Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bregethu tua'r flwyddyn 1770, nid oedd yr Ysgol Sabbothol wedi. ei sefydlu, nac ond dau gapel yn Meirionydd, sef un yn y Bala, a'r llall yn Mhenrhyndeudraeth. Perthynai D. Cadwaladr i'r dosbarth hwnw o bregethwyr a elwid "pregethwyr ffos y clawdd "—dosbarth a wnaeth annrhaethol waith tuag at efengyleiddio Cymru. Gwnelai gras ei waith arnynt; ac yn fuan gwelid hwynt yn feistriaid y gynulleidfa yn ngwir ystyr y gair. Yn y dosbarth hwn y ceir D. Cadwaladr. Ganwyd ef yn 1752. Mab ydoedd i Cadwaladr a Catherine Dafydd, o'r Erw Ddinmael, plwyf Llangwm, Sir Ddinbych. Ni chafodd efe gymaint a diwrnod o ysgol erioed, na neb i'w gyfarwyddo hyd yn nod i ddysgu darllen iaith ei fam. Eto yr ydym yn meiddio ei ddwyn i blith Enwogion Sir Feirionydd, ac yr ydym yn ystyried ei fod yn sefyll yn uchel yn y rhestr trwy iddo ddyfod y peth y daeth dan gymaint o anfanteision. Dysgodd ddarllen trwy y moddion rhyfeddaf mae yn debyg y dysgodd dyn erioed, sef trwy sylwi ar y pyg lythyrenau oeddynt ar ystlysau defaid ei dad a'r cymydogion. Pan yn blentyn, arferai fyned gyda'i frawd i'r mynydd i fugeilio, a'i bleser fyddai sylwi ar y gwahan—nodau llythyrenol hyn—sylwi ar eu ffurf a'u sain, a thrysori hyny yn ei gof. Trwy hyn yn benaf y dysgodd sillebu a darllen. Dechreuodd argraffiadau crefyddol yn bur foreu ar ei feddwl. Dychrynwyd ef pan yn bur ieuanc, trwy i'w fam ddyfod at ei wely i weddio—dyweyd ei Phader a'r Credo, a'r Litani, &c. Dechreuodd yntau weddio ei chanlyn; a'r pryd hyn y dysgodd yntau y Pader a'r Credo. Fel hyn fe welwn at ba fath aelwyd y magwyd ef, gan na chlywsai ei fam yn gweddio o'r blaen. Ystorm o fellt a tharanau oedd wedi achlysuro y weddi hon. Gorfu arno droi allan i wasanaethu pan yn un—ar—ddeg oed. Yr ydym yn deall mai un o'r pethau enwocaf yn D. C. oedd cof da. Daeth i afael â'r "Bardd Cwsg" a "Thaith y Pererin;" trysorodd (D. Cadwaladr) gynwys y ddau bron i gyd yn ei gof aruthrol, a byddai eu gweledigaethau hwy yn gymysgedig yn fynych a'i weledigaethau ef ei hun. Os na lanwasant ei enaid â gras, llanwasant ef â dychryn; a byddai yntau yn mawr ddychryn eraill gydag adroddiad o honynt. Bu yn gwasanaethu yn y naill ffarm a'r llall tua Llangwm nes yn 17 oed, a byddai yn arfer mynychu eglwys y plwyf ar y Sabbothau. Pan yn 17 oed, daeth i ardal y Bala, ac yma y clywodd gyntaf erioed leygwr yn pregethu.