Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PUGH, Parch. JOHN, ydoedd y nawfed plentyn i Mr. Hugh Roberts, Ffridd fedw, plwyf Llanfihangel y Traethau, yn Ardudwy. Ganwyd ef yr 17eg o Orphenaf, 1765. Bwriadwyd yn foreuol iawn ei ddwyn i fyny i'r weinidogaeth yn yr Eglwys Sefydledig. Cafodd ysgol dda pan yn blentyn, a phan yn bur ieuanc anfonwyd ef i ysgol Fotwnog, yn Lleyn. Yn Mehefin, 1786, aeth i ysgol Beaumaris, dan y Parch. R. Thomas, lle y meistrolodd i fesur yr ieithoedd gwreiddiol. Yn Rhagfyr, 1788, aeth yn aelod o Goleg Iesu yn Rhydychain. Yn 1792 graddiwyd ef yn Wyryf yn y Celfyddydau; ac yn Medi 29, 1792, ordeiniwyd ef yn ddiacon. Gweinidogaethodd y flwyddyn gyntaf yn Nghricieth a'r lleoedd perthynol iddi, yn swydd Gaernarfon, dan y gwr enwog hwnw, y Parch. David Ellis, A.C. Yn 1793, derbyniodd urdd offeiriadaeth, ac a symudodd, ar farwolaeth ei anwyl gyfaill, Mr. Ellis, yn 1795, i Glynnog Fawr yn Arfon. Yn 1796 cafodd y radd o A.C. Yn 1799 cyhoeddodd lyfr o hyfforddiadau i feithrin plant, sef pregeth ar yr Eph. vi. 4, "Maethwch hwynt yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd." Dywedir ei fod yn ŵr mwy bucheddol, ac yn well pregethwr na'r cyffredin o'i frodyr yn yr Eglwys yn ei oes ef. "Y cyfryw oedd ei ddyfal ddiwydrwydd yn gwneuthur daioni, mor wresogfryd dros achos Duw, a llafurus er leshad pechaduriaid, fel na threuliai ddim amser yn ofer. Cynydd ei bobl mewn duwioldeb, trwy iawn gyfranu iddynt air y gwirionedd, oedd ei brif ofal; a'u llwyddiant ysbrydol fyddai ei gysur penaf. Yn ol hyny y byddai ei ymddygiad cyhoeddus a chyffredin, ac nid llai rhagorol oedd ei ymarweddiad teuluaidd; yr oedd yn ofalus am ddangos yn ei fywyd y prydferthwch sanctaidd hyny ag oedd ef yn ei bregethu i eraill. Cariad at Dduw, ac ewyllys dda i ddynion, oedd yn cyffroi ei holl ymdrechiadau; a thra yn wresog i ddwyn ymlaen sancteiddiad eraill, yr oedd ef ei hun o'r un penderfyniad a Josua, " Ond myfi a'm tylwyth a wasanaethwn yr Arglwydd." Bu farw Ionawr 7, 1799, yn 33 oed.

RHYS GOCH ERYRI, neu Rhys ab Dafydd, bardd gorchestol. Boneddwr ydoedd yn byw ar ei dir ei hun yn Hafodgaregog Nanmor, yn Ardudwy. Ganwyd ef tua 1320, a bu farw tua 1420, Dywedir mai Gruffydd Llwyd, ab Dafydd, ab Einion, Llygliw oedd athraw Rhys Goch. Efe oedd y buddugol ar Foliangerdd mewn Eisteddfod a gynhaliwyd yn nhŷ Llewelyn ap Gwilym, yn.