Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

glywed y Parch. Robert Roberts, o Glynnog; a dywedir hefyd y byddai yn ceisio byw yn dda ar ol clywed ei gyhoeddi, ac am amser maith ar ol ei glywed. Pan oedd tuag 20 oed, daeth y Parch. John Evans, New Inn, i bregethu i le a elwir Pontyronen, Llangower; a dywedodd Ysbryd yr Arglwydd wrtho y pryd hwn, "Hyd yma yr ai, ac nid yn mhellach," a thaflodd ei goelbren gyda phobl yr Arglwydd. A dywedir ei fod yn hynod mewn gweddi y pryd hwnw. Cyn hir dechreuodd bregethu, a phregethodd y waith gyntaf yn y Bryniau goleu, yn Llangower. Yn 1823, priododd Mrs. Roberts, gweddw Mr. Thomas Roberts, Trawsfynydd, i'r hwn le y symudodd i fyw o hyny allan. Yn 1827, neillduwyd ef yn y Bala, i gyflawn waith y weinidogaeth. "Yr oedd J. Peters yn hynod o ddiabsen am bawb—yn barchus o'i holl frodyr; ac felly gan ei frodyr. Un hynod am heddwch a thangnefedd ydoedd efe ymhob man yn y gymydogaeth, ac yn enwedig yn yr eglwys." "Cafodd lluoedd fendith a phleser mawr wrth wrando arno; yr oedd ei faterion yn bwysig, a'i ddawn yn felus a serchiadol; nid oedd yn dynwared neb, byddai yn arfer ei ddawn naturiol ei hun, Yr oedd ei agwedd yn yr areithfa yn addas i'r mater y traethai arno; pan y byddai yn traethu am ddrwg pechod, ei effeithiau a'i ganlyniadau, g farn a phoenau uffern, byddai ei edrychiad yn sobr a difrifol iawn. A'r ochr arall, pan yn traethu am drefn iachawdwriaeth, anchwiliadwy olud Crist, ei barodrwydd i dderbyn pechaduriaid, diogelwch cyflwr y rhai duwiol yn eu hundeb â Christ, a dedwyddwch y saint yn y nef, byddai gwen siriol ar ei wynebpryd. " Bu farw Ebrill 26, 1835, a chladdwyd ef yn mynwent Trawsfynydd.

PHYLIP (William), bardd rhagorol o Ardudwy; a dywed Williams yn ei Eminent Welshmen, ei fod yn frawd i Sion Phylip o Fochras. Ond y mae Mr. Ellis Pugh, yn ei draethawd ar "Hynafiaethau Harlech a'r gymydogaeth," yn dywedyd nad oes sail i'r fath haeriad, heblaw fod y ddau yn Phylips.-Gweler Brython V, 129. A rhaid i ninau addef nad ydym yn ddigonol i benderfynu rhwng Williams a Pugh. Yn ol Pugh, ganwyd ef yn Ty'n y berth, ger Talybont, yn Ardudwy, a dywed hefyd fod ei dad-Phylip William, yn hen ac oedranus pan ei ganwyd. Yr oedd W. Phylip yn byw yn adeg derfysglyd y Rhyfel Cartrefol, ac yn selog dros y brenin-Siarl I., ar ol yr hwn y cyfansoddodd farwnad, yr hon a argraffwyd yn ol G. Lleyn, yn 1648:—"Cywydd