Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Ddol Goch, yn Emlyn, yn amser Iorwerth III.-" Goreu ar Wengerdd Sion Cent, a goreu am Foliangerdd Rhys Goch." "Canodd Rhys amryw foliant gerddi a marwnadau yn ei ddydd. Yn yr ugain mlynedd diweddaf o'i oes efe a ganodd amryw frutiau yn mherthynas i Owain Glyndwr, i'r hwn yr oedd yn bleidgwresog hyd ei ddiwedd. Y mae cyfansoddiadau Rhys yn arddangos athrylith gref, ynghyda medrusrwydd anghyffredin i gyfansoddi yn y caethfesurau." "Y mae y rhan fwyaf o ganiadau Rhys i'w cael mewn llawysgrifau. A ganlyn sydd restr o'r holl waith adnabyddus i ni o'i eiddo:-1, Cywydd i Syr Gruffydd Llwyd o Gegidfa; 2, Marwnad Gwilym ab Gruffydd o Lanfair; 3, I ofyn cyllell helig; 4, Brut-i Garnedd Llewelyn; 5, I Feino Abad; 6, I'r Farf; 7, Am Owain Glyndwr; 8, Am yr hen dywysogion; 9, Achau y Penrhyn; 10, Marwnad Gruffydd Llwyd y bardd; 11, 12, 13, Gwrth-ateb i Llewelyn Moel; 14, I'r Iesu; 15, I leidr a ddygodd ei farch; 16, Mawl Gwen o'r Ddol; 17, eto; 18, Mawl a gogan i'r unrhyw; 19, I Robert ab Meredydd; 20, Marwnad Meredydd ab Cynrig o Fôn; 21, I ofyn gwregys; 22, I lys Gwilym ab Gruffydd; 23, I'r Llwynog; 24, Brut-deall pan ddaw Gwyddyl gwyllt; 25, Arall, Y Gwanwyn llwyn a'r llynoedd; 26, Arall, Am ryfel mae'r ymofyn; 27, Duchan Sion Cent; 28, I'r Byd; 29, Brut— " Y Gleisiaid hediaid hoewdeg; " 30, Awdl y coronog faban; 31, Arall eto. Y mae tri dernyn o'i waith yn Ngorchestion Beirdd Cymru.—(Gweler "Plwyf Bedd gelert," gan Mr. William Jones.)

RICHARDS, Parch. JOHN LEWIS, gweinidog y Wesleyaid. Brodor ydoedd o ardal Harlech, yn Ardudwy. Yr oedd yn fab i Mr. Richards, Llanfair isaf, amaethwr o'r gymydogaeth hono. Ganwyd ef tua diwedd y ganrif ddiweddaf. Wedi bod am oddeutu saith mlynedd yn pregethu yn gynorthwyol, galwyd ef yn 1825 i waith y weinidogaeth, a dechreuodd arno yn Nghaerfyrddin; parhaodd ynddo am ddeng-mlynedd-ar-hugain, a bu yn uwchrif am y deng mlynedd eraill o'i fywyd; treuliodd chwech o honynt yn Abermaw, a'r pedair gweddill yn Llansantffraid. Cafodd le uchel yn ngolygiadau ei frodyr, ac fel prawf o hyny etholwyd ef yn ysgrifenydd y dalaeth pan nad oedd ond gweinidog lled ieuanc, a gwnaed hyny drachefn a thrachefn am ddwy-flynedd-ar-hugain yn olynol, hyd yr amser y rhoddodd i fyny deithio. Fel