Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II/Cwmprysor
← Trawsfynydd | Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II gan Robert Owen, Pennal |
Eden → |
CWMPRYSOR.
Y Cwm sydd yn ymestyn oddiwrth Drawsfynydd, gydag ochr y Rheilffordd i gyfeiriad y Bala, ydyw Cwmprysor. Wrth deithio gyda'r Rueilffordd, mae y capel i'w weled yn y gwastad islaw, gyda thŷ wrth bob talcen iddo, a'i olwg allanol erbyn hyn yn dechreu myned yn henafol. Cwyna y brodyr yn y lle hwn mai ychydig o ffeithiau sydd ar gael i'w croniclo o fewn cylch amseryddiaeth. Y mae sicrwydd, fel y ceir gweled yn y benod ar yr Ysgol Sabbothol, i ysgol gael ei dechreu yn y Bwlchgwyn, yn y gymydogaeth hon, mor foreu a'r flwyddyn 1787. Yn y tŷ hwn y trigianai Hugh Roberts yr hwn a grybwyllodd gyntaf am ddechreu ysgol wrth Edward Roberts, "Vicar y Crawcallt," tra yr elent eu dau i'r moddion crefyddol i Frynygath, ac mewn gweithdy perthynol iddo ef y dywedir ei bod yn cael ei chynal gyntaf. Bu yn symudol o dy i dŷ yn yr ardal hyd nes y daeth i'r capel; ac yno y bu yr hen frodyr ffyddlon Richard Griffith, Glanllafar, a William Dafydd, Bodyfudda, yn arolygwyr iddi am flynyddoedd lawer. Yr oedd hon yn un o'r wyth ysgol a ffurfient y Dosbarth Ysgolion yn 1819. Ei rhif y flwyddyn hono oedd 68, a chadwodd heb fod lawer yn fwy na llai o hyny hyd yn awr. Ei rhif yn 1889, ymhen deng mlynedd a thriugain, ydyw 64.
Adeiladwyd capel Cwmprysor yn 1815. Mehefin y flwyddyn hono ydyw dyddiad y brydles; ei hyd, 999 mlynedd; ardreth flynyddol, 6c. Dau o'r ymddiriedolwyr cyntaf oeddynt, Lewis Morris ac Owen Williams, Towyn. Yr oedd 20p. o ddyled yn aros yn 1850. Y mae un a wrandawai yn y capel hwn 55 mlynedd yn ol, yn cofio y byddai y plant yn dyfod iddo yn yr haf yn droednoeth-goesnoeth, ac yn y gauaf deuid a llwyth o frwyn o'r mynydd, a thaenid ef ar hyd y llawr, fel y byddai y gwrandawyr yn y moddion hyd eu haner mewn brwyn. Ni wnaed byth fawr ddim cyfnewidiad ar y capel yn allanol, ond y mae ychydig flynyddau yn ol wedi ei adnewyddu a'i wneuthur yn gysurus y tufewn. Yn 1867, rhoddodd Mrs. Davies, Fronheulog, dir am ddim, yn ychwanegol at y tir oedd ar brydles, er mwyn adeiladu tŷ arno mewn cysylltiad â'r capel.
Byddai yn arferiad yma flynyddau yn ol i gadw cyfarfodydd gweddio ar gylch yn holl dai y gymydogaeth, ac ar brydiau byddai arddeliad neillduol yn dilyn y cyfarfodydd hyn. Ar adegau cynhelid cyfarfodydd gweddi yn Mlaenycwm, a phan y byddai yno, deuai brodyr o Gapel Celyn i gyfarfod brodyr Cwmprysor i'w gyd-gynal. Llawer gwaith y cyfododd y teimladau crefyddol yn uchel, ac y bu molianu hyfryd ar hyd y Cwm hwn. Mynych y clywid llais Sara Dafydd, Bodyfudda, yn gorfoleddu, o glogwyn i glogwyn, ac o fryn i fryn, trwy holl blwyf Trawsfynydd, weithiau ganol dydd ac weithiau ganol nos. Cofir am un noswaith yn arbenig pan yr oedd John Williams, Llecheiddior, a Robert Owen, Llanrwst, yn pregethu yn y Cwm, a'r ysbryd wedi disgyn mewn modd neillduol ar bawb oedd yn y lle, y gynulleidfa yn ferw gwyllt drwyddi, a'r ddau bregethwr wedi ymuno â'r gwrandawyr yn neidio oddiar y llawr gan ddiolch a molianu. Nid oes neb all ddweyd pa bryd y sefydlwyd yr eglwys yn Nghwmprysor. Dichon ei bod wedi ei sefydlu cyn adeiladu y capel. Mae yr eglwys a'r gynulleidfa wedi cael bob amser yr un manteision gweinidogaethol a Thrawsfynydd. Nid oedd neb wedi eu galw i fod yn flaenoriaid yma hyd Ionawr 1826. A methasom a chael gwybodaeth am neb fu yn gwasanaethu y swydd o hyny hyd yn awr ond y rhai canlynol,-
WILLIAM JARRETT, GLANLLAFAR.
Yr oedd ef yn berthynas agos i'r gŵr a roddodd ei dŷ gyntaf i dderbyn pregethu yn mhlwyf Trawsfynydd, ac yn un o linach y Jarretts sydd yn lliosog yn y wlad hyd heddyw. Heblaw amaethwr, yr oedd William Jarrett yn borthmon, ac felly yn dilyn llawer ar anifeiliaid, a dywediad Dafydd Rolant, y Bala, am dano ydoedd, "ei fod wedi cael gras wrth gynffon y fuwch." Mae yn lled amlwg, pa fodd bynag, ei fod ef wedi cael gras, sut bynag yr oedd wedi ei gael, oblegid tystiolaethai ei gymydogion am dano y byddai yn gofalu dyfod adref i'r Cwm erbyn noson seiat a noson cyfarfod gweddi pen mis o ffeiriau Sir Gaernarfon, a holl ffeiriau y wlad.
WILLIAM DAFYDD, BODYFUDDA.
Yr oedd ef, mae'n debyg, yn un o'r blaenoriaid cyntaf, ac yr oedd yn ŵr gweithgar a defnyddiol iawn gyda'r achos. Yn mis Mai 1841, gosodwyd ef gyda nifer o flaenoriaid eraill y Cyfarfod Misol i olygu ar ryw lwybr tuag at leihau dyled y capelau. Nid oes ddadl ynghylch ei dduwioldeb. Fe ddywedir ar seiliau digonol fod ôl ei benliniau o dan goeden neillduol yn yr ardd lle byddai yn myned i weddïo, i'w weled yn goch am amser hir ar ol iddo farw. Cafodd fyw yn hir i wasanaethu crefydd, a magodd blant fuont yn golofnau cedyrn o dan yr arch ar ei ol.
RICHARD GRIFFITH, GLANLLAFAR.
Dengys y tocyn canlynol yr amser y neillduwyd ef i'r swydd,—
RICHARD GRIFFITH,
Golygwr Cymdeithas
Y Methodistiaid Calfinaidd
Cwmprysor, yn Swydd Feirionydd.
- Arwyddwyd gan
Mehefin 13, 1838.................RICHARD JONES.
Gŵr pwyllog, gwastad gyda chrefydd ydoedd ef, ac yn fawr ei ofal am holl amgylchiadau yr achos. Perchid ef yn fawr gan fyd ac eglwys, oherwydd ei ymarweddiad cyson, a'i gariad cryf at achos y Gwaredwr. Ystyrid pobpeth a ddywedai yn ddeddf ar unwaith. Ei briod, Ellin Griffith, hefyd, oedd yn meddu crefydd nodedig o ddisglaer. Cyfodai ei theimladau crefyddol mor uchel weithiau, fel y byddai yn tori allan mewn gorfoledd yn y nos, a dywedir y bu ei phriod yn fynych yn rhoi ei law ar ei genau rhag iddi aflonyddu y teulu. Bu Richard Griffith farw mewn henaint teg, Ionawr, 1873. Glanl'afar bob amser ydoedd cartref y pregethwyr, ac y mae yn parhau i fod felly eto.
DAVID JONES.
Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel blaenor, Medi 1854. Bu farw yn niwedd y flwyddyn 1882. Yr oedd ef yn fab i William Dafydd, Bodyfudda. Cafodd ddygiad i fyny crefyddol, ac yr oedd ôl hyny i'w weled arno bob amser. Crefyddwr da fel ei deulu oedd yntau, a thynodd ei gwys i'r pen mewn heddwch a thangnefedd. Bu Evan Roberts, o Maentwrog Uchaf, yn blaenori yn yr eglwys hon. Y blaenoriaid yma yn awr ydynt, William Jones, Glanllafar, a David Jones, Bryngafolau.
Nifer y gwrandawyr, 77; cymunwyr 36; Ysgol Sul, 64.
Nodiadau
[golygu]