Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac mor llwyddianus ei yrfa fel cyfreithiwr, fel y gallodd roddi heibio ofalon ei swyddfa yn 1848. O hyny hyd ei farwolaeth, ymroddodd yn egņiol a diwyd i gyflawni dyledswyddau cyhoeddus ei gylch eang fel Ynad Heddwch; ac yr oedd y gofalon hyny yn lliosog ac yn bwysig, drwy ei fod yn ynad mewn dwy sir—Meirion ac Arfon. Gwasanaethodd ddwywaith yr alwedigaeth anrhydeddus o Uchel Sirydd — yn 1861 dros Feirionydd, ac yn 1862 dros Arfon. Efe hefyd a fu ein prif wron yn ymladd ein brwydrau poethion fel Rhyddfrydwyr yn Swydd Feirion; ac efe a fu yn offerynol i ryddhau y swydd oddiwrth iau drom Toryaeth. Pe na buasai Mr. Williams wedi gwneyd dim yn ei fywyd i haeddu parch i'w goffadwriaeth ond hyn, yr ydym yn ystyried hyn yn fwy na digon i hawlio lle iddo ymhlith "Enwogion Swydd Feirion." Yn yr Etholiad Cyffredinol, yn 1859, daeth allan i'r maes, a chynygiodd ei hun fel ymgeisydd Rhyddfrydig; ymladdodd frwydr galed, ond gorchfygwyd ef drwy fwyafrif o 37. Daeth allan eilwaith yn 1865, ac ymladdodd fel milwr dewr, ond gorchfygwyd ef yr ail waith drwy fwyafrif o 31. Yn 1868, daeth allan y drydedd waith, a dygodd allan farn i fuddugoliaeth; yr hyn a anfarwola ei enw tra bydd Rhyddfrydwyr yn Meirion. Fel cydnabyddiaeth iddo am ei egniadau haelfrydig yn ymladd brwydrau trymion Rhyddfrydiaeth yn erbyn nerth gormes arglwyddi tiroedd y sir, agorwyd trysorfa ar ol yr ail frwydr, yr hon a gyrhaeddoedd saith gant o bunoedd (700p.); ac anrhegwyd ef â Service of Plate hardd a drudfawr. Yr oedd llawer iawn o rinweddau yn dyfod i'r golwg yn Mr. Williams ymha gylch bynag y byddai yn troi; er fod llu yn estyn bys at yr ychydig frychau oedd ynddo, fel y mae plant Adda yn arfer gwneyd, yn enwedig at frychau dynion mawr. Yr oedd yr hyn a ddywedodd y Parch. Edward Morgan, o'r Dyffryn, am dano yn yr etholiad diweddaf yn eithaf gwir—"Beth bynag oedd colliantau Mr. Williams, yr oedd digon o rinweddau ynddo wed'yn i orbwyso ei holl ddifriwyr gyda eu gilydd; ac ni chauir bedd ar ei debyg yn Meirion am amser bir." A dywed rhyw ysgrifenydd mewn lle arall, Gwyr pawb a wyr ddim o hanes Mr. Williams, mai nid dyn cyffredin ydoedd, ac felly, nid colled gyffredin fydd ar ei ol." Byddai bob amser yn amddiffyn ac yn gefn i'r tlawd, gofalai yn wastad am i'r tlawd gael yr hyn fyddo yn gyfiawn iddo.