Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II/Rhag redegwyr y Methodistiaid
← Agwedd y Trigolion | Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II gan Robert Owen, Pennal |
Pandy-y-Ddwyryd → |
PENOD II.
——————
RHAG-REDEGWYR Y METHODISTIAID.
CYNWYSIAD.—Crybwyllion am rai o offeiriaid yr Eglwys Sefydledig —Ymweliad yr Esgob Baily—Hugh Llwyd, Cynfal—Morgan Llwyd o Wynedd—Edmund Prys.
RTH y rhag-redegwyr y golygir y rhai a fu fel dysgawdwyr yn arwain y bobl ac yn eu dysgu mewn crefydd, yn flaenorol i'r Methodistiaid. Ni pherthyn i ni yn y benod hon roddi hanes tebyg i fanwl am y cyfryw, ond yn unig grybwyll am y personau a fu, naill ai yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol yn dylanwadu ar y wlad, er ei moesoli a'i chrefyddoli. Pe yr enwid hwy oll, ni byddent, yn sicr, ond ychydig nifer. At yr Eglwys Wladol yr ydym i edrych am danynt gyntaf, oblegid yn ei meddiant hi yr oedd gofal eneidiau y bobl, cyn cyfodiad Ymneillduaeth. Ond hysbys ydyw na ddeffrowyd mohoni hi, hyd nes y deffrowyd y wlad trwy offerynau eraill. Nid oedd dim yn cael ei wneyd ganddi hi, yn ol yr hanes a gawn o bob cyfeiriad, i ymlid y tywyllwch ymaith, ac nid oedd arweinwyr y bobl mewn moesoldeb a chrefydd ddim uwchlaw y bobl eu hunain, ond yn hytrach yr oedd yr un fath bobl ac offeiriaid." Yn y rhestr â geir o offeiriaid plwyf Ffestiniog o 1550 i 1800, ac eithrio Edmund Prys, Archddiacon Meirionydd, nid oes son am yr un o honynt wedi gwneuthur cymaint o ddaioni i'r plwyfolion, fel ag i beri fod eu henwau mewn coffa ymysg eu holynwyr. A mwy na hyn, ymysg yr offeiriaid a ddiswyddwyd trwy Weithred Seneddol yn y plwyf yn 1649, oherwydd eu drwgfuchedd, eu hanghymwysder i'w gwaith, a'u hesgeulusdra, trowyd allan un Henry Thomas, o fywoliaeth Ffestiniog a Maentwrog. Dywedir am yr esgob Humphreys, yr hwn a anwyd yn yr Hendref, Penrhyndeudraeth, Tachwedd 1648, a'r hwn a fu yn beriglor Llanfrothen, ac wedi hyny yn dal bywoliaeth Trawsfynydd, ei fod yn ŵr dysgedig ac enwog, a hynod o grefyddol. Cyfododd enwogion eraill o ardal Trawsfynydd, megis y Parchn. David Llwyd, A.C., a anwyd yn Pantmawr, yn y flwyddyn 1635; Humphrey Llwyd, D.D., a anwyd yn Bod y Fuddau, yn 1610, ac a gysegrwyd yn esgob Bangor yn 1673; Richard Nanney, o Cefndeuddwr, yr hwn a gafodd ficeriaeth Clynog Fawr yn 1732—y rhai oeddynt wyr da, ond ni threuliasant eu hoes yn yr ardaloedd hyn.
Cyhoeddwyd yn yr Archæologia Cambrensis am Hydref 1863, adroddiad o ymweliad a wnaeth Dr. Lewis Baily, esgob Bangor, â gwahanol blwyfydd ei esgobaeth, yn y flwyddyn 1623. Ymhlith y crybwyllion am Sir Feirionydd, ceir a ganlyn:—
LLANDECWYN A LLANFIHANGEL-Y-TRAETHAU.
Ni chafwyd ond un bregeth yn Llanfihangel-y-Traethau, a dim ond dwy neu dair yn Llandecwyn, ac nid yw y person yn cyfranu dim at gynhaliaeth y tlodion.
TRAWSFYNYDD.
Y mae yn arferiad yn y plwyf hwn i osod cyrff i lawr ar y croesffyrdd, wrth eu cymeryd i'w claddu, a dweyd gweddi neu ddwy uwch eu penau. Syr Robert Llwyd yw y person yma. Arferid y gair Syr y pryd hwnw o flaen enw yr offeiriaid yn gyfystyr a'r gair Parchedig yn ein hoes ni. Yr oedd yr arferiad o roddi y cyrff i lawr mewn croesffyrdd, wrth eu dwyn i'r gladdfa, yn cael ei dilyn mewn llawer o ardaloedd yn Nghymru yn yr oesau gynt. Un o ofergoelion yr amseroedd ydoedd. Oddiwrth y cyfeiriad at anamlder y pregethau, gellir casglu mai esgeulus iawn o'u dyledswyddau oedd yr offeiriaid. Ac oddiwrth y dyfyniad mewn perthynas i'r tri phlwyf uchod, tebygol ydyw mai cyffelyb ydoedd yn y plwyfi eraill. Gwnaed yr ymweliad uchod gan yr Esgob Baily, fel y gwelir, flwyddyn cyn marw Archddiacon Meirionydd. Nid oes dim crybwylliad yn yr adroddiad am Ffestiniog a Maentwrog. Y mae lliaws o leoedd eraill hefyd heb ddim crybwylliad am danynt. Y rheswm am hyn, cyn belled ag yr ydym yn deall ydyw, mai wedi myned ar goll yr oedd rhanau o'r adroddiad cyn ei gyflwyno i'r wasg yn 1863.
Y mae enwau tri o wyr enwog wedi disgyn i lawr i'r oes bresenol, y rhai, yn bur sicr, a adawsant eu hol ar eu cydoeswyr, a'r rhai hefyd, yn yr ystyr hwn, a barotoisant y ffordd i'r rhai oedd yn dyfod ar eu hol i addysgu y wlad.
HUW LLWYD, CYNFAL.
Bardd enwog oedd Huw Llwyd, yn trigianu yn Nghynfal, hen balasdy yn mhlwyf Maentwrog, ond ar derfyn plwyf Ffestiniog. Yr oedd "braint" Cynfal yn hen Eglwys Blwyfol Ffestiniog, ac nid Maentwrog.[1] Ganwyd ef oddeutu 1540, a bu farw yn ei gartref yn 1620, yn 80 mlwydd oed. Derbyniodd ei addysg yn Nolgellau, ac fe ddaeth yn ysgolhaig gwych. Gwasanaethodd fel swyddog yn y fyddin yn Lloegr ac ar y Cyfandir. Ceir cyfeiriadau yn ei farddoniaeth ef ei hun at y gwledydd y bu yn eu teithio. Y mae yn nghanol yr afon a red gerllaw Cynfal, mewn ceunant rhamantus, gruglwyth o graig, pymtheg neu ddeunaw troedfedd o uchder, a adwaenir fel "Pulpud Hugh Llwyd," lle y dywed llafar gwlad yr elai i fyfyrio. Yr oedd Hugh Llwyd, yn sicr, wedi arfer myfyrio, lle bynag y gwnaeth hyny, oblegid yr oedd yn llenor gwych yn gystal a bardd o fri. Cyhoeddwyd rhai o'i weithiau, ond y mae y rhan fwyaf o honynt wedi eu trosglwyddo i lawr i'r oes hon mewn llaw-ysgrifen, ac yn cael eu cadw yn yr Amgueddfa Brydeinig, a lleoedd eraill. Canodd prif feirdd yr oes yn odidog ar ei ol. Gwnaeth Edmund Prys, yr hwn oedd yn cyd-oesi ag ef, yn gyfaill ac yn gymydog agosaf iddo, yr englyn canlynol ar ei farwolaeth:—
"Pen campau doniau a dynwyd—o'n tir,
Maentwrog ysbeiliwyd ;
Ni chleddir, ac ni chladdwyd,
Fyth i'r llawr mo fath Huw Llwyd."
MORGAN LLWYD, O WYNEDD.
Yr oedd yntau o deulu Cynfal,—mab, medd rhai, nai neu wyr, medd eraill,—i'r enwog Huw Llwyd. Erys cryn lawer o ansicrwydd ynghylch hyn. Ond fe gyrhaeddodd ei ddylanwad ef er daioni ar ei gydwladwyr yn eangach nag eiddo ei berthynas enwog yn ol y cnawd. Y dystiolaeth gyffredin ydyw, ei fod yn un o ddynion goreu ei oes, ac eto ychydig, mewn cymhariaeth, sy'n wybyddus am helyntion ei fywyd. Y crynhodeb goreu, yn ddiau, ydyw yr hyn a geir yn y Rhagarweiniad gan y Parch. O. Jones, B.A., Liverpool, i Lyfr y Tri Aderyn, a gyhoeddwyd gan Mr. Isaac Foulkes, yn 1889. Ganwyd Morgan Llwyd tua'r flwyddyn 1619, fel y tybir, yn Nghynfal. Gelwir ef gan ysgrifenwyr y Gogledd yn "Morgan Llwyd o Gynfal," a chan ysgrifenwyr y Deheudir, "Morgan Llwyd o Wynedd," am yr ystyrid ef yn brif efengylwr i drigolion Gwynedd, a'r penaf o efengylwyr Ymneillduol y dalaeth Ogleddol. Argyhoeddwyd ef o dan weinidogaeth Walter Cradoc, yn Ngwrecsam, pan yr oedd ef yno yn yr ysgol. Cymerodd hyn le tua'r flwyddyn 1635, tra nad oedd ond 16 oed. Ymroddodd yn fuan i'r weinidogaeth. Yr oedd yn meddu ar alluoedd naturiol cryfion, cafodd addysg dda, ac yr oedd o dueddiadau crefyddol a duwiolfrydig. Treuliodd y rhan fwyaf o'i amser fel gweinidog yn Ngwrecsam, ond elai ar deithiau mynych trwy Ogledd Cymru, a bu yn foddion i sefydlu eglwysi Ymneillduol mewn amryw fanau. Y mae traddodiad y byddai yn ymweled yn fynych â Phwllheli, ac yr arferai fyned trwy y dref ar ddyddiau marchnad, a'r Beibl yn ei law, a golwg hynod o urddasol arno, fel yr effeithiai yn fawr ar y bobl, hyd yn nod yn nghanol eu gorchwylion.
Dywed Robert Jones, Rhoslan (Drych yr Amseroedd)—"Un tro pan oedd yn pregethu yn mhentref Ffestiniog, a bod yno ymysg amryw oedd yn cellwair ac yn gwawdio, un dyn ieuanc yn rhagori arnynt oll mewn ysgafnder a chellwair; wrth sylwi arno nododd ef allan, gan ddywedyd wrtho fel hyn, 'Tydi, y dyn ieuanc, gelli adael heibio dy gellwair; tydi yw y cyntaf a gleddir yn y fynwent yna.' Ac felly y bu." Hysbys ydyw iddo lefaru llawer o bethau tebyg trwy broffwydoliaeth, a daethant i ben fel y llefarodd hwynt. Yr oedd yn bregethwr poblogaidd, ac yr oedd nerth rhyfedd yn ei weinidogaeth. Priodol iawn y gellid cymhwyso ei eiriau yn Llyfr y Tri Aderyn ato ef ei hun,— "Mae rhyw nerth ymysg dynion yr awrhon nad oedd o'r blaen. Mae rhyw ysbryd rhyfedd yn gweithio, er nad yw y bobl yn gweled." Yr oedd yn byw mewn amseroedd cythryblus, a bu yn ffoadur yn Lloegr, o'r lle yr anfonodd lythyrau tra dyddorol at ei berthynasau yn Nghymru. Cytuna ei gydoeswyr a'r rhai a oesent ar ei ol i'w osod allan fel prif efengylwr a chymwynaswr ei wlad. Dywed y Parch. John Evans, o'r Bala, trwy Mr. Charles am dano,— "Gwr tra enwog yn ei oes oedd Morgan Llwyd; o gyneddfau cryfion, dwys fyfyrdod, a symlrwydd duwiol." Bu farw Mehefin 3ydd, 1659, yn 40 mlwydd oed. Claddwyd ef yn mynwent Ymneillduol Rhosddu, gerllaw Wrecsam. Ysgrifena y Parch. John Hughes yn Methodistiaeth Cymru,-" Dywed Robert Jones, Rhoslan, yn Nrych yr Amserosdd, iddo ef weled darn o gareg ei fedd, a'r llythyrenau 'M. Ll.' arni. Gallaf finau dystio yr un peth; cyfeiriwyd fy sylw aml waith at y darn careg, gan yr hen wr fyddai arferol o dori beddau yno." Cyfansoddodd amryw lyfrau. Y penaf a'r hynotaf ydyw Llyfr y Tri Aderyn, yr hwn sydd wedi ei ysgrifenu ar ddull ymddiddan rhwng yr Eryr, y Gigfran, a'r Golomen; y rhai a osodant allan Cromwell, yr Eglwys Sefydledig, a'r Anghydffurfwyr.
Ni welsom yn un man fod haneswyr yn rhoddi ei hanes yn pregethu i'w gyfoedion yn ei ardal enedigol, oddieithr yr un crybwylliad am dano yn pregethu yn mhentref Ffestiniog. Ond diameu i ŵr mor rhagorol ag ef fod yn pregethu yno lawer gwaith heblaw y tro hwnw.
EDMUND PRYS, ARCHDDIACON MEIRIONYDD.
Ysgrifenwyd llawer o bryd i bryd am yr Archddiacon, ac am ei weithiau barddonol clodfawr. Ganwyd ef yn y Gerddi Bluog, plwyf Llanfair, ger Harlech, yn y flwyddyn 1511. Gwnaed camgymeriad gan rai ysgrifenwyr, trwy roddi y Gerddi Bluog yn mhlwyf Llandecwyn, ond yn mhlwyf Llanfair y mae. Fel hyn y dywedir yn Llyfrgell Hynafiaethol Tan-y-bwlch: "Yr Archddiacon oedd fab Tyddyndu, Maentwrog, ac a anwyd yn y flwyddyn 1541. Efe a aeth i fyw yn y Gerddi Bluog, yn mhlwyf Llanfair, ar briodas ei ail fab, Morgan Prys, â Margaret Williams, etifeddes y Gerddi Bluog. Fei claddwyd yn Maentwrog, heb unrhyw gof-lech, yn y flwyddyn 1624."
Saif Tyddyn Du, hen gartref yr Archddiacon, yn ymyl y groesffordd, lle y troir i lawr i Maentwrog wrth fyned ar hyd. y ffordd fawr o Drawsfynydd, ac yn agos i Orsaf bresenol Maentwrog Road. Y mae hefyd yn ffinio â Chynfal, o enwog goffadwriaeth. Yr oedd Huw Llwyd a'r Archddiacon yn cyd-oesi, bron yn hollol; ond pump oed oedd Morgan Llwyd pan fu y diweddaf farw. Addysgwyd Edmund Prys yn Ngholeg St. Ioan, Caergrawnt, lle y graddiwyd ef yn A.C. Penodwyd ef i berigloriaeth Ffestiniog a Maentwrog yn y flwyddyn 1572; yn 1576, ordeiniwyd ef yn Archddiacon Meirionydd; yn 1580, cafodd bersonoliaeth Llanddwywe; a Hydref 8fed, 1602, ordeiniwyd ef yn Canon (Canonicus Secundus) Llanelwy. Yr oedd yn un o feirdd Cymreig enwocaf ei oes, ac yn ysgolhaig gwych. Y mae llawer o'i ysgrifeniadau yn awr ar gael, mewn ysgrifen yn unig, er fod llawer o honynt hefyd wedi eu cyhoeddi. Mae yn amlwg, hefyd, ei fod yn ddysgedig, gan y dywedir ei fod yn hyddysg mewn wyth o ieithoedd. Yr oedd yn berthynas-nai, fab cyfyrder, meddir-i William Salsbri, cyfieithydd cyntaf y Beibl i'r iaith Gymraeg. "Dywed Dr. Morgan yn ei lythyr wrth gyflwyno y Beibl i'r Frenhines Elizabeth, nas gallasai ef byth gyfieithu ond pum' llyfr Moses yn unig, oni buasai iddo gael cynorthwy gan Edmund Prys ac eraill. A dyma englyn a wnaeth Edmund Prys ei hun pan fygythid ef gan y Pabyddion am gynorthwyo y Dr. Morgan i gyfieithu y Beibl i'r Gymraeg—
"Nid all diawl, na'r hawl sy'n rheoli—drwg,
Na dreigiau na chyni,
Na dim wneyd niwed imi,
Ag a Duw mawr gyda mi."[2]
Gweithiau barddonol Edmund Prys a roddodd enwogrwydd iddo yn yr oes yr oedd yn byw ynddi. Ysgrifenodd yn agos i 60 o Gywyddau ymryson rhyngddo â William Cynwal. Mor llymion oedd rhai o honynt fel y dywedir iddynt fod yn achos o farwolaeth ei wrthwynebydd. Cyn gynted ag y clywodd yr Archddiacon hyn, cyfansoddodd farwnad i William Cynwal, yn yr hon y dywed:—
"Duw'n ei gofl, da iawn gyflwr
Doe aeth ag ef, doethaf gwr
I eisteddfod Crist a'i noddfa,
Llys deg llawn ewyllys da.
Oddiyno ni ddaw enyd,
Ond teg yw, awn ato i gyd."
Ond campwaith Edmund Prys, a'r hyn a wnaeth ei enw yn glodfawr gan y genedl Gymreig, oedd troi y Salmau ar gân. Y mae ynghylch 20 o wahanol argraffiadau or "Salmau Cân" wedi ymddangos. Yr oedd wedi cael y fath afael ar y genedl fel yr erys rhai o'i ddywediadau yn ddiarhebion ymysg y Cymry, megis y ddwy linell ganlynol o'i "Gywydd ar Helynt y Byd:"-
"Rhaid i'r gwan ddal y ganwyll
I'r dewr i wneuthur ei dwyll."
"Yr oedd Edmund Prys," ebe Mr. Charles, o'r Bala, yn y Drysorfa Ysbrydol, "yn un o'r gwyr mwyaf dysgedig, a'r prydydd hynotaf yn ei oes; ac y mae amryw o'i gyfansoddadau ar gael eto: y mwyaf hynod o honynt yw ei ddadleuaeth brydyddol efo William Cynwal. Ond nid yw ei ymryson prydyddol hwn ddim mor addas i gyfieithydd ardderchog y Salmau ag y byddai yn ddymunol er adeiladaeth."
Y tri wyr hyn, yn ddiamheuol, a adawodd yr argraffiadau dyfnaf, er daioni, ar y rhan yma o Sir Feirionydd, o bawb yn eu hoes. Ac nid ydym yn gwybod am neb arall a fu yn amlwg o blaid rhinwedd a chrefydd cyn dechreuad y diwygiad crefyddol trwy y Methodistiaid.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Hanes Plwyf Ffestiniog, G. J. W., tudal. 222,
- ↑ Enwogion Swydd Feirionydd, Mr. Edward Davies, 40.