Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Prys, archddiacon Meirionydd, yn argraffedig yn y Traethodydd, 1869, ac wele un arall i'r un gwr:—"

Llyfr per-fawl Dwyfawl Dafydd—a fydrodd
Fedrus ber awenydd;
Tra bo côr a pherorydd
Parhaus ei fawl Prys a fydd."

Yn ei gywydd ar ol Gwilym Twrog ceir teimlad dwfn a hiraethus. Wele ychydig linellau:—

"Minau hwyl-drwm awenydd
Bob diwrnod mewn syndod sydd.
Dwyn yr wyf dan hir ofid
Graidd heb wres a grudd heb wrid;
Di-awenydd a di-nwyf,
Allwynig ac unig wyf;
Mae 'nghalon anhylon i
Am Dwrog ar ymdori.
Dolef ni roed uwch dulawr
Na fae'n is na'm llef yn awr."

Bu farw yn 1837, yn 25 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Ramoth. Fel y canlyn y canodd y talentog Ioan Madog ar ei ol:—

"O Feirion deg fawr yn ei dydd—dygwyd
Dy degwch ysbenydd,
Aeth seren yr awen rydd
A'i choron tan ei chaerydd.

"Enaid y gân o dy gôl—wedi myn'd
I'r byd mawr tragwyddol,
Lle nad oes llun dewisol
Obaith o neb byth yn ol.

"O law angau a'i ddu ingoedd—ef aeth
I fyd yr ysbrydoedd;
Hynod fachgen addien oedd,
A llawer o alluoedd."


ROBERTS, JOHN, (Ioan Twrog) ydoedd fab hynaf William ac Elizabeth Roberts, yn bresenol o Frongwynedd, Penrhyndeudraeth, a anwyd mewn lle o'r enw Capel isaf, yn mhlwyf Maentwrog, Awst 1af, 1837. Yr oedd llawer o hynodion yn ei nodweddu yn ei fabandod braidd. Darllenai yn nosbarth y Biblau yn ysgol Sabbothol Gilgal yn 4 oed, ac agorid y capel iddo i bregethu pa bryd bynag y gofynai am hyny. Pregethai gydag egni ac ymroad a difrifoldeb mawr i'r eisteddleoedd, yn ol tystiolaeth gwraig y tŷ capel, yr hon a ladratai bob amser le dirgel i gael golwg a gwrandawiad arno. Wedi dechreu myned i'r ysgol ddyddiol fe yfai bob addysg a osodid o'i flaen rhag blaen, gan ymddangos i eraill heb ddim trafferth. Yr oedd yn ei duedd fyfyrgar a difrifol yn wahanol i'w holl gyfoedion. Ni fwytâi un pryd heb lyfr yn ei law pan nad oedd ond plentyn bychan iawn; a phan ofynid rhyw beth iddo yr adegau hyny byddai ei absenoldeb meddwl yn peri