Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pregethwr yr oedd yn nechreu ei daith yn hynod o danllyd a chyffrous. Yr oedd ei bregethau wedi eu cyfansoddi gyda gofal mawr, eu trefn yn gyson a thestlus, eu materion wedi eu meddwl yn glir a manwl, ac yn cael eu geirio yn eglur a miniog. Bu farw Mawrth 18fed, 1865.

ROBERTS, LEWIS, (Eos Twrog), Dolgellau, oedd enwog fel crythwr. Ganwyd ef yn mhlwyf Llandecwyn, yn Ardudwy, Mawrth y 9fed, 1756. Fel perorydd yr oedd efe yn un o brif enwogion y Dywysogaeth. Yn y flwyddyn 1775, trwy alwad uchel sirydd Meirionydd, Lewis Nanney, Ysw., o'r Llwyn, chwareuodd o flaen lliaws o foneddigion, cynulledig yn Nolgellau, a chafwyd y fath foddlonrwydd ynddo fel o hyny allan yr ystyrid pob cynulliad o'r fath yn ddiffygiol oddieithr cael ei bresenoldeb. Fel datganydd gyda'r delyn Gymreig yr oedd yn anghydmarol, ac ymbob ymdrech bu yn fuddugoliaethus, fel y prawf yr amrywiol dlysau a adawodd ar ei ol. Nid yn unig fel cerddor yr oedd yn rhagori ond fel hanesydd gwladol a chrefyddol. Bu farw Ebrill 2il, 1844, yn Nolgellau, yn 88 oed, a chladdwyd ef yn Maentwrog.


ROBERTS, JOHN, (Ioan Twrog) Bryntirion, Maentwrog, yn Ardudwy, a anwyd yn Mawrth, 1812, mewn lle a elwir Adwyddu, Penrhyndeudraeth. Yr oedd Ioan Twrog yn un o'r bechgyn mwyaf gobeithiol fel bardd a llenor a gyfododd erioed yn swydd I Feirion. Ni chafodd ddim manteision pellach na hyfforddiadau ei dad, er hyny gallai ddarllen ac ysgrifenu yn 5 oed, a daeth wedi hyny yn bur hyddysg yn y Saesoneg a'r Lladin, yn ogystal ac yn Gymreigydd rhagorol, ac i gael ei ystyried yn ysgolhaig gwych. Amlygai duedd at farddoni yn bur ieuanc, ac yr oedd wedi cyfansoddi lliaws o ddarnau cywrain cyn bod yn 12 oed. Canai bron bob amser yn y mesurau caethion. Cyfansoddodd Awdl-farwiad Mr. Oakeley, Tanybwlch, ac yr oedd yn ail oreu, er fod ei holl gydymgeiswyr wedi cyfansoddi yn y mesurau rhyddion. Ym ddangosodd yr awdl yn y Gwladgarwr, lle hefyd yr ymddangos odd ei "Arwyrain Dewi Wyn." Dyfynai Tegai yn ei Ramadeg, a Chynddelw yn Nhafol y Beirdd, benillion o honi fel engreifftiau gorchestol. Cyfansoddodd liaws o awdlau, cywyddau, ac englynion. Y mae ei ysgrifeniadau yn meddiant ei frawd, James Jones, yn awr o Gapel Curig. Y mae un englyn o'i eiddo i Edmund