Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/Bethania (Corris)

Oddi ar Wicidestun
Esgairgeiliog Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I

gan Robert Owen, Pennal

Towyn
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Corris
ar Wicipedia

BETHANIA (CORRIS)

Hon ydyw y gangen olaf a ymadawodd o eglwys Corris, ac nid oes mo'r ugain mlynedd er pan yr aeth yn hollol ar ei phen ei hun. Rhan o ardal Corris ydyw y lle hwn eto, a'r rhan uchaf o'r ardal yn yr ystyr fwyaf priodol o'r gair. Yr ymadrodd a arferir am y gymydogaeth yn fwyaf cyffredin yn y cylchoedd agosaf ydyw, Top Corris. Ac mewn cysylltiad â threfniadau sirol a gwladol dechreuir galw y lle yn awr yn Upper Corris. Mor bell yn ol ag 1840, cynhelid Ysgol Sul yn y rhan yma o'r ardal yn Tymawr, a Cwmeiddaw. Wedi hyny cedwid hi yn yr addoldy cyntaf a adeiladwyd gan y Wesleyaid yn y gymydogaeth, a elwid y Capel Bach. Adeilad bychan bach oedd hwn, yn ateb i'w enw, wedi ei adeiladu ar fin yr hen ffordd, wrth ymyl Tŷ'nyceunant, a bron yn y fan a'r lle y pregethwyd y bregeth gyntaf erioed gan y Methodistiaid yn ardal Corris. Cedwid yr ysgol yn y lle hwn oddeutu 1850. Yn y flwyddyn 1854, adeiladwyd capel gan y Methodistiaid, ychydig yn fwy na hwn, o fewn dau ergyd careg iddo, yr ochr arall i'r afon, ar fin y ffordd newydd sydd yn arwain o Fachynlleth i Ddolgellau, a galwyd ef Bethania. O'r pryd hwn allan, dechreuwyd galw y rhan hon o'r gymydogaeth yn Bethania, oddiwrth enw y capel. Yr oedd y capel hwn o dan reolaeth yr eglwys yn Nghorris, i gadw ysgol, a chyfarfod gweddi, ac ambell bregeth. Fel yr oedd y boblogaeth yn cynyddu, bu raid cael capel newydd eto, ac yn 1867 adeiladwyd y capel presenol wrth dalcen y llall. Gall 207 eistedd ynddo, a chyfrifid gwerth y capel, a'r meddianau cysylltiedig âg ef, yn 1883, yn 950p. Y rhai a ofalent am y capel a'r moddion ynddo yn flaenorol i hyn oeddynt, yn benaf, y brodyr ffyddlawn Evan Owen, y Voty, a William Jones, Hillsboro.' Y ddau wedi marw erbyn hyn er's tro. Thomas Hughes, Rhognant, hefyd, a fu yn ffyddlawn a blaenllaw gyda'r achos yma hyd ei farwolaeth. Ac anfonid brodyr yn awr ac yn y man i fyny o Gorris i gynorthwyo. Erbyn tua 1865, yr oedd Mr. Samuel Williams, Rugog, wedi dyfod i fyw i'r ardal. Llanwodd ef le mawr gyda'r achos ar unwaith, a chymerodd ei le i flaenori, gan ei fod yn hen swyddog eisoes. Eto, rhan o Gorris oeddynt. ymhob ystyr, ac ni ffurfiwyd hwy yn eglwys ar eu penau eu hunain am ddwy flynedd ar ol adeiladu y capel hwn. Fel hyn y ceir yn Nghofnodion Cyfarfod Misol Ebrill, 1869,— Rhoddwyd caniatad i gyfeillion Corris i wneyd hen gapel y Gaerwen yn ddau dŷ." Dengys y penderfyniad uchod mai Corris oedd yn rheoli amgylchiadau y capel y pryd hwn. Yn mhellach, ceir yn Nghyfarfod Misol Medi, 1869, tra yr ydoedd y Parch. W. Davies, Llanegryn, yn ysgrifenydd, y penderfyniad canlynol," Gofynwyd ar ran y cyfeillion sydd yn perthyn i gapel Bethania, Corris, am gael eu ffurfio yn eglwys ar eu penau eu hunain; ac wedi cael adroddiad o'r amgylchiadau, a nifer y cyfeillion sy'n perthyn i'r lle, cydsyniwyd â'r cais, a phenodwyd y Parchn. F. Jones, a Robert Owen, M.A., i fyned yno gyda golwg ar hyny." Eto, yn Nghyfarfod Misol Corris, Tachwedd yr un flwyddyn,—"Hysbyswyd gan y Parchn. F. Jones, a Robert Owen, M.A., iddynt fod yn Bethania, ar ei sefydliad yn eglwys ar wahan oddiwrth Rehoboth, a bod yr eglwys yr un adeg wedi dewis gydag unfrydedd mawr y brodyr Edward Humphreys a D. Richards, i fod yn flaenoriaid." Yr oedd yno felly yr adeg hon dri blaenor, cydrhwng y ddau hyn a Mr. S. Williams. Y mae Mr. Edward Humphreys wedi symud i Gorris, a Mr. D. Richards wedi symud er's tro i Gaerdydd. Yn niwedd 1870 y ceir cyfrifon eglwys Bethania gyntaf ar ei phen ei hun, fel y canlyn:—

Mewn cymundeb, 59; gwrandawyr, 190; Ysgol Sabbothol, 115; casgliad at y weinidogaeth, 31p. 8s. 5½c; cyfanswm, 80p. 11s. 10c. Yr ydoedd yn "Daith Sabbothol" y pryd hwn gyda Corriş. Yn 1873 yr aeth Bethania ac Ystradgwyn gyda'u gilydd. Nodweddir yr eglwys hon hefyd, yn gystal â'r canghenau eraill a darddodd allan o Gorris, gan weithgarwch digyffelyb; nid ydyw yn ail i'w chwiorydd a'i mam mewn gweithredoedd da yn ol ei gallu. Y mae yn perthyn i'r eglwys nifer fawr o blant a phobl ieuainc, y rhai sy'n cael eu hegwyddori yn rhagorol yn egwyddorion crefydd. Yn yr arholiadau, a materion Cymanfaoedd Ysgolion y dosbarth, enilla plant yr eglwys hon glod ac enw da iddynt eu hunain y blynyddoedd diweddaf hyn. Yr oedd yr eglwys dan arolygiaeth y Parch. Evan Jones tra yr ydoedd ef yn weinidog ar eglwys Corris. Ac y mae eto (1887) o dan ofal y Parch. W. Williams, er adeg ei ymsefydliad yntau yn yr ardal, yn 1873. Ychydig flynyddau yn ol, wrth weled y boblogaeth yn myned ar gynydd, prynodd yr eglwys ddarn o dir newydd, gyda'r bwriad o adeiladu capel helaethach; ond gan fod y boblogaeth yn awr yn lleihau, y mae adeiladu y capel hwn wedi ei oedi.

Er ieuenged yw yr eglwys, nid oes yr un o'i swyddogion cyntaf i'w gael ynddi heddyw. Symudodd rhai i leoedd eraill, yn nghwrs Rhagluniaeth, ac y mae dau wedi eu symud trwy farwolaeth. Abraham Lewis a ddewiswyd yma yn flaenor. Yr oedd yn ŵr ieuanc dymunol, gweithgar, ac addawol. Aeth oddiyma cyn hir i Cwmyglo, Arfon. Parhaodd ei gymeriad yn ddisglaer, a bu farw yn orfoleddus.

Samuel Williams, Rugog. Yr oedd ef yn un o'r blaenoriaid galluocaf a rhagoraf ar lawer cyfrif a fu yn y wlad yma erioed. Gwasanaethodd y swydd mewn pedair o eglwysi—Corris, Aberllefeni, Abergynolwyn, a Bethania. Ond gan mai ynglŷn a'r eglwys hon y diweddodd ei oes, ac y bu, feallai, o fwyaf o werth i achos crefydd, priodol ydyw gwneuthur coffhad am dano yma. Daeth i'r ardaloedd hyn o Sir Gaernarfon, yn ddyn ieuanc, oddeutu y flwyddyn 1825. Cafodd dröedigaeth wrth wrando ar Edward Rees yn pregethu yn ystabl y Fronfelen, oddiar Luc xiv. 24. Ymunodd â chrefydd yn fuan. Yr oedd ei wraig hefyd o gysylltiadau crefyddol, a rhwng y naill beth a'r llall, daeth yn ddyn defnyddiol o gychwyniad cyntaf ei grefydd. Dewiswyd ef yn flaenor yn eglwys Corris, yr un pryd a William Jones, Tanrallt, a derbyniwyd hwy yn aelodau o'r Cyfarfod Misol, Awst 31ain, 1843. Ond ynglŷn âg eglwys Aberllefeni y llafuriodd y darn cyntaf o'i oes, am ei fod yn byw yn Ffynonbadarn, yn rhan uchaf yr ardal hono, ac nid oedd Aberllefeni wedi ymwahanu oddiwrth Gorris am hir amser wedi iddo ef gael ei ddewis yn flaenor. Yr oedd yn byw yn Bryneglwys, Abergynolwyn, yr amser y torodd tân y Diwygiad mawr allan, a chyfranogodd yntau yn helaeth o hono. Bu yn nodedig o weithgar i gyfodi crefydd mewn eglwysi bychain, ac yr oedd ynddo gymhwysder arbenig i wneyd hyny. Meddai ar ffydd gref anarferol, nid ffydd gadwedigol yn unig, ond ffydd i fentro ymlaen gyda chrefydd trwy anhawsderau. Yr oedd yn berchen ar gymeriad cryf, tebyg i eiddo y patriarchiaid, yn "gadarn yn yr Ysgrythyrau," ac yn weddïwr mawr. Nid oedd ei ddawn yn rhwydd, ond wedi iddo wresogi a dechreu cael gafael yn ei fater, tynai y nefoedd i'r ddaiar ar ei liniau, ac yn ei brofiadau yn y cyfarfodydd eglwysig cyfodai y ddaiar i fyny i'r nefoedd. Gwnaeth lawer o wasanaeth o bryd i bryd dros y Cyfarfod Misol, ac un o'r pethau a wnelai yn fwyaf effeithiol oedd ymweled ag eglwysi y sir. Bu farw Medi 27ain, 1883, yn gyflawn o ddyddiau, ac wedi cyraedd llawn sicrwydd gobaith." Yr oedd ei brofiad yn niwedd ei oes yn ysbrydol a nefolaidd. Bu yn gystuddiol yn lled hir, ac anfonwyd cydymdeimlad oddiwrth ei frodyr yn y Cyfarfod Misol ato fwy nag unwaith. Mewn atebiad i un o'r llythyrau hyn, a anfonwyd ato ef a'i briod, yr hon oedd hefyd ar y pryd yn gystuddiol, anfonodd yntau y llythyr canlynol yn ol at ei frodyr:—

Rugog, Mawrth 1af, 1881.

"Anwyl Frodyr,—Y mae genyf yr anrhydedd o gydnabod derbyniad cydymdeimlad y Cyfarfod Misol, â ni yn ein llesgedd a'n gwendid. Yr ydym yn dra diolchgar i chwi am eich cydymdeimlad. Mae wedi fy lloni yn fawr. Ni feddyliais fy mod yn deilwng o hono, ond daeth heb ei ddisgwyl. Y lleoedd mwyaf hapus genyf oedd y Cyfarfod Misol a'r seiat gartref. Ond yr ydwyf wedi colli y naill a'r llall am a wn i, ond dichon Duw eto fy nghynorthwyo i gael rhai seiadau ar y llawr, cyn myned i'r seiat annherfynol yn ngwlad y goleuni.

"Anwyl Frodyr,—Gan eich bod wedi bod mor garedig wrthyf, y mae arnaf awydd dweyd wrthych am y profiad hyfryd a gefais yn mis Ionawr diweddaf. Fel y dywedodd yr Ysgrifenydd, er fod cofion y Cyfarfod Misol yn gofion nodedig, er hyny, fod cofion y brawd hynaf yn fwy. Yr ydwyf yn cydweled ag ef yn hollol; mae fy mrofiad yn cyd-ddweyd, trwy fy mod wedi cael cymdeithas y brawd hynaf. Rhyw noswaith, ar ol myned i'r gwely, yn lled fuan, fel yr oeddwn yn dweyd ambell adnod a phenillion, pan ddaeth y penill canlynol i fy meddwl:—

Mae Duw yn llon'd pob lle,
Presenol yn mhob man,

Agosaf yw Efe
O bawb at enaid gwan.'

darfu iddo amlygu ei hun, yn llon'd y gwely, a phob lle am ysbaid o amser, fel yr oeddwn mor ddiddanus fel na chefais gwsg hyd y boreu. Yr oeddwn wedi cael gweddi newydd ddiwedd y flwyddyn, sef adnod yn Salm lxxi., "Na fwrw fi ymaith yn amser henaint, ac na wrthod fi pan ballo fy nerth" —fel pe buasai yr Arglwydd yn dweyd wrthyf mewn atebiad, Mi a ddeuaf atat i'r gwely, i'th ddiddanu.' Yr ydwyf wedi dyfod yn hoff iawn o'r Arglwydd, mor hoff ag y mae yn dda genyf feddwl mai Efe a fydd yr agosaf ataf pan fyddo y daiarol dŷ o'r babell hon yn cael ei datod. Mae wedi effeithio arnaf hefyd, fel nad yw nemawr o bwys genyf pa bryd y cymer hyny le. Diolch, O! diolch, mewn gwaed oer! Yr oeddwn yn meddwl y noswaith hono, pe buaswn yn myned yn ieuanc i ail ddechreu byw, na buasai yn ddim gwahaniaeth genyf pa swydd i'w chymeryd yn yr eglwys, ai pregethu, ai bugeilio, ai bod yn ddiacon, ai pa beth bynag y gelwid fi iddo, gan fod Duw yn llon'd pob lle. Terfynaf mewn cofion caredig atoch.

Eich brawd,
SAMUEL."

Y mae yn ffaith nodedig i'w chofio, mai can' mlynedd union i'r un flwyddyn, os nad i'r un dyddiau, yr oedd y tri a ddaethant y crefyddwyr cyntaf yn y wlad hon, yn cychwyn allan o'r un ffermdy i wrando y bregeth gyntaf erioed a draddodwyd gan y Methodistiaid yn yr ardaloedd hyn, ag yr aeth y llythyr hwn allan o hono i'r Cyfarfod Misol. Y fath gyfnewidiad mewn can' mlynedd!

Blaenoriaid presenol eglwys Bethania ydynt, Mri. Evan Edwards, Morgan Jones, William Williams, H. S. Roberts.

Nodiadau[golygu]