Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II/Pandy-y-Ddwyryd

Oddi ar Wicidestun
Rhag redegwyr y Methodistiaid Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II

gan Robert Owen, Pennal

Dechreuad yr Achos yn Penrhyndeudraeth

PENOD III.

PANDY-Y-DDWYRYD.

CYNWYSIAD.—Darluniad o'r fro—Ei hanghenion ysbrydol— Symudiad Lowri Williams o Bandy-Chwilog i Bandy-y-Ddwyryd—Yn foddion troedigaeth Griffith Ellis, Pen'rallt—"Teulu Arch Noah"—Y cyniwair ir Pandy—Lowri Williams yn gweinyddu yr ordinhad—Erlid y crefyddwyr—Llythyr cyfreithiol—Marwolaeth Lowri Williams—Edward Roberts, Vicar Crawgallt.

"Dywedir i lafur un wraig o'r enw Lowri Williams, o Bandy-y-Ddwyryd, fod yn foddion i blanu deunaw o eglwysi yn y rhan hono o Sir Feirionydd, sef yn nghymydogaethan y Penrhyn, Maentwrog, Trawsfynydd, &c., y rhai a gynyddasant yn ei hoes hi, i fil o aelodau."—Methodistiaeth Cymru, I., 293.

 LE anghyfanedd ac anghysbell ydyw Pandy-y-Ddwyryd, a'i safle megis o'r naill du, rhwng Trawsfynydd a Maentwrog. Nid ydyw yn agos i un dramwyfa yn yr oes hon. I ddangos y fan mor eglur ag y gellir; pe yr elai y darllenydd oddeutu dwy filldir oddiwrth Orsaf Maentwrog Road, i gyfeiriad y mynydd rhyngddo â Dyffryn Ardudwy, fe ddeuai wrth odreu y mynydd i'r llecyn y saif Pandy-y-Ddwyryd arno. Nid oedd, saith ugain mlynedd yn ol, yn fwy neillduedig na thyddynod eraill yr ardaloedd hyn, ac nid oedd yn fwy anhawdd cyrchu ato na hwythau; ond yn awr ystyrir ef yn un o'r cilfachau mwyaf anghysbell yn yr amgylchoedd. Nid oes waith i'r panwr ynddo fel yn yr hen amser; nid yw yr ardalwyr yn cyrchu yno am eu brethynau a'u gwlaneni; ac anfynych y mae hyd yn nod y cymydogion agosaf yn croesi y corsydd gwlybyrog tuag at y bwthyn anghyfanedd. Ond y mae hynodrwydd yn perthyn i'r lle er hyny, nas gallodd helyntion y ganrif aeth heibio mo'i wisgo ymaith, ac nis, gall ychwaith holl ddigwyddiadau canrifoedd i ddyfod wneyd hyny. Dyma fan cychwyniad crefydd ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd yn y parthau hyn o Sir Feirionydd.

Pan roddwyd y cychwyniad hwn i grefydd, trwy ddyfodiad Lowri Williams i drigianu i Bandy-y-Ddwyryd, yr oedd 131 o flynyddoedd wedi myned heibio er pan fuasai farw Edmund Prys, Archddiacon Meirionydd, a chan' mlynedd ond pedair er amser marwolaeth Morgan Llwyd o Wynedd. Beth oedd cyflwr y wlad yr holl flynyddau hyn? Nid oes ond un ateb i'w roddi, sef fod tywyllwch ac anwybodaeth wedi ei gordoi, a'i thrigolion wedi eu llwyr adael, heb neb yn gwneuthur ymdrech i ddangos iddynt y ffordd i'r bywyd. Nis gallwn lai na choledd y gobaith ddarfod i lawer o wrandawyr gŵr mor rhagorol a'r hwn a drôdd y Salmau ar gân, a chynorthwy-ydd y Dr. Morgan i gyfieithu yr Ysgrythyrau, gael eu dwyn i adnabod y Gwaredwr. Ond ar ol yr Archddiacon, nid ydym yn cael hanes am neb yn y fro hon yn cyfodi bys na llaw, er gwneuthur ymdrech i oleuo y bobl am bethau y fuchedd dragwyddol. Hyn sydd sicr, mai yn y cyfnod hwn, trwy gyfraith Seneddol yn amser Cromwell, y trowyd allan o'r llanau plwyfol yn y dywysogaeth chwech ugain o offeiriaid, "oherwydd anwybodaeth, segurdod, ac anfoes," ac yr oedd offeiriad plwyfi Maentwrog a Ffestiniog yn un o'r chwech ugain. Gellir canfod oddiwrth y pethau yma pa mor isel oedd crefydd yn y plwyfi hyn a'r wlad o amgylch. Heblaw hyny, ceir awgrymiadau pendant yn hanes y wraig ragorol a fu yn foddion yn llaw rhagluniaeth i roddi ysgogiad i'r diwygiad crefyddol, fod arferion pobl y wlad yn yr amgylchoedd yn ei dyddiau hi yn llygredig ac annuwiol. Rhoddwn hanes y cychwyniad yn llawn, fel yr ysgrifenwyd ef oddeutu y flwyddyn 1850:—

"1755. Tua'r amser yma yr ymddengys i ryw gychwyniad bychan gymeryd lle ar Fethodistiaeth yn yr ardaloedd rhwng Penrhyndeudraeth a Thrawsfynydd. Nid wyf yn cael fod un lle yn Sir Feirionydd ond y Bala, wedi achlesu y penau cryniaid yn foreuach na'r fro hon. A gwnaed hyny trwy offerynoldeb gwraig, o sefyllfa gyffredin, ond o ysbryd rhagorol, a duwioldeb nodedig. Yr oedd Methodistiaeth eisoes wedi dechreu ymwreiddio yn Sir Gaernarfon, tuag ardal Brynengan, nid ymhell o Bwllheli. Yn yr ardal hon yr oedd gwr o'r enw John Prichard, yn byw yn Pandy-chwilog, plwyf Llanarmon; yr hwn oedd wr moesol a diachwyn arno, ac i'r hwn yr oedd gwraig wir grefyddol, ac mewn undeb â'r Methodistiaid yn Mrynengan, o'r enw Laura, neu Lowri Williams. Ac er nad oedd John Prichard ei hun mewn undeb eglwysig, eto fe ymddengys ei fod yn arfer gwrando ar y Methodistiaid, ac ni fynai roddi hyny heibio. Y canlyniad fu, iddo orfod ymadael â Phandy-chwilog, oblegid nad ymddiosgai yn llwyr oddiwrthynt. Agorodd rhagluniaeth ddrws i John Prichard a'i wraig i fyned i Bandy-y-ddwyryd, yn mhlwyf Maentwrog, Sir Feirionydd. Yr oedd Lowri Williams, erbyn hyn, mewn lle anfanteisiol iawn i fwynhau y moddion a ystyrid mor werthfawr ganddi, ond yr oedd yn lle, er hyny, a roddai fantais iddi wneuthur llawer iawn o ddaioni. Nid oes hanes am neb o gyffelyb feddwl iddi o fewn llawer iawn o filldiroedd, ar law yn y byd. Yr oedd iddi tua 15 milldir i Frynengan, ar y naill law, a thua 18 milldir i'r Bala ar y llaw arall. Nid hawdd ydyw ffurfio dychymyg teilwng am deimladau meddwl y wraig hon dan y fath amgylchiadau. Llosgai ei henaid gan awydd i ordinhadau Duw, ond nid oeddynt i'w cael o fewn llawer o filldiroedd meithion; sychedig oedd ei hysbryd am gymundeb y saint, ond nid oedd un yn agos ati; dyheai am gyfarwyddyd a chyngor, ond nid oedd un yn y teulu, nac yn y wlad, a allasai ei roddi iddi; eiddigeddai yn achos sefyllfa isel a thruenus chymydogion, ond beth a allai gwraig ei wneuthur? Nid oedd bregethwr yn nes na Lleyn neu y Bala; nid oedd nac Ysgol Sabbothol na llyfr yn mron ar gael i oleuo gradd ar y gaddug dywyll. Yr oedd y rhagfarn, hefyd, yn erbyn y crefyddwyr mor gryf yn yr amgylchoedd hyn ag yn ei bro ei hun; ac os dangosai yn amlwg, trwy ryw gais o eiddo ei hawyddfryd, i ddwyn y penau-cryniaid i'r wlad y daethai hi iddi, ac yn yr hon nid oedd eto ond dieithr a diamddiffyn, pa sarhad ac anfri ni allai ddisgwyl i ddymchwel yn genllif aruthrol arni ac ar ei theulu. Dan y fath amgylchiadau, yr oedd yn dra anhawdd iddi ymarfogi yn ddigon gwrol i wneuthur cais at unrhyw beth yn yr achos; a phe teimlai ei hunan yn ddigon penderfynol ei meddwl i wneuthur cais at hyny, yr oedd yn anhawdd dychymygu pa beth a wnai, a pha. fodd. Ond yn ei sefyllfa hi, fe wirwyd y ddiareb, Wele faint o ddefnydd y mae ychydig dân yn ei enyn!' Trwy ryw foddion neu gilydd, hi a gafodd gan ryw rai ddyfod yn awr ac eilwaith i Bandy-y-ddwyryd i bregethu, a bendithiodd Duw ymddiddanion Lowri Williams, a phregethau achlysurol ei weision, i enill ryw nifer ychwanegol ati. Mae ein hanes yn brin iawn ynghylch y dull a'r modd yr ymosodwyd ar y gwaith da,—pwy oedd y pregethwyr, nac o ba le y daethant;. ond y mae genym hanes am un amgylchiad nodedig y bu y wraig hon yn offeryn i ddychwelyd un llanc ieuanc gwyllt at Dduw, yr hwn a fu ar ol hyny yn nodedig ddefnyddiol, yntau hefyd, yn ei ardal, i rwyddhau mynediad yr achos yn ei flaen.

Yr oedd Lowri Williams yn arfer tori at bawb, y rhoddid cyfleustra iddi i wneyd hyny, am bethau crefydd. Ni adawai lonydd i neb, ac ni ollyngai un cyfleusdra i fyned heibio, heb geisio gwneyd defnydd o hono i'r diben hwn; ac ni ollyngai yn angof, ychwaith, ddyrchafu ei hochenaid at Dduw am fendith ar yr ymddiddanion, i wneuthur lles i eneidiau dynion. Crybwyllasom fwy nag unwaith eisoes am enw un Griffith Ellis, Pen-yr-allt, gerllaw Harlech. Gŵr oedd hwn a fu o wasanaeth arbenig i achos yr efengyl yn ei fro, ac i'r wraig hon, fel moddion, yr oedd yn ddyledus am ei ddychweliad at Dduw. Ryw Sabbath, pan yn ieuanc, ac yn cyrchu, fel ieuenctyd y wlad yn gyffredinol, i ryw gyfarfod llygredig neu gilydd, fe ddaeth heibio Pandy-y-Ddwyryd, ar ei ffordd i'r ymgynulliad; ond gan fod afon yn croesi ei lwybr, ac yntau yn anadnabyddus o'r lle goreu i'w chroesi, troes i dŷ Lowri Williams i ofyn iddi ei gyfarwyddo at y sarn. Hithau, gyda phob parodrwydd, a aeth gydag ef i ddangos iddo y lle, ac wrth fyned a ofynodd iddo,—

"Wel, fy machgen i, a fyddi di ddim yn ymofyn y ffordd i'r bywyd ar y Sul?'

"Na fydda i," meddai yntau, nac yn gofalu am ddim o'r fath beth.' "Tyr'd yma y pryd a'r pryd,' ebe y wraig, 'fe fydd yma ŵr yn dangos y ffordd i'r nef.'

"Na ddeuaf fi yn wir,' ebai yntau;—ac i ffordd ag ef, yn fwy ei fryd am bleser y chwareu-gamp ynfyd, nag oedd ei ofal am ddim o'r pethau hyny. Ar yr un pryd, yr oedd y saeth wedi cyraedd ei gydwybod. Swniai y gofyniad, a fyddi di yn ymofyn am y ffordd i'r bywyd?' yn ei glustiau yn fynych, fynych, ac nid allai gael llwyr lonyddwch oddiwrtho. Parai ymofyniad yn ei fynwes pa ffordd a allai y ffordd i'r bywyd fod; a pha fywyd a allai hwn fod? Yr oedd gweddi Lowri Williams wedi pwyo yr hoel i'w arlais, ac ni pheidiodd ei waedu nes ei ladd trwy argyhoeddiadau. Taflwyd hedyn gwirionedd pwysig yn y modd yma i'w feddwl, a gwlychwyd yr hedyn hwnw â gweddiau y wraig dduwiol, nes iddo wreiddio yn ddwfn a ffrwytho yn helaeth. Dywedasai wrthi hi na ddeuai efe i wrando ar y pregethwr; ac nid oedd ar y pryd yn bwriadu dyfod yn agos at y fath bobl, ac ar y fath neges. Ond nid oedd lonyddwch i'w gael, a pha beth a wneid? Yr oedd ei enaid yn gwaedu gan drallod ac ing, ac yn dyheu am orphwysdra; yr oedd yn rhaid ysgogi yn rhyw gyfeiriad. Penderfynodd, pa fodd bynag, i fyned i wrando pa beth a allai fod gan y gwr i'w ddweyd ynghylch y ffordd i'r bywyd.' Yno hefyd yr aeth, ac nid ofer fu ei fynediad. Goleuwyd ef am ei gyflwr colledig, ac am drefn Duw i gadw y colledig, nes iddo benderfynu llwyr adael ei hen gyfeillion a'i arferion gynt, ac i ymroi i wasanaeth yr Iesu am ei oes. A gwas ffyddlawn yn yr holl dŷ a fu. Hwn oedd y gŵr y dywedasom iddo ollwng y wedd pan yn aredig yn y maes ganol dydd, a myned ugain milldir ar ei draed, i grefu ar bregethwr i ddyfod i'r ardal y Sabbath canlynol; hwn hefyd yw y gŵr y byddai offeiriad anystyriol ei blwyf ofn ei gyfarfod gan amlyced oedd ei dduwioldeb, a chan hallted oedd ei ymadroddion. Fe fu Griffith Ellis yn fendith fawr yn ei ardal ei hun, ac nid yn unig yn ei ardal ei hun, ond yn y rhai cymydogaethol hefyd, ac y mae ei enw yn beraroglaidd hyd heddyw yn ei fro enedigol.

Er fod dychweliad Griffith Ellis ei hun o werth annrhaethol iddo ei hun, ac o ddefnyddioldeb mawr i achos yr efengyl, eto nid hyn oedd yr unig les a ddeilliodd o gynghorion Lowri Williams; ond ymestynodd ei dylanwad yn mhellach, a bendithiwyd ei hymdrechion i raddau llawer mwy. Trwy ei dylanwad crefyddol hi yn ei theulu, y gwnaed ei gŵr yn foddion i dynu i lawr yr halogiad gwrthun oedd ar y Sabbath yn Nhrawsfynydd. Ymhen rhyw amser, casglodd wyth at eu gilydd i ffurfio cymdeithas eglwysig fechan, ac yn ei thŷ hi y cynhelid y moddion hyn. Gelwid y gymdeithas hon Teulu Arch Noah,' oblegid wyth enaid oedd o honynt. Eu henwau oeddynt, Lowri Williams a'i nith Gwladys Jones; Edward. Roberts, y gwehydd (wedi hyny yn bregethwr), a'i wraig ; Robert ei frawd a'i wraig; a John Humphreys, Gwylan, a'i ferch. Chwanegwyd atynt cyn hir bump eraill, yn mysg y rhai yr oedd Griffith Ellis y soniwyd eisoes am dano. Yr oedd. yr ychydig nifer hyn yn preswylio yn mhell oddiwrth eu gilydd,—un gerllaw Harlech; un arall yn mhlwyf Llanfrothen; un arall yn Ffestiniog; ac un arall yn Nhrawsfynydd. Yr oeddynt fel pe gwasgerid hwy yn fwriadol, fel y chwelid perarogl yr efengyl a hyny yn fwy ar led, ac y rhoddid iddynt. gymaint a hyny o fantais i fod yn fwy defnyddiol i ledaenu achos yr efengyl yn y wlad."—Methodistiaeth Cymru, I., 496 499.

Oddiwrth yr hanes uchod, gallwn gasglu yn bur sicr mai i Ffestiniog yr oedd y gwr ieuanc, y bu Lowri Williams yn ei gynghori, yn myned; a chan mai y Sabbath oedd hi, tra thebyg ydyw mai Gwylmabsant a gedwid yno oedd y cyfarfod llygredig y cyrchai y llanc iddo. Yr oedd wedi dyfod y boreu Sabbath hwnw, ar hyd yr hen ffordd, a'r unig ffordd y pryd hwnw, os oedd yno ffordd er hyny, trwy Landecwyn, a phentref Brynbwbach, ac yna heibio i gapel presenol Llenyrch, ac uwchlaw cŵr uchaf Rhaiadr Du, nes yr oedd ar unwaith wrth dy Pandy-y-Ddwyryd. Hono oedd y ffordd unionaf, er mor arw ydoedd, o'i gartref, gerllaw Harlech, i Ffestiniog. Cawn ddychwelyd eto i adrodd hanes y llanc hynod hwn, ac i sylwi ar y personau eraill a ddeuent o bellder ffordd, i wneyd i fyny "deulu yr arch." "Onid yw yr un ffunud a gwaith Duw? Gwelwch fel y mae Efe yn goleuo un ganwyll yn Harlech, un arall yn Llanfrothen, y drydedd yn Nhrawsfynydd, a'r bedwaredd yn Ffestiniog. Yr oedd hyn yn arwydd fod Duw am lanw yr holl ardaloedd hyn âg efengyl Crist."[1] Nid oes dim yn fwy eglur yn yr hanes na bod llaw Rhagluniaeth ddwyfol i'w gweled drwyddo oll. Llai na 150 o flynyddoedd sydd er pan nad oedd yr holl eglwysi lliosog yn y cwmpasoedd hyn ddim ond wyth enaid. "Yn lle wyth o aelodau, yr oedd eu rhif yn 1849 yn 1717, a'r capeli yn 23, o fewn y dosbarth hwn o'r wlad." Erbyn hyn, mae yr aelodau gryn lawer yn fwy na chymaint arall â'r nifer hwn. Ffaith nodedig arall yn profi ffyddlondeb crefyddwyr cyntaf y wlad ydyw, y byddai y brodyr o'r Bala yn dyfod cyn belled â'r lle hwn, i gynorthwyo i gynal cyfarfodydd gweddio ac i ddarllen y Beibl. Adroddai yr hen bregethwr John Evans am dano ei hun, cyn iddo ddechreu pregethu (yn 1765), y byddai ef a dau frawd arall yn cychwyn o'r Bala ar foreu y Sabbath, i gadw cyfarfod gweddi yn Mlaenlliw am naw, a Phandy-y-Ddwyryd am ddau o'r gloch, a dychwelyd yn ol i'r Bala yr un diwrnod, a hyny ar -eu traed; pellder, dybygid, oddeutu 35 milldir. Dywedai yr hen batriarch, wrth adrodd yr hanes, y buasai yn dda ganddynt gael bara a chaws yn Nhrawsfynydd wrth ddychwelyd, "Ond yr oedd yn rhaid i ni," meddai, "gadw ymhell oddiwrth y pentref hwnw."

Ymysg y nifer a ychwanegwyd at yr wyth cyntaf yn Pandy-y-Ddwyryd, heblaw G. Ellis, Pen-yr allt, yr oedd amryw o wragedd, Jane Thomas, Ogof-llochwyn, Llanfrothen; Martha, gwraig J. H., dilledydd, Ffestiniog; Margaret Ellis, Ty'nypant, Llandecwyn; Elizabeth, Tyddyn Sionwyn, Llanfihangel. Yr oedd Margaret Ellis yn analluog i gerdded, ac oblegid hyny byddai yr aelodau crefyddol yn cyfarfod yn fynych yn Ty'nypant, i gynal cyfarfodydd, a dywedir fod Lowri Williams wedi gweinyddu yr ordinhad o Swper yr Arglwydd, gyda bara a dŵr, yn y tŷ hwn lawer gwaith. Y mae Ty'nypant, er's llawer blwyddyn, yn hen furddyn heb neb yn preswylio ynddo. Erys y waliau yn gyfan eto, ond y tô wedi syrthio iddo. Saif hwn ar ben trumell Ceunant Llenyrch, gyda banc bychan, a'r coed gerllaw, yn ei gysgodi rhag gwynt y gorllewin, o fewn rhyw chwarter milldir i ffermdy Llenyrch. Gofaled pob pregethwr a elo i daith Maentwrog, wedi bod yn cael cwpanaid o de gyda theulu caredig Llenyrch, am edrych ar y llaw dde, oddeutu chwarter milldir oddiwrth y tŷ, pan yn myned rhyngddo â Maentwrog Isaf at y nos, ac fe wel ei fod o fewn ergyd careg i'r hen fwthyn cysegredig, lle bu ychydig frodyr a chwiorydd crefyddol, yn y modd mwyaf syml, yn gwneuthur coffa am angau rhyfedd y Gwaredwr. Amlwg ydyw fod yr ychydig grefyddwyr hyn yn crefydda yn dda o dan anfanteision mawrion. Nis gallent fyned i Langeitho i'r Cymundeb, fel y byddai llawer yn myned; ac yr oedd yn well ganddynt gyfranogi o'r Sacrament fel y gallent, na myned i Eglwys y Plwyf yn y stad ddigrefydd yr oedd pethau ynddi y pryd hyn. Ac heblaw hyny, erbyn hyn, yr oedd y llanwyr wedi dyfod yn elynion mawr i "deulu yr arch." Cyfarfuwyd yma hefyd âg erledigaeth chwerw, ac ni ddylid myned heibio heb ei adrodd. Y mae yr hanes yn debyg i hyn,—

Un tro yr oedd Mr. Thomas Foulkes, o'r Bala, wedi hyny o Machynlleth, yntau hefyd yn un o gynghorwyr cyntaf y sir—yn pregethu yn nhŷ John Humphreys, Gwylan, gerllaw Pandy-y-Ddwyryd. Yr oedd John Humphreys yn un o'r "wyth enaid" y cyfeiriwyd atynt, ond gallwn dybio mai ymhen rhai blynyddau wedi dechreu ymgynull yn Pandy-y- Ddwyryd, y traddodwyd y bregeth hon yn ei dŷ. Modd bynag, ymwthiodd yr erlidwyr i mewn i'r tŷ, ymaflasant yn y pregethwr, ac yn Lowri Williams, gan eu taflu i'r afon. "Yn y codwm cafodd Lowri Williams ei niweidio yn drwm, trwy iddi ddisgyn ar gerig yn yr afon, a daeth adref wedi ei llychwino gan waed, ac wedi ei hanafu yn gymaint yn y codwm ag y bu yn gorwedd am enyd o amser." Ei mab, Rowland Jones, pan welodd y cam a wnaethpwyd a'i fam, a benderfynodd geisio amddiffyn y gyfraith, os oedd amddiffyn i'w gael. Anfonodd at ei gefnder, yr hwn oedd gyfreithiwr yn Llundain, i adrodd yr hanes. Cymerodd y gŵr hwn yr achos yn ei law ei hun. Yr oeddis wedi cael ar ddeall mai gwraig foneddig yn y gymydogaeth, yr hon yn fuan ar ol hyny a briododd. berson y plwyf, oedd wedi rhoddi yr erlidwyr ar waith; ac anfonodd y cyfreithiwr lythyr swyddogol yn uniongyrchol at y wraig foneddig, gan ei rhybuddio, os parhai i arfer creulondeb at ddeiliaid heddychol y deyrnas, y rhoddid hi yn ddiatreg yn ngafael y gyfraith, ac y byddai raid iddi ddioddef cosb haeddianol am ei thraha.

Cyrhaeddodd y bygythiad ei amcan. Ymhen rhyw gymaint o amser wedi hyny, bu gan Rowland Jones, mab Lowri Williams, neges i fyned i'r palas, lle yr oedd y wraig foneddig yn byw, a deallodd trwy un o'r gweision fod llythyr wedi dyfod ac wedi achosi braw a dychryn. Ac yn rhagluniaethol iawn, daethpwyd o hyd i gynwys y llythyr. Yr oedd wedi ei adael yn agored yn y parlwr, a thra yr oedd ei feistres allan yn rhodio, cafodd y gwas wybod ei gynwys, yr hyn a wnaethpwyd yn hysbys i deulu Lowri Williams. Dywedir fod y llythyr hwn wedi bod yn foddion i roddi atalfa ar yr erlid o hyny allan, Yr oedd ei gynwys yn debyg i hyn:—

"Mrs. Griffith,—

"Yr ydwyf wedi clywed eich bod yn cyfodi yn erbyn y Llywodraeth, trwy anfon eich gweision i labuddio eich cymydogion; canys nid yw Llywodraeth Lloegr yn caniatau llabuddio neb, fel y gwnaeth eich gweision chwi â Thomas Foulkes a Lowri Williams, yn y Gwylan (yr amser a'r amser). Os myfi a glywaf eto eich bod yn parhau i erlid (na neb arall), myfi a fyddaf yn eich erbyn, ac a'ch cosbaf i'r eithaf, er cymaint gwraig foneddig yr ydych yn tybio eich hun.

Hyn oddiwrth,
ROWLAND JONES, Attorney, &c."[2]

Y mae coffadwriaeth Lowri Williams yn haeddu parch dau- ddyblyg. Y hi fu yn foddion i blanu gwir grefydd yn y parthau hyn gyntaf, a hyny mewn adeg mor foreuol nad oedd dim wedi ei wneuthur yn Sir Feirionydd i oleuo y bobl am eu cyflwr colledig, ond yn y Bala yn unig. Yr oedd gadael ei chartref yn Pandy-Chwilog, a symud i drigianu yn Pandy-y- Ddwyryd, yn ddiau yn brofedigaeth fawr iddi. Ond un o droadau rhyfedd Rhagluniaeth Duw oedd hyn, er bendith ysbrydol a thragwyddol i eneidiau lawer. Yr oedd cuddiad ei chryfder hi yn ei duwioldeb. Yr oedd "wedi gwneyd llwybrau cochion wrth fynych gyrchu at orseddfainc y gras, a chlybuwyd ei llais dan goedydd ac ogofeydd y creigiau. Y mae ar dir Pandy-y-Ddwyryd olion llawer o hen allorau a godwyd ganddi." Ni bu byw ar ol symud i'r sir hon ond 23 o flynyddau. Eto gwelodd lwyddiant mawr ar grefydd cyn i'w haul fachludo. Anturiwn ddatgan ein barn, modd bynag, nas gallasai y cynydd fod fel y dywedir yn Methodistiaeth Cymru, yn "fil o aelodau." Cyrhaeddodd y nifer hwn ar ol ei dydd, mae yn wir, ac y mae y rhif wedi cynyddu erbyn hyn i dros 4000 o aelodau. Bu Lowri Williams farw yn y flwyddyn 1778, yn 74 mlwydd oed. Terfynwn y benod hon trwy wneuthur coffhad am,—

EDWARD ROBERTS, "HEN FICER Y CRAWGALLT."

Yr oedd ef yn un o "deulu yr arch," sef yr "wyth enaid," a gyd-gyfarfyddent yn Mhandy-y-Ddwyryd. Magwyd ef y rhan foreuaf o'i oes yn Wern Bach, ffermdy ar lan afon Eden, neu fel ei gelwir fynychaf, afon Crawgallt, oddeutu tair milldir o bentref Trawsfynydd. Gwehydd ydoedd wrth ei gelfyddyd. Ymhen rhyw gymaint o amser wedi bod yn crefydda gyda y teulu bychan yr ymunodd â hwynt, dechreuodd yntau ar y gwaith o bregethu. Yn ol pob gwybodaeth a ellir gael, cymerodd hyn le oddeutu y flwyddyn 1770. Y mae yn deilwng o sylw mai efe oedd y pregethwr cyntaf oll a gyfododd gyda'r Methodistiaid yn Ngorllewin Meirionydd, ac yr oedd yntau wedi dechreu ar y gwaith tua phymtheng mlynedd cyn i'r un pregethwr arall ddechreu. Y mae ei enw i'w weled fel un o dderbynwyr Pregethau y Parch. Daniel Rowlands, Llangeitho, y rhai a gyhoeddwyd yn 1772. Un enw yn unig sydd o danysgrifwyr am danynt o'r rhan Orllewinol o Sir Feirionydd, sef, "Edward Roberts, Weaver, Trawsfynydd," yn derbyn 12 o honynt. Yr oedd yn Gristion o'r hen stamp, a pherthynai iddo gymeriad yr hen grefyddwyr—dirodres a didderbyn-wyneb. Diameu iddo fod yn foddion i rybuddio a hyfforddi llawer o'i gymydogion tywyll ac anwybodus. Ond un a ystyrid o dymer ddreng ydoedd, a rhy arafaidd i symud ymlaen mewn achosion o ddiwygiadau.

Dywedir yn Methodistiaeth Cymru,—"Adeiladwyd iddo dŷ ar dir Pandy-y-Ddwyryd, tua'r flwyddyn 1772. Yr oedd yn gweithredu fel diacon a phregethwr ar y ddeadell fechan yn y lle hwnw. Ganwyd a magwyd ef mewn tŷ ar gwr mynydd Crawgallt; ac am hyny galwyd ef gan ei wawdwyr, ar ol iddo ddechreu pregethu, yn 'Hen Ficer Crawgallt.'" Bu yn byw am dymor ar ol hyn yn Tynant y Beddau, gerllaw Ffestiniog (daeth yma yn 1806), a threuliodd ran ddiweddaf ei oes yn Nhrawsfynydd. Bu farw Medi 24ain, 1827, yn 81 oed. Daw ei enw i sylw eto mewn cysylltiad â'r lleoedd uchod.

Nodiadau[golygu]

  1. "Pandy-y-Ddwyryd" yn Nghronicl yr Ysgol Sabbothol, 1880), 85. Parch. G. W., Talsarnau.
  2. Methodistiaeth Cymru, I., 529, a Pandy-y-Ddwyryd, Parch. G. Williams.