Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

efe un radd athrofaol ynddi. Dywedir nad oedd llawer o duedd ynddo at y weinidogaeth, ac mai ar gais y Dr. Humphreys, Esgob Bangor, y cymerodd efe ei urddo; ac ymddengys na chymerodd hyny le nes ei fod mewn gwth o oedran. Urddwyd ef yn ddiacon ac yn offeiriad yr un dydd; a thranoeth cyflwynwyd ef i berigloriaeth Llanfair, gerllaw Harlech. Yr oedd efe hefyd yn beriglor Llandanwg a Llanbedr, yn yr un gymydogaeth; ac felly, cafodd fyw trwy gydol ei oes yn ardal ei enedigaeth, ac ar ei dreftadaeth briodol ei hun. Yn 1702, efe a briododd Lowri Llwyd, o Hafod Lwyfog, yn mhlwyf Beddgelert, Swydd Gaernarfon, yr hon, meddir, ar ol ei farwolaeth ef, a ymbriododd drachefn ag un o'r enw Humphreys. Bu iddynt bump o blant-tri mab a dwy ferch."

"Bu farw Ellis Wynne yn mis Gorphenaf, 1734, yn 63 mlwydd oed, a chladdwyd ef ar yr 17eg o'r mis hwnw, o dan fwrdd y Cymundeb, yn Eglwys Llanfair, heb gymaint a llinell ar na maen na mynor i nodi y fan lle gorphwysa gweddillion marwol yr athrylithog Fardd Cwsg, cymwynaswr ei genedl, ac addurn llenoriaeth ei wlad."-Gweler "Adgofiant o'r Awdwr," gan y Parch. D. S. Evans, yn y Bardd Cwsg, argraffiad Caerfyrddin, 1853).

Gweithiau Llenyddol Ellis Wynne:-1. Ei brif gampwaith yw Gweledigaethau y Bardd Cwsg. Afreidiol yw dywedyd dim am deilyngdod y Bardd Cwsg, oblegid y mae yn un o'r llyfrau mwyaf hysbys yn Nghymru. Digon yw dywedyd y byddai dynion fel Walters, y geirlyfrwr enwog, a Dr. W. O. Paghe, y geiriadurwr heb ei ail, yn ei organmol, ac wedi gwneyd defnydd mawr o hono. Rhoddwn restr o'r argraffiadau o'r Bardd Cwsg mor gyflawn ag y gallom:-Llundain, 1703; Amwythig, 1755; Amwythig, 1759; Caerfyrddin, 1767; Mwythig, 1768; Mwythig, 1774; Merthyr Tydfil, 1806; Caerfyrddin, 1811; Dolgellau, 1825. Y mae dau argraffiad, i ni wybod, heb amseriad wrthynt, un yn Llanrwst, a'r llall yn Nghaernarfon; Caerfyrddin, 1853. Deuddeg argraffiad a ddaeth allan o'r Bardd Cwsg, ag y gwyddom ni am danynt; ond dywed y Parch. D. S. Evans fod o leiaf bymtheg argraffiad wedi bod o'r Bardd Cwsg er pan ymddangosodd gyntaf yn 1703 hyd y pryd hwn, 1868.-2. Llyfr Gweddi Cyffredin, dan olygiad Ellis Wynne: Llundain, gan E. Powell, 1710.-3. Prif Addysg y Cristion, &c.: Mwythig, 1755, 8 plyg. Cyfieithiad yw y llyfr.