Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fardd da, ac y mae ychydig o'i waith ar gael, ymhlith y rhai y ceir marwnad i Mr. Maurice Jones, o Benmorfa, Swydd Gaernarfon, y? hwn a fu farw yn 1624. (Dywed rhai mai brawd i Sion Phylip oedd y Rhisiart Phylip uchod, ond nid ydym ni yn alluog i ben derfynu).

PHYLIP, SION, tad Gruffydd Phylip a Rhisiart Phylip uchod. Yr oedd y bardd clodfawr hwn wedi bod yn byw am ryw ysbaid yn Hendref Waelod, yn Ardudwy Dichon mai yma y ganed ac y maged ef, ac iddo symud i Fochras trwy briodi, neu ryw ffordd arall. Yr oedd yn cydoesi â'r Archddiacon Prys, a dywedir hefyd ei fod yn ddigon o ddyn i dynu'r dorch âg ef, a chyhyd ei wynt ag yntau. Mab hynaf ydoedd i Risiart ab Morgan ab Palws, yr hwn oedd o deulu parchus yn ac oddeutu Harddlech. Graddiwyd ef yn bencerddiad yn Eisteddfod Caerwys yn 1565. Yr oedd Sion Phylip yn llysieuwr gwych, ac yn freninolwr zelog. Bu yn gweinyddu fel cymedrolwr mewn rhyw gweryl a fuasai rhwng William Cynwal a Huw Machno. Efe oedd bón teulu Corsygedol—y Fychaniaid. Ystyrid ef yn hyddysg mewn tair iaith, sef y Gymraeg, y Saesneg, a'r Lladin. Yn y Brython IV., 66 233[1], y mae Cywydd y Wylan " o'i waith; ac y mae ' amryw ddarnau eraill o'i waith yn wasgaredig hyd ysgriflyfrau barddonol, ac eraill yn argraffedig hyd wyneb y cylchgronau Cymreig. Bu farw yn 1620, yn Mhwllheli, trwy foddi, yn 77 oed, a chladdwyd ef yn Llandanwg, yn Ardudwy. Y mae yn hawdd canfod mai nid dyn anenwog oedd S. Phylip oddiwrth y ffaith y fod cynifer o brif feirdd ei oes wedi canu marwnadau ar ei ol—Archddiacon Prys, Rhisiart Cynwal, Gruffydd Phylip ei fab, Ieuan Llwyd, a Gruffydd Hafren. Gwnaeth Huw Llwyd, Cynfal, feddargraff iddo, ond ni cherfiwyd ef ar gareg ei fedd hyd 1858, pryd y gwnaed hyny ar draul y gwladgar Ab Ithel. Fel y canlynmae'r englyn:—

"Dyma fedd gwr da oedd gu—Sion Phylip,
Sain a philer Cymru;
Cwynwn fynd athraw canu
I garchar y ddaear ddu."



PETERS, Parch. JOHN, Trawsfynydd, ydoedd weinidog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Ganwyd ef Tachwedd 20, 1779, yn . Wenallt, plwyf Llangower, yn Penllyn. Magwyd ef gan ewythr iddo yn y Bala. Cafodd ysgol dda pan yn ieuanc Byddai yn arfer a gwrando yr efengyl, a dywedir y byddai yn hynod

  1. Y Brython 1861