Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/Yr Ysgol Sabbothol 1
← Eglwys Saesneg Aberdyfi | Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I gan Robert Owen, Pennal |
Harry Jones, Nantymynach → |
PENOD VI
——————
YR YSGOL SABBOTHOL.
CYNWYSIAD.—Y lleoedd y cychwynwyd hi gyntaf—Yr ysgolion dyddiol cylchynol—Llythyr John Jones, Penyparc—Yr Ysgol Sul am yr 50 mlynedd cyntaf—Llythyr L. W. at ysgol y Cwrt— Rheolau yr Ysgol Sabbathol—Adrodd pwnc—Y pedwar cyfnod o gynydd yr ysgol—Y Cyfarfodydd Ysgolion—Eu sefydliad— Eu newid o chwech-wythnosol i ddau-fisol—Cymanfa Ysgolion Bryncrug—Y gofalwyr am y Cyfarfodydd Ysgolion—Y Gymanfa Ysgolion—Pa bryd ei sefydlwyd yn rheolaidd—Y rhesymau dros ei lwyddiant—Swyddogion y Cyfarfodydd Ysgolion.
YN dechreu y ganrif hon, sef cyn y flwyddyn 1800, ychydig oedd wedi cael ei wneyd gyda yr Ysgol Sul yn y Dosbarth rhwng y Ddwy Afon. Yn wir, yr oedd 20 mlynedd o oes yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru wedi myned heibio cyn bod yma ond ychydig wedi ei wneyd gyda hi. Digon o reswm am hyn ydyw, nad oedd o fewn y Dosbarth ddim cymaint ag un eglwys wedi ei sefydlu yn 1785, blwyddyn dechreuad yr ysgol yn Nghymru. Yr ydys wedi crybwyll fod achos crefydd wedi ei wanychu, a chrefyddwyr eu digaloni yn fawr trwy yr erledigaeth fu yn yr ardaloedd hyn yn 1795, a diameu i'r helyntion hyny lesteirio y gwaith gyda yr Ysgol Sul. Yn y lleoedd canlynol y dechreuodd yr ysgol gyntaf:—Bwlch, Llwyngwril, Llanegryn, Abergynolwyn, Bryncrug. Mae yn sicr fod ysgolion yn y lleoedd hyn cyn y flwyddyn 1800; ac mae yn bur debyg fod un wedi ei dechreu yn Nhowyn, ac feallai yn Nghorris. Nid oes fawr ddim o'i hanes ar gael yn yr un o'r manau hyn yn flaenorol i'r dyddiad uchod; eto, yr oedd rhyw gymaint o'r gwaith wedi ei ddechreu. Yr oedd William Hugh a Lewis Morris wedi bod yn pregethu yn y Dosbarth am ddeng mlynedd o'r ganrif ddiweddaf, a'r tebyg ydyw fod dynion o'r fath ysbryd a zel a hwy wedi bod yn effro gyda gwaith yr ysgol yr amser hwn. Heblaw hyny, yr oedd William Hugh yn un o ysgolfeistriaid Mr. Charles. Yr oedd John Ellis, Abermaw, hefyd, yn un o'r ysgolfeistriaid hyny, a bu ef yn cadw yr ysgol gylchynol yn Llwyngwril ac Abergynolwyn, a digon tebyg i eraill fod yn cadw yr ysgol hono yn y gwahanol ardaloedd. Yr oedd John Jones, Penyparc, wedi dechreu cadw ei ysgol yntau rywbryd cyn 1794. Bu ef yn flaenllaw gyda phob symudiad er llesoli yr ardalwyr hyn ar hyd ei oes, ac nid oes dim yn fwy tebyg na'i fod yn un o'r rhai cyntaf i roddi cychwyniad i'r Ysgol Sul. Crybwyllir am dano, yn hanes Lewis William, fel wedi ei dechreu rywbryd cyn hyn. Ac yn wir, mae y ffaith i John Jones, Penyparc, fod yn cadw ysgol ddyddiol lwyddianus, am yr holl flynyddoedd hyn, yn yr amser boreuol hwn, yn un rheswm cryf, fel y ceir gweled eto, dros fod y Dosbarth hwn o'r sir wedi bod mor flaenllaw gyda gwaith yr Ysgol Sul yr haner cyntaf o'r ganrif bresenol. Yn ystod y ddwy flynedd olaf o'r ganrif ddiweddaf, oherwydd ei dosturi tros anwybodaeth ieuenctyd pentref Llanegryn, yr anturiodd Lewis William ar y gwaith hwn yno. Penderfynodd geisio sefydlu ysgol ar y Sabbath, a rhai o nosweithiau yr wythnos, i'w haddysgu i ddarllen. Ni chawsai ei hun ddiwrnod erioed o ysgol ddyddiol na Sabbothol; ac nis gallai ddarllen bron air yn gywir. Nis gwyddai fod dim tebyg i Ysgol Sabbothol wedi ei sefydlu y pryd hwnw trwy yr oll o Orllewin Meirionydd, ond gan John Jones, Penyparc." Ychydig grybwyllion fel y rhai hyn yn unig sydd ar gael am yr Ysgol Sabbothol yn y Dosbarth hyd ddechreu y ganrif bresenol.
I—YR YSGOLION DYDDIOL CYLCHYNOL
"Friend, You are requested by Mr. Davies to meet him on the 31st, inst., at 11 o'clock in the forenoon, at Dinas-mowddu, to be remitted, where the Masters are to meet; you must remember of the List, &c. Let me know which way you intend going. I rest yours,—Bywater."
Oddiwrth y llythyr hwn gellir casglu fod yr ysgolfeistriaid yn cael eu talu o un gronfa gyffredinol.[1] Ond ceir engreifftiau hefyd o ymdrechion lleol yn cael eu gwneuthur beth yn foreuach na hyn. Yn 1808 ymddengys fod y cynorthwy a dderbynid o Loegr at Ysgolion cylchynol Mr. Charles bron wedi darfod. A hyn y cytuna y cyfrifon canlynol a geir yn ysgrifau L. W. am y cymydogaethau hyn yn helpu eu gilydd i gynal yr ysgol—
"Coffadwriaeth am yr hyn a dderbyniwyd at gynal yr ysgol yn y flwyddyn 1808,—
Bryncrug | — | £2 / 8s /0c |
John Jones (Penyparc) | — | £1/1/0 |
Dyfi | — | £2/10/6 |
Pennal | — | £2/6/9 |
John Morris (Pennal) | — | £0/6/0 |
Corris | — | £0/10/6 |
Cwrt | — | £1/1/0 |
Towyn | — | £0/16/6 |
Llwyngwiil | — | £0/10/0 |
Mr. Vaughan, Bwlch | — | £1/1/0 |
Cyfanswm | — | £12/11/3 |
Gellir tybio fod cynydd lled gyflym wedi ei wneuthur yn nheimlad y rhan yma o'r wlad o blaid yr ysgol gylchynol. Yr oedd yr eglwysi wedi eu henill erbyn yr adeg yma i wneyd eu rhan yn lled haelionus tuag at ei chynal. Gwneid y casgliad yn chwarterol, weithiau yn gyhoeddus yn y moddion, bryd arall elid o amgylch yr ardal i gasglu. Ambell waith, gosodid yn ngofal y personau a benodid i gasglu at yr ysgol gylchynol, i gymell pawb i ddyfod i'r Ysgol Sul, fel na adewid neb mewn ardal yn gyffredin heb gael y cymhelliad hwn. Byddai y rhieni yn talu rhyw gymaint dros eu plant yn yr ysgol gylchynol y pryd hwn, heblaw yr hyn a gesglid yn y gwahanol ardaloedd, yn enwedig os byddent am ddysgu Saesneg. Mewn rhai engreifftiau ymrwymai yn ardaloedd, neu bersonau mewn ardal, ymlaen llaw am gyflog yr ysgolfeistr. Byddai yr ysgolfeistriaid yn lletya yn fynych ar gylch yn y gwahanol ffermdai. Ac ar y cyntaf buont yn cael eu llety, a llawer o'u lluniaeth yn rhad; ceir engraifft o hyn yn yr hanes am Maethlon. Cymerid gofal neillduol y pryd hwn i osod gwedd grefyddol ar yr ysgol ddyddiol fel yr Ysgol Sabbothol. Rheolau syml iawn oedd ei rheolau yn aml. Mewn cyfarfod o athrawon y Dosbarth ceir y sylw canlynol,—"Bwriwyd golwg ar Ysgol y Cylch. Ystyriwyd fod ei hamser ar ben yn Llanegryn, Gorphenaf 4ydd, a'i bod i ddechreu un ai yn Llanerchgoediog ai Brynerug—hyn i gael ei derfynu rhwng John Jones a Harri Jones y Sul nesaf." Yn debyg i hyn y buwyd yn cario pethau ymlaen am y chwarter cyntaf o'r ganrif. Yr oedd dynion blaenaf yr ardaloedd, ar ol marw Mr. Charles, yn parhau i weithredu yn ol ei gynlluniau ef. Ysgrifenwyd y llythyr canlynol gan John Jones, Penyparc, at ysgolfeistr y cylch:—
"Brawd Lewis William,—Bydded hysbys i chwi y penderfyniadau a wnaed yn y cyfarfod brodyr nos Fawrth, y 19eg o Fedi, 1820, yn nghylch yr Ysgol Gylchynol,—1. Daeth chwech o gynrychiolwyr tros yr ysgolion canlynol i ymofyn am yr ysgol, Towyn, Dyfi, Pennal, Bwlch, Bryncrug, Llanegryn. 2. Rhoisant alwad unfrydol am yr ysgol; darllenwyd eich llythyr
chwi. 3. Penderfynwyd am roddi i'r athraw 4p. y chwarter am ddysgu Cymraeg heb derfyn i'r rhifedi; ac i'r athraw gael rhyddid i gymeryd cymaint ag 20 i ddysgu Saesneg (os bydd galw), ac i gyfarwyddwyr yr ysgolion gael haner y pris oddiwrth y rhieni fel y cynygiasoch, ac i'r athraw gael yr haner arall. 4. Tynwyd lots pa rai o'r ysgolion a drefna rhagluniaeth gyntaf i gael yr ysgol; a daeth y lot (1) i Dowyn, (2) Dyfi, (3) Bwich, (4) Pennal. 5. Barnwyd y dylid casglu cyflog chwech wythnos cyn dyfodiad yr athraw i bob lle.
"D S.—Fod yr ysgol i fod gwarter ymhob lle, ac i ryw berson neu bersonau ymrwymo i'r athraw dros y rhai Cymraeg am ei gyflog, ac felly fod pob lle megis ar ei ben ei hun.—Oddiwrth eich annheilwng frawd, Jno. Jones, Ysg. y Cylch."
II—YR YSGOL SABBOTHOL AM YR 50 MLYNEDD CYNTAF O'I HANES
Wedi cychwyn Ysgol Sul mewn ardal, fel canlyniad yr ysgol ddyddiol a'r ysgol ddechreu y nos, i lawr y byddai yn myned drachefn, y rhan amlaf, ac ni fu fawr o sefydlogrwydd iddi yn unman o fewn y Dosbarth hyd rywbryd wedi dechreu y ganrif bresenol. Yr hyn fu yn foddion i roddi cychwyniad gwirioneddol iddi ydoedd,—1. Arosiad y Parch. Owen Jones (Gelli), am ychydig yn awr ac yn y man gyda'i deulu yn Nhowyn o 1803 i 1808. 2. Penodiad L W. fel ysgolfeistr cylchynol yn yr ardaloedd. 3. Yr ysgol sefydlog oedd gan John Jones, yn Penyparc. Diameu i'r pethau hyn fod yn brif symbyliad iddi yn ei mabandod. Ceir hanes sefydliad un, sef ysgol Sion, ymhlith papurau L. W. Yr oedd Sion hyd yn gymharo! ddiweddar yn perthyn i ddosbarth ysgol rhwng y Ddwy Afon. Sefydlwyd yr ysgol hon, yn ol cofrestr yr hen athraw ffyddlon, yr hwn a gadwai yr ysgol ddyddiol yn yr ardal ar y pryd, Mehefin 20, 1813. Pa un ai ail gychwyn, ai dechreu y tro cyntaf oedd hyn, nid yw yn hollol sicr, ond rhoddir yr hanes gan L. W. fel un yn dechreu am y tro cyntaf erioed. Ar ol darllen, canu, a gweddïo, dosbarthwyd yr ysgol yn ddwy ran, sef yn athrawon ac yn ysgolheigion. Neillduwyd deuddeg yn athrawon ac athrawesau, ac y mae eu henwau oll ar gael; trefnwyd 5 o ddosbarthiadau meibion, a 7 o ddosbarthiadau merched. Wedi hyny galwyd ar yr athrawon o'r neilldu i ethol arolygwr, ac ar L. W. ei hun y syrthiodd y coelbren. Wedi ei benodi ef, ac i'r dosbarthiadau ddewis eu hathrawon a'u hathrawesau yn gyhoeddus, rhoddodd yr arolygwr orchymyn iddynt oll i weithredu. Ceir ganddo hanes manwl o weithrediadau yr ysgol am yr ail a'r trydydd Sul ar ol ei sefydliad, y benod a ddarllenid, a'r penill a genid ar ddechreu a diwedd yr ysgol bob tro.
Cyfarfyddid â gwrthwynebiadau mawrion dros rai blynyddoedd yn y dechreu, i gynal ysgol ar y Sabbath, a phlant yn unig fyddai yn ei gwneyd i fyny mewn llawer man am gryn amser. Wedi ei dechreu gollyngid hi i lawr yn fynych o ddiffyg cefnogaeth i'w chynal. "Ni pharhawyd yn ffyddlon," ebe yr hen bregethwr Owen Williams, Towyn, "gyda'r Ysgol Sabbothol yn Bryncrug yn hir. Gollyngwyd hi i lawr, a gadawyd pawb yn rhyddion, a'u ffrwynau ar eu gwarau, i wneyd pob drwg yn un chwant." Ond ail ymaflyd yn y gwaith drachefn a thrachefn, er gwaethaf anhawsderau, y byddai ffyddloniaid yr ysgol, nes bob yn dipyn, trwy amrywiol oruchwyliaethau y Llywodraethwr mawr, yr enillwyd y wlad o'i phlaid. Mae y llythyr canlynol yn engraifft o'r anhaws— derau, yn ddiweddarach ar oes yr ysgol, a gyfarfyddai yr hen bobl i'w chario ymlaen —
"Anwyl Frawd,
Mi gefais genadwri gan y Cyfarfod Chwechwythnosol yn Llwyngwril, i'w thraddodi i ysgrifenydd y cyfarfod, sef John Jones, iddo ef ysgrifenu atoch, oherwydd fod y cyfarfod wedi clywed eich bod wedi rhoddi yr Ysgol Sabbothol i fyny, i gael gwybod beth oedd yr achos o hyny. Ond fe ddeisyfodd ef arnaf fi anfon atoch drosto ef, gan fy mod yn clywed y modd yr oeddis yn ymdrin â'r achos yno. Nid fy hoff waith yw gwneuthur, dywedyd, nac ysgrifenu dim a fyddo o natur geryddol (er ei fod yn fuddiol), eto, yr wyf wedi methu anufuddhau i ddeisyfiad yr ysgrifenydd y waith hon. Fe ystyriwyd y mater gyda golwg ar eich absenoldeb, mewn modd tirion ac addfwyn; fe goffhawyd eich bod wedi cael cenadwri gan y cyfarfod yn Nhowyn, i'w thraddodi i ysgol Corris, oherwydd nad oedd neb oddiyno yn y cyfarfod; fe gafwyd eich bod yn ffyddlon, ac fe'ch cydnabyddwyd mewn diolchgarwch. Rhoddwyd yr un genadwri i David Humphrey, Abercorris, i'w thraddodi i chwithau ar yr un achos. Ond ar ol hyn fe amlygwyd eich bod wedi rhoddi yr ysgol heibio, ac fe gymerwyd y genadwri oddiwrth y cenhadwr, ac fe orchmynwyd ysgrifenu llythyr atoch mewn modd caredig. Gofynwyd a oeddych wedi ystyried a oedd dysgu "y rhai nis medrant," a "hyfforddia blentyn yn mhen ei ffordd" yn ordinhad ddwyfol? Ystyriwyd beth a allai fod yr achlysur i roi yr ordinhad hon heibio mwy na phregethu. Ni chafwyd fod dim yn achos digonol ond diffyg lle, a hyn nid oedd yn achos genych chwi. Dywedwyd y gallai fod genych achos digonol yn eich meddwl. Os na fyddech wedi ail ddechreu yr ysgol cyn y cyfarfod nesaf, yr hwn a gynhelir yn Nghorris, os byddech mor addfwyn, a gostyngedig, ac ewyllysgar i'r gwaith, a datguddio eich meddwl i'r cyfarfod trwy fod yno eich hun os gellwch, neu anfon, ond gwell eich cael eich hun; nid yn neillduol i'ch ceryddu, nac ychwaith i'ch hyfforddi, ond i dderbyn addysg ac adeiladaeth oddiwrthych. A hyn oddiwrth y Cyfarfod Chwechwythnosol,
Y lle hwn a roddasai yr ysgol heibio, yn ol pob tebyg, ydoedd Abergynolwyn, neu y Cwrt, fel y gelwid ef y pryd hwnw. Ychydig yn flaenorol ymwelsid ag ysgolion y cylch, ac yn yr adroddiad am yr ysgol hon, dywedid mai golwg adfeiliad a dirywiad a gawsid arni, a hyny am nad oedd blaenor (arolygwr) ynddi, i edrych ar ei hol. Yn y cyfarfod chwech wythnosol y rhoddasid yr adroddiad crybwylledig, deisyfwyd ar Richard Jones (Ceunant) i ymgymeryd a'r gwaith fel blaenor yr ysgol, oblegid yr oedd tystiolaeth wedi ei chael ei fod ef yn gymeradwy gan yr ysgol yn yr amser a aethai heibio. "Gobaith y cyfarfod hwn oedd iddo gael ei osod yn flaenor, ac y bydd iddo gymeryd y swydd, fel y gallo y Cyfarfod Chwechwythnosol ddibynu am gyfrifon o oruchwyliaeth yr ysgol." Dywedir yn Nghofiant William Hugh, ddarfod i'r pregethwr ffyddlon hwn, oddeutu yr adeg yma, roddi bywyd yn yr Ysgol Sabbothol yn Abergynolwyn, pan yr ydoedd bron a darfod yn y lle. Yn yr adroddiad o ymweliad a'r ysgolion y pryd hwn, hefyd, crybwyllir fod personau wedi eu penodi "i gynorthwyo yr athrawon i gael trefn yn ysgolion Pennal a Thowyn i geisio gosod rhyw rai yn olygwyr neu yn flaenoriaid ynddynt, a hyny mor fuan ag y byddo yn bosibi, beth bynag cyn y Cyfarfod Chwechwythnosol nesaf." Rhoddir cipolwg i ni fel hyn ar y modd y dygid pethau ymlaen gyda'r Ysgol Sabbothol yn y blynyddoedd cyntaf ar ol ei dechreuad. Dangosid llawer o fanylwch yn gystal a ffyddlondeb gan gefnogwyr cyntaf yr ysgol. Ond yr hyn sydd dipyn o syndod ydyw, ni chadwyd dim cyfrifon rheolaidd a threfnus o'r ysgolion hyd ar ol y Diwygiad yn 1860, o leiaf, nid oes dim cyfrifon ar gael ond a gafwyd yn ddamweiniol ymysg papyrau L. W. a J. J., Penyparc. Cofnodir a ganlyn yn un o'r Cyfarfodydd Daufisol cyntaf a gynhaliwyd,—"Nifer y penodau y derbyniasom gyfrif o honynt am y ddau fis hwn, 822; adnodau, 13,997. Yr oedd Towyn, Tynypwll, a'r Cwrt yn ol heb ddyfod a'u cyfrifon i mewn. Yr ysgol ddysgodd fwyaf o'r Beibl oedd Corris; o'r Hyfforddwr, Bryncrug. Personau a ddysgodd fwyaf o'r Beibl, Mary Richard, o Gorris; Egwyddorion, Evan Jones, Bryncrug."
Gwnaethpwyd ymdrech mawr yn y cylch hwn, yn ystod y chwarter cyntaf o'r ganrif bresenol, i osod yr Ysgol Sabbothol i weithio ar dir cadarn, ac i dynu allan reolau sefydlog perthynol iddi. Ac ymddengys i lawer o'r trefniadau a'r rheolau a ffurfiwyd yma gael eu mabwysiadu, nid yn unig yn rhanau eraill o Sir Feirionydd, ond yn holl siroedd y Gogledd hefyd. Y mae ar gael, mewn pamphledyn, yn llawysgrif John Jones, Penyparc, gyfres faith o Reolau a ffurfiwyd ganddo ef ei hun. Y wyneb—ddalen sydd debyg i hyn,—"Rheolau Ysgolion Sabbothol y Trefnyddion Calfinaidd, o fewn Cylch Towyn. Ffurfiwyd a phenderfynwyd ar reolau yr athrawon, gan gynrychiolwyr yr ysgolion gwahanol, mewn cyfarfod yn Aberdyfi, Mawrth 1af, 1818. Penderfynwyd rheolau yr ysgolheigion mewn Cyfarfod Daufisol gan ddirprwywyr yr Ysgolion Cyfunawl yn Nhywyn, Mawrth 26ain, 1820. Trefnwyd ac adolygwyd hwynt gan gynrychiolwyr y Cylch yn Mryncrug, Mehefin 17eg, 1822." Yn Nghymdeithasfa yr Wyddgrug, Mawrth, 1836, mabwysiadwyd rheolau unffurf i'r holl Ysgolion Sabbothol drwy holl siroedd Gwynedd; ac y mae y rhai hyny yn dra thebyg i'r rheolau oeddynt wedi eu ffurfio flynyddau yn gynt yn Aberdyfi, Towyn, a Bryncrug. Gwnaeth y gŵr hwn, sef John Jones, Penyparc, sydd wedi huno bellach er's dros ddeugain mlynedd, waith mor fawr gyda'r Ysgol Sul, am yr haner can mlynedd cyntaf o'i hanes, fel y teilynga ei enw gael ei drosglwyddo i lawr i'r oesau a ddêl fel un o'i chymwynaswyr penaf. Mewn llythyr at Gyfarfod Chwechwythnosol Seion, dyddiedig Chwefror 12fed, 1820, dywed, "Mae yn gysurus gweled y graddau sydd o lewyrch ar y rhan hon o'r gwaith. Hyn sydd yn eglur, fod yr Arglwydd o'i du, ac yn rhoddi llawer o arwyddion o'i foddlonrwydd yn yr ymdriniad âg ef. Bydded i hyn ddyfod a ni i ryfeddu yn y llwch, ein bod wedi taro at achos ag y mae Duw mawr y nefoedd o'i blaid. Bum yn meddwl fod arnom eisiau sylwi yn fanylach ar foesau yr ysgolheigion, ac ymdrechu i gael rhyw lwybr i wobrwyo a dangos ein cymeradwyaeth i'r rhai fyddo yn rhagori ac yn cynyddu ymhob rhinwedd." Yna enwa amrywiol bethau y dylid cael yr ysgolheigion i dalu sylw iddynt. Anfonodd anerchiad maith hefyd at Gyfarfod Ysgolion Corris, dyddiedig Gorphenaf 6ed, 1833, ar "Y prif ddiben a ddylai athrawon yr Ysgolion Sabbothol bob amser ei olygu yn eu holl lafur." Mae yr anerchiad, yr hwn sydd yn llaw-ysgrif J. J. ei hun, ac yn gyfeiriedig at Mr. Humphrey Davies (hynaf), Corris, yn dra chynwysfawr, ac yn hynod o addas i amgylchiadau pob oes, ac nid hawdd yw ysgrifenu dim y blynyddoedd hyn yn fwy pwrpasol. Wele rai o'r sylwadau. 1. Y prif ddiben ddylai fod genym ydyw ceisio bod yn offerynol i droi llawer i gyfiawnder. 2. Bod yn foddion i gynyrchu yn yr ysgolheigion argyhoeddiad o bechod, edifeirwch tuag at Dduw, a ffydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist. 3. Dylai y penodau fyddo i'w darllen fod dan sylw yr athrawon yr wythnos flaenorol. 4. Ymgeisio i gyraedd y gydwybod yn gystal a goleuo y deall. 5. Buddiol fyddai i'r athrawon ymdrechu i geisio defnyddio pob moddion a manteision i'w haddasu eu hunain i addysgu eraill. 6. Gochel prysurdeb i symud plant a phobl ieuainc i'r llyfrau uwchaf cyn meistroli y llyfrau dechreuol. 7. Gofalu rhoddi esiamplau da i'r rhai fyddo dan addysg, gan y medr plant ddarllen bywydau eu hathrawon yn well o lawer na'u llyfrau. 8. Gochel sarugrwydd ar un llaw, ac ysgafnder ar y llaw arall. 9. Rhoddi esiampl o ddiwydrwydd o flaen y disgyblion. Cofio nad oes genym ond un diwrnod i lafurio am eu lleshad tragwyddol, nac ychwaith ond ychydig amser ar y dydd hwnw, pan y mae gan Satan a phechod chwe diwrnod, a phob awr o bob diwrnod. Ni ddylai athrawon Ysgolion Sabbothol yn anad neb golli dim amser, ond ystyried eu hunain yn weithwyr, nid wrth y dydd, ond wrth y mynyd. 10. Nis gallwn gyflawni dyledswyddau perthynol i'n swydd, na bod yn sicr o lwyddiant ar ein hymdrechion, heb gymorth dwyfol. Am hyny ychwanegwn at addysgiadau ac esiamplau WEDDI.
Un o'r elfenau mwyaf pwysig yn ngwaith yr ysgol am haner can mlynedd oedd adrodd pwnc, neu fel y byddai rhai hen bobl yn dweyd, adrodd point. Fe fyddai pwnc yn cael ei roddi i'r ysgol, a chwestiynau yn cael eu rhoddi ymlaen llaw, a hysbysrwydd pa ddosbarth neu bersonau oedd i ateb. Felly byddai gwaith penodol yn cael ei roddi i bob un yn yr ysgol. Dyma engreifftiau o bwnc ysgol a roddai L. W., yn y fl. 1811, i ysgolion Llwyngwril, Bwlch, a Bryncrug. Proffwydoliaeth am Grist oedd y pwnc. "O ba deulu y deuai Crist? I ateb, John William a Jane Peter. Fath un a fyddai ei fam? I ateb, Evan Evan ac Ann Pugh. Lle y genid ef? I ateb, D. Davies a Betty Jones. Am yr un a godai ei sawdl yn ei erbyn ef. I ateb, John Jones a Pegy Rees." Rhan arall bwysig iawn i beri i ieuenctyd ddysgu y Beibl allan oedd, adrodd penodau a Salmau ar ddechreu yr ysgol, o flaen pregeth, ac yn y cyfarfodydd gweddïo. Ni fyddai yr un cyfarfod, na bach na mawr, o'r Sasiwn i lawr hyd at y cyfarfod gweddi, na byddai rhywun yn adrodd penod allan. Cynghori hefyd fyddai yn cael lle mawr, ac adrodd y Deg Gorchymyn. Dyma dri pheth oeddynt yn hanfodol i waith yr ysgol yn y dyddiau gynt—adrodd pwnc, adrodd penod allan ar ddechreu yr ysgol, ac adrodd y Deg Gorchymyn ar ddiwedd yr ysgol.
Fe fu amryw bersonau yn wasanaethgar a defnyddiol gyda gwaith yr Ysgol Sabbothol yn y dosbarth hwn am yr haner cyntaf yn gystal a'r haner olaf o'r can' mlynedd diweddaf. Ond o'r holl bersonau a weithiodd yn rhagorol trwy anhawsderau mawrion, bu tri yn nodedig o amlwg am yr haner cant cyntaf o oes yr ysgol, ac yr oedd y tri yn cael eu coffhau yn ystod Gwyl y Canmlwyddiant, ddwy flynedd yn ol, fel y tri chedyrn blaenaf yn y fyddin. Y personau hyny oeddynt y Parch. Owen Jones, Gelli, y Parch. Lewis Williams, Llanfachreth, a John Jones, Penparc. Gweithiodd llawer eraill yn dda, ond y tri hyn weithiodd fwyaf. Meddai y Parch. Owen Jones ar allu tuhwnt i'r cyffredin i holwyddori yn gyhoeddus, a rhoddai ei zel a'i frwdaniaeth adgyfodiad a bywyd yn yr ysgol lle bynag y byddai. Yr oedd ef gyda gwaith yr Ysgol Sul yn ei elfen, fel pysgodyn yn y môr, neu aderyn ar ei hedfa. Sir Drefaldwyn a gafodd fwyaf o'i wasanaeth, gan mai yno y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes gyhoeddus. Ar rai adegau, yn enwedig yn y blynyddoedd cyntaf ar ol ei symudiad yno i fyw, deuai i'r sir hon i holwyddori yr ysgolion yn gyhoeddus, pan oedd y Cymanfaoedd Ysgolion cyntaf yn anterth eu gogoniant, ac y mae rhai o'r hen bobl sydd yn fyw yn awr yn cofio yn dda y fath fywyd a gynyrchodd y pryd hwnw yn y rhan yma o winllan yr Arglwydd Iesu. Ceir gweled yn mhellach ymlaen mai efe a fu yn offeryn i roddi cychwyniad i'r Cyfarfodydd Ysgolion. Yr oedd cylch gwasanaeth John Jones, Penyparc, yn eang, yn gyson, a pharhaus. Bu Lewis Williams yn cadw yr ysgol ddyddiol gylchynol yn yr holl ardaloedd hyn, a hyny lawer gwaith yn yr un lle, o dro i dro, rhwng 1800 ac 1825. Y mae yn syndod meddwl am y gwaith mawr a wnaeth ef i achos crefydd yn ddidrwst a diymffrost am y chwarter cyntaf o'r ganrif. Cyn belled ag y mae Dosbarth rhwng y Ddwy Afon a Dosbarth Dolgellau yn myned, y mae Lewis Williams yn haeddu colofn goffadwriaeth cân uwched a'r uwchaf o arweinwyr crefydd yn Nghymru.
Y pedwar cyfnod y bu cynydd ar yr Ysgol Sabbothol yn yr haner can' mlynedd cyntaf o'i hanes oeddynt —1. Tymor cyntaf y Cymanfaoedd Ysgolion oddeutu 1808, gan gynwys yr adeg y dygwyd cyflawnder o'r Gair sanctaidd i'r wlad mewn canlyniad i sefydliad Cymdeithas y Beiblau; —2, ordeiniad gweinidogion y Methodistiaid yn 1811; 3, diwygiad mawr Beddgelert 1818—1820; 4, Jiwbili yr Ysgol Sabbothol yn 1832. Ceir fod y pedwar amgylchiad uchod wedi dylanwadu rhyw gymaint yn yr ardaloedd hyn, er cryfhau y sefydliad. Ond tra sicr ydyw mai yr hyn a elwid Diwygiad Beddgelert a roddodd y cyfnerthiad mwyaf grymus iddi o ddim byd a ddigwyddodd o'r dechreu hyd yn awr. Flynyddoedd a ddaw, yn y dyfodol, mae yn bur sicr yr edrychir ar y Can'mlwyddiant sydd newydd fyned heibio fel cyfnod yn ei hanes y rhoddwyd camrau grymus ymlaen.
III—Y CYFARFODYDD YSGOLION.
Ymddengys yn lled sicr mai Dosbarth rhwng y Ddwy Afon a gafodd yr anrhydedd o roddi y cychwyniad cyntaf i'r cyfarfodydd hyn yn Nghymru. Nid ydym wedi gweled yn hanes. Mr. Charles ddim byd sicr mewn cysylltiad â hwy, dim ond yn unig grybwylliad fod tebygrwydd mai efe a'u sefydlodd. Ond ni welsom ddim byd yn rhoddi sicrwydd pa bryd, pa le, na pha fodd y sefydlwyd hwy ganddo ef. Yn Nghynhadledd Can'mlwyddiant yr Ysgolion Sabbothol yn Nolgellau, Mai, 1885, wrth siarad ar y Cyfarfodydd Ysgolion, gwnaeth un o'r siaradwyr grybwylliad mai yn Nosbarth Towyn y sefydlwyd hwy. Ac mewn adolygiad ar yr Adroddiad o'r Gynhadledd yn y Lladmerydd, am Gorphenaf yr un flwyddyn, ceir y sylw canlynol Da genym ei weled (sef un o'r siaradwyr a siaradodd ar y Cyfarfodydd Ysgolion) yn cywiro crybwylliad a wneir yn Llyfr Can'mlwyddiant Ysgol Sabbothol Cymru, gan Mr. Levi, am Mr. Charles fel sylfaenydd y sefydliad a elwir 'Y Cyfarfod Ysgol. Mae yn wybyddus mai yn Nosbarth Towyn Meirionydd y dechreuwyd cynal Cyfarfodydd Ysgolion, ac mai y diweddar Barch. O. Jones, Gelli, oedd eu sylfaenydd." Yr oedd y gŵr Parchedig o'r Gelli, fel y crybwyllwyd, yn enedigol o'r Crynllwyn, gerllaw Towyn, ac wedi iddo ddyfod yn gyhoeddus gyda gwaith yr Ysgol Sul, ymwelai yn awr ac eilwaith â'i ardal enedigol, a'r adegau hyny enynai zel yn ei gymydogion o blaid ei hoff orchwyl. Dychwelodd i Dowyn yn gwbl oll, gan ddechreu cario ymlaen fasnach yn y gelfyddyd y dysgwyd ef ynddi, yn 1808, ac arhosodd yma am flwyddyn neu ragor. Ei fywgraffydd, y Parch. John Hughes, Bontrobert, yr hwn oedd yn berffaith hyddysg yn ei hanes, a'r hwn hefyd a wyddai hanes crefydd yn y wlad y blynyddoedd byn oreu o bawb, a rydd y wybodaeth bendant a ganlyn:—"Yn yr ysbaid y bu yn byw yn Nhowyn, y rhoddodd ef y cychwyniad cyntaf ar y Cyfarfodydd Chwechwythnosol a Daufisol, yn achos yr Ysgolion Sabbothol. Er i'r cyfryw gyfarfodydd fyned i lawr am flynyddoedd yn yr ardaloedd hyny, wedi ei symudiad efo Dowyn, eto yn fuan wedi iddo ddyfod i fyw i Sir Drefaldwyn, trwy gydgordiad a chydweithrediad amryw o'i frodyr, sefydlwyd y cyfryw gyfarfodydd, ac y maent yn parhau hyd heddyw, nid yn unig yn Swydd Drefaldwyn, ond trwy Gymru yn gyffredinol, ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd."
Y mae y paragraff uchod yn dangos yn eglur, debygwn, y lle, yr amser, a chan bwy y sefydlwyd y Cyfarfodydd Ysgolion. Yr ydym yn cael eu bod wedi cael y cychwyniad cyntaf yn Nosbarth Towyn, wedi eu sefydlu drachefn yn Swydd Drefaldwyn, ac yna trwy Gymru yn gyffredinol.[2] Aethant i lawr yn Nosbarth Towyn am dymor, feallai, o chwech neu saith mlynedd. Yn mhapurau L. W. ni cheir cyfeiriad atynt o gwbl yn y blynyddoedd 1811 a 1812, ond yn unig at gyfarfod a gynhelid yn fisol i holi yr ysgolion yn unigol ar bynciau a roddid iddynt. Ac y mae hyn yn profi y dywediad yn Nghofiant y Parch. O. Jones. Ni cheir eu hanes yn ail ddechreu, ond yr oeddynt yn bod Ionawr, 1817, o dan y cymeriad o Gyfarfodydd Chwechwythnosol y Cylch. A'r mis hwn yr oedd arolygiaeth yn cael ei wneyd ar y gwahanol ysgolion, a phrawf hefyd fod cryn waith wedi ei wneuthur drwyddynt eisoes, oddiwrth yr hyn y mae yn rhaid dyfod i'r casgliad eu bod wedi eu hail gychwyn flwyddyn neu ddwy, o leiaf, cyn y dyddiad uchod. Mae y llythyr a ysgrifenodd L. W. un o ddyddiau cyntaf y flwyddyn 1817 yn profi mai nid peth newydd oedd y cyfarfodydd hyn. Gellir felly, yn lled sicr, roddi dyddiad eu dechreuad yr un flwyddyn ag y bu farw Mr. Charles, sef 1814. A hwn oedd y Cyfarfod Ysgol cyntaf yn Ngorllewin Meirionydd. Yn nechreu 1819 y ffurfiwyd y cyfarfodydd hyn gyntaf yn Nosbarth Trawsfynydd a Ffestiniog, yn ol cyfrifon Mr. Morris Llwyd, Cefngellgwm. Ac yn 1817 y cawsant eu sefydlu yn Eifionydd, yn ol tystiolaeth bendant Mr. Ellis. Owen, Cefnymeusydd. Modd bynag, mae yn bur sicr fod bywyd a gweithgarwch digyffelyb yn perthyn i holl waith yr Ysgol Sabbothol am y pum' mlynedd cyntaf ar ol ail ddechreu y cyfarfodydd hyn. Yr oedd y blynyddoedd hyny—blynyddoedd Diwygiad Beddgelert—yn flynyddoedd deheulaw yr Arglwydd yn Nghymru.
Yr hanes nesaf ar gael am y Cyfarfodydd Ysgolion yn y Dosbarth hwn ydyw, yr ymdrafodaeth a gymerodd le o berthynas i'r newidiad yn yr amser o'u cynal—o chwech-wythnosol i ddau fisol. Y mae manylion yr ymdrafodaeth hon i'w cael yn mhapyrau L. W., ac yn ei lawysgrif ef ei hun. Mae yr hanes yn ddyddorol, gan ei fod yn dangos y modd y symudai y brodyr ymlaen gyda'r gwaith yr amser hwn, ac felly, fe'i rhoddwn ef yma yn llawn:—
"Cynygiad ar gael gwell trefn ar y cyfarfodydd sydd yn perthyn i'r Ysgolion Sabbothol yn y rhan nesaf i'r mor o Sir Feirionydd. Sef ar y pedwar dosbarth,—1. Rhwng y Ddwy Afon, Abermaw a Dyfi; 2. Dyffryn; 3. Trawsfynydd; 4. Dolgellau. Y sylw cyntaf ar hyn a fu mewn Cyfarfod Ysgolion ardaloedd Dolgellau, yn Buarthyrë, Gorphenaf 20, 1820. Penderfynwyd yno ar yr achos i anfon i'r dosbarthiadau eraill, i ddeisyf arnynt anfon cenhadwr dros eu dosbarth i gyfarfod blynyddol Dolgellau, Medi 24, i fwrw golwg ar gael diwygiad ar y drefn i gadw Cyfarfodydd y Dosbarthiadau.
CYFARFOD BLYNYDDOL DOLGELLAU, MEDI 24, 1820.
Penderfyniadau a wnaed yno at gael diwygiad ar drefn i gadw Cyfarfodydd y Dosbarthiadau uchod.
1. Na byddo dim ond un o'r Dosbarthiadau i gadw eu cyfarfod ar yr un Sabbath, oherwydd os byddai mwy nag un ar unwaith, byddai yn anhawdd cael offerynau i'w cadw; ac os ceid, byddai hyny yn drygu moddion Sabbothol mewn lle arall. 2. Fod y dalaeth i fod yn unffurf yn amser ei chyfarfodydd, sef bob yn ddau fis, fel na byddo y naill ddim yn myned ar ffordd y llall. Nid oedd cenhadon cylch rhwng y Ddwy Afon ddim yn gallu penderfynu yn bresenol, a ddeuai eu cylch hwy yn unffurf o berthynas i'r amser, oherwydd eu bod hwy wedi cael gorchymyn na newidient y drefn, o chwech-wythnosol i ddau fisol, am y byddai hyny yn lleihau breintiau y cylch—oherwydd fod y cylch mor fawr, ni ddeuai y cyfarfod ond anaml iawn i bob lle, os byddai bob dau fis. Ond addawsant y gwnaent cu goreu i gael y Dosbarth yn foddlon i fod yn unffurf yn yr amser, os caent gyfarfod arall o'r enw cyfarfod achlysurol y daith Sabbothol. Penderfynwyd y caent yn ewyllysgar, ond iddynt hwy ofalu am offerynau i'w gadw, ac na byddai iddynt ei gadw ar yr un amser a'r cyfarfodydd eraill. 3. Bod i'r dalaeth gadw ei chyfarfodydd yn yr un mis. (1) Dosbarth Rhwng y Ddwy Afon i gadw eu cyfarfodydd y Sul cyntaf o'r mis; (2) Dyffryn yr ail Sul o'r mis; (3) Trawsfynydd y trydydd Sul; (4) Dolgellau y pedwerydd Sul, neu yr olaf o'r mis. A'r drefn hon i fod bob yn ddau fis. 4. Penderfynwyd ar bersonau i gadw y cyfarfodydd, ac i fod yn olygwyr arnynt. Sefydlwyd un ymhob Dosbarth, ac i bob un fod yn ofalus am ei Ddosbarth ei hun—i fod ymhob cyfarfod os byddai modd, ac i alw am un o'r lleill i'w gynorthwyo yn y gwaith, a bod gan y naill awdurdod ar y llall i alw am gynorthwy, os byddai Cyfarfod Misol y sir yn foddlon. 5. Bod hyn gael ei ofyn yn Nghymdeithasfa Dolgellau, yn y rhan hyny o'r moddion a fyddo yn perthyn i'r achos yn y sir. Y personau a enwyd oeddynt,—
1 Dosbarth y Ddwy Afon, Lewis Williams.
2 Dosbarth y Dyffryn, Richard Humphreys.
3 Dosbarth Trawsfynydd, Richard Jones.
4 Dosbarth Dolgellau, Richard Roberts."
Buarthyrë, lle y cychwynwyd yr ymdrafodaeth i'r trefniadau hyn, ydoedd ffermdy yn y bryniau pell, rhwng Hermon ac Abergeirw. Nid oedd yr enw adnabyddus Gorllewin Meirionydd mewn bod y pryd hyn; gelwid y cylch eang hwn y rhan agosaf i'r mor o Sir Feirionydd. Nid oedd dim cymaint a sôn yn yr ymdrafodaeth ychwaith am Ffestiniog boblog a brigog; llyncid y lle gor-bwysig, ac yn awr mawr ei freintiau, i fyny yn llwyr ac yn hollol yn y lle pellenig hyd yn ddiweddar, Trawsfynydd Safai dosbarth rhwng y Ddwy Afon ar flaen y rhestr, ac yr oedd y dosbarth hwn yn gwingo yn erbyn i'r Cyfarfod Ysgol fod mor anaml ag unwaith bob dau fis. Buwyd yn dra ffodus i ddyfod o hyd i'r penderfyniadau hyn, gan eu bod yn rhoddi gwybodaeth i ni am y cyfarfodydd dau—fisol, ac am eu ffurfiad i'w sefyllfa arhosol. Un peth a welir yn amlwg ynddynt ydyw, fod y Methodistiaid y pryd hwn yn Drefnyddion gwirioneddol, a'u bod yn llawn awyddfryd, nid am eu lleshad eu hunain, ond lleshad eu gilydd, a lleshad yr achos yn gyffredinol. Peth arall a welir ydyw, fod yr offerynau, neu y pregethwyr i ofalu am y cyfarfodydd yn anaml iawn o'u cymharu â'r hyn ydynt yn awr. Mor bwysig oedd gwaith yr Ysgol Sabbothol yn ngolwg y tadau hefyd, fel yr oeddynt yn dwyn eu trefniadau ynglŷn â'r gwaith i'w cadarnhau gan y Gymdeithasfa. Erys y Dosbarthiadau Ysgolion yr un fath yn awr ag yr oeddynt driugain ac wyth o flynyddau yn ol, oddieithr fod Trawsfynydd wedi ei lyncu yn ol drachefn gan Ffestiniog, a bod y dosbarth hwn, oherwydd lliosogrwydd y boblogaeth, wedi myned yn fwy na llon'd ei ddillad, ac wedi ad-drefnu ei hun rhyw ddeng mlynedd yn ol i dair adran. Yn 1820, yr oedd y pedwar dosbarth yn unffurf ymhob peth, a'r naill ddosbarth yn gwybod hanes y llall, a'r naill yn barod i helpu y llall mewn pob hyfforddiant a chynorthwy. Wedi hyny, collasant bron bob gwybodaeth am eu gilydd, ac aeth pob un i gadw business ei hun, ac i gadw ei gyfrifon ei hun. Ni wyddai y naill ddosbarth ddim o helyntion y llall am flynyddau lawer hyd 1870, pryd y penodwyd ysgrifenydd i'r Ysgol Sabbothol o fewn cylch y Cyfarfod Misol. Y flwyddyn hono, tynwyd allan gyfrifon unffurf i'w cadw gan bob dosbarth, a chadarnhawyd hwy gan y Cyfarfod Misol. O hyny hyd yn awr cyhoeddir y cyfrifon yn flynyddol, ac y mae erbyn hyn lawer mwy o wybodaeth yn un rhanbarth beth a wneir yn y rhanbarth arall. Ac y mae y Cyfarfod Ysgolion rhwng y Ddwy Afon wedi bod, yr ugain mlynedd diweddaf, yn llawn mor weithgar a llewyrchus, os nad yn fwy felly, nag yn yr un dosbarth yn y sir.
IV—Y CYMANFAOEDD YSGOLION
Y mae i bob peth yn y byd hwn ei dymor. Tymor cyntaf y Cymanfaoedd Ysgolion ydoedd yn 1808. Trwy gydgyfarfyddiad amryw bethau mewn Rhagluniaeth, yr oedd zel a brwdaniaeth gyda y rhan yma o waith yr Arglwydd wedi cyfodi i bwynt uchel y flwyddyn hon. Cynhelid rhai Cymanfaoedd lliosog yn yr awyr agored, am nad oedd adeiladau digon eang i'w cael tuag at eu cynal. Yn 1808 y cynhaliwyd y Gymanfa hynod ar ben mynydd Migneint, yn gynwysedig o. ysgolion Ffestiniog ac Ysbytty, pryd yr oedd 300 o ddeillaid yr Ysgolion Sabbothol yn bresenol, ac y torodd allan yn orfoledd mawr cyn i'r ysgolion ymwahanu. Hon ydoedd y Gymanfa Ysgolion hynotaf, yn ddiau, a fu yn Sir Feirionydd o'r dechreu hyd yn awr. Ni cheir hanes am yr un Gymanfa neillduol yn y dosbarth rhwng y Ddwy Afon mewn amseroedd. boreuol, ond yr un y bu y Parchn. Robert Jones, Rhoslan, Owen Jones, a W. Pugh, yn ei chynal yn Bryncrug, yn 1808. Eto, adrodda hen bobl y wlad iddynt weled cyfarfodydd lliosog o ddeillaid yr Ysgol Sul lawer gwaith, a'r holwyddori cyhoeddus. ynddynt gan y Parchn. O. Jones, y Gelli, Lewis Williams, a. Robert Owen, Nefyn, o dan yr eneiniad dwyfol.
Peth cymhariaethol ddiweddar ydyw y Gymanfa Ysgolion flynyddol, rhwng y Ddwy Afon, wedi ei sefydlu yn rheolaidd yn 1858. Ni bu iddi erioed gael ei chynal yn gyson a rheolaidd yma cyn hyn. Mae yn wir fod dau gyfarfod tebyg i Gymanfa wedi eu cynal yn gynt. Cynhaliwyd y cyntaf yn Mhennal, yn 1864, yr hwn a ganmolir yn fawr hyd heddyw, yn yr hwn y tynodd y Parchn. G. Ellis, M.A., Bootle, a John Roberts, Kassia, sylw neillduol, pan yn fechgyn tra ieuainc. Enillodd Mr. G. Ellis y brif wobr, ac areithiodd ef a Mr. John Roberts yn y cyfarfod. Yr ail a gynhaliwyd yn Nhowyn, Gwener y Groglith, 1865. Yn ol y rhaglen, yr enw ar hwn oedd, Cyfarfod Cystadleuol perthynol i Ysgolion Sabbothol y Methodistiaid Calfinaidd yn Nosbarth Towyn." Aethpwyd i ddyled gyda'r cyfarfod hwn, a bu wedi hyny fwlch o dair blynedd heb yr un cyfarfod. Amlwg ydyw fod y cyfarfodydd hyn wedi eu trefnu gan y Cyfarfod Ysgolion. Y Parch. W. Davies, Llanegryn, oedd yn llywyddu y cyfarfod cyntaf yn Mhennal. Cynhaliwyd y cyfarfod blynyddol rheolaidd cyntaf yn Abergynolwyn, Medi laf, 1868. Yr enw ar hwn oedd, Cymanfa Ysgolion Dosbarth y Ddwy Afon. Y Llywyddion oeddynt y Parchn. William Davies, Llanegryn, ac Ebenezer Jones, Abergynolwyn. Dywedai un o'r llywyddion yn ei sylwadau agoriadol "Yr ydym wedi cael cyfarfodydd rywbeth yn debyg o'r blaen, ond yn awr yr ydym yn sefydlu Cymanfa Ysgolion ar gynllun mwy eang, ac ar sylfaeni mwy parhaol, ac yr ydym yn credu y bydd iddi barhau bellach tra byddo y Methodistiaid mewn bod." Edrychai rhai ar y sylw hwn gyda llygaid a chalon angrhediniol. Modd bynag, mae y Gymanfa wedi parhau i gael ei chynal yn ddifwlch bob blwyddyn hyd yn awr. Ymhen blynyddoedd a ddaw, diameu y bydd rhaglen y gyntaf a gynhaliwyd, yr hon sydd ar gael a chadw, yn llawn dyddordeb. Cynhaliwyd y Gymanfa hyd yma ar gylch yn yr ysgolion liosocaf, ac mae y lleoedd sydd yn ei derbyn yn garedig yn dwyn y draul eu hunain mewn ymborth a llety, a'r holl ysgolion yn cyd-gyfranu at dreuliau eraill y Gymanfa. Cynhelir dau gyfarfod cyhoeddus, y prydnhawn a'r hwyr, a chyfarfod yn y boreu o swyddogion y Cyfarfod Ysgol, cynrycholwyr yr ysgolion, a gweinidogion y dosbarth, i fwrw golwg dros y cyfrifon, i ddewis swyddogion, ac i drefnu gwaith yr ysgolion am y flwyddyn ddilynol. Yr ydys wedi amcanu o'r dechreu i ddyfod ag amrywiaeth i mewn iddi, a chymerir llawer o drafferth gan y personau sydd yn trefnu y gwaith bob blwyddyn i wneuthur hyn. Bu llawer o broffwydi y blynyddoedd cyntaf yn proffwydo ei marwolaeth, ac fe gafodd lwgfa
hefyd rai gweithiau yn ei mabandod, fel pob creadur ieuanc. Ond nid yn unig y mae wedi parhau heb ei rhoddi i lawr, ac heb i'w harweinwyr feddwl unwaith am ei rhoddi i lawr, ond y mae bellach er's cryn amser yn enill nerth flwyddyn ar ol blwyddyn. Ac nid oes i'w gael yn y rhan yma o'r wlad yr un cyfarfod yn ystod y flwyddyn mor boblogaidd ag ydyw. Cedwir i fyny fesur mawr o frwdfrydedd yn y rhan fwyaf o'r ysgolion o berthynas iddi. Feallai fod dau reswm o leiaf i'w cael dros ei llwyddiant yn y dosbarth hwn ragor dosbarthiadau eraill yn y sir. Un rheswm ydyw, yr amrywiaeth a berthyn iddi, a'r ymgais a wneir i roddi gwaith i lawer, ac hyd y gellir i bawb. Gwneir gwaith mawr yn ystod y flwyddyn ar ei chyfer. Yn y Gymanfa ddiweddaf, er engraifft, rhoddwyd yn yr oll 290 o Dystysgrifau am ddysgu allan—am ddysgu y Rhodd Mam 43: yr Holiedydd Bach 25; Tonic Solffa 80; y naw penod cyntaf o'r Hyfforddwr 40; yr oll o'r Hyfforddwr 82. [Yn y Gymanfa a gynhaliwyd ar ol hyn yn Abergynolwyn yn 1888, dosbarthwyd yn yr oll 329 o Dystysgrifau]. Y rheswm arall dros ei llwyddiant ydyw, fod yn digwydd bod yn y dosbarth nifer dda o ddynion medrus ac ymroddgar, yn weinidogion, pregethwyr, blaenoriaid, ac ysgolfeistriad yr ysgolion dyddiol, y rhai a roddant law wrth law ac ysgwydd wrth ysgwydd yn gryf o blaid y symudiad. Eleni (1887), cynhelid y Gymanfa yn Llanegryn, Llun Sulgwyn, yr hon o ran lliosogrwydd pobl, o leiaf, oedd yn dra llwyddianus. Cyrchai deiliaid yr ysgolion iddi o bob cyfeiriad, mewn wageni, certi, ceir, ar geffylau ac ar draed. Nid oedd yn y lle yr un adeilad digon mawr i'w chynal, a chan fod y tywydd yn ffafriol cynhaliwyd y cyfarfodydd y prydnhawn a'r hwyr yn yr awyr agored. Yr oedd yr olygfa y diwrnod hwnw yn dwyn ar gof yr hanesion am yr hyn a gymerai le, mewn gwahanol ranau o'r wlad, bedwar ugain mlynedd yn ol, pan oedd y zel gyda y Cymanfaoedd Ysgolion yn ei lawn nerth, yn nyddiau Mr. Charles o'r Bala. Ac wrth dalu diolchgarwch i gyfeillion Llanegryn am eu croesaw llawn i'r Gymanfa, dymunai Mr. David Rowland, Pennal, fendith iddynt hyd y bedwaredd-genhedlaeth- ar-ddeg-ar-hugain-ar-ol-y-ganfed.
V—SWYDDOGION Y CYFARFOD YSGOLION
Yr ydym wedi gweled i sicrwydd mai Lewis Williams, wedi hyny o Lanfachreth, oedd y pregethwr a ofalai am y cyfarfodydd yn 1820. Efe yn ddiameu oedd y gofalwr o'r cychwyn cyntaf, a'r flwyddyn uchod gosodwyd ef yn rheolaidd yn ei swydd. Bum' mlynedd wedi hyn yr oedd ef yn ymsefydlu yn Llanfachreth, ond y tebyg ydyw ei fod yn arolygu llawer ar y Cyfarfodydd Ysgolion yn y dosbarth hwn drachefn, hyd oddeutu y flwyddyn 1840. Y Parchn. Richard Roberts, Dolgellau, a William Jones, Maethlon, oeddynt yn holwyddorwyr rhagorol, ac arnynt hwy y disgynodd llawer o'r gwaith ar ol L. W. Yn y flwyddyn 1859 yr oedd dau yn y swydd o ofalwyr, sef y Parchn. Ebenezer Jones, Corris, a Robert Griffith, Bryncrug. Ar eu hol hwy bu y Parch. W. Davies, Llanegryn yn ofalwr, am 6 neu 7 mlynedd. Gan na chadwyd dim cyfrifon rheolaidd hyd yn ddiweddar, nis gellir cael enwau y swyddogion ond yn anmherffaith.
Ysgrifenydd y Cyfarfod Ysgol o'r cychwyn cyntaf yn ddi-ddadl ydoedd John Jones, Penyparc. Cyfeirir ato felly yn awr ac eilwaith yn ysgrifau Lewis Williams, yr hwn a'i galwai ef "Ein hanrhydeddus a'n parchus ysgrifenydd." Llanwodd y swydd hyd nes iddo fethu gan henaint, a bu ei dymor ef gyda y gwaith yn hwy o lawer na neb arall. Er ei fod yn fedrus a manwl fel ysgrifenwr, ymddengys na ddarfu iddo ddim cadw llyfr cofnodion o hanes y cyfarfodydd, yr hyn sydd erbyn hyn yn golled. Clywsom un oedd yn ysgrifenydd yn ddiweddarach nag 1850 yn dweyd na chedwid dim cofnodion yn ei amser ef ond a roddid i lawr yn y Dyddiadur ar y pryd. Bu y personau canlynol yn ysgrifenyddion ar ol J. J.-Lewis Vaughan, Bryndinas: Evan Roberts, Fachgoch; Hugh Thomas, Towyn; Griffith Pugh, Berthlwyd; Thomas James, Gwyddgwian. Bu G. Pugh, Berthlwyd, yn y swydd am ddau dymor, ac am 7 mlynedd gyda'u gilydd un tymor, a rhoddwyd iddo anrheg gan ysgolion y dosbarth am ei ffyddlondeb. Y gofalwr yn rhinwedd ei swydd ydoedd llywydd y cyfarfod bob amser hyd 1877, pryd y barnwyd yn ddoeth i ddewis llywydd yn ychwanegol. Er y flwyddyn 1863 cadwyd cofnodion rheolaidd, ac o hyny hyd yn awr, mae y personau canlynol wedi bod yn swyddogion:—
Gofalwr
1866—1867, Owen Roberts, Llwyngwril.
1868—1869, Francis Jones, Aberdyfi.
1870—1871, Evan Jones, Corris.
1872—1876, Robert Owen, M.A., Pennal.
1876—1881, William Williams, Corris.
1882—1883, R. W. Jones, Abergynolwyn.
1884—1885, John Owen, Aberllefeni.
1886—1887, Robert Owen, M.A., Pennal.
1888 — R. J. Williams, Aberllefeni.
Ysgrifenydd
1863—1871, Evan Ellis, Abergynolwyn.
1871—1872, R. W. Jones, Abergynolwyn.
1873—1879, H. Lloyd Jones, Corris.
1880—1881, Richard Jones, Gwyddelfynydd.
1882—1883, J. Maethlon James, Towyn.
1884—1885, H. S. Roberts, Bethania.
1886—1887, Edward Rowland, Pennal.
1887—1888, J. R. Thomas, Abergynolwyn.
Llywydd
1877—1879, Evan Evans, Bryneglwys.
1880—1881, Thomas Jones, Caethle.
1882—1883, D. Ifor Jones, Corris.
1883—1884, H. Lloyd Jones, Corris.
1885 — Evan Evans, Gesail.
1886—1887, Edward Humphreys, Corris.
1888 — W. Roberts, Bodlondeb, Bryncrug.
Trysorydd.
1877—1887, Humphrey Davies, U.H., Corris.
1887—1888, Hugh Vaughan, Cae'rberllan.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Ar ol ysgrifenu yr uchod, cafwyd nodiad ymysg ysgrifau L. W., yn dangos mai o dan arolygiaeth Ymddiriedolwyr Ysgolion Lady Bevan yr oedd ef yn cadw ysgol yn y Bwlch a Llwyngwril yn y flwyddyn 1812.
- ↑ Yn y Drysorfa am Mehefin, 1861, ceir ychydig o hanes Ysgol Bryncrug, wedi ei ysgrifenu gan Mr. William Pugh,o Liverpool, maby Parch. William Pugh, Llanfihangel, o'r hwn y Mae a ganlyn yn ddyfyniad: Yn y Gymdeithasfa y soniais am dani o'r blaen, a gadwyd yn Machynlleth, addawodd y Parch. Thomas Charles wrth Mr. Lewis Williams, Llanfachreth, oedd y pryd hyny yn cadw ysgol rhwng y Ddwy Afon, ddyfod i gadw Cymdeithasfa Ysgolion yn Bryncrug, y Sabbath cyntaf ar ol Association Dolgellau y flwyddyn hono, sef 1808. Ond erbyn yr amser, yr oedd Mr. Charles, oherwydd ychydig afiechyd, yn analluog i adael ei gartref, a chafwyd y diweddar Mr. Robert Jones, Rhoslan, i gadw y Gymdeithasfa yn ei le ef, a chynorthwywyd yntau gan y diweddar Mr. William Pugh, Llanfihangel. Yn yr odfa y nos, holodd Mr. Owen Jones, Towyn, Ysgol Sabbothol Bryncrug, am waith y tri Pherson yn iachawdwriaeth pechadur.
Yn ngwanwyn y flwyddyn ganlynol, sef 1809, codwyd yno Gymdeithasfa Ysgolion drachefn, gan yr un Mr. O. Jones (oedd y pryd hwnw heb ddechreu pregethu, ond wedi hyny y Parch. Owen Jones, Gelli, Sir Drefaldwyn). Cymdeithasfa hynod o lewyrchus oedd hono. Yr wyf yn cofio mai un o faterion yr odfa ddau o'r gloch ydoedd—Disgynind a Dyrchafiad yr Arglwydd Iesu; a bod y proffwydoliaethau a'r cyflawniadau yn cael eu cyferbynu a'u gilydd, fel y maent yn y pwnc am y Bod o Dduw, ond yn helaethach. Yr oedd yr athrawiaeth megis yn teithio ar ei huchelfanau, mewn mawredd, ardderchogrwydd, ac awdurdod. Pan yn adrodd yr adnodau am Paul yn syrthio ar y ddacar yn agos i Damascus, sylwodd Mr. Jones, gydag effeithiolrwydd mawr, mor ddedwydd oedd Paul i gael daear i syrthio arni, cyn syrthio yn ei wrthryfelgarwch yn erbyn yr Arglwydd Iesu i uffern, a pherswadiai ni yn egniol i blygu i Grist tra byddai genym ddaear i blygu arni. Gallesid, ac yr oedd rhai yn meddwl, fod pawb o'r ysgolion yn plygu iddo o wirfodd calon. Mae y Gymdeithasfa hono yn werth ei chofio heddyw, er ei bod wedi myned heibio er's dros ddeng mlynedd a deugain." Profa y dyfyniad hwn ddan beth—yn gyntaf, mai yn Bryncrug, y flwyddyn uchod, y cyfodwyd y Cyfarfodydd Ysgolion; yn ail. mai tua'r flwyddyn 1808 yr oedd y Cymanfaoedd Ysgolion yn eu gogoniant. Rhoddir yr enw Cymdeithasfa yma ar y Gymanfa Ysgolion a'r Cyfarfod Ysgolion.