Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lywodraeth. Gwnaed ef yn ganon esgobaeth Llanelwy yn 1661, a chymerodd y radd o D.D., ac yn 1673, symudodd o ficeriaetha Ruabon, Sir Ddinbych, i ficeriaeth Gresford, yn yr un sir, yn lle ei frawd hynaf, y Parch. Samuel Lloyd. Cysegrwyd ef yn esgob Bangor Tachwedd 17eg, 1673, ac yn y swydd hono pwrcasodd archddeoniaethau Bangor a Môn, a gwag fywoliaeth Llanrhaiadr yn Nghinmerch, gan eu huno âg esgobaeth Bangor yn 1685; a dwy ran o dair o gyfranau Llanddinam, gan eu cyflwyno at yr achos eglwysig, a chynhaliaeth côr Bangor, a'r drydedd ran arall er budd ficeriaeth Llanddinam. Bu farw yn 1688, a chladdwyd ef yn ei brif Eglwys.—(Wood's Athen. Oxen; Geir. Byw. Ler pwl; Geir. Byw. Aberdar; Golud yr Oes, Cyf. II., tudal 310.).

MEREDYDD, WILLIAM, Ysw., a anwyd yn Abermaw, yn y flwyddyn 1802. Yr oedd yn ysgrifenydd yr Ysgol Gymreig, Gray's Inn Road, Llundain. Bu farw Ebrill 13eg, 1852, yn 50 mlwydd oed. Nid oes genym fawr o'i hanes, ond y mae yn ein meddiant Awdl Marwnad iddo, gan Aled o Fôn, yn ei godi i bob eithafion.


NANEY, Parch. RICHARD, ydoedd fab i Robert Naney, o Gefndeuddwr, yn mhlwyf Trawsfynydd, Ardudwy. Ei fam oedd Martha, ferch Richard ab Edwards, o Nanhoron Uchaf, yn Lleyn, Sir Gaernarfon. Efe a briododd Hydref 27, 1732, âg Elizabeth, ferch William Wynne, o'r Wernfawr, yn Lleyn. Cafodd ficeriaeth Clynnog Fawr yn 1723, a phersonoliaeth Llanaelhaiarn yn 1765. Yr oedd hefyd yn gofrestrydd a chanon yn Eglwys Gadeiriol Bangor. Tra yr oedd yn ficer Clynnog, yr oedd yn byw yn y Farchwen. Yr oedd yn ŵr tirion a hynaws. Daeth rywfodd i wrando y Methodistiaid, y rhai oeddynt yn dechreu teithio y wlad y pryd hyny, a mabwysiadodd feddyliau ffafriol am danynt ac am y weinidogaeth; a rhagorai ei weinidogaeth yntau ar bawb o'r bron o'i frodyr urddasol trwy yr holl wlad. Yr oedd yn ddyn o feddwl galluog iawn; ac yn bregethwr cymeradwy; byddai ei gynulleidfa yn fwy na'r cyffredin yn yr hen fam-eglwys. Yr oedd ei holl enaid yn y weinidogaeth; ni thalai y sylw llelaf i bethau bydol, &c.


NANMOR, RHYS, ydoedd fab i Dafydd Nanmor, ebe awdwr "Enwogion Cymru," ac yr oedd yn ei flodau o'r flwyddyn 1440 i 1480. Ymddengys mai gwr eglwysig oedd, ac yn preswylio yn Maenor Fynwy, Swydd Benfro. Y mae ychydig o'i waith yn