dydd Sadwrn y cafodd yr oerfel a achosodd ei farwolaeth. Y Sadwrņ hwnw y cyfansoddodd yr englyn canlynol, a'r olaf a wnaeth, fel beddargraff ar y Parch. Robert Morgan, yr hwn a fuasai yn weinidog llafurus a duwiol gyda'r Bedyddwyr yn Harddlech:—
"Dyhidlai od hyawdledd—llefarai
Holl fwriad trugaredd;
Gwel ei uniawn gul anedd
Diameu fan, dyma 'i fedd."
Tair wythnos y bu fyw wedi hyn. Bu farw mewn tangnefedd a llawn sicrwydd gobaith Rhagfyr 19, 1851, yn 14 oed, a chladdwyd ef y 23ain yn medd ei ewythr o frawd ei fam, Mr. John Roberts, Bryntirion, (a'r Ioan Twrog sydd yn ei flaenori yn y traethawd hwn) yn mynwent Ramoth. Dywedai y gweinidog a weinyddai yn y gladdedigaeth mai anfynych y gwelwyd dau fachgen mor dalentog yn cael eu gorchuddio â'r un briddell. A dywedwn ninau heb betruso yr un peth.
ROBERTS, Parch. JOHN (Robyn Meirion), myfyriwr yn athrofa Cheshunt, gerllaw Llundain, ydoedd weinidog ieuanc, a bardd talentog, a hynod obeithiol pe cawsai estyniad dyddiau. Ganwyd ef yn mhentref Trawsfynydd, yn Ardudwy, Mawrth 1af, 1807, o rieni diwyd a gonest. Er fod llawer o anfanteision yn perthyn i'w gorff, er hyny gwnaeth Awdwr natur y diffygion hyn i fyny trwy eigynysgaeddu âg enaid mawr, synwyr cryf, ac amgyffredion eang iawn. Dangosodd awydd mawr am ddysgeidiaeth, a galluoedd i dderbyn a chynwys gwybodaeth, er yn blentyn. Bu yn proffesu crefydd am ryw ysbaid gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Pan yn 19 oed, dechreuodd gadw ysgol ddyddiol yn Nhrawsfynydd, a chyn hir symudodd i Rydymaen, plwyf Llanfachraeth, yn nghantref Meirionydd. Yn y cyfamser ymunodd â'r Annibynwyr, ac yn fuan dechreuodd bregethu, a phregethodd ei bregeth gyntaf yn nghapel Jerusalem. ger pentref Trawsfynydd, a rhoddodd foddhad mawr i bawb oedd yn gwrando. Yn fuan cafodd dderbyniad i'r British a Foreign School, Llundain. Tra bu yn yr ysgol hono ysgrifenodd ddau draethawd yn Saesneg, un ar "Farwolaeth," a'r llall ar "Ras, a llywodraeth Duw." Derbyniwyd ef wedi hyny i athrofa Cheshunt, lle y treuliodd ei amser er anrhydedd i grefydd, er clod i'w athraw, ac hyfrydwch i'w gyd-efrydwyr, ac er buddioldeb neillduol iddo ei