Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hun o ran cynyddu mewn dysg a phob gwybodaeth fuddiol. Tra yn y lle hwn bu yn ddigon gwrol i gyfarfod âg anffyddiwr mewn dadl gyhoeddus yn Llundain, a dywedir iddo gael buddugoliaeth ogoneddus. Yr oedd ganddo ddeall cyflym, a galluoedd cryfion i dderbyn addysg. Fel pregethwr yr oedd yn hynod bwyllog, pwysig, a difrifol; a'i ddull mwyaf cyffredin fyddai ymresymu â'i wrandawyr. Bu farw o'r darfodedigaeth Gorphenaf 18, 1832, yn 25 oed.—(Geir. Byw., Aberdâr.)

ROWLANDS, GRIFFITH, Ysw., a anwyd yn mhlwyf Llanfair, ger Harlech, yn Ardudwy, Ebrill 9, 1761. Ar ol cael addysg ysgoleigol gyfaddas i'r alwedigaeth y bwriedid ef iddi, dodwyd ef dan egwyddor-ddysg llawfeddyg yn Lerpwl; ac wedi i'w amser ddyfod i fyny yno, aeth i Lundain i'r diben i gael ymarferiad pellach yn y gelfyddyd, gan restru ei hun yn Bartholomew's Hospital. Enillodd ganmoliaeth cyffredinol a chyfeillgarwch parhaol uwch swyddogion physigwrol y sefydliad ardderchog hwnw, y rhai oeddynt wŷr gorenwog am eu medrusrwydd a'u cyrhaeddiadau galwedigaethol. Y sefyllfa y crybwyllwyd i Mr. Rowlands ei chael yn y lle hwn, nis gellid yn y dyddiau hyny ei chyraeddyd ond trwy deilyngdod, ac nid fel yn awr, trwy bleidgarwch neu ryw delerau pwrcasol. Bu iddo ymsefydlu yn ninas Caerlleon, lle yr arosodd o hyny hyd derfyn ei oes. Y mae yn eglur i'w lwyddiant fod yn dra chyflym, er nad oedd eto ond ieuanc. Yn 1785 dewiswyd ef yn llawfeddyg i glafdy y ddinas, a chyflawnodd ddyledswyddau y swyddogaeth hono gyda diwydrwydd a chymeradwyaeth diball am 43 mlynedd. Crybwyllir yn ei hanes am liaws o orchestion a gyflawnodd fel meddyg, ar y Parch. T. Charles, o'r Bala, a'r Parch. T. Jones, o Ddinbych, ac. Bu farw Mawrth 29, 1828.—(Geir, Byw. Aberdar.)


WILLIAMS, DAVID, Ysw., (Dewi Heli), o Gastell Deudraeth. Ganwyd ef yn 1801. Mab ydoedd i D. Williams, Ysw., o Saethon, yn Arfon, yr hwn a hanodd o Evan Saethon, o Saethon, a'r hwn a briododd Margaret Wynn, o Hafod Gregory, yn Meirionydd. Felly fe welir fod Mr. Williams yn disgyn o hen achau enwog yn Arfon a Meirion. Ganwyd ef yn hen balasdy Saethon, yr hwn oedd yn eiddo i'w dad, ac yr oedd rhan fawr o'r etifeddiaeth hono yn perthyn iddo yntau. Trodd ei feddwl yn moreu ei oes i "astudio y gyfraith" fel ei alwedigaeth; a bu mor ddyfal ei ymchwiliadau