Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y cyfieithydd oedd Edward Wynne, trydydd mab i Ellis Wynne. Y mae yn y llyfr Esponiad Byr ar y Catecism, t.d. 16–43, o waith Ellis Wynne o Lasynys, ynghyda gweddiau, hymnau, a charolau duwiol ar ddiwedd y llyfr o waith yr un gwr.-4. Rheol Buchedd Santaidd. Cyfieithiad ydyw o Exercises of Holy Living, gan yr Esgob Jeremi Taylor. Y cyfieithydd oedd Ellis Wynne, cyflwynedig i'r Esgob Humphreys: Llundain, 1701, 8 plyg.-5. Eugrawn Cymraeg, y drydedd ran, Sadwrn, 31, 1770. Y mae'r Salm cxviii. o gynganeddiad Ellis Wynne; Cerdd i feibion ac i ferched; Deuddeg englyn unodl union; Y xcviii Salm wedi ei chyfansoddi ar lafar cerdd; Hanes ymryson a fu yn ddiweddar rhwng dau blwyf, ac. Engraifft o farddoniaeth E. Wynne ar y mesur " Triban Meirionydd."

"Gadael tir a gadael tai,
Byr yw'r rhwysg i ddyn barhau;
Gadael pleser mwynder mae,
A gadael uchel achau."—Ellis Wyn a'i cânt.


WYNNE, Parch. WILLIAM, A.M, Maesyneuadd, ydoedd fab i William Wynne, Maesyneuadd, yn Ardudwy, o'i ail wraig, Margaret, merch Roger Lloyd, o Ragat, ac a fuasai o'r blaen yn briod â Meredith Lloyd, o Rhiwwaedog, yn nghantref Penllyn, a'r hon a fu farw yn 1760. Yr oedd yn gymrawd o Goleg yr Holl Saint yn Rhydychain. Cafodd ficeriaeth Llanrhaiadr-y- mochnant yn 1733, a chanoniaeth yn Llanelwy yn 1735, ac hefyd bersoniaeth Llanfechain, feallai yn lle Llanrhaiadr. Yr oedd yn gwasanaethu Llanbrynmair yn 1740–48. Ond fel offeiriad Llangynhafal a Manafon y mae yn cael ei adnabod oreu fel bardd. Y mae dau ddernyn o'i waith yn y Blodeugerdd, t.d, 321 a 521, ac hefyd ysgrif o'i eiddo ar Darddiad Geiriau Cymreig yn y Cambro Briton am 1796. Bu farw yn 1760.--G. Lleyn.