Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nghadw mewn llawysgriſau; ac y mae un awdl o'i eiddo i Harri VII. yn gyhoeddedig yn yr Iolo MSS.—(Hanes Plwyf Beddgelert, gan W. Jones.)

OSBER, neu Osburn Wyddel, neu Osber Fitzgerald, oedd flaguryn o'r gangen Ddesmondaidd o'r cyff Gwyddelig Geraldaidd. Daeth trosodu i Gymru tua therfyn y 13eg ganrif. Dywedir' iddo ddwyn gydag ef gant o wyr meirch ar gant o geffylau gwynion, ac i'w wasanaeth gael ei dderbyn gan Llewelyn, Tywysog Cymru. Sefydlodd yn Berllys, neu lys Osber, ger Corsygedol, yn Ardudwy; ac y mae tiroedd gerllaw a elwir Berdir, neu dir Osber. Dywedir ei fod wedi priodi aeres Corsygedol, a bod y lle hwnw o ganlyniad yn eiddo iddo. Y mae olion caerfa yn weledig eto yn Berllys. Un o ddisgynyddion mwyaf anrhydeddus Osber ydoedd Dafydd ab Ifan ab Einion, cwnstabl dewr Castell Harddlech yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynau. Y mae teuluoedd eraill yn Meirion yn hawlio eu disgyniad o hono.

Dywed Myrddin Fardd fod y Fychaniaid Corsygedol, yn disgyn yn unionsyth o hono.—(Gwel Achau Corsygedol, yn yr Haul.)


PARRY, Parch. ELIAS, a anwyd yn ardal Maentwrog, yn Ardudwy. Cafodd ei ddysgeidiaeth yn ngholeg yr Arglwyddes Huntingdon, Cheshunt. Ymsefydlodd fel gweinidog yn Cheltenham, ac wedi hyny yn Spa Fields, Llundain, lle у bu yn gweinidogaethu i gynulleidfa fawr am lawer o flynyddau.—(G. Lleyn).


PHYLIP, GRUFFYDD, ydoedd fardd o Ardudwy, yn ei flodeu yn yr 17eg ganrif. Mab ydoedd i Sion Phylip, o Fochras, ar farwolaeth yr hwn, yn 1620, efe a gyfansoddodd ei farwnad, yr hon, ynghyd â phethau eraill o'i waith, sydd ar gael mewn llaw ysgrifen. Canodd awdl ar briodas Owen Wynne, o'r Glyn, yn 1661.—(Wms. Em. Welshmen.)


PHYLIP, PHYLIP SION, ydoedd frawd i Gruffydd Phylip uchod, a mab arall i'r enwog fardd Sion Phylip, o Fochras, yn Ardudwy, ac fel amryw eraill o'r teulu awenyddol hwnw, yn ymhwedd gyda cherdd a chân. Y mae llawer o'i gyfansoddiadau ar gael, ac yn eu plith farwnad Maurice Wynne, Ysw., o Foelyglo, yn Ardudwy, yr hwn a fuasai farw yn Hydref, 1673.—(Wms Em. Welsh).


PHILLIP, RHISIART, brawd arall i Gruffydd a Phylip Sion Phylip, ac yn fab i Sion Phylip,[1] o Fochras. Yr oedd yntau yn

  1. Brawd i Siôn Phylip ac ewythr i Gruffudd Phylip a Phylip Siôn Phylip oedd Rhisiart Phylip, mewn gwirionedd