Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"I ferch," a dwy dan yr enw "Canu duwiol." Dechreua un "Canu duwiol" fel hyn :—

"Y gŵr a wnaeth gaerau nef."

a'r llall—

"Pwy'n gadarn ddyddfarn a ddaw."

Claddwyd ef, meddynt, yn Llanfor.—Geir. Byw., Liverpool.

ANWYL, ROBERT, o'r Fron, ger y Bala. Yr oedd yn Uwch Ringyll yn myddin y brenin ei hun. Yn 1799 efe a benodwyd yn fanerwr yn y fyddin hono; ac a aeth gyda hi i Holland yn yr un flwyddyn gyda Dug Caerefrog, lle y clwyfwyd ef yn ysgafn, yn yr ymosodiad ar y gelyn yn Swyder Si. Gwasanaethodd wedi hyny gyda'r 4ydd yn Walcheren, yn 1809, yn Gibraltar a Ciwla yn 1810, fel brigade major; yn Torres Vedras yn nhrafodaeth Barba del Puero yn 1811; yn y rhuthr ar Badajos, lle y clwyfwyd ef yn erwin; yn mrwydr Salamanca, lle y niweidiwyd ef, ac y lladdwyd ei geffyl dano; yn ngwarchodacth Castell Burgos, ac yn yr ymrafael yn Ville Meiriel, yn 1812;. yn mrwydr Vittoria, y rhuthr ar St. Sebastian, pan y daeth i fod yn swyddog hynaf y brigade, y mynediad i Bidasson a Nive, lle y cafodd ei glwyfo drachefn, ac yn mrwydr Bidart, yn 1813; yn yr ymdrafodaeth yn Bayonne, yn 1814, lle y gwasanaethodd fel Adjutant General cynorthwyol i aden aswy y fyddin dan General Colville, yna efe a aeth gyda y Major Gen. Robinson i Canada, fel brigade—major, ac a lywiodd farchogion ysgeifn ei brigade yn y symudiad yn erbyn Plattsbury. Efe a ail—ymunodd â'r 4ydd yn Ffrainc, ac yr oedd yno yn ystod y tair blynedd y bu'r fyddin yno, ac wed'yn aeth gyda hi i'r India Orllewinol, lle y gwasanaethodd rai blynyddoedd. Yn 1827, efe a brynodd uwch gadbeniaeth rhaglawiol; ac yn yr un flwyddyn efe a benodwyd i lywyddiaeth y 95ain, a'r hon yr ymunodd yn Malta; ond yr oedd hinsawdd yr India Orllewinol wedi effeithio ar ei iechyd gymaint, fel y bu raid iddo roddi i fyny yn 1830, a dychwelyd adref. Gwobrwywyd ef â bathodyn am ei ymddygiad neillduol yn St. Sebastian, a chafodd ei ddyrchafu yn major yn y fyddin, wedi brwydr Vittoria, ac yn 1817 i'r uwch— gabeniaeth raglawiol, am ei wasanaeth neillduol ar y maes. Bu farw yn y Dref Newydd, Ynys Wyth, Mehefin 27ain, 1831, yn 52 oed. Cam., Quar. Mag. Vol. iii. p.p. 527—8.


CADWALADR, DAFYDD, o'r Bala, a berthynai i'r ail do o bregethwyr y Methodistiaid Calfinaidd. Pan ddechreuodd ef