Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

raddio yn A.C. y flwyddyn ganlynol, efe a aeth i Lundain, ac a benodwyd yn ddarllenwr y charter-house. Wedi hyny, efe a ymneillduodd i Gymru, ac a benodwyd yn gaplan i Dr. Isaac Barrow, Esgob Llanelwy, yr hwn a'i hanrhegodd â chanoniaeth yn 1670, heblaw amryw ddyrchafiadau eraill o fewn ei esgobaeth. Yn Awst, 1671, efe a benodwyd i ficeriaeth Abergele, ac ar yr un pryd yn brebendar y Faenol, yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Yn 1675, efe a gyfnewidiodd Abergele am Northop, yn Sir Gallestr, lle bu yn cadw yr ysgol rydd dros lawer o flynyddoedd, a hyny o fewn chwe mis i'w farwolaeth, pan y dychwelodd i'w le genedigol, gan y teimlai ei iechyd yn gwanhau. Bu farw Chwef. 16, 1691. Yr oedd yn frwdfrydig a diwyd yn nghyflawniad ei ddyledswydd au offeiriadol, ac yn arfer darllen y gwasanaeth bob dydd yn ei eglwys ei hun yn Northop. Hefyd, canmolid ef yn gyffredinol am ei hynawsedd a'i garedigrwydd i'r tlawd a'r anghenus, ac am ei barodrwydd i gyflawni unrhyw swydd ddaionus yn y gymydogaeth. Yr oedd yn awdwr amryw lyfrau:-1. "Wonders, no Miracles, London, 1666; " ' 2. "Memories of the Lives, Actions, Sufferings, and Deaths of those Noble, Reverend and Excellent Personages that suffered by death, &c., London, 1668." 3. "Church Worthies, &c., or, the Lives of the Right Rev. Archbishops, the Rev. Bishops, Doctors, and eminent Divines since the Reform ation; " 4. " State Worthies: being Observations on the States-men and Favorites of England since the Reformation.". &c. Y mae cyfres o'i lyfrau i'w gweled yn Athen. Oxon. gan Wood. Hefyd, y mae llawer o'i hanes yn History of Breconshire, gan Theo. Jones. (Williams' Emin. Welsh; Geir. Byw. Aberdar; Geir. Byw. Liverpool.)

LLOYD, Parch. HUGH N., (neu'r Canon Lloyd), a anwyd yn Mhersondy Maentwrog, Hydref 11, 1821. Ei rieni oeddynt y Parch. William Lloyd, a Margaret ei wraig; a galwyd ef yn ei fedydd yn Hugh Norris Lloyd. Pan oedd Hugh yn bur ieuanc sy mudodd ei dad i berigloriaeth Llanengan, a bu yno am ychydig flynyddoedd; ac wedi hyn, ar farwolaeth yr hen Berson Humphreys, cafodd fywioliaeth werthfawr Llanfaethlu, yn Mon. Bu iddynt res hir o blant. Tyfodd naw o honynt i fyny i oedran pwyll, ac yr oedd arwydd arbenig ymhob un o honynt o feddylgarwch ac arabedd, yr hwn arabedd weithiau a ddefnyddid,os byddai eisiau,