Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

DOS. II.
ENWOGION PENLLYN,
HEN A DIWEDDAR.

CANTREF PENLLYN gynt a gynwysai dri chwmwd, Uwch Meloch, Is Meloch, a Migneint, ond yn awr nid yw y tri ond yn gwneuthur dau gwmwd, y rhai a renir yn arglwyddiaethau Uwch Treweryn ac Is Treweryn. Uwch Treweryn a gynwys dri phlwyf-Llanuwch-y-llyn, Llan-y-cil, a Llangower. Cynwys Is Treweryn ddau blwyf-Llanfor a Llandderfel.

Yn Uwch Treweryn, yn mhlwyf Llanuwch-y-llyn, ar lanau yr afon Liw, ar gopa craig fregus, y saif murian hen gastell a elwir castell Carn Dochan. Yn mharth isaf tref y Bala, yn mhlwyf Llanycil, y mae bryn anferth, ar yr hwn y safai unwaith gastell a amddiffynodd Leoline, Tywysog Cymru yn 1202. A cherllaw yr un drefy mae y llyn ardderchog a elwir Llyn Tegid; pedair milldir o hyd, ac un o led. A cherllaw y Llyn Tegid, yn mhlwyf Llangower, ar du dwyreiniol afon Dyfrdwy, y mae dau fryn bychan yn dwyn yr enw Gronw Berf o Benllyn, Castell Gronw, y tecaf yn Mhenllyn, ac yn byw yn nyddian Maelgwn Gwynedd.

Yn Is Treweryn, yn Llaufor, y claddwyd y bardd a'r rhyfelwr enwog Llywarch Hen, yn 580, ac yn gyfagos i'r lle hwn, (Llan- dderfel) y mae cylch o gerig mawrion a elwir "Pabell Llywarch Hen." Yn mhlwyf Llandderfel hefyd y mae Neuaddau Gleision, lle yr oedd Ririd Flaidd o lwyth Penllyn yn byw gynt. Yn yr un plwyf y mae mynydd a elwir Cefn Crwyni, yn gyfagos i'r hwn y mae gweddillion hen amddiffynfa filwraidd gadarn.

AERDDREM, Bedo Aerddrem, nen Aurdrem, oedd fardd o gryn enwogrwydd, a brodor, meddirir o Lanfor, yn Meirionydd Blodeuai o 1480 hyd 1510. Gwelir ar glawr y Greal fod un-ar- ddeg o'i gywyddau ar gof a chadw mewn llawysgrif. Naw o honynt