Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llawer iawn o ddigrifwch. Amlygai duedd at farddoni gyda bron ei fod yn alluog i siarad. Cyfeiriai ei gwestiynau, ac atebai gwestiynau eraill, mewn penill neu ddarn o benill y rhan amlaf. Er engraifft, gofynai ei fam iddo un tro am odard a llwy, cyrhaeddodd yntau y pethau iddi gan ddywedyd,

"Dyma hwy'n gyfa bob darn,
Godard a llwy gadarn."

Cyfansoddodd liaws o bryddestau, caneuon, cywyddau, ac englynion, cyn bod yn un-ar-ddeg oed, amryw o ba rai a gyhoeddwyd o dro i dro yn y Tyst Apostolaidd, Cronicl yr Annibynwyr, a'r Amserau. Yr un pryd yr oedd yn llafurio yn ddyfal gyda chyfansoddiadau rhyddiaethol-pregethau a thraethodau Cymraeg a Saesneg. Dangosai ei draethodau bob amser i Mrs. Jones, Glan-william, yr hon a fu garedig iawn wrtho. Ymddangosodd pregeth o'i eiddo yn y Tyst, ac un arall yn y Cronicl pan nad oedd ond un-ar-ddeg oed. Dangosai ei holl gyfansoddiadau rhyddiaethol a barddonol i'r Parch. Evan Evans, yn awr o Langollen, ond a breswyliai y pryd hyny dan un-to a'i rieni yn Maentwrog. Un tro pan ddangosai bryddest o'i waith iddo, amheuai Mr. Eyans mai ef oedd yr awdwr. Er cael prawf rhoddodd Evans destyn iddo i wneyd cân arno-Samson; ac yr oedd Ioan yn barod bore dranoeth gyda'i gân. Wele destynau rhai o'i bryddestau meithaf: Genedigaeth Crist; Y prophwydoliaethau am Grist; Y Dylif; Samson; Molawd Meirionydd; Marwnad John Roberts, Llanfachraeth; Galarnad Dafydd am Absalom, a Dinystr Byddin y Senachrib, ac. Mae ei gyfansoddiadau ar y mesurau caethion yn gynwysedig mewn lliaws o englynion, ac., a thoddeidiau ar Ddedwyddwch y Mil Blynyddoedd, ac. Yn yr Eisteddfod a gynhaliwyd yn Mhorthmadog yn y flwyddyn 1851, cafodd ei urddo yn fardd yn ol braint a defod. Wrth gyflawni y ddefod hono gofynwyd iddo a oedd yn cofio englyn neu doddaid o'i waith i brofi ei hawl i'r urdd farddol. Atebodd yntau yn ebrwydd ei fod wedi cyfansoddi un y bore hwnw i gastell Harddlech, ac adroddodd ef fel y canlyn:

"Ei fawredd ddengys ei furiau-cedyrn
Ycodwyd eidyrau,
A'i lydain adeiladau
Dan hwn gwel donau'n gwau."

Tua diwedd y flwyddyn 1851 anfonwyd ef i Penrhyndeudraeth i'r ysgol, lle y bu am bum' wyth nos. Ac wrth ddyfod adref un