Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/Towyn
← Bethania (Corris) | Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I gan Robert Owen, Pennal |
Pennal → |
TOWYN
Nid Towyn oedd y man cyntaf i agor drws i'r efengyl yn y rhan yma o'r wlad. Yr oedd amryw fanau o fewn ychydig filldiroedd i'r dref wedi ei rhagflaenu yn y fraint hon, rhyw bedair neu bum' mlynedd, neu beth ychwaneg. Tuedd gyffredin y pregethwyr a'r crefyddwyr cyntaf oedd, osgoi y trefydd a'r pentrefydd, oherwydd fod y fantais yn fwy mewn amseroedd o erledigaeth, iddynt ymgynull ynghyd mewn manau anghyhoedd ac anghysbell. Caent mewn lleoedd felly fwy o lonyddwch i addoli. Yr oedd Towyn yn un o fanau glân y môr, a'i thrigolion yn meddu cymeriad trigolion glân y môr, yn erlidgar, ac i fyny â phob drygioni. Prawf o hyny ydoedd eu hymddygiad tuag at y fintai o grefyddwyr y sonia Robert Jones, Rhoslan, am danynt, yn Nrych yr Amseroedd, y rhai a ddychwelent o Langeitho ar hyd y tir trwy Aberdyfi a Thowyn. Er nad oeddynt ond yn myned trwy y dref, fel pererinion, yn heddychol a thangnefeddus, eto cyfododd y trigolion yn greulon yn eu herbyn, gan eu lluchio â cherig, a'u baeddu yn dost. Rhoddwyd hanes y fintai hon yn helaethach mewn penod flaenorol. Yr oedd y dref y pryd hwn yn dipyn o borthladd; rhedai y môr oddiwrth Bont Dysyni i ymyl y dref, a cherid ymlaen swm gweddol o fasnach trwy y badau a'r llongau; adeiledid llongau o gryn faintioli y tu cefn ac wrth ymyl y lle y safai hen gapel y Methodistiaid yn y Gwalia. Cyfodid mawn yn y morfa, a gwneid hwy yn deisi ar ben y clawdd llanw, yn nghysgod pa rai yr ymgasglai yr ychydig grefyddwyr cyntaf i gydweddio. Eto, trigolion glân y môr oedd y trigolion yn eu cymeriad a'u harferion. Yr oedd y races ceffylau hefyd, a gynhelid yn flynyddol, ar y morfa gerllaw y dref, lle yr elid drwy bob math o gampau annuwiol yr amseroedd, yn fynegiad tra chywir o ansawdd foesol isel pobl y lle. Heblaw hyny, o fewn milldir i dref Towyn yr oedd palas y teyrn-erlidiwr, gan yr hwn y cai y bobl, druain, bob cefnogaeth i ddilyn gwag-chwareuon, ac i gyflawni y pechodau a ddinystrient y corff' a'r enaid, a phob anghefnogaeth i grefydd ddyfod yn agos i'w tai. Rhydd y pethau hyn gyfrif fod y dref ychydig flynyddoedd ar ol yr ardaloedd o'i deutu yn croesawu y "newyddion da." Mor bell ag yr ydym wedi cael allan, y crybwylliad cyntaf am bregethu gan yr Ymneillduwyr yn nhref Towyn ydyw, yr hanes am yr odfa a gynhelid ar Ben y Bryn, gan y gwr ieuanc, Mr. William Jones, o Fachynlleth, pan y ceisiwyd rhoddi y cŵn hela i udo, er mwyn rhwystro y bregeth, yr hwn hanes a roddwyd o'r blaen yn y benod ar "Yr Erledigaeth." Daeth William Jones yn weinidog yr eglwys Annibynol yn Machynlleth, yn niwedd y flwyddyn 1788, a bu farw ymhen dwy flynedd. Felly, traddodwyd y bregeth gyntaf y mae hanes am dani yma oddeutu y flwyddyn 1789.
Yr hanes nesaf ydyw am dröedigaeth Edward Williams, dilledydd, y pioneer cyntaf gydag achos y Methodistiaid yn Nhowyn. Y tebyg ydyw i hyn gymeryd lle naill ai yn 1789 neu 1790. Cafodd ef addewid am bregeth yn ei dŷ ychydig amser ar ol ei dröedigaeth. Dywedir, hefyd, yn mhellach, am dano "Bu am ychydig yn cadw ei dŷ i'r Cynghorwyr,' heb fod nemawr sylw yn cael ei dalu iddo. Ond ymhen enyd, daeth gŵr lled gyfrifol, o'r enw Francis Hugh, yn ymlynwr wrth "deulu'r weddi dywyll." Dywed Lewis Morris, hefyd, yn Adgofion Hen Bregethwr: "Mr. Francis Hugh, yn Nhowyn, a fu yn gynorthwyol i'r achos yn foreu iawn, ac y mae ei deulu yn cadw y drws yn agored hyd heddyw (1846)." Felly, y ddau wr da hyn, yn ddiau, bia y clod o ddechreu yr achos yn Nhowyn. Gyda y rhai hyn yr oedd Daniel ac Evan Jones, Dyffryn—gwyn, a John Jones, Penyparc, yn ymgynull. A byddai y gymdeithas grefyddol (society) yn cael ei chynal bob yn ail yn Nhowyn a Phenyparc. Er hyny, ymgynull mewn rhan yn ddirgelaidd y byddent yn y naill le a'r llall, oherwydd fod y boneddwr gerllaw, yr hwn a feddai ddylanwad mawr ar y werin—bobl o'u deutu, yn gosod ei ofn arnynt. Hysbysir yn Methodistiaeth Cymru, a hyny, ni a dybiwn, oddiar dystiolaeth John Jones, Penyparc, ei hun, fod y boneddwr hwn wedi rhoddi terfyn ar y pregethu a'r moddion crefyddol yn Penyparc am dymor byr, ac wedi myned a'r ysgoldy oedd ganddo yn cadw ysgol ddyddiol oddiarno. Wedi colli yr ysgoldy yn Penyparc, cafodd fyned i Dowyn i gadw ysgol, i dŷ bychan oedd gan Francis Hugh. Bu yno am flwyddyn, o leiaf. Erbyn hyn, yr oedd tri wyr da yn Nhowyn, Edward Williams, Francis Hugh, a John Jones—y rhai a geisient bregethwyr yno ac i Aberdyfi, a chynhelid y moddion o tan y gwyrchoedd, neu wrth ochr y llongau, neu yn unrhyw le y ceid llonyddwch. Erbyn 1795, yr oedd y disgyblion wedi amlhau, yr hyn a barodd i'r boneddwr erlidgar oedd yn byw yn y gymydogaeth ffromi yn aruthr, a'r flwyddyn hono y cyrhaeddodd yr erledigaeth ei phwynt eithaf. Mewn canlyniad, gwnaed ymdrech gyffredinol trwy yr holl wlad i drwyddedu y tai i bregethu. Cafodd tŷ Edward Williams, yn y Porthgwyn, ei drwyddedu y flwyddyn hon. Hysbysir hefyd fod Tŷ Shoned," yn y Gwalia, wedi ei gymeryd i gadw moddion ynddo ar ol hyn am dymor. Ond er fod rhyddid cyfreithiol wedi ei sicrhau, ac amddiffyn y gyfraith wedi ei gael dros y pregethwyr a'r crefyddwyr, parhaodd yr erledigaeth a'r rhwystrau ar ffordd yr achos eto, i fesur helaeth, am ysbaid deng mlynedd, ac nid oedd yr achos am yr ysbaid hwnw ond megis myrtwydd yn y pant.
Yn nechreu y ganrif hon, ymddengys i ryw gymaint o ddeffroad crefyddol gymeryd lle yn Nhowyn, a chafodd yr achos symbyliad i fyned rhagddo. Un achos o'r deffroad hwn ydoedd dechreuad yr Ysgol Sabbothol. Ceir tystiolaeth o amryw fanau mai y Parch. Owen Jones, wedi hyny o'r Gelli, a fu yn offery i'w dechreu hi yn y dref. Yn 81, adroddai Hugh Edwards, Gwalia, hen flaenor parchus gyda'r Methodistiaid, yr ychydig ffeithiau canlynol. Tua'r flwyddyn 1803, daeth Mr. Jones i aros gyda'i rieni (y rhai a breswylient yn y Crynllwyn, heb fod yn nepell o'r dref) am ychydig amser wedi iddo orphen ei brentisiaeth fel saddler yn Aberystwyth, ac yn ŵr ieuanc llawn o zel ac awydd gwneuthur daioni, efe a ddechreuodd gadw ysgol nos yn nhŷ un Rhys Shôn, Gwalia. Dechreuid y cyfarfodydd trwy ddarllen a gweddïo, yn debyg fel y gwneir yn awr; ac o dipyn i beth, daeth yn arferiad i gynal yr ysgol ar brydnhawn Sabbath, yn yr un tŷ ac ar yr un cynllun. Y personau fuont fwyaf ffyddlon yn ei sefydliad oeddynt, William Dafydd, Glan y mor, Edward William, Shoned y Gwalia, John Jones, Penyparc, a Catherine Williams, Gwalia. Yr oedd gwrthwynebiad i'w chynal ar y Sul gan rai hen bobl grefyddol ar y dechreu.
Rhydd y Parch. Cadvan Jones, yn ei draethawd ar Ymneillduaeth Plwyf Towyn, yr hanes a ganlyn a gymerodd le ynglŷn â'r ysgol hon pan oedd yn ei mabandod: "Cof genyf glywed adrodd yr hanesyn canlynol gan un o'r rhai euog eu hunain, yr hwn a ddengys, i fesur, sefyllfa feddyliol y bechgyn oedd gan Mr. Jones o'i flaen, i geisio gwneyd rhywbeth o honynt. Daeth tua haner dwsin o lanciau i'r ysgol un prydnhawn Sul, a drwgdybiodd Mr. Jones eu bod wedi bod wrth eu hen a'u hoff waith o chwareu y bêl droed. 'Lanciau,' ebe fe, 'Yr ydych wedi bod yn tori y Sabbath eto, ac y mae y bêl gan un o honoch, yr wyf yn siwr.' Amneidiwyd arno i chwilio llogellau un o'r bechgyn. Aeth Mr. Jones ynghyd a'r gwaith. Gyrodd ei law i logell y bachgen, a theimlai rywbeth yn dra chwithig yno. Tynodd ei law yn ol can gynted ag y gallai, ond ychydig yn rhy ddiweddar; yr oedd wedi ei boddi hyd yr arddwrn mewn pwllfa o wyau gorllyd a ddigwyddai fod yn llogell y bachgen ateb rhyw ddiben direidus."
Yn yr un flwyddyn ag y cychwynwyd yr Ysgol Sul gan y Parch. Owen Jones, sef 1803, y ffurfiwyd eglwys gan yr Annibynwyr yn Nhowyn. Fel hyn yr adroddir gan un oedd yn bresenol yn ei sefydliad :—"Yn ffurfiad yr eglwys ymneillduedig yn Nhowyn, yr oedd Mr. Pugh (Brithdir), ac ysgrifenydd y cofiant hwn [y Parch. J. Roberts, Llanbrynmair] yn bresenol, a chanddynt hwy y gweinyddwyd Swper yr Arglwydd y tro cyntaf yn y dref, yn ol trefn yr Annibynwyr. Yr wyf yn meddwl fod hyn yn y flwyddyn 1803." Fe gofir fod eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yma wedi ei sefydlu wyth neu ddeng mlynedd yn flaenorol.
Nid oedd yr un capel wedi ei adeiladu i addoli ynddo o gwbl yn y dref am dros ddeng mlynedd wedi hyn. Yn ddamweiniol y cafwyd tir i adeiladu capel i'r Methodistiaid Calfinaidd. Yr oedd y môr cyn hyn, fel y crybwyllwyd, yn dyfod hyd at y dref. Oddeutu yr amser yma, pasiwyd deddf i sychu y morfa, ac i wneyd clawdd llanw gyda glân afon Dysyni. Gorphenwyd gwneuthur y clawdd llanw yn y flwyddyn 1807. Ac ar raniad tir y morfa, daeth peth o hono gerllaw hen gapel y Gwalia i ran Mr. Peter Peters, mab-yn-nghyfraith Francis Hugh. Cafwyd rhwym-weithred ar ddernyn o'r tir yma i adeiladu capel arno, am dymor o 99 mlynedd, yn ol 5s. o ardreth flynyddol. Dyddiad y weithred ydyw Mehefin 1af, 1814. Yn y flwyddyn 1842, trosglwyddwyd y tir yn feddiant i'r Cyfundeb am £5, ac yn Nghyfarfod Misol Aberdyfi, Chwefror 23ain, yr un flwyddyn, cyflwynwyd diolchgarwch gwresog y frawdoliaeth i Mrs. Peters, a'i merch, Mrs. Cadben Barrow, am eu caredigrwydd yn cyflwyno y tir yn rhydd-feddiant am y pris hwn. Y Parch. Hugh Jones, Towyn, mewn ychydig nodiadau o hanes ei fywyd ei hun, a ddywed,—"Pan ddaethum at grefydd gyntaf, cynhelid yr achos gan hen ŵr o'r enw Francis Hugh. Yn fuan wedi marw yr hen ŵr, cefais inau y fraint o gynal yr achos; a'r pryd yma, yr oeddym mewn angen am adeiladu capel. Bum yn gofyn am le i adeiladu gan amryw bersonau, ond gwrthodent fi oll. Ond yn rhagluniaethol, daeth ychydig o dir cymwys i feddiant mab-yn-nghyfraith Francis Hugh, a chaniataodd ef ein deisyfiad ar y telerau canlynol:—£10 i lawr, a 10s. [5s.] o ground rent; ac aethum inau gyda'r brys mwyaf i Benmachno, i'r Cyfarfod Misol, i fynegi y newydd, ac addawodd y Cyfarfod Misol £200 i'n helpu i ddwyn y draul. Dechreuwyd ag adeiladu y capel yn ddioed, a chefais lawer o gymorth gan Harri Jones, Nantymynach. Cynorthwyai fi i osod y gwaith coed a maen i'r seiri. Yr oeddwn i a'r Harri Jones uchod yn gyfeillion mawr—yr oeddwn yn teimlo serch ac anwyldeb mawr tuag ato, a gwyddwn fod ganddo yntau ofal mawr am danaf finau." Ychwanegwyd darn rywbryd at hen gapel y Gwalia, fel y dangosai y ddwy golofn oeddynt wedi eu gosod o flaen y pulpad, i ddal y tô i fyny. ddengys fod dyled y capel hwn wedi ei chlirio yn y flwyddyn 1839.
Ychydig sydd o hanes Lewis William, yr hen ysgolfeistr, mewn cysylltiad â Thowyn. Ond yr oedd ef yma yn cadw ysgol ddyddiol yn y flwyddyn 1818, a chanddo 92 o blant yn yr ysgol. Y mae enwau pob un o'r rhai hyn ar gael yn llawysgrif L. W., a'u hoedran, a'u "graddau mewn dysg." Amrywia eu hoedran o 5 i 14. Nid oedd dim ond 10 o honynt yn dysgu ysgrifenu; 7 yn darllen yn eu Beiblau; 26 yn eu Testamentau; 66 yn yr A B C, sillebu, a darllen yn y llyfr corn, Dim un yn yr ysgol wedi myned mor bell ag i ddysgu rhifyddiaeth.
Wedi i'r erledigaeth fyned heibio, ac i grefyddwyr amlhau, yr oedd llawer o bregethwyr dieithr yn teithio trwy Towyn. Adroddir hanesyn dyddorol gan y Parch. D. Cadvan Jones, am ymweliad cyntaf Mr. Williams, o'r Wern, a'r dref. "Aeth dau o'r brodyr a berthynent i'r Annibynwyr i'w gyfarfod, a chyfarfyddasant à gŵr ieuanc o edrychiad ysmala, dirodres, a difater, ar gefn merlyn bychan. Yr oedd y naill a'r llall o'r ddau aethant i'w gyfarfod yn lled ofni nad efe oedd y gŵr dieithr, gan nad oedd ymddangosiad pregethwrol ganddo. Boed a fo, gofynwyd iddo, 'Ai chwi yw y gŵr dieithr sydd i bregethu gyda'r dissenters heno? 'Ie,' ebe fe, 'beth am hyny? O, dim, syr, ond ein bod wedi dyfod i'ch cyfarfod.' Aeth ef a'r ddau arweinydd ymlaen, ac erbyn cyraedd y dref, digwyddodd amgylchiad eto o flach tŷ penodol a barodd iddynt ameu ai efe oedd y pregethwr. Modd bynag, ni ddywedasant ddim i amlygu eu drwgdybiaeth. Y noson hono, yr oedd Mr. Griffith Solomon i bregethu gyda'r Methodistiaid, a chafwyd trwy fawr gymell a chrefu, ganiatad i roddi y gŵr dieithri bregethu gydag ef, gan y tybiai yr ychydig frodyr na chaent neb i'w wrandaw pe cedwid y ddwy odfa ar wahan. Aeth y ddau arweinydd tua'r capel, ac yr oedd Griffith Solomon ychydig yn ddiweddar, a Mr. Williams wedi dechreu. Pan y daeth Griffith Solomon i mewn, edrychodd i fyny, rhuthrodd i'r pulpud, ac ymaflodd yn y gŵr dieithr yn ddiseremoni, a chymerodd ei le ef. Wel, wel,' ebe y ddau arweinydd ynddynt eu hunain, "does dim amheuaeth bellach nad twyllwr ydyw y gŵr ieuanc, ac y mae y Methodist yn ei 'nabod.' Yr oedd y Methodist yn ei 'nabod, a dyna'r pa'm y mynai y blaen. Cafwyd odfa y cofiwyd am dani byth gan y sawl a'i clywsant hi, ac er mawr lawenydd i'r ddau frawd, yr oedd yr hen Edward William, oedd mor wrthwynebol i adael i'w pregethwr gyd-bregethu â phregethwr y Methodistiaid, y cyntaf ar ei draed, ac yn uwch ei gloch na neb."
O'r adeg yr adeiladwyd y capel cyntaf am ysbaid ugain mlynedd, sef o 1814i 1834, bu yr achos yn gorphwys yn benaf ar ysgwyddau Hugh Jones a'i briod, a Miss Jones, Gwalia. Nodir 1834, am mai y flwyddyn hono y daeth Mr. W. Rees i fyw i Dowyn, a bu yr achos yn gysylltiedig â'i enw ef wedi hyn dros 40 mlynedd. Yr oedd Miss Jones yn chwaer i'r diweddar Barch. Owen Jones, y Gelli. Preswyliai hi wrth ochr y capel, a chan ei bod mewn amgylchiadau cysurus o ran moddion, a chanddi hefyd galon i weithio, bu yn gynorthwy mawr i'r achos yn Nhowyn Bu fyw i oedran teg, a pharhaodd ei ffyddlondeb hyd y diwedd. Hugh Jones ei hun a ddywed, "Wedi i fy anwyl wraig ddyfod i Dowyn, gellir dweyd iddi fod yn ymgeledd gymwys i weision yr Arglwydd am 32 mlynedd." Gwir a ddywedai yr hen bererin am ei briod ymroddgar. Tystiolaeth y wlad yn gyffredinol ydoedd ei bod hi yn wraig dra rhinweddol; nid yn ol i neb yn ei hoes am ei lletygarwch. Mynych y coffheid yn y wlad, tuag ugain mlynedd yn ol, ddarfod i Hugh Jones a'i briod haner gynal yr achos yn y dref, os nad mwy na hyny, am flynyddoedd meithion. Yr oedd y teithio mawr ymhlith y Methodistiaid yn ei fri uwchaf yr holl flynyddoedd y buont hwy ill dau yn cadw tŷ agored i bregethwyr. A chan fod Towyn ar ffordd llawer o'r De i'r Gogledd, ac o'r Gogledd i'r De, yr oedd nifer y pregethwyr a alwent yn eu tŷ am ymborth a llety yn ystod blwyddyn, yn llu mawr iawn. Nid gwaith bychan oedd "cadw mis" y pryd hwnw, ond i Hugh Jones a'i briod, nid mis ydoedd—llyncid y mis i fyny gan y flwyddyn, a'r flwyddyn gan y blynyddoedd. Amgylchiad pwysig yn Nhowyn am yn agos i haner canrif oedd y Gymdeithasfa flynyddol. Cynhaliwyd y gyntaf yn y flwyddyn 1807. Fel hyn y dywedir yn Methodistiaeth Cymru:—"Penderfynwyd cadw Cymdeithasfa yn Nhowyn ymhen tua deuddeng mlynedd ar ol hyn. Ni buasai yno yr un cyfarfod o'r fath erioed o'r blaen." Deuddeng mlynedd ar ol yr erledigaeth yn 1795 a feddylir. Cynhaliwyd y Gymdeithasfa gyntaf ar yr heol, oblegid nid oedd yr un capel o fath yn y byd yn y dref. Cynhelid hi yn flynyddol yn Medi neu Hydref, o'r adeg hon ymlaen, a dyma ddigwyddiad pwysicaf y flwyddyn ymhlith y Methodistiaid yn yr holl ardaloedd hyn. Yn un o'r Cymdeithasfaoedd hyn y daeth y Parch. Dr. Owen Thomas gyntaf i sylw yn y rhan yma o Gymru (yn 1842, fel y tybiwn), a gwnaeth argraff gofiadwy ar y wlad trwy ei bregeth rymus ar y geirian, "A'r tlodion yn cael pregethu yr efengyl iddynt." Paham y rhoddwyd y Gymdeithasfa flynyddol i fyny ddeugain mlynedd yn ol, nid ydym wedi cael gwybodaeth foddhaol. Yn Mehefin, 1885, y cynhaliwyd Cymdeithasfa Chwarterol reolaidd y Gogledd yma gyntaf. Cynhaliwyd y cyfarfodydd pregethu ar y maes yn ymyl y capel, a'r cyfarfod ordeinio yn yr un lle. Am y Gymdeithasfa hon, erys adgofion hyfryd, oherwydd yr hwylusdod a gafwyd gyda'r trefniadau, a'r llewyrch a fu ar y moddion.
Ymhen amser ar ol agor y rheilffordd drwy y lle, cynyddodd poblogaeth y dref, a chynyddodd rhif cynulleidfa ac eglwys y Methodistiaid yn gyfatebol, fel yr aeth hen gapel y Gwalia yn fwy na llawn, ac yr oedd ei safle yn rhy anghyfleus, a'r olwg arno yn rhy oedranus i gyfarfod chwaeth yr oes bresenol. Symudwyd lle y deml i fan tra chyfleus a dymunol, yr ochr arall i'r dref Rhoddwyd y tir yn rhad yn feddiant i'r Cyfundeb gan Mr. Hugh Thomas, yr hwn a fu yn hir yn drysorydd yr eglwys. Adeiladwyd y capel yn 1871. Aeth traul yr adeilad, a'r tŷ sydd yn gysylltiedig âg ef, yn £1500. Y flwyddyn hon (1887) rhoddir oriel o amgylch y capel, yr hyn a bâr iddo gynwys gryn lawer ychwaneg i eistedd.
Coffheir am enwau rhai aelodau a fuont dra gwasanaethgar i'r achos yn yr amser gynt, nad oeddynt yn swyddogion yn yr eglwys. Mae enw Francis Hugh wedi cael ei goffa gyda. pharch gan amryw o'i olynwyr, fel un o golofnau cyntaf yr eglwys. Ei deulu ar ei ol, Peter Peters a Cadben Barrow, a'u. gwragedd, a fuont yn dra ffyddlon i gynal yr achos ac i letya y proffwydi. Griffith Evans, gynt o'r Dolaugwyn, hefyd, oedd yn un o'r ffyddloniaid.
Edward Williams. Efe mae'n ymddangos oedd blaenor cyntaf yr eglwys. Efe a ddeffrowyd gyntaf yn y dref fel blaenffrwyth llu o waredigion yr Arglwydd. Efe fu dan yr erledigaeth fawr, ac y cofrestrwyd ei dŷ yn y Porthgwyn i bregethu yn 1795. Efe fu yn foddion i osod y sylfaen i lawr, ar yr hon y goruwchadeiladodd eraill. Ar gyfrif ei zel a'i wroldeb, fel pioneer yn y cychwyn cyntaf, teilynga gael bod ar ben rhestr ffyddloniaid yr eglwys. Cafodd oes hir, a pharhaodd ei zel yn ddiball i'r diwedd. Treuliodd ran olaf ei oes yn Aberdyfi. Ac fel prawf o'i agosrwydd yn byw at yr Arglwydd, dywedir iddo gael rhyw ddatguddiad am yr amser y byddai farw; daeth i Dowyn i ffarwelio â'i berthynasau, a dywedodd y byddai ymhen hyn a hyn o wythnosau wedi gadael y ddaear; ac megis y dywedodd, felly y bu. Oddeutu 1810, pan oedd Cymanfaoedd Ysgolion Cymru yn eu gogoniant, cynhelid cymanfa yn Nhowyn, ac ysgolion y cylch wedi dyfod ynghyd, yn cael eu holi gan y Parch. Owen Jones, y Gelli. Edward Williams oedd yn dechreu y cyfarfod cyhoeddus. Safai yn syth cyn dechreu darllen a dywedai, "Gwnewch ddal sylw i gyd; yr ydym yn myned i ddarllen gair yr Arglwydd; mae a fyno pob gair o'r benod yr ydym yn myn'd i'w darllen â phob un o honoch chwi sydd yn bresenol." Dyna yr hyn a effeithiodd gyntaf erioed ar un o'r plant ieuainc oedd yn y dyrfa, a ddaeth wedi hyny yn Gristion gloew. Ymddengys mai duwioldeb a zel oedd rhagoriaethau penaf yr hen Gristion hwn. Deuai Owen William, y pregethwr, o Fryncrug i Dowyn i gadw seiat weithiau. Tuedd yr hen bregethwr oedd myned yn ddwfn, at gorn ei wddf mewn athrawiaeth a duwinyddiaeth. Dyfod a phynciau ymlaen y byddai i'w trafod yn y seiat. "Pw, pw, pw!" ebe Edward Williams, "mae yn bosibl myned i'r nefoedd heb fyned ar ol pethau fel yna." Adroddai ei hun am dano ei hun un tro wedi bod yn Sasiwn Caergybi. Dilynodd un o'r pregethwyr wrth ddyfod adref, yr holl ffordd o Gaergybi i'r Abermaw, heb dderbyn dim bendith; ond yn y Bermo cafodd wledd i'w enaid wrth wrando yr un bregeth ag a glywsai amryw weithiau ar ei daith. Dengys hyn nad ydoedd yn wlith a gwlaw bob amser ar yr hen bobl. Tystiolaeth awgrymiadol un o drigolion hynaf Aberdyfi am yr hen bererin Edward Williams ydyw, y byddai yn ei hen ddyddiau ar Sabbath yr Ordinhad bob amser yn gofalu am roddi ei ddillad goreu am dano.
William Dafydd, Glanymor, oedd un o'r blaenoriaid hynaf. Coffheir am dano hefyd yn flaenllaw gyda chynhaliad yr Ysgol Sul. Honai efe berthynas â Catherine Williams, ysgogydd cyntaf y Methodistiaid yn y rhanau yma o'r wlad. Ychydig sydd o'i hanes hi ar gael, ond dywedir yn Methodistiaeth Cymru mai hi roddodd gychwyniad cyntaf i grefydd yn y parthau hyn, Richard Davies, mab i W. D., Glanymor, oedd yn flaenor, ond bu farw yn ieuanc.
Benjamin Williams. Mab oedd ef i Edward Williams; daeth i le y tad fel swyddog a bu ynddi hyd y diwedd. Y mae adgofion lawer am dano hyd heddyw fel Cristion da ac un o wyr bucheddol yr eglwys. Yr ydoedd yn fethiantus yn niwedd ei oes, ond bu fyw hyd amser y diwygiad diweddaf.
Hugh Edward. Hen Gristion diamheuol, ond wedi myned ymlaen mewn dyddiau cyn ei ddewis yn flaenor. Bu yn was gyda John Jones, Penyparc, gyda'r hwn y cawsai hyfforddiant yn y ffydd a threfniadau y Cyfundeb. Am ei dduwioldeb, nid oedd gan ei gymydogion yr un amheuaeth. Pan oedd yn glaf o'r clefyd y bu farw o hono, dywedai wrth gyfaill aethai i edrych am dano, Pryd bynag y clywch chwi fy mod i wedi myn'd, yn y nefoedd y byddaf fi."
John Daniel, Pantyneuadd, a ddewiswyd gan yr eglwys yn flaenor, ond a fu farw ymhen deng mis ar ol hyny, Ionawr 1886.
Mr. E. Newell a fu yn flaenor yn yr eglwys Gymraeg am flynyddoedd, ond ar ffurfiad yr eglwys Saesneg symudodd yno. Mr. W. Rees a Mr. Thomas Jones, Coethle, fuont ddynion blaenllaw yn yr eglwys. Ceir eu hanes yn y benod ar "Flaenoriaid Hynotaf y Dosbarth." Mr. Hammond oedd un arall o'r blaenoriaid, yr hwn a ymfudodd ychydig flynyddau yn ol i'r America. Y blaenoriad yn awr ydynt, Mri. G. Jones, D. Daniel, John Humphreys, J. Maethlon James, a Meredith Jones.
Bu y Parch. W. James, B.A., Manchester, yn weinidog ar yr eglwys hon mewn cysylltiad ag Aberdyfi, o 1863 i 1866. Y Parch. J. H. Symond ydyw gweinidog rheolaidd yr eglwys yn awr er y flwyddyn 1876.
Y PARCH. HUGH JONES. Bu enw yr hybarch weinidog yn gysylltiedig â'r achos crefyddol yn Nhowyn am gryn lawer yn hwy na haner canrif. Bu yn aelod o'r eglwys am ddeng mlynedd a thriugain, er pan yn 16 oed hyd yr adeg y bu farw, yn gyflawn o ddyddiau, yn mis Hydref, 1873. "Ganwyd fi," ebe fe, "yn y flwyddyn 1786, tua dechreu mis Rhagfyr, a bedyddiwyd fi yn y Llan, ar y 9fed o'r un mis. Enwau fy rhieni oeddynt, Hugh ac Elizabeth Jones. Yr oedd fy nhad yn gadben ar long o'r enw John & Ann.' Bu farw yn Mangor, ac a gladdwyd yn yr un lle pan oeddwn i oddeutu 7 neu 8 oed. Pan oeddwn yn 12 oed, prentisiwyd fi ar y môr am 4 blynedd gyda hen fate fy nhad.
"Pan yn Liverpool, newydd fyned i mewn un Sabbath, daeth fy mrawd John heibio i mi, a chymhellodd fi i ddyfod gydag ef i wrando ar Michael Roberts, y pryd hwnw yn ddyn ieuanc. Pregethai mewn hen warehouse. Yr ydoedd hyn yn ystod yr heddwch byr rhyngom â Ffrainc (1801). Wedi dychwelyd i'r llong, ceryddwyd fi gan y cadben am fyned gyda fy mrawd heb ofyn ei genad ef. Ar hyn, aethum i'r lân am ychydig ddyddiau. Cynghorwyd fi i orphen fy mhrentisiaeth gan hen ewythr i mi. Ar ol myned allan i'r môr, taflodd y cadben fy nillad i mi i'r deck, a gorchymynodd fi i fyned i'r forecastle, a darostyngwyd fi i'r swydd iselaf, sef coginio wrth y caboos, pryd yr oedd tri o'r prentisiaid yn iau na mi. Cymaint oedd fy nhrallod y pryd hwn, fel y temtid fi i ymadael â'r môr; ond cadwodd y Llywodraethwr Mawr ei law arnaf—a dilyn y swydd o goginio y bum y daith hono i Lundain, hyd nes y dychwelais i Liverpool; ac ar y fordaith olaf hon, buom agos iawn a cholli ar dir yr Iwerddon. Yn Liverpool, y tro olaf, diengais tuag adref, am fod fy iau yn rhy drom. Chwiliai y cadben a'r swyddogion am danaf. Yr oedd dynion y pryd hyny yn brinion, am fod y rhyfel rhyngom â Ffrainc wedi ail ddechreu. Yr oedd y llong pan ddiengais yn barod i gychwyn am Lundain, a dychwelodd i Liverpool yn ddiogel; ond ar yr ail fordaith i Waterford, collodd y cyfan—y llong a'r dwylaw ar dir Iwerddon. Wedi dychwelyd adref, prentisiwyd fi eilwaith gyda'm brawd-yn-nghyfraith yn skinner.
"Pan oddeutu 16 oed, ymaflodd rhywbeth yn fy meddwl, wrth wrando ar Ellis Roberts, Stay Little, Sir Drefaldwyn, a chloffwyd fi fel na allwn gicio y "bêl droed" ar y Sabbothau fel cynt. Ymdrechais fyned i "noswaith lawen" unwaith wed'yn, ond nid oedd dim blas i mi yno, a dychwelais adref. Fy mam, wrth fy ngweled wedi dychwelyd adref mor fuan a ofynodd, "Pa'm y dost ti mor fuan, y machgen i?" "Ffarwel iddynt am byth, mam," meddwn inau, "nid af iddynt byth mwy." A gallaf ddweyd i mi gael pleser can' mil purach yn eu lle. Wrth ddychwelyd o Sasiwn Caernarfon, mewn lle a elwir "Gwastad Meirionydd," yn ngolwg Dyffryn Towyn, daeth i fy meddwl, Pa beth i'w wneyd i godi crefydd yn y wlad? Tarawyd fi gan y geiriau hyny, "At bawb yn Rhufain, yn anwyl gan Dduw, wedi eu galw i fod yn saint;" a meddyliais mai ymarfer â phregethu ac â'r gair ydoedd Duw wedi ei drefnu i ddychwelyd pechaduriaid annuwiol i fod yn saint. Nid oedd yr un capel yn y dref y pryd hwn gan yr un enwad; a chedwid cyfarfodydd gweddïo a phregethu mewn tŷ bychan, yr hwn sydd yn sefyll hyd heddyw; ac yn y cyfarfodydd hyny dechreuais ddweyd tipyn bach oddiwrth benod a ddarllenwn, yr hyn beth a ddisgwyliai y brodyr i mi wneyd. Yr oeddwn yn cael fy nghymell yn fy meddwl i geisio cynghori tipyn ar y bobl yn barhaus; ac wrth ddychwelyd o'r wlad, ar gyfer lle bychan a elwid Felin Fwn, daeth yr adnod hono yn rymus i fy meddwl, "Ymdröant ac ymsymudant fel meddwyn, a'u holl ddoethineb a ballodd. Yna y galwasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder." Ac felly yr oeddwn inau gyda golwg ar fyned i bregethu, yn rhyw droi ac ymsymud heb wybod beth i'w wneyd, a hyny o ddoethineb a feddwn wedi pallu, ac yn ofni yn fawr mai rhyfyg ynof ydoedd y fath waith. Ac oddeutu yr un adeg, mewn ffair yn Nolgellau, wrth weled y bobl yn ymladd ac yn terfysgu, daeth y geiriau hyny yn rymus i fy meddwl, "Dos, a dywed wrth y bobl hyn." Ac yn y dyddiau hyny aethum i gladdu cymydog i mi ydoedd wedi marw yn Aberystwyth, sef Mr. Robert Jones, brawd i'r diweddar Barch. Owen Jones, Gelli. Yr oedd hyny ar ddydd Sadwrn, yn mis Ionawr, 1814, a chymhellwyd fi gan gyfeillion i mi aros gyda hwy dros y Sul. Dywedent wrthyf fod y Parch. Ebenezer Richards i bregethu yn y dref am ddeg o'r gloch, ac yn nghapel y Garn am ddau. Aethum i a chyfaill i mi o Lanfred i'r dref i'w glywed, ac erbyn myned yno, ni ddaeth y pregethwr i'w gyhoeddiad. Aethum wedi hyny i gapel y Garn, ond ni ddaeth yno ychwaith; a rhai o'r cyfeillion wedi clywed fy mod yn dechreu dweyd tipyn tua'm cartref, a'm cymhellasant i fyned i'r pulpud, a phregethu i'r bobl, a minau, er yn anfoddlon, a aethum, a cheisiais ddweyd tipyn oddiwrth y geiriau hyny, "Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser, yr anfonodd Duw ei Fab," &c. Cymerais ofal rhag mynegi hyn i'm cyfeillion gartref. Gwyddwn fy mod wedi tori y rheol, eisiau dechreu yn fy nghartref.
"Ar ol claddu fy anwyl fam bu yn fater gweddi genyf am flynyddoedd am i'r Arglwydd fy nghyfarwyddo i ddewis cynhares bywyd; ac yn Llandrillo y gwelais hi gyntaf. Bum yn ymweled â hi rai gweithiau. Daeth i fy meddwl o'r diwedd i ysgrifenu ati, i ofyn a wnai hi briodi—ar iddi ystyried y peth yn ddifrifol, ac ymgynghori â'r Arglwydd. Cefais ateb yn ol yn fuan yn dweyd ei bod hi yn cydsynio. Adroddai wrthyf ar ol hyn, iddi wedi derbyn fy llythyr agor y Beibl, a'r gair y disgynodd ei llygaid hi arno ydoedd atebiad Abigail i weision Dafydd, pan anfonwyd hwynt i'w cheisio yn wraig i Dafydd Wele fi yn llawforwyn i olchi traed gweision fy Arglwydd.' . . . . .
"Nis gallaf lai na chanfod llywodraeth yr Arglwydd ar fy nghyfeillion yn Nhowyn. Dangosasant lawer o sirioldeb tuag ataf yn eu rhoddion, i'm gwneyd yn gysurus yn ngwyneb fod fy nghof a'm golwg yn pallu. Gallaf ddweyd mai fy mhrofiad ar ddiwedd fy nhaith ydyw, gradd o syched am gymdeithas â'r Arglwydd cael ei weled Ef megis ag y mae, a bod byth yn debyg iddo.
Yr wyf yn teimlo rhwymau arnaf i fod yn ddiolchgar i'r Arglwydd am fy nghynal am 63 o flynyddoedd, heb fod yn ddolur llygaid i'm brodyr; a'm dymuniad a'm gweddi ydyw ar iddi fyned yn fwy goleu ar fy meddwl, a chael mwy o adnabyddiaeth o'r Arglwydd Iesu, a mwynhau mwy o gysuron cryfion yr efengyl."
Yr oedd yr hen bererin yn syml, yn ddidwyll, ac ymostyngar i ewyllys yr Arglwydd ar hyd ei fywyd. Bu mewn cysylltiad â masnach ran fawr o'i oes, ac yr oedd yn gefnog yn y byd. Mewn hen lyfr yn ei lawysgrif ef ei hun, gwelir fod ei gyfrifon masnachol a'i bregethau yn frith draphlith, darn o'r cyfrifon ar un tudalen, a darn o'r bregeth ar y tudalen arall. Yr oedd ei gymeriad yn uchel fel dyn gonest yn ei gysylltiadau â'r byd. Humphrey Davies, Corris, a ddywedai am dano yn y Cyfarfod Misol ar ol ei farw, "Yr oedd o a minau yn dipyn o oposisiwn i'n gilydd gyda phethau y byd yma, ond welais i ddim byd erioed yn llai na Christion yn Hugh Jones." Oherwydd ei gywirdeb fel dyn, a'i dduwioldeb fel Cristion, yr oedd ei ddylanwad yn fawr yn more a chanol ei oes yn ei dref a'i wlad ei hun. Fel un engraifft o'i ddylanwad, adroddir am dano yn darostwng cythrwfl mawr oedd un tro wedi tori allan mewn ffair yn Nhowyn, o flaen tŷ tafarn a elwir y Goat. "Pa le mae Hugh Jones?" ebe y bobl, "pe buasai ef yma, fe fuasai yn gwneyd trefn arnynt—lle mae o?" Ymhen enyd dacw H. J. yn dyfod i lawr oddiwrth ei dŷ, ac i ganol y dyrfa oedd yn y cyffro. Gwelid ei ddwylaw i fyny gan y bobl a edrychent ar y cyffro, ond nid oedd modd clywed yr hyn a ddywedai gan faint y swn oedd yno. Modd bynag, bu yn foddion i atal yr ymladd, ac i wasgaru y dorf. Adroddir aml i hanesyn cyffelyb am dano gan yr hen bobl, fel gŵr gwir grefyddol, a llawn eiddigedd i wneuthur daioni i'w gyd—ddynion. Rhoddodd lawer iawn o help i yru achos crefydd yn ei flaen mewn adeg isel arni, yn y wlad oddeutu yn gystal ag yn nhref Towyn. Bu yn cyd-oesi fel pregethwr am 20 mlynedd â'r Parch. Richard Jones, Wern, yr hwn a wnai ymhlith ei gyfeillion y sylw canlynol am dano, "Y mae ar Hugh Jones helynt garw gyda Dosbarth y Ddwy Afon bob amser; mae arno eisiau cychwyn achos newydd neu godi capel yn rhywle o hyd." Diameu na buasai achos y Methodistiaid ddim y peth ydyw heddyw yn y Dosbarth, oni bai fod Hugh Jones wedi bod ynddo yn byw. Nid oedd ond pregethwr o'r doniau bychain ar hyd ei oes, eto yr oedd golwg urddasol ar ei berson, ac yr oedd ei ffyddlondeb tuhwnt i'r cyffredin. Aeth yn ol yn ei amgylchiadau bydol, ac yn niwedd ei oes yr oedd wedi colli ei olwg, er hyny parhai i ddyfod yn gyson i'r moddion i wrando, a phan y digwyddai i'r pregethwr dori ei gyhoeddiad, ni byddai raid ond taro llaw ar ysgwydd Hugh Jones, a dweyd wrtho yn ei eisteddle o dan y pulpud na ddaeth y pregethwr ddim i'w gyhoeddiad, neidiai i fyny ar ei union i'r pulpud i bregethu. Arhôdd ei fwa yn gryf hyd y diwedd. Bu farw yn 87 mlwydd oed, wedi bod yn pregethu yr efengyl am 60 mlynedd.
Nodiadau
[golygu]