Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid boneddwr yn byw yn gynil yn ei balas, a phentyru ei arian i'r ariandai, ac na chadwai weinidog ond fyddo yn rhaid iddo wrtho, oedd Mr. Williams; ond rhoddai waith i liaws y gallasai yn hawdd wneyd hebddynt. Ac nid eu cadw i wneyd yr hyn oedd yn rhaid ei wneyd, ond gofalai yn barhaus am dori allan iddynt waith newydd—"Ymlaen, ymlaen," "Gwelliant, gwelliant," fyddai bob amser ei arwydd-eiriau. Iddo ef yn benaf yr ydym yn ddyledus am ddygiad ymlaen y ffyrdd haiarn trwy y swydd.

Yr oedd Mr. Williams hefyd yn fardd a llenor gwych. Ysgrifenodd lawer i'r misolion Cymreig mewn rhyddiaeth a barddonjaeth, o dan y ffug-enw "Dewi Heli." A dywedir ar lafar gwlad fod ganddo "Esboniad ar y Testament Newydd " o'i waith ei hun, mewn llawysgrifen, yn ei balas—Castell Deudraeth; ond nis gwyddom ai gwir hyn.

Bu y gwron anrhydeddus a rhinweddol hwn farw yn ei balas, Castell Deudraeth, Mercher, y 15fed o Ragfyr, 1869, gan adael priod a deuddeg o blant i ofal Tad yr amddifad a Barnwr y gweddwon. Claddwyd ef y dydd Iau canlynol yn mynwent Eglwys y Penrhyn; ac addefwn na welsom erioed gladdedigaeth mor liosog, anrhydeddus, a chymaint o barch yn cael ei ddangos wrth weinyddu y gymwynas olaf i'r un boneddwr.

WYNNE, ELLIS, o Lanynys, ger Harddlech. " Y mae enw Ellis Wynne yn berffaith hysbys trwy holl Gymru. Unig fab ydoedd i Edward Wynne, o deulu Glyn Cywarch, yr hwn a briodasai etifeddes y Lasynys. Y mae yr hen dŷ, lle y ganed, y maged, ac y bu farw ynddo, yn aros hyd heddyw; a dangosir i ddieithriaid yr ystafell, yr hon y dywed traddodiad i Weledigaethau у Bardd Cwsg gael eu hysgrifenu ynddi. Fel llawer o enwogion, yn enwedig enwogion Cymru, ni wyddys ond ychydig o hanes ei fywyd: ei gofiant sydd yn ei waith. Pa ddysgeidiaeth a gafodd, ac ymha le y derbyniodd efe hi, nid ydys yn gwybod. Yn y rhestr o Awduron Cymreig sydd yn gysylltiedig â Geirlyfr Cymraeg Richards cysylltir LL.B. a'i enw; ond fe ddywed y Parch. D. S. Evans mai camsyniad y geirlyfrwr hwnw ydyw, ac nad oes un sail iddo unwaith fwriadu bod yn gyfreithiwr. Y mae yn ddilys ei fod yn wr dysgedig; ond nid oes prawf iddo fod erioed mewn prifysgol; ac os bu, mae yn fwy na thebyg na chymerodd