Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

15. Mewn cysylltiad â'r Bibl, Caergrawnt, 1746. 16. Ynglyn a'r Llyfr Gweddi Cyffredin, Llundain, 1768. 17. Ynglyn â Bibl Peter Williams, fel y byddwn yn arfer ei alw, Caerfyrddin, 1770. 18. Ynglyn â'r Llyfr Gweddi, Caergrawnt, 1770. 19. Yn gysylltiedig â'r Bibl, yn yr hwn yr oedd nodau cyfeiriol ar ymyl y dail, gan John Canne; hefyd yr oedd sylwadau ar odrau dail y Testamenet Newydd gan y Parch. William Romaine, Caerfyrddin. 1796.

Y mae Carolau a dyrifau o waith E. Prys mewn Cerdd-lyfr, o gasgliad Ffoulke Owens o Nantglyn, Rhydychain, 1686. Yn y Gwyliedydd am 1835, y mae "Awdl ar ddyn o'i ddechreu i'w ddiwedd," o'i waith. Y mae yn dechreu fel y canlyn:

"Y maban yn wan unwaith-y genir,
Ac ynai dwf perffaith,
Ban êl yn faban eilwaith,
Buan daw i ben ei daith."

Yn y Traethodydd am 1848, tudal. 344, y mae Cywydd o Helynt y Byd,' gan E. Prys. Dechreua fel hyn:—

Gwelais eira glwys oerwyn,,
Ir, heb un brisg, ar ben bryn,
Gwelais haul teg gloyw sail twyn,
Yn ei doddi, nod addwyn."

Canodd tua 35 o Gywyddau ymryson â William Cynwal, a chanodd hefyd Farwnad alarus ar ei ol wedi hyny, y cyfan yn 36.

Rhoddwn eto un englyn o'i waith, a gyfansoddodd ar gladdedig aeth Huw Llwyd o Gynfal:—

"Pob campau, doniau a dynwyd,—o'u tir,
Maentwrog a 'speiliwyd;
Ni chleddir,ac ni chladdwyd,
Fyth i'w llawr mo fath Huw Llwyd."

Hefyd, yr oedd E. Prys yn fardd Lladinaidd. Y mae cân Lladin o'i waith yn Ngramadeg Dr. Davies o Fallwyd, o gymerad wyaeth i'r llyfr. Ei athraw barddonol oedd Sion Tudur.

"Yr oedd Edmund Prys yn un o'r gwŷr mwyaf dysgedig, a'r prydydd hynotaf yn ei oes; ac y mae amryw o'i gyfansoddiadau ar gael eto; y mwyaf hynod o honynt yw ei ddadleuaeth brydyddol efo William Cynwal. Ond nid yw ei ymryson prydyddol hwn ddim mor addas i gyfieithydd ardderchog y Salmau âg y byddai yn ddymunol er adeiladaeth,"-(Y Parch. Thomas Charles, Bala.)

Yr ydym yn ystyried fod cael tystiolaeth fel yr uchod oddiwrth ddyn fel Mr. Charles, yn fwy o werth na'n cofiant i gyd.