wicidestun
Bontddu Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I

gan Robert Owen, Pennal

Seion (Arthog)
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Llanfachreth
ar Wicipedia

LLANFACHRETH

Nid oes neb wedi talu sylw i hanes Methodistiaeth Sir Feirionydd heb wybod am Lanfachreth. Mae y lle mewn ystyr grefyddol yr hynotaf o un man yn y sir ar gyfrif yr erledigaeth chwerw a brofodd yr ardalwyr, a'r rhwystrau anhygoel a gafwyd i ddwyn achos yr Arglwydd ymlaen, yn niwedd y ganrif ddiweddaf a dechreu y ganrif bresenol. Am ba achos y mae i'r eglwys hon hanes meithach na'i chwiorydd a'i chymydogesau. Yn dra fFodus, mae y prif ffeithiau am y dechreuad yma wedi eu cofnodi. Yr oedd y cofiadur anghymarol, Lewis William, yn byw yn Llanfachreth pan oedd Methodistiaeth Cymru yn cael ei ysgrifenu, a chasglodd ac anfonodd ef y pethau hynotaf i'r awdwr ar y pryd. Eto, nid yw yr hanes sydd wedi ei gyhoeddi yn y gyfrol hono yn cyraedd ond yn unig dros ugain mlynedd o amser, o'r pryd y dechreuwyd pregethu yn yr ardal hyd yr adeg yr adeiladwyd y capel y tro cyntaf, sef o 1783 i 1804. Mae yr hyn a gofnodir yma yn cynwys rhai manylion ychwanegol, ynghyd a'r hanes o'r dyddiad diweddaf i lawr i'r amser presenol.


Pedair milldir ydyw yr ardal o dref Dolgellau, ac mewn safle yn hytrach o'r neilldu, i gyfeiriad y mynyddoedd, fel nad oedd dim yn sefyllfa y gymydogaeth i beri bod yr efengyl wedi cael dyfodiad bore i'r lle. Y flwyddyn y pregethwyd gyntaf gan y Methodistiaid yma oedd 1783, mewn lle a elwir Llyn-pwll-y-gela, a hysbysir mai William Evans, Fedw Arian, gerllaw y Bala, oedd y pregethwr. Cymerodd hyn le pan oedd pawb yn y gymydogaeth yn ofni derbyn pregethwyr a phregethu i'w tai. Y gŵr a agorodd ei dŷ gyntaf oedd Evan James, yr hwn oedd yn byw yn Tynyffridd, oddeutu milldir o bentref Llanfachreth. Mae teulu y gŵr hwn yn golofnau o tan yr achos eto, ac un o honynt, sef Mr. Griffith Evans, Ffriddgoch, yn flaenor yn yr eglwys. Gwynebodd Evan James rwystrau mawrion trwy agor drws ei dŷ i'r efengyl, a deuai helbulon am ei ben o bob cyfeiriad. Codai erledigaeth chwerw yn ei erbyn oddiwrth ei gymydogion, ac hefyd oddiwrth dylwyth ei dŷ ei hun. "Un tro, fe ddaeth Mr. Foulkes, o'r Bala, a rhyw offeiriad o'r enw Mr. Williams [y Parch. Peter Williams] gydag ef. Ymddygodd yr erlidwyr yn ffyrnig tuag atynt, a thynwyd Mr. Foulkes i lawr, a bu gorfod arno dewi. Tra yr oedd hyn yn cymeryd lle, yr oedd yr offeiriad o'r Deheudir yn y ty. Aeth un John Lewis o Ddolgellau ato, a gofynodd iddo, a oedd digon o wroldeb ynddo i roddi ei einioes dros Iesu Grist, os byddai raid. Yntau a atebodd fod. Yna aeth allan tua'r gynulleidfa, y rhai pan welsant arno wedd offeiriad a ofnasant, gan ddywedyd, 'Offeiriad ydyw;" a chafodd lonydd i bregethu.'[1] Cyfarfyddai Evan James â rhwystr blin ac anniddig arall. Yr oedd ei wraig, y pryd hwn, o leiaf, yn ddieithr i'r efengyl, ac amlygai anfoddlonrwydd pendant i'w gŵr wario dim o'i arian tuagat draul y pregethwyr. "Nid oedd yn anfoddlon iddo dreulio rhyw gymaint am gwrw, neu ryw ddiod feddwol arall, gan y tybid yn gyffredin y pryd hwnw fod buddioldeb mawr ynddi. Yr oedd Evan James yn arfer myned yn fynych, dros y plwyf, i ryw barth o'r Deheudir, a thelid iddo am ei amser, ynghyd â'i gostau. Caniateid iddo ryw gyfran at ddiod ar hyd y ffordd; ond y gyfran hon a gedwid yn ofalus ganddo, gan yfed dwfr o'r ffynon, yn lle eu gwario; felly cadwai y wraig yn ddiddig, a darparai ar gyfer â rhyw gostau gwir angenrheidiol gydag achos Duw." Mae yr hanes sydd wedi ei gadw am y gŵr da hwn yn terfynu ar hyn. Oddiwrth yr ychydig sydd wedi ei gofnodi gwelir ei fod yn seren ddisglaer yn llewyrchu mewn amser tywyll. Ond byr amser y bu y pregethu yn ei dŷ ef.

Y lle nesaf y rhoddwyd lloches i achos y Methodistiaid oedd yn nhŷ John Pugh, y clochydd. Yr oedd y John Pugh hwn yn dad-yn-nghyfraith i'r pregethwr tra adnabyddus, Edward Foulk, Dolgellau. Hynod yn yr oes hon ydyw clywed mai tŷ y clochydd oedd yr unig le mewn ardal y pregethid gan yr Ymneillduwyr; hynod hefyd ydyw fod clochydd yn dad-yn- nghyfraith i bregethwr Methodistaidd; a hynotach fyth ydyw fod Cyfarfod Misol wedi ei gynal yn nhŷ y clochydd yn Llanfachreth. Ond gwelir oddiwrth ysgrifau L. W., mai Edward Foulk a'i wraig oedd wedi cael y tŷ hwn i'r Methodistiaid; yr oedd ef yn byw gyda'i dad-yn-nghyfraith ar y pryd, cyn iddo ddechreu pregethu. Clywodd yr offeiriad fod y clochydd yn rhoddi ei dy i'r Methodistiaid i bregethu ynddo, yr hyn nis. gallai ar un cyfrif ei oddef. A'r canlyniad a fu ei droi oi swydd. Rhoddwyd hysbysiadau fod eisiau clochydd newydd. Arweiniodd hyn drachefn i ganlyniadau lled bwysig, sef i wanychu yr Eglwys yn y Llan, ac i gryfhau achos yr Ymneillduwyr. Yr oedd gan yr offeiriad ŵr neillduol mewn golwg i fod yn glochydd; cyhoeddwyd vestry i wneyd y dewisiad; ond syrthiodd dewisiad y plwyfolion ar ŵr arall. Wrth hyn ffromodd yr offeiriad yn aruthr, a haerai mai ganddo ef yr oedd yr hawl i ddewis clochydd. Aethpwyd i ddadleu ar y mater, digiodd y plwyfolion, a dywedent nad aent i'r Llan i wrando mwy. Haerai gŵr o ddylanwad, yr hwn oedd yn berchen tir ei hun yn mhen uchaf y plwyf, fod y plwyfolion wedi cael eu sarhau, a chynygiodd dir i'r Ymneillduwyr i adeiladu capel arno. Y cynygiad hwn a dderbyniwyd gan yr Annibynwyr, ac adeiladasant gapel yn Rhydymain, yr hwn oedd y capel cyntaf gan unrhyw enwad yn y plwyf. Adeiladwyd y capel hwn yn y flwyddyn 1788. Pum' mlynedd yn flaenorol, fel y gwelwyd, y traddodwyd y bregeth gyntaf gan y Methodistiaid yn Llanfachreth, ond yr oedd y naill beth a'r llall yn peri fod yr achos wedi cynyddu llawer erbyn hyn. Bu troad y clochydd o'i swydd am roddi ei dŷ yn agored i dderbyn pregethu ynddo, a dewisiad un arall yn ei le, yn foddion i ddieithrio y plwyfolion oddiwrth yr eglwys, ac i beri fod Ymneillduaeth yn enill nerth.

Yn amser y ffrwgwd uchod gyda'r clochydd, nid oedd gan y Methodistiaid yr un capel yn y plwyf, ac ni chawsant yr un am dros bymtheng mlynedd wedi hyn. A mawr fu yr helynt cyn y caed y capel cyntaf yma o dan dô.

Y mae yn angenrheidiol hysbysu mai yr achos o'r helyntion blin, a'r erledigaeth chwerw a ddilynodd am flynyddau meithion oedd, fod boneddwr o fri yn byw o fewn oddeutu milldir o'r pentref, yr hwn oedd yn berchen yr oll o'r bron o'r plwyf, a'r plwyfolion i gyd, oddieithr ychydig eithriadau, yn dibynu arno am eu bywoliaeth. Yr oedd y boneddwr hwn yn elyn trwyadl i Ymneillduaeth, ac wedi gwneuthur diofryd y mynai gau allan bob enwad Ymneillduol am byth o'r plwyf. A thuag at wneyd hyny, yr oedd wedi penderfynu gwneuthur pob ymgais i sicrhau pob modfedd o dir yn y plwyf yn eiddo iddo ci hun. Modd bynag, yr oedd y tŷ yr addolai y Methodistiaid ynddo y pryd hwn yn eiddo gŵr arall, ond yr oedd wedi myned yn dŷ anghysurus, ac yn wael ei lun. Gan ei fod felly, daeth i fryd ei berchenog ei werthu. Meddyliai y boneddwr yn ddios ei brynu, er mwyn rhwystro i'r Methodistiaid ei gael. Pan ddeallwyd hyn, dygwyd yr achos i Gyfarfod Misol y sir, a phenderfynwyd yno ar unwaith ei brynu. Prynwyd ef drostynt gan un o'r enw Ellis Jones, gŵr oedd ar y pryd mewn proffes yn aelod o'r Cyfundeb; ond yn lle ei drosglwyddo i'r Methodistiaid, gosododd ef iddynt dan ardreth flynyddol o 3p.

Mae yr hanes o hyn hyd amser agoriad y cape!, yn 1804, i'w weled yn ysgrifau L. W., copi o'r hwn a anfonodd i awdwr Methodistiaeth Cymru, oddeutu deugain mlynedd i eleni. Gan ei fod mor ddyddorol, rhoddir ef i lawr fel y mae yn argraffedig yno:—

"Ymddengys amgylchiadau lled hynod yn mhryniad y tŷ bychan hwn, a'r ardd a berthynai iddo—y fath, feallai, na ddylid eu gadael allan yn ddisylw. Yr oedd y gwr a'i prynodd dros y Cwrdd Misol, ar y pryd y gwnaeth efe hyny, yn aelod yn y Cyfundeb, ac yn perchen meddianau bydol. Eto, nid hir y bu ar ol hyn heb ddangos mai nid Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll,' ydoedd. Yn lle rhoddi y pryniad i fyny i'r Cyfarfod Misol, yn ol ei addewid, gomeddodd ei ollwng o'i feddiant, ond gosododd ef i'r Methodistiaid dan ardreth o 3p. y flwyddyn, sef llog y 60p. a gostiodd y tŷ iddo. Wedi i rai blynyddoedd fyned heibio, ac i'r prynwr golli ei broffes, a'i feddianau bydol, daeth gorfod arno werthu y tŷ hwn hefyd. Pan glywodd y gŵr boneddig fod y lle eto ar werth, penderfynodd ei brynu; gorchymynodd i ŵr fyned drosto at y gwerthwr ar ddiwrnod penodol, i'r diben i'w brynu. Ond y diwrnod cyn i hyn gymeryd lle, daeth y gyfrinach i glustiau cyfaill i'r achos crefyddol. Galwodd ato dri o gyfeillion eraill, gan eu hysbysu nad oedd dim amser i'w golli, os mynent gael y tŷ crybwylledig i'w meddiant. Bwriodd hyn y brodyr i drallod a phenbleth blin:—nis gwyddent pa beth a wnaent. Gwyddent yn dda os collent y lle hwn, nad oedd nemawr obaith y ceid un man arall yn y plwyf, ac y llethid yr achos crefyddol mewn canlyniad.

"Wedi gweddïo am gyfarwyddyd, ac ymgynghori â'u gilydd, penderfynasant ar fod dau o honynt, sef Mr. Lewis Evans, a Mr. John Dafydd, Dolyclochydd, i fyned yn foreu dranoeth at y gwerthwr, a phrynu y lle, os gallent. Treuliwyd y noson hono mewn pryder digwsg, ac yn foreu dranoeth, aeth Mr. Lewis Evans at y gŵr (yr hwn a gymerai arno fod yn gryn gyfaill iddo), ac a'i hysbysodd fod ei dyddyn ef wedi ei werthu, ac y byddai raid iddo ymadael â'r gymydogaeth, yr hyn oedd yn beth blin iawn ganddo, am nad oedd un lle arall yn ymgynyg iddo; ac mai da fuasai ganddo gael rhyw le bychan i fyw ynddo yn Llanfachreth, yn hytrach nag ymadael o'r gymydogaeth. Nid wyf finau yn dewis i chwi ymadael,' ebe y gwr, ac os gwna y tŷ bach a'r ardd sydd genyf yn Llanfachreth ryw wasanaeth i chwi i aros ei well, mi a'i gwerthaf i chwi.' Am ba faint?' ebe Lewis Evans. Enwyd swm go fawr, llawer mwy na'i werth; ond wedi hir siarad, cytunwyd am dano, rhoddwyd ernes arno, a chafodd Lewis Evans y gweithredoedd gydag ef i'w gartref. Bellach ni chafwyd un rhwystr i drosglwyddo y lle i ymddiriedolwyr at achos y Cyfundeb.

"Gwnaeth y boneddwr bob ymdrech a allai i gael y tŷ oddiar Lewis Evans, ac nid oes amheuaeth na allasai elwa llawer ar y pryniad a wnaeth; ond hyn ni fynasai ei wneyd ar un cyfrif, gan y golygai hyny yn dwyll o'r fath adgasaf. Y mae y ffaith yn adnabyddus ddigon, pa gyfrif bynag a roddir am dani, fod y gŵr a'i prynodd gyntaf, er elwa ar y lle, wedi myned yn dlawd, a'r gŵr a'i prynodd ddiweddaf, gan wrthod gwobr anghyfiawnder, wedi aros mewn cyfrif a dylanwad, o ran meddianau bydol, a phroffes grefyddol, hyd heddyw.

"Pan glywodd y gŵr boneddig fod y Methodistiaid wedi sicrhau eu meddiant yn y darn tir, efe a deimlodd i'r byw, ac a ffromodd yn aruthr, gan fygwth, 'Os codant gapel yn y lle, mi a fyddaf yn waeth wrthynt na chi cynddeiriog.'

Yr oedd y boneddwr, debygid, wedi gosod ei galon ar gael y plwyf yr oedd ef yn byw ynddo yn gwbl rydd oddiwrth Ymneillduaeth, ac na fyddai yr un capel gan blaid yn y byd o'i fewn. Gofynodd lawer gwaith i Mr. Lewis Williams, pregethwr yn y Cyfundeb, yr hwn sydd yn awr (1850) yn byw yn yr ardal, ai ni wnai y Methodistiaid ddim gwerthu y darn tir drachefn iddo ef. I hyn yr atebid bob amser, nad oedd obaith am hyny, oddieithr i'r gwr boneddig roddi darn arall o dir yn ei le, a hyny mewn llanerch gyfleus i drigolion yr ardal.

"Gan bwy," gofynai yntau, "y mae yr hawl i benderfynu yr achos hwn?"

"Nid yw yr hawl yn llaw yr un dyn unigol," oedd yr ateb.

Gofynai drachefn: "Ai nid yw Mr. Charles, neu Mr. Lloyd, o'r Bala, ddim yn ben arnynt?"

"Nac ydynt, ond y maent yn weinidogion o barch a dylanwad mawr yn y Cyfundeb."

"Pa fodd," gofynai y boneddwr drachefn, "y gallaf gael cynyg ar brynu y darn tir?"

"Mae gan y Methodistiaid, Syr R," ebe Lewis Williams, gyfarfod bob mis, yn rhyw fan neu gilydd yn y sir, yn yr hwn y penderfynir pob achos o'r fath"

"Pa fodd, ynte," ebe y boneddwr eilwaith, "y byddai oreu i mi wneyd cais at brynu y lle ?"


"Trwy anfon cenad, Syr R—, i'r Cyfarfod Misol." Y genad a anfonwyd, sef John Dafydd, Dol-y-clochydd, yr hwn oedd ŵr o denant iddo, ac yn aelod o'r Cyfarfod Misol. Efe a osododd ei neges yn ffyddlawn o flaen y cwrdd misol, ond y brodyr a gytunasant na werthent y tir, ond y newidient ef am un arall a fyddai yn gyfleus i'r bobl, eithr yn mhellach oddiwrth lan y plwyf, os mwy dewisol fyddai hyny gan y gŵr boneddig. I'r cynyg hwn yr oedd y genad wedi ei ddysgu eisoes i ateb, na wnai ei feistr ddim newidiad—mai ei farn sefydlog ydoedd, nad oedd eisiau yr un capel yn y plwyf, ond bod yr eglwys yn ddigon. Rhoddwyd ar Mr. Lloyd, o'r Bala, i ysgrifenu llythyr at y gwr boneddig, i'w gyfarch yn barchus, ac i hysbysu iddo benderfyniad y Cyfarfod Misol. Ni wnaeth y boneddwr un cais ar ol hyn am brynu y lle. Rhoes rhyw rai a fynent dduo y Methodistiaid y gair allan ei fod wedi cydsynio, ar ol hyn, i wneuthur cyfnewid am le arall; ond y gwirionedd ydyw na fu dim o'r fath beth, eithr chwedl ddisail hollol ydoedd, wedi ei dyfeisio er mwyn cyfiawnhau y gŵr mawr, a difrio y crefyddwyr.

Aeth yr hen dy a brynasid yn rhy fychan, ac yn rhy adfeiliedig i ymgynull ynddo; ac yr oedd dirfawr angen am le gwell. Ond pa fodd y dechreuid adeiladu?—gan fod y gŵr boneddig yn penderfynu y cai pob un a wnai ddim tuag ato, neu a âi iddo i addoli ar ol ei godi, deimlo pwys ei ddialedd, os digwyddai fod mewn un modd yn dibynu ar y gŵr boneddig;—mawr oedd y benbleth yn y gymydogaeth, ac yn wir ymhlith y brodyr yn y Cyfarfod Misol. Ni fynent ar un cyfrif fod yn anffyddlawn i achos crefydd yn yr ardal hono, ar y naill law, a theimlent yn bryderus ar y llaw arall, rhag y byddent yn achlysuro colledion, a chyfyngder trwm, ar drueiniaid tyner eu cydwybodau, a fwynhaent eu bywoliaeth dan aden y gŵr boneddig. Bernid, pa fodd bynag, fod yn "rhaid ufuddhau i Ddnw yn fwy nag i ddynion," ac mai eu dyledswydd oedd ysgogi ymlaen, gan adael y canlyniadau i ddoeth ragluniaeth Duw.

Ymddangosodd rhwystr arall yn fuan. Pa le y ceid cerig i adeiladu y capel? Yr oedd gan y boneddwr, mae'n wir, gloddfa gyfleus, lle yr oedd digonedd i'w cael, ond ni cheid careg oddi yno, er gofyn yn ostyngedig. Yr oedd gŵr arall yn perchen tir yn y gymydogaeth, a cherig yn y tir, heb fod ymhell. Gofynwyd caniatad gan y gŵr hwn i godi cerig, a chydsyniodd yntau, ac mewn canlyniad codwyd llawer o gerig yn barod i'w cludo i'r lle priodol, ond trwy ddylanwad y barwnig gyda y perchenog, tynodd ei gydsyniad yn ol, ac ni cheid codi ychwaneg o gerig o'r gloddfa, na chludo y rhai a godasid eisoes.[2] Bellach yr oedd yn gyfyng iawn ar y bobl. Yr oedd yr hen dŷ yn ymollwng, a'r gynulleidfa yn galw am le helaethach a gwell, ond nid oedd defnyddiau i'w cael, gan yr arferai y boneddwr ei holl ddylanwad a'i allu i rwystro codi capel yn y plwyf. Yn y benbleth flin hon, aeth rhai o'r brodyr i'r Bala, i adrodd eu helynt wrth Mr. Charles, ac i ofyn ei gyfarwyddyd. Bwriedid weithiau adeiladu y capel o goed i gyd; ac yn ystod yr ymddiddan â Mr. Charles, yr oedd y bwriad hwn ymron wedi esgor ar benderfyniad hollol, sef i wneyd yr adeilad o goed. Ond yr oedd Mrs. Charles yn clywed yr ymddiddan, a gofynai, "A oedd gwir eisiau capel yn Llanfachreth?" Atebwyd, "nad oedd un amheuaeth am yr angen am dano." "Wel," ebe hithau, "Os yw yr Arglwydd yn ewyllysio ei gael yno, y mae yno gerig i'w adeiladu." Ac er nad oedd dim tebygolrwydd eto pa le y ceid hwy, anogai Mrs. Charles iddynt dynu yr hen dŷ i lawr, a dechreu ar yr adeilad gyda'r defnyddiau a fyddent yn y lle.

Dychwelodd y brodyr adref gyda'r penderfyniad o wneyd fel yr anogwyd hwy; a dechreuasant chwalu yr hen adeilad, a chloddio sylfaen i'r adeilad newydd. Ac wrth dori y sylfaen, torodd gwawr gobaith arnynt;—deallasant yn fuan fod yno ddigon, a mwy na digon o gerig yn y tir, nid yn unig i adeiladu capel, ond tŷ hefyd i berthyn iddo. Trwy yr amgylchiad hwn gwaredwyd y trueiniaid o'u penbleth, a siomwyd eu gwrthwynebwyr yn ddirfawr; ac nid hyny yn unig, ond effeithiodd yn rhyfeddol ar yr ardal. Edrychai y trigolion ar yr amgylchiad fel arwydd amlwg o amddiffyniad yr Arglwydd ar ei achos ei hun. Bellach nid oedd rhwystr i ddygiad yr adeilad ymlaen, yr hyn a wnaed dan arolygiad y brawd ffyddlon Mr. Edward Richard, o Ddolgellau."—Methodistiaeth Cymru I 606. Rhyfedd yr helbulon yr aeth trigolion yr ardal drwyddynt dros ysbaid o 50 mlynedd! A rhyfedd, hefyd, fel yr oedd pob dyfais o eiddo dynion a diafol yn methu llethu achos crefydd yn y lle! I'r fath raddau y rhoddodd y boneddwr ei fygythiad mewn grym, ac y cariodd ei awdurdod allan, fel y rhoes orchymyn i droi hen ŵr a hen wraig a dderbynient elusen plwyfol o'u tŷ, am y dywedid y cynhelid cyfarfodydd crefyddol ynddo, gan ddywedyd, "nis gallaf oddef pregethu mewn un tŷ y mae genyf fi un awdurdod arno." O'r tu arall, gofalodd rhagluniaeth am yr hen wr a'r hen wraig, trwy drefnu iddynt gael preswylfod mwy cyfleus ac agos i foddion gras. Ymhen amser, pa fodd bynag, llareiddiodd yr ystorm. Yn raddol y cymerodd hyn le, trwy i'r rhai oedd yn gwrthwynebu weled mai llaw yr Arglwydd oedd drechaf. Rhydd L. W. ddwy engraifft o'r modd y newidiodd meddwl y boneddwr yr ydym yn son am dano. Yr oedd dau frawd yn byw yn yr ardal, y rhai yr oedd y boneddwr yn hoff iawn o honynt. I un o'r ddau cynygiodd dyddyn mewn lle yn agos i'r pentref, os addawai rwystro ei wraig i fyned i gapel y llan, a rhoddi anifail neu gerbyd iddi, os ewyllysiai, i fyned i rywle arall i addoli. Dywedai y gŵr nas gallai rwystro ei wraig, gan fod ei hymlyniad gymaint wrth y capel, ac nis goddefai ei hiechyd iddi fyned i unlle arall. Wrth weled eu cymeriad gonest a diysgog, ildiodd y boneddwr. Y gŵr a'r wraig hyn oeddynt Edward a Jane Pugh, Caecrwth. Mewn amgylchiad arall, daethai achwyniad i glustiau Syr R fod hen wasanaethyddes iddo, o'r enw Mrs. Lewis, yr hon oedd yn byw mewn tŷ o'i eiddo yn Nolgellau, yn derbyn pregethwyr i'w thŷ. Galwodd yntau am dani ato—yr oedd ganddo barch mawr iddi, a hithau iddo yntau—a dywedodd os na byddai iddi beidio derbyn pregethu i'w thŷ, nas gallai ei goddef i aros ynddo. I'r hyn yr atebodd, nad oedd hyny ddim yn wir, ond ei bod hi yn cadw ei thy yn dy gweddi, a bod yn well ganddi heb yr un tŷ na thŷ heb weddi. Ar hyn, tewi a son a wnaeth. Trwy gyffelyb bethau, yn raddol, gadawodd lonydd iddynt, a gwaredodd Duw ei bobl a'i achos oddiwrth eu cyfyngderau.

Yr oedd y barwnig, meddir, yn foneddwr hynaws a charedig mewn llawer o bethau. Preswyliai yn ei wlad, ac ymysg ei denantiaid, a rhoddai waith i weithwyr tlodion, er mwyn iddynt gynal eu hunain a'u teuluoedd uwchlaw angen. Oni bai ei wrthwynebiad i Ymneillduaeth, buasai ei goffadwriaeth yn ei wlad yn llawer uwch. Dywedir hefyd nad oedd yn erbyn i'r Ymneillduwyr fyned i addoli at eu pobl mewn lleoedd eraill, ond ei fod wedi gosod ei fryd ar gadw ei blwyf ei hun yn glir oddiwrthynt. A'r hyn sydd i'w weled mewn amgylchiadau o'r fath yn gyffredin, cafwyd allan fod llawer o'r anghydfod hwn yn cyfodi oddiwrth y ffaith fod llu o hustyngwyr a chynffonwyr yn Llanfachreth, yn barod ar bob adeg i gario chwedlau anwireddus i glustiau yr uchelwr. I brofi hyn adrodda yr un hanesydd, sef L. W., yr hanesyn a ganlyn, ac enwa hefyd yn ei ysgrifau y person y cyfeir ato,———— "Un tro, fe ddychwelodd adref (sef y boneddwr) yn annisgwyliadwy, pryd nad oedd neb yn y teulu yn disgwyl am dano. Y noson hono hefyd yr oedd pregeth yn y capel. Yr oedd y brif forwyn yn yr odfa, as eraill o'r is-wasanaethyddion, fel nad oedd neb wrth y tŷ o'i weinidogion i'w dderbyn, fel y byddid arferol. Ond yr oedd yno ryw un yn barod i'w cyhuddo, yr hwn a aeth at y boneddwr, a chyda thafod athrodgar a ddywedodd, "Maent hwy, Syr R—— wedi myned i'r bregeth," gan ddisgwyl, yn ddiameu, yr edychid yn uchel arno ef ei hun am ei ragoriaeth, ond yr ateb a gafodd yn ddiflas iawn oedd, O, nid oes ynot ti gymaint o ddvioni a hyny."—Methodistiaeth Cymru.

Yr oedd L. W., yr hwn a gasglodd yr hanes blaenorol, yn llygad-dyst o'r rhan fwyaf o lawer o'r amgylchiadau a gofnodwyd ganddo. Yr oedd Edward Foulk, Dolgellau, ei gymydog, hefyd yn fyw pan yr oedd yn ysgrifenu—yntau wedi gweled â'i lygaid a chlywed â'i glustiau yr holl hanes o'r cychwyn cyntaf, a thystion eraill lawer. Felly, fe gafwyd digon o sicrwydd am y ffeithiau a'r amgylchiadau.

Pan aeth L. W. i Lanfachreth y tro cyntaf, yn 1800, yr oedd yr ysgol ddyddiol, a moddion crefyddol yn cael eu cynal mewn darn o hen dy bychan, a gwael yr olwg arno, ar yr un llanerch yn hollol ag y saif y capel presenol arno. Ac, meddai ef ei hun, "Yr oedd yno yn rhywle o amgylch 30 wedi ymuno i arddel Iesu Grist, ac yr oedd rhwng y naill a'r llall oddeutu naw milldir o ffordd." Yr hyn a olyga ydyw fod naw milldir o bellder rhwng y rhai pellaf a'u gilydd. Ac un daith Sabbath oedd yr holl ddosbarth y flwyddyn hono, sef Bontddu, Llanfachreth, a Dolgellau. Darlunia ef yr ardal fel lle hynod o anwaraidd ac annuwiol. Hen arferion ofer a gwag y wlad i'w cael yma yn eu rhwysg mwyaf. A byddai, ebe fe, son am drigolion plwyf Lanfachreth yn ymladd â'u gilydd, ac â phlwyfydd eraill. Nosweithiau llawen, chwareu cardiau, ymladd ceiliogod, cocyn saethu, dawnsio, pitchio, coetio, rafflo, y bel droed a'r chwareu bandi—dyma welodd L. W. pan aeth gyntaf i Lanfachreth, y flwyddyn gyntaf o'r ganrif bresenol. "Mi a glywais ddynion sydd yn cofio yn adrodd," ebe un arall o'r hen bregethwyr, "y byddai yn anhawdd gan lawer yn awr goelio gymaint o lanciau y cymoedd o amgylch Llanfachreth a ymgasglent at eu gilydd i'r glynoedd encil a dirgel ar y Sabbothau, i ymosod ac i ymroddi o ddifrif a'u holl egni i'r chwarëyddiaethau hyn." Ar y Sabbath y byddai y pethau hyn yn anterth eu nerth; plant a chanol oed, a hen bobl, yn ymdyru i ymddifyru ac ymorchestu ynddynt. Nid oedd, yn ol tystiolaeth L. W., y pregethu ynddo ei hun. wedi llwyddo eto i dori grym yr arferion hyn ond i raddau bychain. Yr ysgol ddyddiol, a'r Ysgol Sabbothol, ynghyda phregethu yr efengyl gyda'u gilydd a fu yn foddion yn raddol i'w rhoddi i lawr. Ni byddai y pregethu ar y Sabbath yn agos i gyson, am na ellid cael pregethwyr i lenwi hyny o deithiau oedd yn y sir, ac yn niffyg pregethu cyfarfod gweddi fyddai yn aml yn y daith yr oedd Llanfachreth yn rhan o honi. Defnyddiodd L. W., ynghyd â rhai crefyddwyr da eraill, lawer ffordd i roddi i lawr arferion llygredig yr oes, megis trwy gymell plant a phobl ieuainc i ddyfod i'r ysgol wythnosol a Sabbothol, rhoddi anogaethau mewn modd personol i roddi heibio arferion drwg, gan ddangos y niwed a'r perygl o honynt, rhoddi materion yn yr Ysgol Sul i chwilio am adnodau yn gwahardd y pechodau oeddynt amlwg yn y wlad, ac adrodd y rhai hyny yn gyhoeddus, nes y byddai y rhai euog yn cywilyddio, cynal cyfarfodydd gweddio yr un adeg ac yn yr un man ag y byddai ieuenctyd gwylltion wedi trefnu eu cyfarfodydd pechadurus hwythau. Dygir tystiolaeth bendant hefyd i lwyddiant y Gymdeithas Ddirwestol, ar ei chychwyniad cyntaf, yn ychwanegol at y pethau uchod, fel yr hyn a fu yn foddion arbenig i ddileu arferion pechadurus y wlad.

Parhaodd yr arferiad o gyhoeddi hysbysiadau gwladol ac arwerthiadau yn y fynwent ar y Sabbath yma hyd yn lled ddiweddar. Y mae dynion cymharoi ieuainc yn cofio clywed y clochydd yn eu cyhoeddi tra yr elai y bobl allan o'r eglwys. Rhoddai orchymyn i'r gynulleidfa sefyll ar y fynwent, a dywedai yn swyddogol,—"Hois! fe berwyd i mi hysbysu i chwi fod rhyw ddyhiryn, neu ddyhirod, wedi tori i mewn i'r tŷ tatws, Nanau, a phwy bynag a ddaw a hysbysrwydd i Syr R. Vaughan a gaiff dâl da am ei waith." Dro arall, rhedai y clochydd allan yn gyntaf, gyda bod y gwasanaeth drosodd, a chan sefyll rhwng drws yr eglwys a phorth y fynwent, galwai ar y bobl i wrando, "Hois! fe berwyd i mi hysbysu i chwi fod oxiwn yn y fan a'r fan, ddydd Mercher nesaf; gwerthir yno y defaid, y gwartheg, y lloi, a'r moch, a'r ceffylau, a'r gêr hwsmonaeth,—a Duw a gadwo y Brenin!" O'r diwedd, pa fodd bynag, darfyddodd yr arferiad hwn hefyd, yn debyg i ymadawiad y gog yn mis Mehefin, heb yn wybod i neb pa bryd na pha fodd.

Gwnaed y weithred am y tir i adeiladu y capel cyntaf y bu cymaint o helynt yn ei gylch, Mai 12, 1804, a thalwyd am y tir £93. Yr oedd y capel yn hollol square, 8 lath o hyd ac 8 lath o led, ac yn hollol ddiaddurn; llawr pridd, ac ychydig o feinciau. Yn y gauaf arferid casglu brwyn, a'u taenu ar y llawr, er cynesrwydd i'r traed. Oddeutu 1848 estynwyd dwy lath arno un ffordd, a rhoddwyd seti ynddo, am y draul o tua £60. Yn fwy diweddar, prynwyd adeilad a wnaed yn gydiol â thy y capel, ac ar ol hyn bu dyled o £57 yn aros yn hir, heb neb yn gwneuthur dim osgo at ei thalu. O'r diwedd rhoddodd amaethwr cyfrifol yn yr ardal gynygiad i'r eglwys, y gwnai ef bob pedwar swllt ar ddeg a wnai hi yn bunt. Cymerwyd y cynygiad i fyny, a daethpwyd ar unwaith yn rhydd o'r ddyled. Bendithiwyd yr amaethwr crybwylledig, hefyd, yr hwn oedd y pryd hwnw yn hen mewn dyddiau, âg ysbryd i gyfranu yn helaeth at achosion eraill. Yn 1868, drachefn, adnewyddwyd y capel yn drwyadl o'r tu fewn, i'r ffurf y mae ynddo yn bresenol, ar y draul o £160.

Aeth yr achos yma, fel y gwelwyd, trwy brofiad tanllyd yn ei ddechreuad, a chyfarfyddodd ag ystormydd yn awr a phryd arall o hyny hyd yn bresenol. Yr oedd Carmel, a rhan o Hermon, unwaith yn perthyn i'r eglwys hon. Er hyny, ni bu erioed yn lliosog. Y nifer yn 1848, oedd 52, a'r nifer fwyaf y digwyddodd i ni weled yn perthyn iddi ydoedd 65, a hyny flwyddyn neu ddwy ar ol y diwygiad diweddaf. Erys rhif y cymunwyr rywbeth yn debyg i'r hyn oedd haner can mlynedd yn ol, er fod poblogaeth yr ardal lawer yn llai, ac er fod y gwrthwynebiadau i'r Methodistiaid yn parhau yn gryfion. Bu yn perthyn i'r eglwys hon ddynion gwrol, pobl fel y dywedir ag asgwrn cefn ganddynt, rhai yn glynu wrth egwyddorion trwy y tew a'r teneu. Ond diameu mai yr hyn fu yn achos iddi ddal ei thir cystal yn yr amser aeth heibio oedd, cysylltiad Lewis William â hi am faith flynyddau. Ymsefydlodd ef yn arhosol yn yr ardal yn 1824, ymhen yr ugain mlynedd union wedi adeiladu y capel cyntaf yn y lle. "Wedi i Ragluniaeth fy nhywys," ebai, "i lawer o fanau gyda'r ysgol ddyddiol a Sabbothol, hi a'm tywysodd trwy anfoniad Mr. Charles i Lanfachreth, o gylch y flwyddyn 1800. Nis gallaf ddweyd gynifer o weithiau y bum yn Llanfachreth, o anfoniad Mr. Charles, weithiau am fis, pryd arall am ddau, a rhai gweithiau am chwarter blwyddyn. Yr achos o fyrdra yr amser oedd, y mawr alw fyddai am yr ysgol ddyddiol i fanau eraill, er mwyn sefydlu a chynorthwyo yr Ysgol Sabbothol. Ond wedi marw Mr. Charles, a thra bum yn cadw ysgol, yr oeddwn yn myned ar alwad yr ardaloedd, ac iddynt hwy roi cyflog i mi, neu ddwyn fy nhraul, ac ychydig fyddai hyny mewn llawer o fanau y bum ynddynt. Ond galwyd arnaf i Lanfachreth i fod yno am flwyddyn, i gadw ysgol Gymraeg a Saesneg (yr oeddwn wedi dechreu cyn hyn yn y modd hwn, er fy mod yn anfedrus iawn). Darfu i ryw bersonau fyned dan rwymau i mi am £5 y chwarter, a derbyniais hwynt. A bum yno ychydig yn ychwaneg ar ewyllys da. Ond yr oeddwn yn fy nheimlad i raddau mawr wedi colli ewyllys da preswylydd y berth, er pan oeddwn wedi ymadael o fod dan ofal Mr. Charles. Byddai dda genyf weled y Sabbath yn dyfod, oblegid byddai gradd o'r hen gysuron a'r dylanwad yn ac ar yr Ysgol Sabbothol. Mi a ymadewais o Lanfachreth, i fyned i le arall, ar alwad yn ol yr un drefn, a bum mewn amryw fanau am dymhorau yn ol y cytundeb a wneid. Yr oeddwn wedi dyfod i Ddolgellau yn ol y drefn hon, ac ar y pryd mi a briodais wraig, yr hon fu ac sydd yn ymgeledd gymwys i mi, ac nid yw yn rhyfyg i mi ddweyd, ac i achos yr Arglwydd yn Llanfachreth am lawer o flynyddau. Tros 20 mlynedd y bu yr achos yn ei gofal, mewn rhoi bwyd i bregethwyr &c.

Yr achlysur i mi fyned y waith hon i Lanfachreth oedd, fod ty y capel wedi myned heb un golwg i neb fyw ynddo, ac angenrheidrwydd mawr am rhyw un i dderbyn yr achos crefyddol. Trwy fod rhai cyfeillion yn gofyn a ddeuwn, darfu i mi a'm hanwyl wraig gydsynio i fyned. Ac i mi gadw ysgol ddyddiol, a chymeryd tal gymaint a geid am ddysgu y plant, a byw a'r hyny os gallem. Acthom yno y flwyddyn gyntaf ar yr amod i dalu £2 o rent am y tŷ, a chael y capel i gadw ysgol, a 4c. y pryd am fwyd y pregethwyr. Gwnaethom gyfrif ymhen y flwyddyn, ac yr oedd hyn yn dyfod yn £2 Ss. Oc. er nad oedd ond 4c. y pryd, oblegid yr oedd yr amser hwnw lawer o bregethwyr yn teithio. Darfu i ni lwfio yr wyth swllt, a dywedyd y cymerem ni y tŷ am fwyd y pregethwyr. Buom felly am dros 20 mlynedd. Gwelsom yn fuan na allasem ddim byw ar a gaem oddiwrth yr ysgol, ac aethom i ddechreu gwerthu blawd yn nhŷ y capel, ac wedi hyny aethom i ddechreu gwerthu amryw bethau eraill."

Dengys ei eiriau ef ei hun y ffordd yr arweiniwyd ef i Lanfachreth, a'r cysylltiad a fu rhyngddo â'r achos wedi iddo fyned yno. Rhydd hanes yn mhellach am drafodaeth fu rhyngddo a'r Cyfarfod Misol, a'r cytundeb a wnaed o'r ddeutu iddo gael adeiladu tŷ bychan o'r tu cefn i dŷ y capel, ac adeiladau eraill, y rhai gostiodd iddo dros £100. Yn ddilynol, drachefn, adeil- adodd dŷ a shop trwy y draul o £300., ac ebe yr hen bererin, "llafuriasom yn galed i gael bod ynddi-ddyled." Yn y rhestr o enwau llefarwyr yn ei bapurau, dros y rhai y telid iddo 4c. y pryd am fwyd, yn nhŷ y capel, heblaw y rhai oedd yn byw yn Sir Feirionydd, ceir enwau enwogion, megis, Cadwaladr Owen, Morgan Howells, a Henry Rees. Un bregeth a geid y Sabbath yn ddieithriad, ond chwyddai y pregethu teithiol nifer y pregethau mewn blwyddyn yn lled fawr. Pregethai ef ei hun yn y daith yn fynych, ond ni byddai yr un flyrling i lawr ar gyfer bwyd y pregethwr y Sul hwnw. Yn yr un llyfr ceir crybwyllion am amryw daliadau, ac arian a roddasai yn fenthyg, ac unwaith, "treth y brenin 10c." Yr amser yr oedd ef yn nghyflawnder ei nerth, yr oedd achos y Methodistiaid yn fwy blodeuog yn Llanfachreth nag unlle yn y cylchoedd, oddieithr Dolgellau yn unig. Yn y cyfnod cyn ei fynediad ef yno, bu y cyfeillion mewn mawr drafferth yn cario pethau ymlaen, oblegid y bygythion parhaus a chwythid o'r palas gerllaw. Diwygiadau crefyddol, meddir, ac yn enwedig y diwygiad yn 1817-18, a barodd i bobl yr Arglwydd orchfygu y stormydd enbyd a ymosodent arnynt. Yn y diwygiad crybwylledig llithrai y bobl i'r capel, a'u plant hefyd, er gwaethaf pob rhybuddion i'r gwrthwyneb. Erioed yn un man ni wiriwyd y ddiareb yn well, "trech gwlad nag Arglwydd." Yn hytrach, Arglwydd yr holl ddaear oedd yma yn gwneuthur pethau mawrion trwy ei bobl. Anhawdd ydyw traethu yr holl waith a wnaeth L. W. yn ystod y 38 mlynedd y bu yn byw yn Llanfachreth. Yn 1825 yr ydym yn ei gael yn sefydlu cyfarfod athrawon ac athrawesau arbenig, yr hwn a gynhelid bob mis, ac weithiau yn amlach. Ymhlith penderfyniadau y cyfarfodydd hyn ceir,—"L. W. i fod. yn ysgrifenydd, a John Dafydd yn gymedrolwr." "Fod yr ysgrifenydd i sefyll yn lle y cymedrolwr, i basio y penderfyniadau trwy godiad llaw yr athrawon a'r athrawesau." "Fod cyfarfod athrawon i fod bob bore Sabbath ag y byddo ysgol y bore, am 8 o'r gloch." "Derbyniwyd y genadwri o Gyfarfod Daufisol Bontddu, sef fod cyfarfod gweddi i'w gynal o fewn holl ysgolion y cylch am 7 o'r gloch (boreu) Sabbath Mehefin 12fed, i weddio am i'r Ysbryd Glan arddel y moddion er dychwelyd eneidiau." "Fod egwyddori yn gyhoeddus i fod mewn un odfa yn y ddau fis o bellaf, ar benod o'r Hyfforddwr neu fater." "Fod enwau yr athrawon a'r athrawesau i gael eu galw yn gyhoeddus, er cael gwybod pwy fydd yn bresenol ac yn absenol, a gofyner am yr achos o'u habsenoldeb." Mewn cyfarfod blaenoriaid yr un flwyddyn, ymlith eraill, ceir y ddau benderfyniad canlynol," (1) Fod Robert Griffith i edrych am borfa i'r ceffylau, ac i'r society dalu; (2) i ymofyn a phob aelod nad oedd yn cyfranogi o'r ordinhad y tro diweddaf, cyn y byddis yn cyfranogi y tro nesaf, i gael gwybod beth oedd yr achos, ac i geisio ei symud ymaith."

Rhoddir yr engraifft ganlynol i ddangos brawdgarwch Cristionogol yr Ymneilduwyr tuag at yr Eglwys Sefydledig yn Llanfachreth yn y blynyddau aethant heibio, er yr holl driniaethau a dderbyniasent hwy o dro i dro oddiwrth ddeiliaid yr Eglwys hono. Hyd amser marwolaeth Syr R. Vaughan, oddeutu 1843, un bregeth fyddai yn y llan, am 11 y bore un Sul, ac am 2 y Sul arall. Elai y Methodistiaid i'r gwasanaeth i'r eglwys am un a'r ddeg ar ol eu moddion hwy eu hunain; a'r Sul y byddai y bregeth am 2, ni byddai moddion yn nghapel Llanfachreth na Charmel, er mwyn i bawb fyned i'r eglwys. Oddeutu y flwyddyn 1838 y dechreuwyd achos gan yr Annibynwyr yn Llanfachreth. Yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru dywedir, "Y gallu crefyddol mwyaf yn Llanfachreth y dyddiau hyny oedd y Methodistiaid. Yr oedd ganddynt Ysgol Sabbothol boblogaidd ac enwog, ac mae yn ymddangos mai o Ysgol Sabbothol y Trefnyddion Calfinaidd y torodd y blaguryn Annibynol allan gyntaf." Mae hynyna yn gywir. Dywedir yn mhellach, fod yno amryw bersonau yn gogwyddo at y golygiadau a elwid y system newydd, y rhai a ddiystyrid gan awdurdodau yr ysgol, a bod hen flaenor wedi codi ar ei draed un Sabbath, a chyhoeddi yn awdurdodol, nad oedd yr un athrawiaeth i gael ei dysgu yn eu hysgol hwy heb gytuno â'r hyn a gyhoeddid o'r pulpud, ac mai dyna fu yr achos i'r encilwyr adael y Methodistiaid. Nid ydyw hynyna yn gywir yn ol tystiolaeth bendant rhai oeddynt yn aelodau o'r ysgol ar y pryd. Yr achos neu yr achlysur oedd hyn. Yr oedd dosbarth o feibion yn perthyn i'r Ysgol Sul, y rhai a ystyrient eu hunain yn dipyn o ddynion, wedi colli eu hathraw, a hawlient gael rhyw berson penodol o'u dewisiad eu hunain (sef Mr. John Jones, yn awr blaenor eglwys y Methodistiaid yn Rhydymain) yn athraw arnynt. Anfonasant eu cais i'r cyfarfod athrawon am ei gael. Ond nid ystyriai y cyfarfod athrawon yn briodol i Mr. John Jones fod yn athraw arnynt. Ffromasant lwythau, ac mewn canlyniad aethant i gynal ysgol i le a elwid Caetanglwys, ac o dipyn i beth ymffurfiasant yn achos. Ymddengys yr hanes hwn yn fwy tebyg i gywir ar y wyneb; heblaw hyny, y mae tystiolaethau ddigon i'w gadarnhau. Ond nid ydyw y naill hanes na'r llall yn adlewyrchu llawer o glod ar yr encilwyr. Ychydig sydd o hanes ar gael am y rhai fuont ffyddlon a dewr gyda'r achos yma. Yr oedd Lewis Evans, Caeglas, yn un o honynt. Nid ymddengys ei fod ef yn flaenor. Ond teilynga dwy weithred o'i eiddo gael eu cofio. Efe ddaeth a'r Ysgol Sul yma yn y flwyddyn 1800. Efe a brynodd le i adeiladu y capel cyntaf, ac a wrthododd elw anghyfiawnder, er mwyn ei sicrhau i'r Methodistiaid. Y Blaenoriaid:—

John Dafydd, Dolyclochydd, oedd y cyntaf. Bu iddo yntau law yn sicrhau y tir i adeiladu. Er ei fod yn denant i'r tirfeddianwr mawr a geisiai lethu yr achos, safodd ei dir yn wrol dros y gwirionedd. Anfonwyd ef yn genad dros ei feistr i'r Cyfarfod Misol, ac ymddygodd yn onest tuagat y ddwy ochr. Ystyrid ef ar y blaen gyda'r achos tra fu byw. Cafodd fyw i fyned yn hen, a bu yn ffyddlon hyd y diwedd.

Edward Thomas. Daeth allan yn un o'r rhai cyntaf i bleidio yr Ysgol Sul. Gwnaeth lawer i'w chynorthwyo yn y canghenau a'r cymoedd o amgylch. Yr oedd ef yn uwch na llawer o ran ei ddeall a'i allu; yr oedd hefyd yn siaradwr da, ac oblegid hyny yr oedd yn ddywediad gan bobl y lle, "Edward Thomas ar ei draed, a Robert Griffith ar ei liniau."

Sion Robert, yr Hendre. Gŵr tawel, boddlongar, heddychlawn. Bu raid iddo symud i fyw oddiwrth ymyl y llan, oherwydd fod perthynas iddo yn dal tyddyn o dan y tirfeddianwr gwrthwynebol i'r Methodistiaid, a symudodd i fyny y Cwm, sef i'r Hendre. Cadwodd ef a'i deulu gartref i Fethodistiaeth yno dros amser maith. Bu yn flaenor am 50 mlynedd, a bu farw yn 1863.

William Griffith, Dolchadda. Gŵr duwiol a ffyddlon oedd yntau. Yn niwedd ei oes yr oedd wedi colli ei olwg Er hyny deuai i'r Ysgol Sul, ac ychwaneg, bu yn athraw ynddi, ac arferai holwyddori hyd y diwedd.

William Griffith, Caecrwth. Daeth ef yma o ardal Cwm Cynfal, Ffestiniog. Yr oedd yn amaethwr cyfrifol, ac yn ŵr pwysig ar lawer cyfrif; tueddai yn ol dull yr hen bobl i fod yn drwm wrth ddisgyblu. Bu farw Mawrth 17, 1862, yn 65 oed.

Robert Griffith, Caeglas, a Griffith Pugh, Tanyfoel. Gwasanaethodd y ddau swydd diacon yn dda; ceir hanes y blaenaf ynglyn â Carmel, a'r olaf ynglyn â Bryncrug.

John Pugh, Glasdir, a Rees Pugh, Tyddynbach, oeddynt ddau frawd, ac yn ddiaconiaid yr eglwys. John Pugh yn gymeriad gloew ar hyd ei oes, yn ddyn duwiol, ac yn tueddu at fod yn addfwyn fel swyddog. Bu farw Awst 28, 1864, yn 59 oed. Rees Pugh yn ddiweddar yn dyfod at grefydd, ond troes allan yn ddyn rhagorol o dda. Dywedai ei brofiad yn y Cyfarfod Misol olaf cyn ei farw gydag arddeliad neillduol. Bu farw Gorphenaf 24, 1869.

Robert Jones, Galltcarw, a fu yn y swydd o flaenor am ychydig, ond bu farw yn ieuanc. Ceir coffadwriaeth am dano yn y Drysorfa 1870, tu dal. 115.

Dyna y rhestr o'r swyddogion fel y rhoddwyd gwybodaeth i'r ysgrifenydd am danynt. Heblaw ffyddloniaid eraill, bu Evan Richard yn flaenllaw gyda'r achos yma am hir flynyddau, ac a fu farw yn ddiweddar yn llawn o ddyddiau. Richard Williams hefyd, y gŵr oedd yn byw yn y Shop ar ol L. W., a fu yn weithgar iawn gyda'r achos, a'i briod, a'u plant a ddangosasant lawer o garedigrwydd trwy letya pregethwyr yn eu tŷ.

Y blaenoriaid presenol ydynt, Mri. Griffith Evans, Humphrey Jones, Griffith Griffiths, Daniel Williams, William Owen. Bu y Parchn. Owen Roberts mewn cysylltiad gweinidogaethol â'r eglwys o 1870 i 1875; W. Lloyd Griffith 1877—82; John Evans 1885—87.

Y PARCH. OWEN ROBERTS

Llanwodd ef le pwysig yn y cylch yr oedd yn troi ynddo, a theg ydyw rhoddi coffadwriaeth lled helaeth am dano. Ganwyd ef yn Pantypiod, ger Llanfachreth, Medi 8fed, 1830. Dygwyd ef i fyny yn yr alwedigaeth o of, yr hon alwedigaeth a ddilynai ei dad a'i daid o'i flaen. Ysgrifenodd ei hun ychydig o'i hanes ar ddarnau o bapurau yma ac acw. Fel hyn y dywed am ei argraffiadau crefyddol cyntaf:—"Nid oedd fy rhieni yn proffesu crefydd, ond yn wrandawyr cyson ar y Methodistiaid. Er hyny, arferwn i fyned i'r sociely er yn blentyn, a gallaf dystio fod argraffiadau crefyddol ar fy meddwl er yn dra ieuanc, a pharhau i fyned a ddarfu i mi hyd yn 12eg oed. Y pryd hwn dechreuais fyned yn fwy esgeulus o'r gyfeillach grefyddol, gan ddilyn rhai o'm cyfoedion nad oedd fynent ddim â chrefydd. Eto byddwn ar adegau yn teimlo yn hynod o anesmwyth, ac yn bwriadu tori pob cysylltiad â fy nghyfoedion digrefydd. Pan oddeutu 15eg oed, cefais fy nal gan ddychryn mawr; teimlais fy mod yn bechadur colledig. Yr oedd y weinidogaeth yn fy ysgwyd, fel yr oeddwn yn colli blas ar ddilyn fy nghyfoedion gwylltion, ac yn addunedu cynyg fy hunan i'r society yn ol, ond yn methu am gryn amser a chyflawni. Ond ryw nos Sabbath, mewn cyfarfod gweddi yr oedd un brawd yn gweddio dros y rhai oedd yn cloffi rhwng dau feddwl. 'Arglwydd mawr, meddai, 'tor y ddadl heno'. Teimlais fy hunan fel yn derbyn rhyw ollyngdod, a phenderfynais gynyg fy hun i'r Arglwydd, ac i'w bobl, a'r society ganlynol ceisiais am le yn yr eglwys. Cefais bob ymgeledd gan y frawdoliaeth. Derbyniwyd fi yn gyflawn aelod, ac anogwyd fi i geisio codi y ddyledswydd deuluaidd gartref, a chaniatawyd hyn i mi gan fy rhieni."

Eto, am yr amser y dechreuodd bregethu, a'r modd y dechreuodd, Byddai brodyr o Lanfachreth, y pryd hwnw, yn myned ar nos Sabbothau i'r gymydogaeth lle mae capel Hermon yn awr, i gadw cyfarfodydd gweddiau. A byddwn weithiau yn cael fy nghymell gan y blaenor a fyddai yn fwyaf mynych yn dyfod gyda mi, i ddarllen penod ac i wneuthur ychydig sylwadau wrth fyned ymlaen. Gwnawn felly rai gweithiau, a byddai yn dyfod yn weddol ambell waith, ac yn eithaf tywyll bryd arall. Yn y cyfnod yma bu farw fy nhad (Ebrill 12, 1848), a chan mai fi oedd yr hynaf syrthiodd gofal y business arnaf yn fwy. Ond trwy fod yr hen dad duwiol Lewis William mor gynes yn fy nghymell i ddal ymlaen, parhau a ddarfu i mi, ac felly rhyw lithro yn bregethwr heb, wybod yn iawn fy mod yn myned." Ysgrifena drachefn ar ddalen arall: Myfi, Owen Roberts, a ddechreuais ar y gwaith mawr a phwysig o gynghori, yn mis Gorphenaf 1848, yn fy 18fed flwyddyn o fy oedran, yn nghapel Llanfachreth, trwy gymhelliad William Griffith, o'r Caecrwth, ffarmwr a blaenor perthynol i'r capel uchod."

Y pryd hwn gwnaeth gyfamod i ymgysegru, gorff ac enaid, yn llwyr ac am byth, i wasanaeth yr Arglwydd, ac ysgrifenodd y cyfamod mewn llyfr. Aeth i Athrofa y Bala ddiwedd haf 1852. Ond ni chafodd fod yno ond dwy flynedd. Gan fod ei dad a'i fam wedi marw, disgynodd gofal cartref yn gwbl arno ef. Digalonodd hyn ef yn fawr; anmharodd ei iechyd fel nas gallai bregethu gyda dim cysondeb am flynyddau, a bu fwy nag unwaith yn meddwl taflu pob peth i fyny. Ar ol y Diwygiad, pa fodd bynag, cymerodd cyfnewidiad le yn ei ysbryd, ac yn ei amgylchiadau tymhorol gyda hyny. Cymerodd dyddyn i'w amaethu, a gadawodd y gwaith gof. Chwefror 5ed, 1864, ymbriododd â Miss Jane Isaac, Gwyddelwern. Wedi hyn ymroddodd i waith y weinidogaeth. Ymhen oddeutu pum' mlynedd bu dau o'i blant farw o fewn pythefnos i'w gilydd, ac ebe fe ei hun, "Effeithiodd yr amgylchiad yn ddirfawr arnaf. Effeithiodd ar fy nghorff Ond y mae yn dda iawn genyf ddywedyd iddo effeithio yn dda ar fy ysbryd. Yr wyf yn gallu edrych i lanerch y brofedigaeth fel llanerch y fendith. Cefais afael mewn adnodau o'r Beibl y pryd hyny sydd yn aros gyda mi hyd heddyw, ac yn rhoddi llawer o gysur i'm meddwl. Dyma un o honynt, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd dy waredydd, Sanct Israel; Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn wyf yn dy ddysgu di i wellhau, gan dy arwain yn y ffordd y dylit rodio. Esaiah xlviii. 17'."

Oddeutu 1869, galwyd arno i fugeilio eglwysi Abergeirw a Hermon, ac yn ddilynol Llanfachreth hefyd. Hydref 1870, safodd yr Arholiad Cymdeithasfaol, a Gorphenaf 1872, ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth. Effeithiodd hyn arno drachefn i beri iddo fod yn fwy ymroddedig i'r gwaith. Bellach," meddai, "nid oes genyf ond ymgais at ymgysegru yn fwy llwyr i'r gwaith mawr."

Dengys y dyfyniadau uchod o'i hanes ganddo ef ei hun ei fod yn "Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll." Treuliodd ei oes heb ddyfod yn gyhoeddus iawn, yr un pryd, yr oedd yn oes dra defnyddiol. Gwendid corfforol, anystwythder naturiol ei lais, a'r amgylchiadau a'u rhwystrodd i lwyr ymroddiad yn nechreu ei oes, ynghyd â thuedd reddfol ei natur i ymgadw o'r golwg, a fu yn atalfa iddo ddyfod yn adnabyddus mewn cylchoedd eangach. Bu yn un o'r dynion mwyaf gwasanaethgar yn ei wlad ei hun, fel gwladwr a chymwynaswr. Gwnaeth lawer o wasanaeth i'w gymydogion fel meddyg anifeiliaid, fel cynghorwr mewn amgylchiadau dyrus, &c. Os byddai eisiau rhyw gyfarwyddyd, yn wladol neu eglwysig, yn holl gylchoedd ei ardal, ato ef yr elid i ymofyn am dano. Trwy y pethau hyn a'u cyffelyb, yr oedd wedi cael gafael gref yn serch ei gydwladwyr. Llafuriodd lawer ynghylch dosbarth y Cyfarfod Ysgolion. Nid aeth trwy ei oes, mae'n wir, heb i rai ei wrthwynebu yn Llanfachreth; eto, . yr oedd ei gymeradwyaeth yn uchel yn yr eglwysi oedd dan ei ofal, yn neillduol y ddwy eglwys uwchaf yn y cwm, pa rai a wasanaethodd yn ganmoladwy o ffyddlon, yn Sabbothol ac wythnosol, trwy dywydd garw ac ystormydd, haf a gauaf.

Cychwynodd i'w daith, am y tro olaf i Harlech, ddydd Sadwrn, erbyn Sabbath Tachwedd 28ain, 1875. Pregethodd foreu Sabbath oddiar Exodus xiii. 17, 18. Dywedai un o flaenoriaid Harlech mewn llythyr yn fuan ar ol hyn, "Yr oedd rhyw eneiniad dwyfol, amlwg, yr yr odfa hon o'i dechreu i'w diwedd-dyna oedd tystiolaeth amryw oedd yn bresenol. Nid anghofiaf yr argraff a wnaeth byth." Pregethodd drachefn yn Llanfair am ddau, ond methodd y nos. Symudodd cyn diwedd yr wythnos i Ddolgellau, i dŷ ei chwaer, lle y bu farw. Yr oedd yn dawel a hyderus yn ei gystudd, a phan y gofynodd ei briod a oedd ganddo ddim i'w ddweyd, cyfeiriai A'i fys a dywedai, Edrychwch i fyny." Yr oedd ei gladdedigaeth yn anarferol o liosog; yr holl wlad o amgylch ei gartref wedi dyfod i wneuthur arwyl mawr am dano. Yn ymyl capel Llanfachreth, a cherllaw cofgolofn y ffyddlon Lewis William, y mae cofadail wedi ei chyfodi ar ei feddrod yntau, ac yn gerfiedig arni:—

Er côf am

Y Parch. Owen Roberts, Tyisaf,

o'r lle hwn. Bu farw Rhagfyr 9fed, 1875,

Yn 45 mlwydd oed.

Bu yn weinidog ffyddlon gyda'r Trefnyddion Calfinaidd o'r

19eg flwyddyn o'i oedran hyd ei farwolaeth. Yr oedd hefyd

yn wladwr a chymwynaswr rhagorol.

Y gofadail hon a gyfodwyd gan ei edmygwyr.[3]


Y PARCH. LEWIS WILLIAMS.

Y mae ei enw ef wedi ei grybwyll drachefn a thrachefn mewn cysylltiad â chrefydd yn y rhan hon o'r Sir, ond teilynga yn fwy na neb gael sylw helaethach na chrybwyll ei enw. Nid oes yr un dyn y mae yr eglwysi, yr ysgrifenwyd eu hanes yn y gyfrol hon, o dan fwy o deyrnged i barchu ei goffadwriaeth. Da y gwnaeth Ysgolion Sabbothol dosbarth Dolgellau yn rhoddi enw Lewis Williams ochr yn ochr âg enw Mr. Charles, ar eu baner flaenaf, yn Ngwyl Canmlwyddiant 1885. Cyfiawn haeddai gael bod yr agosaf i'r cymwynaswr byd-enwog o'r Bala. Mewn zel angerddol i wneuthur daioni, llafur diorphwys, ffyddlondeb diarebol, saif ar flaen rhestr dyngarwyr ei wlad, ac eglwysi y Methodistiaid yn Sir Feirionydd sydd yn mwynhau o ffrwyth ei lafur. Cafwyd y crynhodeb a roddir yma yn ei ysgrifau ef ei hun, ac yn y byr—hanes a ysgrifenodd Mr. R. O. Rees, yr hwn a ddywed am dano,—"Dyn bychan oedd Lewis Williams ymhob ystyr naturiol—bychan ei gorph, bychan ei enaid, bychan ei ddoniau. Ond pob gïeuyn a gewyn yn ei gorff bychan, a phob cyneddf a dawn yn ei enaid llai, yn eu llawn waith yn wastadol mewn rhyw lwybr neu gilydd yn ngwasanaeth ei Greawdwr a'i Dduw."

Ganwyd ef yn Mhennal, yn 1774, mewn lle a elwid Gwastadgoed. Nid oes gareg ar gareg o'r tŷ hwn yn aros er's llawer blwyddyn. Y mae capel presenol y Bryniau wedi ei adeiladu yn nghwr y cae, ac o fewn ychydig latheni i'r lle y safai. Enw ei dad oedd William Jones, a'i fam Susan Jones. Pan oedd yn ddwy flwydd oed, symudodd ei rieni i'r Hendy, yn agos i'r Henfelin, Aberdyfi, ac ymhen y flwyddyn symudasant i'r Hafod, oddeutu tair milldir i Dowyn. Bu farw ei dad pan oedd yn 4 oed, a gadawyd ef a'r plant eraill gyda'u mam weddw. Rhydd L. W. ddarluniad o ddull y wlad o fyw pan yr oedd yn blentyn, ac o'r modd yr oedd ei fam yn llafurio i fagu ei phlant. "Byddai yn gwneyd cymwynasau i'r cymydogion," meddai, "ac yn cael ei thalu yn bur dda, a phan elai yn gyfyng iawn, anfonai ei chwyn at y plwyf, sef Dolgellau, ac nid wyf yn gwybod iddi gael ei gomedd erioed o'r hyn a geisiai. Ni bu yn cael dim yn benodol o'r plwyf, ond byddai yn cael rhoi ei hachos yn eglwys Dolgellau i geinioca iddi. Byddai yn cael cymaint a 10s., ac o hyny i 15s. lawer tro mewn modd o ewyllys da." Pan oedd yn 16eg oed ymunodd â "Milisia Sir Feirionydd, yn amser rhyfel Boneparte." Wedi ei ryddhau am dymor oddiwrth y rhwymedigaeth hon, a dychwelyd adref, prentisiwyd ef yn grydd, gydag un John Jones, o'r Cemaes, Sir Drefaldwyn.

Tra yr oedd yn Cemaes y pryd hwn, yn llanc tua 18 oed, yr argyhoeddwyd ef, ac y bwriodd ei goelbren ymysg pobl yr Arglwydd. Teimlai awydd i ymuno â chrefydd, ond ofni a chilio yn ol y byddai. "Bum lawer tro wrth ddrws yr addoldy, yn benderfynol o fyned i'r cydgynulliad, ond yn methu myned, ac yn troi yn fy ol tua chartref." Mewn cyfarfod gweddi yn y Ty Uchaf, Mallwyd, ar fore Sabbath, digwyddai fod yn gwrando ar Mr. Jones, Mathafarn, wedi hyny Dolfonddu, yn darllen Rhuf. v., ac yn esbonio rhanau o honi. Pan y darllenai y gŵr y geiriau, felly, gan hyny, megis trwy gamwedd un y daeth barn ar bob dyn i gondemniad," cafodd olwg yn y fan arno ei hun fel un colledig. Syrthiodd i lewyg, a chariwyd ef allan fel un marw. Ond wedi dyfod ato ei hun, a dywedyd pwy oedd, a pha beth oedd yr achos o'i lewyg, dangosodd y cyfeillion garedigrwydd mawr iddo. Aeth erbyn 2 o'r gloch i wrando pregeth i Mathafarn. Y geiriau fu'n foddion i beri iddi oleuo arno oeddynt, "Gwir yw y gair, ac yn haeddu pob derbyniad, ddyfod Crist Iesu i'r byd i gadw pechaduriaid, o ba rai y penaf ydwyf fi." "Dyma y dydd yr agorwyd fy llygaid i weled fy ngholledigaeth, ond diolch byth! i weled Ceidwad hefyd, ac o hyny hyd yn awr nid wyf wedi colli fy ngolwg ar y naill na'r llall yn gyffredin, ond ei bod yn fwy neu lai eglur ar rai prydiau na'u gilydd." Ymhen tuag wythnos wedi hyn, penderfynodd gynyg ei hun i eglwys y Methodistiaid a ymgynullai mewn tŷ anedd yn Nghwmllinau. Yr oedd ganddo haner coron yn ei feddiant, a llawn fwriadai roddi hwnw am gael myned i'r seiat, gan addaw ychwaneg rhagllaw yn ol yr hyn a allai.

"Ar nos y society aeth at ddrws y ffermdy lle y cyfarfyddid. Safai am ysbaid yno mewn cyfyng-gyngor. Anturiai o'r diwedd daro y drws â llaw grynedig. Wele frawd yn agoryd, Beth sy' arnat ti eisio yma, machgen i?' 'Eisio dwad i'r seiat, os ca'i; dyma i ch'i haner coron—y cwbl sy' gen'i yn y byd—am ddwad, os ca'i? 'Dwad, 'machgen anwyl i, cei; cadw dy haner coron; cei groeso calon gyda ni am ddim?

Gofynwyd iddo yn y cyfarfod, 'Beth pe bai Iesu Grist yn ceisio gen' ti wneyd rhywbeth drosto yn y byd, a wnaet ti hyny?'

O! gwnawn yn y fan, beth bynag a geisiai Iesu Grist gen' i.'

Rees Lumley, Dolcorslwyn, oedd y gwr a ofynodd hyn iddo, ac ymddengys ei fod wedi gofyn y cwestiwn ddwy neu dair gwaith mewn gwahanol ffyrdd. Teimlai yntau ar hyd ei oes fod rhwymau arno i wneuthur yr hyn a allai gyda chrefydd, oblegid yr amod hwn a wnaeth y noswaith y cyflwynodd ei hun i'r Arglwydd ac i'w bobl.

Yn fuan ar ol hyn galwyd arno at y Militia drachefn, yn ol ei ymrwymiad. Bu yn crwydro gyda hwy yn Sandown Castle, Dover, Cornwall, Penzance, a dychwelasant yn ol i'r Bala. Yna rhyddhawyd hwy i fyned bawb i'w gartref, gan iddi fyned yn heddwch. Daliodd afael yn ei grefydd yn ei holl grwydriadau, a gwnaeth ddaioni hefyd i'w gymdeithion digrefydd. Ar ei ddychweliad aeth i'r Cemaes, i orphen ei ymrwymiad fel prentis o grydd. Oddiyno symudodd i Aberdyfi, ac ymhen ychydig cyflogodd am haner blwyddyn i weithio ar y tir, yn Closbach, Llanegryn. Dywed mai dyma y lle y bu agosaf iddo golli ei grefydd, oherwydd nad oedd crefydd yn y teulu. Ei symudiad nesaf oedd at berthynas iddo, i'r Trychiad, yn agos i bentref Llanegryn. Gwnaeth ymrwymiad yn ei gyflogiad y tro hwn, i gael rhyddid crefyddol. Tra yr oedd yn aros yn y lle hwn y cyflogwyd ef gan Mr. Charles, i fod yn ysgolfeistr yr ysgolion cylchynol. Yr hanes dyddorol hwnw a roddwyd eisioes mewn cysylltiad â chrefydd yn yr ardal hono. "Bum dan ofal Mr. Charles," ebai, "am dros 15 mlynedd, ac yr oedd yn fyd da arnaf gyda'r ysgol." Cyflogodd gyda Mr. Charles yn y flwyddyn 1799, ac efe yn 25 oed. Bu yn symudol gyda'r gwaith hwn o'r naill ardal i'r llall, gan ddychwelyd yn ol lawer gwaith i'r un ardal, am bum mlynedd ar hugain. Yr oedd yn ei elfen yn gwasanaethu o dan Mr. Charles, ac yr oedd ei barch iddo yn ddifesur. Ni bu neb erioed yn mawrhau ei swydd yn fwy nag y mawrhai ef y swydd o ysgolfeistr. Efe a ystyrid ar y cyntaf y lleiaf oll ei fanteision o ysgolfeistriaid Mr. Charles, ond troes allan yn un o'r rhai mwyaf llwyddianus, os nad efe oedd y penaf o honynt. Beth bynag am ei allu a'i fanteision blaenorol, meddai ar ddull llwyddianus i ddenu plant a phobl. Tra bu yn cadw ysgol ddyddiol o ardal i ardal, sefydlodd Ysgolion Sabbothol, a gofalodd am achos crefydd yn ei holl ranau, allanol ac ysbrydol. Ei fanylwch gyda y rhanau allanol, a'i ysbrydolrwydd gyda'r rhanau ysbrydol, a barai ei fod yn ofalwr heb ei ail.

Yn y flwyddyn 1807 y dechreuodd L. W. bregethu, cyn belled ag y gallai ef ei hun wybod, ac yn 1815 derbyniwyd ef gan y Cyfarfod Misol yn bregethwr rheolaidd. Pregethwr diarebol fychan oedd yn nghyfrif ei gydoeswyr, a chan lawer ystyrid ef yn llai "na'r lleiaf." Cafodd, er hyny, rai odfeuon grymus, a bu ei weinidogaeth yn foddion i beri i aml un droi oddiwrth ei bechodau at yr Arglwydd. Ond fel un yn gwir ofalu am achos crefydd y rhagorodd ef yn ngwinllan yr Iesu. Cylch arbenig ei ddefnyddioldeb oedd yr Ysgol Sabbothol. Parhaodd trwy gydol ei oes i wneuthur rhywbeth gyda y rhan yma o'r winllan dilyn cyfarfodydd daufisol, ymweled â'r ysgolion, trefnu "pynciau," cynal Cymanfaoedd. Llwybr y gwnaeth lawer o ddaioni ynddo yn nechreu ei oes ydoedd fel llyfrwerthwr. Bu yn foddion i ddosbarthu llawer o lyfrau crefyddol, trwy gylch y wlad y symudai ynddi, pan nad oedd yr un llyfrwerthwr na'r un dosbarthwr i'w gael yn yr holl gyffiniau. Trwy ei offerynoliaeth ef, yn nyddiau Mr. Charles, y lledaenwyd y Drysorfa Ysbrydol, y Geiriadur, yr Hyfforddwr &c. Yr oedd ganddo law yn un o'r casgliadau cyntaf at y Feibl Gymdeithas yn yr ardaloedd hyn yn 1805, ac y mae enwau a thanysgrifiadau a wnaed yr adeg hon i'w cael ymysg ei ysgrifau. Rai blynyddau cyn diwedd ei oes llwyr gollasai ei olwg, eto elai o amgylch o dŷ i dŷ, i gasglu tuagat y Feibl Gymdeithas, yn hen ŵr dros ei 80 oed. Ymrestrodd yn un o'r rhai cyntaf o dan faner Dirwest yn 1836. Pa gymdeithas bynag a sefydlid, a pha symudiad bynag a roddid ar droed er llesoli y wlad, byddai ef y cyntaf un i'w bleidio. Bu farw Awst 14eg, 1862, yn 88 mlwydd oed. Gosodwyd cof-golofn ar ei fedd trwy gasgliadau cyffredinol yn holl Ysgolion Sabbothol Dosbarth Dolgellau, ac fel y gweddai iddi fod, y hi yw y gof-golofn uwchaf yn Llanfachreth. A ganlyn yw ei anerch ymadawol, a sibrydodd yn nghlust Mr. R. O. Rees un o'r Sabbothau olaf cyn ei ymadawiad, i'w gyflwyno i Gyfarfod Ysgolion y Dosbarth, a gynhelid yn y cyffiniau y Sabbath hwnw: "Cofiwch fi yn serchog iawn at y brodyr i gyd.— Dywedwch wrthyn nhw mai fy erfyniad olaf i am byth arnynt ydyw am i bawb weithio eu goreu gyda'r Ysgol Sul—perwch i bawb feddwl yn llawer iawn gwell—o Iesu Grist fel talwr. Dyma fi—rydw i wedi bod yn ceisio gwneyd rhyw 'chydig iawn—fel y gallwn i—yn ei wasanaeth am agos i 60 mlynedd —y talwr goreu 'rioed—arian parod bob amser a welais i— byddai'n rhoi rhyw deimlad i mi yn y fan—'y mod i'n ei blesio fo—Dallsai fo byth roi tâl gwell gen'i gael na hyny. —Dyma 'ngwasanaeth i yma ar ben—'does arno fo yr un ddimai o ddyled i mi——Beth bynag sy' geno fo i'w roi i mi eto yn y byd mawr yr ydw i'n myn'd iddo fo—gras!—gras!—gras! Yma gorchfygwyd ei lais gwan gan ei deimladau. Ni ychwanegodd air mwy at ei genadwri i mi, ond sibrwd ymlaen ynddo ei hun, 'Gras!—gras!—gras !—"' —gras!"

Nodiadau[golygu]

  1. Methodistiaeth Cymru
  2. Yr oedd y cerig hyn i'w gweled, hyd yn ddiweddar, yn garnedd o gerig rhyddion ychydig uwchlaw capel y Ffrwd, fel prawf gweledig o wirionedd yr hanes rhyfedd.
  3. Cafwyd cynorthwy gyda'r byr goflant hwn oddiwrth y Parch. J. Eiddon Jones, Llanrug.