Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Marwnad Siarles y cyntaf, Brenin Prydain Fawr, Ffrainc, a'r Werddon, a'r Ynysoedd a'r Moroedd o'u cwmpas, pen amddiffynwr y Ffydd; o waith William Philip o Sir Feirionydd, wr bonheddig. A. D. 1648." Tynodd hyn yr hen fardd i helbul ofnadwy, atafaelwyd ei feddianau, a gorfu iddo yntau yn 73 oed, ffoi i'r mynydd, lle y trigai am ryw ysbaid, nes y cafodd ryw amodau heddwch. Enw ei gartref ydoedd Hendref Fechan. Argraffwyd amryw o'i gyfansoddiadau yn y Blodeugerdd. Bu farw yn 1669, a chladdwyd ef yn mynwent Llanddwywe, yn Ardudwy; y mae ei gareg fedd i'w gweled eto, a'r geiriau hyn arni:—" W. Ph., 1669, Fe. XI."

PRICE, THEODORE, D.D., a anwyd yn Bron y foel, plwyf Llanenddwyn, yn Ardudwy. Mab ydoedd i Rhys ab Tudor ab William Fychan, o Gilgeran. Addysgwyd ef yn Rhydychain, lle y daeth yn gymrawd o goleg yr Iesu, ac ar ol hyny yn athraw ar Hart Hall. Wedi ei raddio yn y celfyddydau, cafodd fywoliaeth yn ngwlad ei enedigaeth, trwy gael ei benodi yn beriglor Llanfair, ger Harlech, yn 1581, ac yr oedd mewn meddiant o'r segurwyd cyfoethog, sef perigloriaeth Llanrhaiadr, Dyffryn Clwyd. Yn 1596, gwnaed ef yn brepend Winchester; ac yn 1623, yn brepend Westminster. Bu farw Rhagfyr 15, 1631, a.chladdwyd ef yn Westminster.— (Wood's Athen Oxon.)


PRYS, EDMUND, Archddiacon Meirionydd. Y mae ei enw yn eithaf adnabyddus fel cyfansoddydd y Salmau ar gân, i wasanaeth addoliad cyhoeddus. Ganwyd ef yn Gerddi Bluog, plwyf Llanfair, yn y flwyddyn 1541. Y mae y Geiriaduron Bywgraffyddol, a Gwilym Lleyn, a phob ysgrif a welsom o'r bron, yn camgymeryd am le genedigol Edmund Prys—dywedent fod Gerddi Bluog yn mhlwyf Llandecwyn; ond yn mhlwyf Llanfair, fel y dywedwyd eisoes y mae. Addysgwyd ef yn Athrofa St. Ioan, Caer grawnt, lle y cymerodd ei radd o A.C. Wedi ei urddo, rhodd wyd iddo bersonoliaeth Ffestiniog, a'r capeliaeth perthynol, sef Maentwrog, yn y flwyddyn 1572; yn 1576, gwnaed ef yn Archddiacon Meirionydd. Yn y flwyddyn 1580, cafodd bersonoliaeth Llanddwywe; ac yn y flwyddyn 1602, gwnaed ef yn Ganon Llanelwy. Yr oedd yn byw yn y Tyddyn Du, plwyf Maentwrog, ac yno y bu farw; a chladdwyd ef yn Eglwys Maentwrog, yn y flwyddyn 1624 Yr oedd efe yn fardd da, os nad y goreu yn ei