Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn wawdiaeth mwyaf ysgorpionog. Dygwyd Evan Garnons i fyny yn ddoctor yn y fyddin. John a afonwyd i ysgol Rhuthyn, ac enillodd, ar gyfieithu Cywydd y Farn Goronwy Owen i'r Saesneg, ac hefyd ar gân o glod i'r dewr Owen Glyndwr. Yr oedd yn ysgolhaig campus, yn gyfaill pur, ac yn gwmni lļawen a diddan. William oedd feddyg clodfawr, hynaws, a charedig. Robert a hoffid gan bawb a'i hadwaenai, ac nid oedd neb o fewn y wlad yn fwy cymwynasgar nag ef. Hugh, yntau a ddygwyd i fyny Mewn amser cyfaddas, anfonwyd ef i ysgol i'r offeiriadaeth. Rhuthyn, prif athraw yr hon ar y pryd oedd Dr. Williams, prif lywydd Coleg yr Iesu, Rhydychain. Pan oedd H. Lloyd yn yr ysgol hynodid ef am ei fanylwch a'i ddiwydrwydd. Hynodid ef hefyd ymysg ei gydysgolorion gan deimlad llednais, geirwiredd, a charedigrwydd, a dywedid ar sail dda, gan un oedd yn yr ysgol ar yr un adeg, nad oedd neb a hoffid gan bawb ond Hugh N. Lloyd.—(G.)

LLWYD, HUW, bardd enwog a drigianai yn Cynfal, plwyf Maentwrog, yn Ardudwy. Bu yn swyddog yn y fyddin, a gwasanaethodd lawer o flynyddoedd fel y cyfryw ar y Cyfandir, a dychwelodd i'w ardal enedigol i dreulio gweddill ei oes, lle у bu farw yn 1620, uwchlaw 80ain mlwydd oed. Claddwyd ef yn Maentwrog, a dywedai ei hen gyfaill a chydfardd, yr Archadiacon Prys rector y plwyf ar y pryd

"Ni chleddir, ac ni chladdwyd
Fyth i'r llawr mo fath Huw Llwyd."

Mae yn nghanol rhaiadrau rhamantus yr afon Cynfal, gruglwyth o graig yn ymddyrchafu o ganol y dyfroedd, a adwaenir hyd y dydd-hwn wrth yr enw "pwlpud Huw Llwyd;" a dywed llafar gwlad, mai yno, i ganol trwst dibaid y rhaiadrau, y cyrchai yn y nos wrtho ei hunan i fyfyrio. Yr oedd yn fardd gorchestol, fel y prawf ei amrywiol weithiau a drosglwyddwyd mewn llaw ysgrifen yn benaf i'r oes hon, ac y mae ei "Ymddiddan rhwng y bardd a'r llwynog," a welir yn Cymru. Fu, 1,357—y ddrama fechan oreu a llawnaf o addysg bur ag sydd yn yr iaith Gymraeg. Efe a ysgrifenodd ei englyn beddargraff ei hun, yr hwn sydd yn argraffedig yn Greal Llundain.


LLWYD, Parch. MORGAN, o Wynedd, ydoedd yn hanu o deulu Cynfal, yn mhlwyf Maentwrog, yn Ardudwy, a thybir mai nai neu