Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oes; bernir iddo gyfansoddi oddeutu 60 o gywyddau ymryson, rhyngddo â William Cynwal, a Sion Phylip, Mochras. Yr oedd yn wr dysyedig iawn-medrai wyth o ieithoedd. Yr oedd yn nai, fab cyfyrder, i Gwilym Salsbri, yr hwn a gyfieithodd y Bibl i'r Gymraeg gyntaf. Bu iddo dri mab, sef Edmwnt Prys, Ficer Clynnog; Ffowc Prys, Person Llanllyfni; a Samuel Prys, Ficer Conwy. Mae mor ddiangenrhaid dywedyd dim am E. Prys fel bardd a llenor ag ydyw paentio'r lili, neu oleuo yr haul; oblegyd mae ei enw yn adnabyddus tel mydrydd y Salmau Cân, o Fon i Fynwy; ac y mae "rhaith gwlad," wedi mynu cael chwareu teg iddo. Mae llawer o'i ddywediadau ar gof a chadw ar hyd y wlad eto; dyma ddwy linell o'i " Gywydd ar Helynt y Byd," a adroddir gan yr hen bobl gyda phwyslais neillduol:

"Rhaid i'r gwan ddal y ganwyll,
I'r dewr i wneuthur ei dwyll."


(Hynafiaethau Harlech a'r gymydogaeth, gan Mr. Ellis Pughe.) Dywed Dr. Morgan yn ei lythyr wrth gyflwyno y Bibl i'r Frenhines Elizabeth, nas gallasai ef byth gyfieithu ond pum' llyfr Moses yn unig, oni buasai iddo gael cynorthwy gan Edmwnd Prys ac eraill. A thyma englyn a wnaeth Edmund Prys ei hun pan fygythid ef gan y Pabyddion am gynorthwyo y Dr. Morgan i gyfieithu y Bibl i'r Gymraeg:

"Nid all diawl, na'r hawl sy'n rheoli—drwg,
Na dreigiau na chyni,
Na dim wneyd niwed imi,
Ag a Duw mawr gyda mi.'


Yr ydym ni yn gwybod am o gylch ugain o wahanol argraffiadau o'i "Salmau Cân ":—1. Mewn cysylltiad â " Llyfr Gweddi Cyffredin," yn Llundain, yn 1621.' 2. Salmau Cân yn unig, Llundain, 1628. 3. Y Salmau Cân yn unig, Llundain, 1638. 4. Y Salmau Cân yn unig, Llundain, 1648. 5. Salmau Cân yn unig, Llundain, 1653. 6. Y Salmau Cân yn unig, 1678. 7. Y Salmau Cân yn unig, 1686. 8. Y Salmau Cân yn gysylltiedig â'r Llyfr Gweddi Cyffredin, Llundain, 1687. 9. Y Salmau Cân yn unig, 1696. 10. Y Salmau Cân yn gysylltiol â'r Llyfr Gweddi Cyffredin, a ddaeth allan yn Llundain yn 1710, dan olygiad Elis Wynn, awdwr y Bardd Cwsg. 11, Ynglyn â Llyfr Gweddi Cyffredin, Llundain, 1711. 12. Ynglyn â'r Bibl a'r Llyfr Gweddi, 1713. 13. Ynglyn â'r Bibl a'r Llyfr Gweddi, dan olygiad y Parch, Moses Williams, Rhydychain, 1727. 14. Y Salmau Cân yn unig, 1745.