Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/Esgairgeiliog
← Ystradgwyn | Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I gan Robert Owen, Pennal |
Bethania (Corris) → |
ESGAIRGEILIOG.
Ystyrir Esgairgeiliog fel yn perthyn yn nes i Gorris, ymhob rhyw fodd, nag i unlle arall, oblegid saif y pentref o fewn milldir a haner i'r lle diweddaf, ar y ffordd yr eir i lawr oddiyno i Fachynlleth. Yr eglwys yn y lle hwn oedd y drydedd i fyned allan o'r cwch cyntaf yn Nghorris. Dyddiad adeiladu y capel cyntaf yn y lle ydyw 1841, ac aeth ugain mlynedd. heibio wedi hyny cyn bod yr eglwys yn hollol arni ei hun. Hanes dechreuad yr Ysgol Sul ydyw hanes crefydd yma yn gwbl hyd adeg adeiladu y capel. Yn ol adroddiad a dderbyniasom o'r ardal bum mlynedd yn ol, dechreuwyd yr ysgol mewn bwthyn diaddurn, o'r enw Pant-teg. Arolygwyd hi yn y lle hwn yn hir gan William Jones, Tan'rallt, Corris, ond gallwn dybio ei bod wedi ei dechreu yma cyn i'r gwr hwnw ddyfod i'r wlad hon o Sir Gaernarfon. Oherwydd fod y bwthyn uchod yn rhy fychan, symudwyd hi i'r Tymawr. Ymhen. ysbaid wedi hyn, cynhelid hi yn Blaenglesyrch, lle y preswyliai Thomas a Jinny Peters, ynghyd â brawd i Jinny Peters, o'r enw David Jones. Yn absenoldeb Richard Lewis, y dechreuwr canu, arferai Jinny Peters godi y canu, a dywedir mai hi fyddai arferol o godi canu yn y seiat yn nghapel Seion, Llanwrin (terfyna Blaenglesyrch ar ardal Llanwrin). Bu yr ysgol yn nhŷ y ddau bererin hyn yn hir o amser ac am dymor pryd nad oedd neb ond gŵr y tŷ i ddechreu a diweddu yr ysgol;—a bu yn foddion gras i lawer o breswylwyr y Cwm. Dechreuwyd achos gan yr Annibynwyr yn Esgairgeiliog, ac adeiladwyd capel yn y flwyddyn 1824, ar dir Rhiwgwreiddyn. Galwyd enw y capel, "Achor" Yr oedd yr Ysgol Sul yma, dros ryw dymor, yn gynwysedig o Fethodistiaid ac Annibynwyr. Ond oherwydd rhyw amgylchiadau, fe ranwyd y llwyth, ac ymneillduodd y Methodistiaid i gynal yr ysgol i ffermdy Esgairgeiliog, lle yr oedd Edward Edwards yn cadw hafod i Dr. Evans, o'r Fronfelen. Cynhelid yr ysgol y blynyddoedd hyn, gan mwyaf, gan rai nad oeddynt yn proffesu crefydd, ac yn mhlith eraill a fu yn zelog gyda hi, enwir William Jones, Ysgubor Fach; Edward Edwards, Esgairgeiliog, ac un arall a letyai yn yr un tŷ, ewythr i Dr. Evans, yr hwn a gymerai ddyddordeb mawr mewn dysgu plant. Elai y cyfeillion canlynol i lawr o Gorris i gynorthwyo i gario gwaith yr ysgol ymlaen: Humphrey Davies, William Jones, Tan'rallt; William Richard, Tŷ capel; Hugh Humphrey, y Pentref, a'i fab Humphrey Hughes, Pandy.
Gwelodd yr ardal hon lawer tro ar fyd. Newidiwyd ei henw o'r bron ddeg o weithiau. Gelwid hi i ddechreu "Fatri Ceinws," am mai factory a adeiladwyd gan deulu y Ceinws oedd yr adeilad pwysicaf yn y lle. Ymhen amser wedi adeiladu amryw dai o amgylch y factory, gelwid y lle wrth yr enw "Pentre Cae'rbont," neu "Bentre'r Ceinws." Ar ol adeiladu capel Achor, enw y lle am beth amser a fu "Pentref Achor." Ac wedi adeiladu capel y Methodistiaid, galwyd y lle am flynyddoedd yn "Bentref Samaria," oherwydd y rheswm, mae'n debyg, fod y Methodistiaid wedi ymneillduo i addoli i'w teml eu hunain. Enw y lle yn awr yn y cylchoedd agosaf, ac yn nghylchoedd y Methodistiaid yn gyffredin ydyw, Esgairgeiliog. Ond yr enw eto o dan drefniadau y llythyrdy ydyw, Ceinws. [1]
Ond y modd yr aethpwyd ymlaen gyda'r achos, wrth weled yr ysgol yn cynyddu yn ffermdy Esgairgeiliog, teimlid angen am ysgoldy, er mwyn cael ambell bregeth ynddo yn gystal ag Ysgol Sul. Gofynwyd i Doctor Evans am dir i adeiladu addoldy arno. Addawodd yntau y caent le i adeiladu ysgoldy i gadw Ysgol Sul, ond nid oeddynt i gael pregethu ynddo. Ni wnai hyn mo'r tro gan y cyfeillion, ac yn y cyfyngder yr oeddynt ynddo, cawsant dir am bris rhesymol gan Mr. Thomas Edwards, Ceinws, ac heblaw hyny, addawodd £15 tuag at draul adeiladu y capel, er nad oedd efe ar y pryd yn aelod eglwysig. Rhoddodd y tir heb na gweithred na rhwymiad arno, ac felly y bu hyd o fewn pymtheng mlynedd yn ol, pan yr aed i ail adeiladu y capel. Yn yr hanes a ysgrifenwyd yn 1840, dywedir, "Mae ysgoldy yn awr ar waith yn ardal Esgairgeiliog, yn saith lath wrth wyth o faint." Yn 1841 yr agorwyd y capel, a galwyd ef wrth yr enw Ebenezer. Heblaw cynal Ysgol Sul, ceid pregeth bellach unwaith yn y mis, a moddion eraill yn achlysurol. Bob yn dipyn, cynhelid cyfarfod eglwysig, er nad oeddynt oll ddim ond aelodau yn perthyn i'r fam eglwys. Y mae amryw yn cofio yn dda, pan orphenai y cyhoeddwr yn Nghorris a chyhoeddi y moddion wythnosol ar y diwedd nos Sabbath, cyfodai John Jones, Gyfylchau, ar ei draed, a chyhoeddai, "Seiat nos Fercher yn Ebenezer." O dan arolygiaeth Corris y bu yr achos hyd amser y diwygiad, a thebyg ydyw mai oddeutu 1861 y ffurfiwyd Esgairgeiliog yn eglwys ar wahan. Ei chyfrifon ymhen dwy flynedd ar ol hyn, sef yn niwedd 1863 oeddynt,—mewn cymundeb, 50; gwrandawyr, 98; Ysgol Sabbothol, 84; casgliad at y weinidogaeth, £9 9s. 1c; cyfanswm, £33 15s. 7½c. Yn fuan wedi hyn, a hyd y flwyddyn 1873, bu Esgairgeiliog yn "Daith Sabbath" gydag Aberllefeni. O'r flwyddyn uchod hyd yn awr, y mae yn daith gyda Chorris. Buwyd fwy nag unwaith yn ceisio cysylltu Esgairgeiliog a Pantperthog a'u gilydd, ond yn fethiant y bu hyny byd yma. Yn 1874, adeiladwyd y capel yr ail dro yn yr un fan ag y safai y capel cyntaf. Mae yn gapel hardd a chyfleus; gall eistedd ynddo 146, ac y mae yn awr yn rhyddfeddiant i'r Cyfundeb. Erbyn hyn, y mae nifer yr eglwys a'r gynulleidfa yn llai nag y bu oherwydd symudiadau ac ymadawiadau o'r ardal. Eto, mae y nifer sydd yn aros yn dra ffyddlon a gweithgar gyda thynu i lawr ddyled y capel, a chyda phob symudiad a berthyn i'r achos ac i'r Cyfarfod Misol.
Dau flaenor cyntaf yr eglwys oeddynt, John Jones, Gyfylchau, a William Edwards, Ceinws. Dewiswyd hwy yn flaenoriaid yn Nghorris, cyn i'r eglwys hon fyned ar ei phen ei hun, a derbyniwyd hwy yn aelodau o'r Cyfarfod Misol, Awst 28ain, 1851. Daeth John Jones i fyw i'r Gyfylchau rai blynyddoedd cyn adeiladu y capel, ac arno ef yn hollol y blynyddoedd hyny yr oedd gofal yr Ysgol Sabbothol. Ar ei ysgwyddau ef hefyd y gorphwysai llawer o'r gwaith gydag adeiladu y ddau gapel y ddau dro. Yr oedd wedi gweithio gwaith oes lled dda cyn cael ei ddewis yn flaenor, ac efe a fu yn asgwrn cefn yr achos trwy yr holl flynyddoedd hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le tua chwe blynedd yn ol. Digon tebyg fod rhai pethau yn tynu yn ol oddiwrth ei ddylanwad. Ond a'i gymeryd oll yn oll, yr oedd yn ŵr o ddawn a gwybodaeth eangach o lawer na'r cyffredin, ac yr ydoedd yn gyflawn ymhob cylch gyda dygiad yr achos ymlaen. Nid yn aml y ceid gwell gwrandawr nag ef, a byddai ar uchelfanau y maes pan fyddai yr awel nefol yn chwythu. Ni byddai unrhyw ran o'r gwaith yn ol tra byddai John Jones yn bresenol, gan mor ddeheuig ydoedd gyda phob peth.
William Edwards, Ceinws, oedd un o "rai rhagorol y ddaear." Cymerwyd ef ymaith cyn hir wedi ei ddewis yn flaenor, er siomedigaeth i'w gyfeillion a cholled fawr i'r achos. Yr oedd ef yn fab i Thomas Edwards, y gŵr a roddodd dir i adeiladu y capel cyntaf. Mae y teulu hwn wedi bod, ac yn parhau hyd heddyw, fel "llwyth Lefi," yn dra pharod i gymeryd rhan bwysig gyda gwasanaeth y cysegr. Y mae coffadwriaeth Mrs. Ellin Edwards, Ceinws, yn barchus yn yr ardal, fel un a fu yn lletya gweision yr Arglwydd, ac yn gwasanaethu iddynt hyd ddiwedd ei hoes.
Y nesaf a ddewiswyd yn swyddog ar ol y ddau uchod, hyd eithaf ein gwybodaeth, oedd Mr. W. Lewis, sydd yn flaenor yn awr yn Aberllefeni. Wedi hyny Mr. John Evans; yn ddiweddarach, Mri. Thomas Morgan a William Edwards; ac yn ddiweddaf oll, Mr. John Owen.
Richard Lumley oedd yn flaenor yma y rhan ddiweddaf o'i oes. Symudodd amryw weithiau, a bu yn flaenor mewn amryw eglwysi. Dyn tawel, diargyhoedd, a chrefyddol ei ysbryd ydoedd ef. Nodweddid ei gymeriad gan lareidd-dra, ac "ysbryd addfwyn a llonydd."
Nodiadau
[golygu]