Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II/Agwedd y Trigolion

Oddi ar Wicidestun
Cynwysiad Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II

gan Robert Owen, Pennal

Rhag redegwyr y Methodistiaid











RHAN I

DOSBARTH FFESTINIOG.











PENOD I.

——————

AGWEDD Y TRIGOLION YN Y PARTH HWN O'R SIR CYN CYFODIAD METHODISTIAETH

CYNWYSIAD.-Cipdrem ar y wlad—Cynydd y boblogaeth—Vestry Plwyf Ffestiniog—Blynyddau o galedi—Gwrthwynebu cyfleusderau teithio—Darluniad o'r hen frodorion—Yr arferion ar y Sabbath yn Nhrawsfynydd—Y dull gyda chladdu y marw—Mari y Fantell Wen.

  MAE cylch yr hanes y bwriedir ei roddi yn y tudalenau dilynol, yn cynwys rhanau o Sir Feirionydd sydd wedi cario dylanwad mawr ar ei chrefydd hi. O fewn y rhandir hwn o'r sir y mae Penrhyndeudraeth a Maentwrog, dwy ardal yr ymwelodd yr Arglwydd â hwy yn foreu, yn nhrefn ei ragluniaeth a'i ras. Ac fe fydd olrhain y ffordd y cymerodd hyny le, nid yn unig yn ddyddorol ynddo ei hun, ond yn foddion hefyd i weled pa fodd yr ymdaenodd goleuni yr efengyl dros ranau eraill y wlad.

I wneuthur y ffordd yn eglur i'r darllenydd, fe gofir fod yr hyn a adnabyddir gan Fethodistiaid Calfinaidd y sir fel Dosbarth Ffestiniog, yn cymeryd i fewn y wlad, o gwr pellaf ardal Trawsfynydd i waelod isaf ardal Penrhyndeudraeth. Yn yr oll o'r ardaloedd hyn, yn yr adeg bresenol—megis hefyd y mae wedi bod er's amryw flynyddoedd—ceir golwg flodeuog ar deyrnas yr Arglwydd Iesu, ymysg pob enwad crefyddol fel eu gilydd. Er hyny, nid oes le yn y sir, nac ychwaith mae'n debyg yn Nghymru, sydd wedi myned trwy gymaint o gyfnewidiadau, yn wladol a chrefyddol, yn ystod y can' mlynedd diweddaf. Gadawer i ni gymeryd cipdrem ar y rhan yma o'r wlad cyn i grefydd gymeryd meddiant o honi.

Y mae yr ardaloedd hyn wedi cynyddu yn ddirfawr, mewn amser diweddar, yn nifer y boblogaeth. Ac y mae yn rhaid cymeryd hyn i'r cyfrif, mewn trefn i gael syniad gweddol gywir am agwedd y trigolion oddeutu canol a diwedd y ganrif ddiweddaf. Oblegid, ar wahan oddiwrth gynydd gwareiddiad a chrefydd, y mae a wnelo amlder trigolion gwlad lawer â ffurfio ei chymeriad. Ffurfir a newidir y cymeriad yn llawer cyflymach pan fyddo nifer y trigolion yn lliosog, nag mewn gwlad deneu ei phoblogaeth. Plwyf Ffestiniog ydyw y lle pwysicaf yn y cylchoedd hyn. Dibyna y cymydogaethau cyfagos arno ef, nid yn unig am eu cynhaliaeth a'u cynydd, ond am bron yr oll o'u symudiadau cymdeithasol. Fel mai yr un peth, i fesur helaeth, ydyw symudiadau y plwyf hwn a symudiadau yr ardaloedd cylchynol, a'r un peth hefyd yn gymhariaethol ydyw hanes dadblygiad cymeriad yn y naill ag yn y lleill. A chaniatau i ni allu gosod ein hunain ar ben un o fryniau Ffestiniog tua chanol y ganrif ddiweddaf; caem ar unwaith fod pobpeth ond y bryniau a'r mynyddoedd yn dra gwahanol i'r hyn ydynt yn awr. A'r hyn a'n tarawai gyntaf, ond odid, fuasai bychander y lle mewn ystyr fasnachol a chymdeithasol. Mor anaml y pryd hwnw yr anedd-dai! Mor ychydig oedd nifer y trigolion, ac mor hynafol eu harferion! Nid oedd poblogaeth y plwyf yn y flwyddyn 1700 ond o 460 i 470; ac ni bu y cynydd yn ystod y can' mlynedd dilynol ond 240. Felly, yn nechreu y ganrif bresenol, rhif yr holl eneidiau yn y plwyf oedd oddeutu 710. Yr ydys yn cael y cyfrif hwn allan oddiwrth nifer y marwolaethau a'r genedigaethau yn Llyfr Cofrestriad y Plwyf. Hynod mor araf y cynyddai y boblogaeth. "Yn y flwyddyn 1699, ni chymerodd yr un briodas le yn y plwyf. Nulla Matrimona Contracta, — geir yn yr hen Register." Eto, "yn 1704, Conjugata Nulla, —dim priodas. Ac y mae y blynyddoedd 1709 a 1710 hefyd heb yr un briodas wedi ei chofrestru."[1] Caledi yr amseroedd a roddir fel un rheswm dros hyn.

Wrth edrych ar bethau o'r presenol, pa fodd bynag, y mae yn achos o syndod fod y boblogaeth mor deneu gan' mlynedd yn ol. Cyffelyb ydoedd hefyd yn y plwyfi cylchynol i'r plwyf hwn. Dengys y ffugyrau canlynol y modd y cymerodd y cynydd le yn mhlwyf Ffestiniog:—Yn 1821, yr oedd rhif y trigolion yn 1,168; yn 1841, yr oedd yn 3,133; yn 1861, yn 4,553; yn 1871, yn 8,062; ac yn 1881, rhifai y trigolion oddeutu 13,000.

Y mae yn hysbys i bawb sydd wedi sylwi, mai agoriad y llech-chwarelau, a'r llwyddiant a ddilynodd y fasnach mewn llechau, a barodd y cynydd uchod yn y boblogaeth. Dechreuwyd eu hagor ryw adeg rhwng 1750 a 1760. Dywedir, ar awdurdod sicr, fod eu darganfyddiad yn ganlyniad breuddwyd gŵr o Sir Gaernarfon, o'r enw Methusalem Jones, tad y Parch. John Jones, o Edeyrn. Breuddwydiodd y gŵr hwn fod chwarel dda yn Ngheunant y Diffwys; ac ar bwys ei freuddwyd, cerddodd yr holl ffordd o Fynydd y Cilgwyn, yn Sir Gaernarfon, i Ffestiniog. Wedi cloddio ychydig, cafodd fod yno chwarel, yn hollol fel y breuddwydiodd.[2] A'r Diffwys oedd y gyntaf o'r chwarelau a ddarganfyddwyd ac a agorwyd. Araf fu y gweithio ynddynt am yr haner can' mlynedd cyntaf ar ol eu darganfyddiad. Digon yn y lle hwn yw hysbysu, mai rhwng 1818 ac 1825 y dechreuwyd agor y prif chwarelau, y rhai a fu yn foddion neillduol i ychwanegu y boblogaeth, ac i ddwyn y lle i'r fath gyhoeddusrwydd.

Nid annyddorol, i ddangos agwedd yr amserau, fyddai rhoddi dyfyniad neu ddau a gafwyd o Lyfr Vestry Plwyf Ffestiniog. Yr oedd 1815 ac 1816 yn flynyddoedd o gyfyngder, ac yn ngwyneb fod llawer o ddieithriaid yn dyfod i'r ardal i weithio yn y cloddfeydd, a'r treuliau i symud y tlodion o'r naill blwyf i'r llall yn cynyddu, a'r trethi, mewn canlyniad, yn myned yn uchel, gwnaethpwyd ymdrechion egniol gan y plwyfolion i atal ychwaneg o ddieithriaid i ddyfod yma. Yn Vestry Mawrth 19, 1817, penderfynwyd,—"Er mwyn atal hyn hyd y byddo modd, yr ydym ni sydd a'n henwau isod, yn rhwymo ein hunain â'n gilydd i anghefnogi dyfodiad dieithriaid neu estroniaid i'r plwyf, fydd yn debyg o dd'od i ddibynu arno am eu cynhaliaeth. Ond gan ein bod yn ofni na wna y gyfraith orfodi unrhyw berson i beidio gosod ei derfynau (premises), neu unrhyw ran o honynt i'r neb y myno, yr ydym ni yn cytuno fod pob person a osodo ystafelloedd, tŷ, neu dai anedd, neu unrhyw leoedd eraill, o ba ddisgrifiad bynag y byddont, i bersonau neu berson heb fod yn perthyn i'r plwyf hwn yn barod, yn gorfod symud yr unrhyw dlotyn neu dlodion heb unrhyw gymorth gan y plwyf, OND AR EI GYFRIFOLDEB, EI DRAFFERTH, NEU EI DRAUL EI HUN YN UNIG, i'w plwyfau eu hunain, trwy orchymyn yr Ynadon, i'r man y cyfarwyddent hwy.[3]

Eto, penderfynwyd yn Vestry Awst 27ain, 1821,—" Nad oes neb perthynol i'r plwyf hwn i gyflogi gwas neu forwyn i unrhyw wasanaeth bynag am ragor na chwe' mis (calendar), a'r un modd, nad oes un teulu i gael caniatad i aros, nac i wneuthur un esgusawd dros aros, yn y plwyf hwn, os nad ydynt yn perthyn i'r unrhyw, heb drwydded foddhaol oddiwrth eu plwyf neu eu plwyfau eu hunain, er boddlonrwydd i drigolion y plwyf hwn."[3]

Ymddengys y gweithrediadau hyn yn awr yn ddieithriol. Pa mor bell y cariwyd y penderfyniadau uchod allan, nid ydym yn gwybod. Hyn sydd sicr, yn ngwyneb pob penderfyniad a wneid gan y plwyfolion, nid oedd dim yn tycio, ond dylifai y bobl yma trwy y blynyddoedd.

Bu cyfyngdra mawr ar drigolion y parth hwn o'r wlad, amryw droion, yn ystod y rhyfel rhwng Lloegr a Ffrainc, o 1793 i 1815. Blwyddyn felly oedd 1795. Gwnaed casgliad i gynorthwyo y trigolion, yr hwn a amrywiai yn y rhoddion "o geiniog a dimai Peter Jones, Hafod-y-mynydd, i gini W. Oakeley, Ysw., Tanybwlch." Ond ni chyrhaeddodd y casgliad ond 3p. 11s. 10½c. Blynyddoedd o galedi na wyr yr oes hon ddim am danynt oeddynt 1798, 1799, 1800. Cyfododd pris yr ymborth y flwyddyn olaf o'r tair, fel yr oedd y blawd erbyn mis Ebrill yn 8s. 6c. y cibyn, pryd nad oedd yn 1782 ond 1s. 6c. y cibyn. Gwnaed casgliad o 23p. i'r rhai oedd mewn eisiau y flwyddyn hon eto. Llawer o son a glywyd gan yr hen bobl am y prinder ymborth yn 1815, blwyddyn brwydr Waterloo, ac am yr hanesyn canlynol, yr hwn a ysgrifenwyd yn gryno gan y Parch. G. Williams; Talsarnau, ac a geir yn ei ysgrifau ar "Pandy'r Ddwyryd," yn Nghronicl yr Ysgol Sabbothol, am y flwyddyn 1880,—"Aeth Mr. Thomas Williams, Goruchwyliwr y Ddiffwys, i Leyn i chwilio am lwyth o flawd ceirch. Bu yn llwyddianus. Cytunwyd ei fod i'w anfon i Dremadog ar ddydd Gwener, y diwrnod marchnad, ac yr oedd trol o Ffestiniog i fyned yno i'w geisio. Yr oedd llawer o'r trigolion yn disgwyl yn bryderus am y llwyth blawd; ond er eu mawr siomedigaeth, dychwelodd y drol yn wag, a hysbyswyd hwy fod y blawd wedi ei roddi dan glo yn Nhremadog, dan yr esgus nad oedd yno ddigon i ddiwallu angen trigolion y dref. Wedi i'r dynion gyfarfod yn y gwaith dranoeth, a deall agwedd pethau, penderfynasant fyned i Dremadog i ymofyn y blawd. Cychwynasant oll yn fintai gyda'u gilydd. Yr oedd Mr. William Casson (meistr y gwaith) yn eu cyfarfod yn myned tua'r chwarel, a gofynodd, I ba le yr wyt ti yn myn'd bod-y-gun, fel hyn?' Ar ol deall eu neges, anogodd hwy i fyned yn ol at eu gwaith, ac yr anfonai yntau am lwyth o rug iddynt o Lundain. Ond yr oedd newyn yn drech na gorchymyn eu meistr, ac ymlaen â hwy. Anfonasant at Mr. Lloyd, Pen-y-glanau (Llwyd y Twrna), ac at Mr. Oakeley, yr hwn oedd Sirydd y flwyddyn hono, i ymholi pa fodd y gallent weithredu heb fod yn agored i gael eu cosbi. Hysbyswyd. hwy y gallent fynu y blawd, a thori y cloiau os byddai raid, ond erfyniwyd arnynt beidio gwneyd mwstwr. Ar ol cyraedd. 'Cob Madog,' trefnasant eu hunain yn orymdaith fel milwyr, bob yn bedwar, a chryn bellder rhyngddynt, nes yr edrychent. yn fyddin lled fawr. Erbyn cyraedd Tremadog, yr oedd pawb wedi dychrynu, a rhoddwyd yr agoriadau iddynt i gael y blawd. Rhanasant ef yn gyfartal rhwng yr holl ddynion, sef deg pwys ar hugain i bob un. Dychwelasant trwy Lanfrothen. a Bwlch Drws Elen yn llawen, a phawb a'i gydaid blawd ar ei gefn."

Trwy wrthwynebiadau, ac yn erbyn ewyllys y trigolion, yn yr amser aeth heibio, y gwellhawyd cyfleusderau teithio yr ardaloedd. A phenod digon hynod yn eu hanes ydyw hon. Mewn gwlad mor fynyddig, yr oedd cyfleusderau i fasnachu â lleoedd a phobl oedd o'r tuallan, yn anhwylus a thrafferthus. Gwnelai y preswylwyr eu gorchwylion eu hunain mewn ffordd. tra syml. Ac am rai degau o flynyddau ar ol dechreu masnach y cloddfeydd, rhoddid y llechau mewn math o breniau a chewyll, y rhai wedi eu rhwymo a'u gosod ar fulod a cheffylau, a ddygid i lawr trwy lwybrau anhygyrch i le a elwir Congl-y-wal, ac oddiyno dygid hwy trwy lawer o gwmpas i lan afon. Maentwrog. Y mae clod yn ddyledus i S. Holland, Ysw., diweddar Aelod Seneddol dros Meirionydd, yr hwn oedd un o'r rhai cyntaf i anturio i agor prif gloddfeydd Ffestiniog, am ei ymdrechion i wella y ffyrdd i drafaelio. Yn 1832, cafwyd Bill trwy y Senedd i wneuthur y rheilffordd (tram-road) rhwng Porthmadog a chwarelau Ffestiniog. Chwefror 26ain, 1833, gosodwyd y gareg gyntaf i lawr; a dechreuwyd cludo y llechau ar hyd-ddi Ebrill 20fed, 1836. I hon dangoswyd gwrthwynebiad penderfynol gan bobl y wlad. Tybiai y cychwyr ar yr afon y byddai gobaith eu helw oll wedi darfod; y ffermwyr a feddylient na fyddai eisiau gwaith o hyny allan i'r ceffylau; pan y delai hyn i ben, tybid na fyddai eisiau troliau a gwageni, ac am hyny y byddai gwaith y seiri coed wedi darfod am byth; a'r un modd y darfyddai gwaith y gofaint oll am na fyddai eisiau pedoli ceffylau mwyach. Gwnaeth hyn i'r wlad godi fel un gŵr i wrthwynebu y ffordd newydd. Yn Vestry Ffestiniog, Mawrth 23, 1831, penderfynwyd fod deiseb yn cael ei hanfon i'r Senedd, wedi ei llawnodi gan y plwyfolion, yn gwrthwynebu y ffordd. Gwnaethpwyd casgliad i gael hyn o amgylch. Aeth y casglyddion at Robert Morris, Glanypwll, i erfyn ei gynorthwy. "Wel," meddai, "wnaiff hi ddim drwg i mi; 'does gen i ddim gwê yn cario." "Fe wna ddrwg i chwi yn siwr," atebai y casglyddion, "pan ddel y ffordd haiarn, ac i bawb beidio cadw ceffylau, bydd pawb wed'yn yn cadw gwartheg, ac ni chewch chwi ddim cymaint o lawer am y llaeth a'r 'menyn." Pan glywodd yntau hyn, rhoes ugain swllt at y casgliad. Yr oedd yn rhaid i enwau y deisebwyr y pryd hwnw fod wedi eu hysgrifenu ar groen. Un o'r dynion a fu a'r ddeiseb o amgylch y wlad—yntau hefyd yn un o'r crefftwyr—a adroddai wrthym dro yn yn ol am yr helynt fawr gyda y gwrthwynebiad hwn. Yr oedd ef ei hun ar y pryd newydd briodi, ac yn dechreu byw, ac wedi bod yn wael ei iechyd, ac yn cael ei gaethiwo i'w dŷ y dyddiau y dechreuwyd gweithio y ffordd haiarn. "Pan y daethum allan o'r tŷ gyntaf ar ol dechreu gwella," meddai, "gwelwn y bobl wrthi yn gweithio y ffordd, ac aeth hyny yn saeth at fy nghalon Ond yn lle dyrysu bywoliaeth y trigolion, gwnaeth y ffordd haiarn lawer o les iddynt, a dygodd lawer o gyfleusderau i'r wlad. Rhoddwyd ager—beiriant arni, ac agorwyd hi i deithwyr yn niwedd 1863. Yn 1879 agorwyd Rheilffordd y London a North Western, o gyfeiriad Llanrwst, yr hon sydd yn gampwaith celfyddyd. Ac oddeutu 1883, agorwyd llinell y Great Western, o gyfeiriad y Bala.

Ond ein bwriad oedd rhoddi cipolwg ar agwedd y preswylwyr yn mhellach yn ol na'r digwyddiadau a grybwyllwyd yn y tri pharagraff blaenorol, sef cyn i grefydd, trwy sefydliad yr Ysgol Sabbothol a chyfodiad Methodistiaeth, feddianu y wlad, a newid arferion a chymeriad ei thrigolion. Ychydig o ddigwyddiadau a ffeithiau hanesyddol sydd wedi eu cofnodi am yr hen frodorion. Tuag at gael syniad am eu harferion, rhaid dibynu llawer ar draddodiadau sydd wedi disgyn i lawr, o daid i dad, ac o dad i fab. A dengys y cyfryw draddodiadau mai syml a gwladaidd hynod oeddynt yn y pethau a berthyn i'r fuchedd hon, a thywyll iawn am bethau y fuchedd dragwyddol. Heb ddim cyfoeth i ymffrostio ynddo, ni byddent yn byw yn foethus, ac ni byddent yn gwisgo yn wastraffus, oblegid ni byddai gan feibion y prif amaethwyr ond un suit Sabbothol rhwng dau, ac os byddai y naill frawd yn fwy o gorffolaeth na'r llall, ni byddai dim gwell na gwneyd y suit yn ddigon i'r mwyaf. Ar y defaid a'r geifr y dibynai y trigolion am eu cynhaliaeth, a byddai y gwyr a'r gwragedd yn gwneuthur llawer o'u masnach trwy wau hosanau. Hyny o foddion crefyddol a fwynheid ganddynt, ydoedd yn unig yn y llanau ar y Sabbath, er nad oedd moddion i'w cael yno ond anfynych, ac fel trigolion y wlad yn gyffredin, ar ol bod yn y gwasanaeth boreu Sabbath, elent at y chwareuaethau a arferid yr oes hono, dros weddill y dydd.

Rai blynyddau yn ol, pan yn ysgrifenu i'r Traethodydd ar amryw bethau mewn cysylltiad ag ardaloedd Ffestiniog, Mr. Pierce Davies, Cwmllan, Beddgelert, wedi hyny o Borthmadog, yr hwn oedd yn sylwedydd craff, a'r hyddysgaf o bawb yn hanes trigolion y parthau hyn, a anfonodd i ni, ymysg pethau eraill, y crybwyllion canlynol:—"Mewn perthynas i Ffestiniog, rhyw bur ychydig a welais erioed mewn hen lyfrau am y lle, dim ond yn brin ei enw. Yr wyf yn cofio fy mod un dydd Sadwrn, er's blynyddau lawer yn ol, yn myned adref i Nanmor, a H. S. Jones gyda mi; ac yr oedd rhywun wedi rhoddi llythyr i Hugh, i fyned i Beddgelert, ac fe'i collodd yn rhywle ar yr allt yn agos i dŷ Cwmorthin, a throes yn ei ol i chwilio am dano. Aethum inau i lawr at Siôn Jones, Cwmorthin, i'w aros; ac meddai yr hen ŵr, 'Beth yr oedd Hugh yn troi yn ei ol?' Colli llythyr wnaeth, oedd ganddo i fyned i Beddgelert,' meddwn. Yn enw dyn anwyl, onid oes llawer iawn o drafferth efo rhywbeth felly? Yr ydwyf fi yn cofio, wel'di,' meddai, 'nad oedd o fewn i Blwyf Ffestiniog ddim ond tri a fedrai wneyd llythyr,--Humphra Bumphra oedd yn Glanypwll, a rhywun arall yn Plasmeini, a thad John Davies, Cae'rblaidd, oedd y llall. Yr oedd yr hen ŵr hwn yn fyw wedi pasio y flwyddyn 1860. Hen ŵr o synwyr cyffredin cryf, a chanddo gôf rhyfeddol ydoedd. Medrai, yn ei ffordd ei hun, ddwyn 200 o flynyddoedd o fewn ei gof. Yr oedd ef pan fu farw yn agos i 100 oed, ac yr oedd ei dad yn 95, fel y dengys ei gareg-fedd yn mynwent Ffestiniog. Dull Siôn Jones o draddodi hen adgofion fyddai,—'Mi glywais fy nhad yn dweyd, wedi clywed fy nhaid yn dweyd.' A dyma un o'r pethau hyny. Clywais fy nhad yn dweyd, fod gŵr bonheddig yn byw yn mhlas Tanybwlch, a dywedodd y gŵr bonheddig wrth ei was un bore Sabbath,— Rhaid i ti fyn'd i'r eglwys i Ffestiniog heddyw, i edrych a weli di wr Rhiwbryfdir, a pheri iddo ddyfod a thipyn o arian i mı yr wythnos nesaf.' Wedi i'r gwas ddychwelyd, gofynai, A welais ti ŵr y Rhiwbryfdir?' 'Do.' Beth ddywedodd o?' Dywedodd nad oedd ganddo ddim arian, a pheri i chwi dd'od i ymofyn rhai o'r anifeiliaid oedd yno, os oes arnoch eisiau rhywbeth am eich tir.' 'Wel,' meddai yntau, 'thal hyny ddim i mi, rhaid i ti fyn'd yno eto yfory, a pheri iddo dreio d'od a rhywfaint o arian i mi; y mae arnaf eisiau 17 swllt i fyned i Lundain yr wythnos nesaf.'" Yr oedd yr hen ŵr hefyd wedi cyraedd cryn dipyn o wybodaeth am y byd, ymhell ac yn agos, ac yr oedd rhywun wedi dweyd wrtho fod y ddaear yn troi. Un adeg yr oedd y tywydd yn wlyb iawn er's wythnosau; y pryd hwnw yr oedd un a adwaenai yn dda yn pasio heibio ei dŷ, a gwaeddai arno,—"Pierce, mae nhw yn dweyd fod y ddaear yma yn troi; os ydyw hi yn troi, mae hi wedi sefyll rwan mewn lle gwlyb iawn." Llawer o bethau cyffelyb ellid ddweyd am Siôn Jones a'i hynafiaid, a phethau rhyfedd hefyd ellid eu traethu, er dangos ansawdd cymdeithas ymysg y preswylwyr yn yr amseroedd gynt.

Yr oedd cyflwr yr hen frodorion yn y parthau hyn, fel yn y wlad oll, o ran moesoldeb a chrefydd, yn dra isel a thywyll. O berthynas i agwedd gyffredinol y wlad yn ei harferion a'i moesau, cyn toriad gwawr y diwygiad crefyddol yn y ganrif ddiweddaf, ceir darluniad cywir a chyflawn gan y Parch. John Hughes, yn nechreu y gyfrol gyntaf ar Fethodistiaeth Cymru. Yn gyffelyb i'r darluniad pruddaidd a roddir ganddo ef, yr ydym yn cael fod preswylwyr y bröydd hyn, sef trigolion Trawsfynydd, Penrhyndeudraeth, a Ffestiniog. Nid oedd y Sabbath yn cael mwy o barch ganddynt nag un o ddyddiau eraill yr wythnos, ac nid oedd neb i'w gael a allai oleuo ei gymydog am bethau y fuchedd dragwyddol, oblegid nid oes hanes yn y cyfnod hwn am yr un enaid wedi ei oleuo ei hunan. Yn gwbl mewn tywyllwch a dygn anwybodaeth, ac fel rhai yn breuddwydio y treulient eu dyddiau. Y ffeiriau fyddent y prif gynulliadau, ac un nodwedd arbenig ar ffeiriau y dyddiau gynt fyddai cwerylon ac ymladdfeydd. Ni feddylid am i'r un o'r cynulliadau hyn fyned heibio, heb i ryw ynfytyn herio rhyw ynfytyn arall i ymladd âg ef, a chymerai yr ieuenctyd a'r dynion yn gyffredin ran yn yr ymladdfa, rhai yn pleidio hwn, ac eraill y llall, a'r ymladdwyr wedi ymddiosg hyd yn haner noethion. Mynych iawn y cymerai yr ymladdfeydd crybwylledig le ar ddyddiau eraill, yn enwedig ar ddyddiau gwyl, ac yn aml byddai ardal neu gwm yn cytuno i herio ardal neu gwm arall i ymladd. Gwyl-mabsantau hefyd, y rhai a gynhelid bob amser ar y Sabbath, fyddent yn rhan o'u cynulliadau cyhoeddus. I un o'r cynulliadau hyn yr oedd Griffith Ellis, Pen'rallt, Harlech, yn cyrchu yn llanc ieuanc, pan y galwai heibio Pandy'r Ddwyryd, i ymofyn y ffordd, ac y gofynodd Lowri Williams. iddo, "A fyddi di ddim, fy machgen i, yn ymofyn y ffordd i'r bywyd ar y Sul?" Yr hyn a fu yn foddion uniongyrchol ei dröedigaeth. Eu harfer fyddai cymeryd y Sabbath i drafod eu gorchwylion beunyddiol, ac ystyrid ef ganddynt i fesur fel dydd marchnad; deuent a'u negeseuau at eu cwsmeriaid, a chymerent yr eiddo hwythau yn gyfnewid am danynt, ar ddydd yr Arglwydd. "Dywedai un Richard Owen, gôf o ardal Trawsfynydd, y byddai yn arfer pedoli mwy o geffylau ar y Sabbath na thrwy holl ystod yr wythnos. Os byddai ceffyl gan yr amaethwr wedi colli ei bedol, tybiai mai cyfleusdra manteisiol iddo fyddai cymeryd yr anifail hwnw dano i'r addoliad boreu Sabbath; felly hefyd y gwnai ei gymydogion yr un modd; a llawer o geffylau, gan hyny, a ddygid i'r gôf i'w pedoli ar y Sul. Deallodd Richard Owen, trwy ryw foddion—nid trwy offeiriad y plwyf—nad oedd hyn yn ymddygiad teilwng ar ddydd Duw, a gwrthododd gydsynio i bedoli ceffylau ond ar ddyddiau priodol."[4] Dywedir hefyd i John Prichard, Pandy'r Ddwyryd, priod Lowri Williams, o enwog goffadwriaeth, yr hon y ceir ei hanes mewn penod ddilynol, fod yn foddion i roddi i lawr arferiad ddrwg yn yr un ardal, oddeutu canol y ganrif ddiweddaf. Arferai y panwr oedd yn y lle o'i flaen ef gyrchu a danfon brethynau i bentref Trawsfynydd ar y Sabbath. Y Sul cyntaf y daeth John Prichard i'r pentref, cyrchai y bobl o'i amgylch i ymofyn am eu brethynau a'u gwlaneni. "Deuwch yma ddydd Llun, y Sul yw hi heddyw," ebe yntau. Bu hyn yn ddechreuad marchnad Trawsfynydd ar ddydd Llun, yr hon a barhaodd yn hir felly.

Ymhyfrydai yr ieuenctyd mewn chwareu-gampau, a phob drygfoes a ffynent yr amseroedd hyn, megis y bêl, y bêl droed, ymladd ceiliogod, nosweithiau llawen, interliwdiau, y ddawns, cyfeddach a diota, a'r holl ddrygau cyffelyb, y rhai y medrai hyd yn nod cyfrwysdra tywysog y tywyllwch eu llunio i gyfarfod â chwaeth natur lygredig. Ymgyfarfyddai y werin bobl yn nhai eu cymydogion, pob tŷ yn ei dro, i adrodd a gwrando ystraeon, a chwedlau gwag am fwganod ac ysbrydion, a'r tylwyth teg, a'r hwch ddu gwta." Treulid nosweithiau hirion y gauaf, yn arbenig gan yr ieuenctyd, i adrodd a gwrando y cyfryw chwedlau. Arhosodd dylanwad y pethau hyn yn y wlad am o leiaf ddeugain mlynedd ar ol sefydliad yr Ysgol Sabbothol. Yn Ngoleuad Cymru am Mawrth 1827, mewn byrgofiant am Mr. Richard Jarrett, o Drawsfynydd, yr hwn a dreuliodd ddechreu ei oes yn y fyddin ddu, ond a ddaeth wedi hyny yn un o bererinion Seion, dywedir,—"Ymhyfrydai yn fawr mewn dawns, a chardiau, a chwareuyddiaethâu gwageddol, a difyrwch annuwiol ei gydoeswyr. Ond oddeutu y flwyddyn 1778, pan ydoedd ar ei liniau wrth erchwyn ei wely, ar fedr dywedyd Gweddi yr Arglwydd, yr hon a ddysgasid iddo gan ei rieni, ac y dechreuai ddywedyd 'Ein Tad,' &c., ei gydwybod a'i hatebodd yn y geiriau a ddywedodd ein Hiachawdwr wrth yr Iuddewon—'O'ch tad diafol yr ydych chwi,' &c.; cyrhaeddodd y saeth ei galon, a bu y geiriau am ddyddiau yn brif destyn ei fyfyrdodau. A phob tro y cynygiai ddweyd, 'Ein Tad,' &c., deuai y geiriau hyn fel saethau i'w galon, llanwent ei feddwl â dychryn a braw, cauent ei safn, rhwyment ei dafod, a gwnaent ef megis mudan. Ond fel yr oedd efe yn myfyrio ar y geiriau hyny, wrth farchogaeth i Lanllyfni, torodd y wawr ar ei feddwl, ffodd yr amheuon, darfu y dychryniadau, a daeth tafod y mudan i lefaru yn groew, 'Ein Tad,'" &c.

Arferion anfoesol ac annuwiol fyddai gan yr hen bobl, druain, gyda chladdu y marw. Ni ystyrient hwy ef yn beth ddim allan o'i le i berthynasau agosaf y marw foddi eu teimladau hiraethlon trwy yfed i ormodedd, a meddwi. Gwnelai yr oll a ddeuent i dalu y gymwynas olaf i'r trancedig yr un modd, a pheth cyffredin fyddai i'r offeiriad a ddarllenai y gwasanaeth claddu fod yn feddw. Parhaodd yr hyn a elwid shot gladdu yn hir, ond nid ydym yn gwybod pa bryd y terfynodd yr arferiad. "Ar amser claddedigaeth yn y plwyf (Ffestiniog), arferai y rhan fwyaf fyned a chwech neu swllt gyda hwy, er mwyn myned i'r Efail (tafarndy) i dalu y shotri. Rhoddai pawb fyddai yn bresenol chwech neu swllt i lawr, ac yna byddai y ddiod yn rhydd i bawb yfed ei oreu o honi. Yn 1792, rhoddai Harri Jones, Talybont, overseer y tlodion am y flwyddyn hono, fill i'r plwyf am swllt cwrw y shot yn nghladdedigaeth un Ellis Evans, ac yn nghladdedigaeth gwraig un Evan Jones."[5]

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Mari'r Fantell Wen
ar Wicipedia

Ni byddai y sylwadau arweiniol hyn yn gyflawn heb grybwylliad am heresi a gyfododd dros amser byr, yn y rhan hon. o Sir Feirionydd, ar derfyn y ganrif ddiweddaf. Cofus genym, pan yn dra ieuanc, glywed son mynych am ryw dylwyth hynod wedi bod unwaith yn cael sylw mawr yn Ffestiniog, a'r ardaloedd cylchynol, sef teulu "Mari y Fantell Wen." Ei hanes sydd debyg i hyn.—Daeth Mari Evans, "Mari y Fantell Wen," i'r wlad hon o Sir Fôn, oddeutu y flwyddyn 1780. Gelwid hi wrth yr enw hwn, am ei bod hi a'i chanlynwyr yn gwisgo mantelli gwynion ar y Suliau. Honai ei bod wedi gadael ei gŵr, ac wedi priodi Crist. Cafodd gan amryw bobl dywyll yn ardaloedd y Traeth Bach, Ffestiniog, Penmachno, a manau eraill, y rhai y dywedid eu bod o dan ryw argraffiadau crefyddol, gredu ynddi a dyfod yn ddisgyblion iddi. Antinomiaeth ddigymysg oedd ei daliadau. Byddai hi a'i chanlynwyr yn cadw cyfarfodydd dirgelaidd mewn tai lle yr oedd rhai o'i disgyblion yn byw. Ac ar y Sabbothau, gwelid hwy yn myned allan yn fintai, mewn gwisgoedd gwynion, i ben y bryniau a'r mynyddoedd, a chlywid eu swn gan y trigolion islaw, yn llefain mewn lleisiau tebyg i hyn, Pw! Pw! Hwi! Yr oedd un hen Gristion yn fyw yn 1868, yr hon a welodd y fintai yn myned heibio drws yr Hen Gapel, sef capel cyntaf y Methodistiaid yn Llan, Ffestiniog, ac wrth weled rhai yn myned i'r capel, gwaeddai yr hwn oedd yn blaenori y fintai, "Dacw nhw yn myn'd ar eu penau i uffern." Yn mhentref Ffestiniog lluniwyd Neithior Priodas yr Oen gyda rhwysg a llawenydd mawr; anfonwyd anrhegion i'r dwyll-wraig, gwisgwyd hi yn wych â mantell goch gostfawr ar draul ei chanlynwyr, gan fyned i Eglwys y Plwyf, ac oddiyno i'r dafarn i ddiweddu y Sabbath. Yr oedd Mari wedi perswadio ei chanlynwyr na byddai hi ddim marw. Er hyny marw a wnaeth yn dra thruenus, yn ardal Talsarnau. Cadwyd hi yn hir heb ei chladdu, gan ddisgwyl iddi adgyfodi; ond gyda mawr siomedigaeth, cludwyd ei gweddillion i fynwent Llanfihangel, yn nghymydogaeth Talsarnau. Cymerodd hyn le yn y flwyddyn 1789. Felly ni pharhaodd ei thymor ond yn brin ddeng mlynedd. Glynodd ei disgyblion wrth ei daliadau dros ychydig amser wedi iddi hi farw, ond hwy oll a wasgarwyd, a'u twyll a ddiflanodd o flaen goleuni a gallu yr efengyl. [6]

Nodiadau[golygu]

  1. Hanes Plwyf Ffestiniog, gan Mr. G. J. Williams, F.G.S., tudalen 66.
  2. Traethodydd 1868, tudal. 368.
  3. 3.0 3.1 Hanes Plwyf Ffestiniog, Mr. G. J. W., tudal. 135.
  4. Methodistiaeth Cymru, I., tudalen 55.
  5. Hanes Plwyf Ffestiniog, G. J. W., tudal. 72.
  6. Traethodydd, 1858, tudal. 42. Drych yr Amseroedd, Argrafflad diweddaf, 91.