Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fab ydoedd i Huw Llwyd, Cynfal. Yr ydym ni yn tybied yn gryf mai mab iddo oedd. Ganwyd ef tua'r flwyddyn 1619. Dywedir iddo gael addysg dda, ond ymha le, a than ba amgylchiadau, ni ddywedir. Pan yn ieuanc, aeth i aros i Wrecsam, pryd yr oedd Walter Caradoc yno yn gurad, o tan weinidogaeth yr hwn y daeth Mr. Llwyd i deimlo nerth yr efengyl. Pa bryd y dechreuodd bregethu, nis gwyddom, ond gwyddom ei fod yn un o'r Puritaniaid a dderbyniodd ei ran o erledigaeth yn Nghymru. Bu am ysbaid yn weinidog ymneillduol, neu gurad, yn Ngwrecsam; ond pregethwr teithiol oedd ef—teithiodd lawer, yn enwedig yn Ngogledd Cymru. "Yr oedd yn wr o gyneddfau cryfion, o benderfyniad diysgog, yn nodedig am ei dduwioldeb, yn ddwfn a dwys ei fyfyrdodau, ac yr oedd llawer o bethau cuddiedig yn ei ymadroddion, ei lythyrau, a'i lyfrau."

Ceisiwn roddi rhestr o'i weithiau awdurol:—1. "Dirgelwch i rai i'w ddeall, i eraill i'w watwar, sef tri aderyn yn ymddiddan, yr eryr, y golomen, a'r gigfran," Gwrecsam, 1653. 2. "Gwaedd yn Nghymru yn ngwyneb pob cydwybod," 1653. 3. "Y Lleſerydd Anfarwol," 1656; ymddangosodd cyfieithiad o'r llyfr hwn yn Llundain yn 1739, tan y teit), "A Discourse on the Word of God." 4. "Yr Ymroddiad," 1657. 5. "Cyfarwyddyd i'r Cymro," 1657. Dywedir iddo ysgrifenu llyfr arall—"A dialogue between Martha and Lazarus, about his soul." Bu farw Mehefin 3ydd, 1659, yn 40 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent yr Ymneillduwyr yn Ngwrecsam.

LLOYD, HUMPHREY, D.D., ydoedd drydydd mab Richard Lloyd, D.D., ficer Ruabon, ac yn disgyn o deulu henafol Llwydiaid, Duluasai; a anwyd yn Bod y Fuddau, plwyf Trawsfynydd, yn 1610. Derbyniwyd ef i Goleg Oriel, Rhydychain, o ba le y symudwyd ef i Goleg yr Iesu, lle y daeth yn ysgolor; dychwelodd drachefn i Goleg Oriel, a gwnaed ef yn gymrawd, a pharhaodd yn ddysgawdwr enwog am lawer o flynyddau. Pan ymsefydlodd y brenin a'i lys yn Rhydychain, daeth yn gydnabyddus gyda'i gydwladwr, yr Archesgob Williams, yr hwn a'i dewisodd yn gaplan iddo ei hun, ac a roddes iddo brependiaeth Ampleford ymhrif Eglwys York, yr hon a ddaliodd hyd ei farwolaeth. Ar farwolaeth ei dad, yn 1653, efe a'i dilynodd fel ficer Ruabon, ond efe a gollodd ei swydd yn ystod rhwysg y Werin