Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II/Cynhadledd Canmlwyddiant yr Ysgol Sabbothol yn Nolgellau, 1885

Oddi ar Wicidestun
Arholiad Sirol yr Ysgol Sabbothol Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II

gan Robert Owen, Pennal

Sylwadau Terfynol



PENOD VI.

CYNHADLEDD CAN'MLWYDDIANT YR YSGOL SABBOTHOL YN NOLGELLAU, 1885.

CYNWYSIAD—Aelodau y Gynhadledd—Y Pwyllgor yn cael ei gryfhau—Y Safonau yn dyfod i weithrediad—Y Can'mlwyddiant yn foddion deffroad gyda gwaith yr Ysgol Sul—Pethau ymarferol yn cael eu dwyn i sylw—Amcan y Gynhadledd—Trefnlen y Gynhadledd—Y pethau a barodd ei llwyddiant—Rhan gerddorol y Gynhadledd—Adroddiad o Weithrediadau yr Wyl.

 R oedd dydd Gwener, Mai 22ain, 1885, yn ddydd o gryn bwysigrwydd yn Sir Feirionydd, oblegid y diwrnod hwnw cynhelid Cynhadledd arbenig o bregethwyr, blaenoriaid, swyddogion, athrawon ac athrawesau, a chynrychiolwyr yr Ysgolion Sabbothol, ynghyd â phawb oedd yn teimlo dyddordeb yn y sefydliad o fewn cylch Cyfarfod Misol y rhan orllewinol o'r sir. Ganol haf, y flwyddyn hono, cynhaliwyd Cymanfaoedd lliosog yn y gwahanol ddosbarthiadau, er gwneuthur coffa am ddechreuad y sefydliad yn Nghymru, am yr oll o ba rai y rhoddwyd adroddiad mwy neu lai helaeth mewn cysylltiad â phob dosbarth ar ei ben ei hun. Yr oedd i'r Gynhadledd, yr hon a gynwysai y goreuwyr o bob rhan o'r cylch, amcan mwy cyffredinol. A phe yr elid heibio, heb wneuthur crybwylliad byr am dani, byddai un linc bwysig yn nghadwen yr hanes yn ngholl. Gwnaeth y deffroad a gymerodd le yn amser y Can'mlwyddiant les dirfawr mewn llawer ffordd. Y flwyddyn flaenorol, cryfhawyd Pwyllgor yr Ysgol Sabbothol yn y sir hon trwy chwanegu at ei nifer, fel y byddai iddo wneuthur trefniadau ar gyfer yr amgylchiad. A'r canlyniad a fu i'r dynion a roddwyd yn y swydd dori allan lawer o waith i ateb i'r amseroedd. Y pryd hwn y trefnwyd ac y mabwysiadwyd y Safonau yn yr ysgolion. Yn ol yr hen drefn, yr oedd pawb yn benrhydd, ac at eu dewisiad i gymeryd eu cynllun eu hunain i addysgu y plant, ac yn fynych iawn ni chymerid cynllun yn y byd, ond elid ymlaen wrth synwyr y fawd, mewn llawer o aflerwch a difaterwch. Gwelliant ydyw y cynllun, sydd wedi dyfod i arferiad yn ddiweddar, ar yr hen beirianwaith oedd yn bod yn Nghymru er's can' mlynedd, trwy yr hwn y credir y daw y naill dô ieuanc ar ol y llall ymlaen yn gyflymach mewn gwybodaeth, ac y gwreiddir hwy yn fwy trwyadl yn yr hyn a ddysgant. Cymerodd Pwyllgor yr Ysgol Sabbothol, y flwyddyn a nodwyd, lawer o drafferth ac amser i berffeithio y cynllun hwn. Cymerwyd mantais ar y Can'mlwyddiant i ledaenu nifer o Eiriadur Ysgrythyrol Mr. Charles ymysg deiliaid yr ysgolion. Sefydlwyd llyfrgelloedd, mewn rhai manau, yn gysylltiedig â'r capeli. Bu ymgais mwy neu lai llwyddianus i wella y Cyfarfodydd Ysgolion. Rhoddwyd anogaethau i ffurfio cyfarfod arbenig ymhob ardal, er mwyn disgyblu a chymhwyso yr athrawon i gyflawni eu gwaith yn briodol. Dygwyd i sylw, a chafwyd trafodaeth gyhoeddus yn yr Ysgolion Sul ar amryw bynciau ymarferol, megis "Cadw y Sabbath," Iawn ymddygiad yn moddion gras, "Geirwiredd," "Gonestrwydd," "Iaith anweddus," &c. Helaethwyd y gwobrwyon yn yr arholiadau, a phenderfynwyd rhoddi tystysgrifau i bawb fyddo wedi enill haner y marciau yn y gwahanol ddosbarthiadau yn yr Arholiad Sirol. Ffrwyth wedi tyfu o'r Can'mlwyddiant ydyw "Undeb Ysgolion Sabbothol Methodistiaid Gogledd a Deheudir Cymru."

Ond yr hyn y gofynir sylw arno yn y fan hon ydyw, Cynhadledd Ysgolion Sabbothol Gorllewin Meirionydd, a gynhaliwyd yn Nolgellau. Yn ol trefniad y Pwyllgor bwriedid y Gynhadledd er cael ymgynghoriad rhwng cynrychiolwyr a swyddogion yr Ysgolion Sabbothol yn y cylch ar wahanol faterion yn dwyn cysylltiad â llwyddiant y sefydliad, gan gymeryd mantais ar y brwdfrydedd oedd yn y wlad yn y flwyddyn 1885 i sylwi ar ragoriaethau a diffygion y gorphenol, ac i ystyried pa beth a ellid ei wneuthur tuag at ymgyraedd at fwy o lwyddiant yn y dyfodol. Yr oedd y drefnlen ganlynol wedi ei pharotoi y flwyddyn flaenorol, yn cynwys y materion a ddygid gerbron, ynghyd â'r personau a fwriedid i gymeryd rhan yn ngweithrediadau y dydd.

Fod Trefn Cyfarfodydd y Gynhadledd i fod fel y canlyn:—

CYFARFOD Y BOREU AM 10 O'R GLOCH.

LLYWYDD E. GRIFFITH, YSW., U.H., DOLGELLAU.

1. Darllen papyr gan y Parch. D. Roberts, Rhiw, ar "Y lle ddylai athrawiaethau crefydd gael yn addysg yr Ysgol Sabbothol." I wneyd sylwadau pellach ar yr un mater, y Parchn. J. Davies, Bontddu; W. Thomas, a J. H. Symmond.

2. Darllen papyr gan y Parch. W. Williams, Corris, ar "Pa fodd i ychwanegu effeithiolrwydd y Cyfarfodydd Ysgolion." I wneyd sylwadau pellach Mri. R. Jones, New Shop, Dolgellau; D Rowland, Pennal; a'r Parch. R. Owen, M.A.

CYFARFOD Y PRYDNAWN AM 2 O'R GLOCH.

LLYWYDD MR. G. JONES, TYMAWR, TOWYN.

1. Darllen papyr gan y Parch. E. J. Evans, Llanbedr, ar "Yr holwyddori yn yr Ysgol Sabbothol." I wneyd sylwadau pellach Parchn. W. Davies, Llanegryn; H. Roberts, Siloh; a Mr. W. Williams, Tanygrisiau.

2. Darllen papyr gan Mr. Rowland, Board School, Penrhyndeudraeth, ar "Y ffordd fwyaf effeithiol i gyfranu addysg yn yr Ysgol Sabbothol." I wneyd sylwadau pellach Parchn. G. Ceidiog Roberts, R. H. Morgan, M.A., ac Elias Jones.

CYFARFOD YR HWYR AM 6 O'R GLOCH.

LLYWYDD PARCH. R. ROBERTS, DOLGELLAU.

Traddodwyd anerchiadau ar y materion canlynol:—

1. "Y gwersi y gellir eu dysgu oddiwrth hanes cychwyniad yr Ysgol Sabbothol," gan y Parchn. D. Jones, Garegddu, a W. Jones, Trawsfynydd.

2. "Perthynas yr Ysgol Sabbothol a moesau ein gwlad," gan y Parchn. W. Jones, Penrhyn, a S. Owen, Tanygrisiau.

3. "Y cysylltiad sydd rhwng yr addysg deuluaidd a'r Ysgol Sabbothol," gan y Parchn. D. Davies, Abermaw, a T. J. Wheldon, B.A.

Cynhaliwyd y cyfarfodydd yn ol y drefn uchod, a chan y personau a nodwyd, oddieithr ychydig o eithriadau. Gwahoddid dau gynrychiolydd o bob ysgol yn y cylch, ac yr oedd cynrychiolaeth gyflawn yn bresenol, heblaw lliaws o weinidogion, a blaenoriaid, a charedigion yr Ysgol Sul o bob parth o'r sir. Gwnaeth cwmnïau y rheilffyrdd drefniadau cyfleus, er hwylusdod i'r dieithriaid; ac yn ol caredigrwydd arferol cyfeillion Dolgellau, yr oedd ymborth wedi ei ddarparu yn rhad gan ysgolion y Methodistiaid yn y dref, yn yr ystafelloedd cysylltiedig â chapel Salem.

Cytunai pawb a roddodd eu presenoldeb yn y Gynhadledd i ddwyn tystiolaeth i'w llwyddiant a'i heffeithiolrwydd, ac i ddywedyd mai da oedd bod ynddi. Trodd y trefniadau allan yn rhai hwylus a dehenig, a chafwyd arwyddion fod cryn lawer o ddylanwad yn dilyn pobpeth a ddywedid ar y materion fuont dan sylw yn ystod y dydd. Cydgyfarfyddai lliaws o bethau i beri fod cyfarfodydd y Gynhadledd yn rhai mwy arbenig na chyfarfodydd cyffredin. Gwnaethid darpariadau helaeth a phrydlon ymlaen llaw; daeth ynghyd liaws o bobl oreu y wlad, yn feibion a merched; crewyd disgwyliadau uchel yn meddyliau pawb, oherwydd fod yr amgylchiadau a roisant fôd i'r cyfarfodydd yn rhai na ddigwyddant ond unwaith mewn oes; yr oedd lliaws y gwrandawyr wedi eu meddianu, fwy neu lai, gan fyfyrdodau ar y pethau a fu ymhell yn ol, ac ar y pethau a fydd ymhell ymlaen. Tueddai pobpeth allanol yn ffafriol i gael cyfarfodydd llwyddianus. Yr oedd yr holl faterion hefyd y cafwyd trafodaeth arnynt, yn y cyntaf, yr ail, a thrydydd eisteddiad y Gynhadledd, y rhai mwyaf pwrpasol y gallesid meddwl am danynt, gan eu bod yn cyffwrdd â bywyd yr ysgol, ac â bywyd crefydd yn y wlad. Rhoddwyd diwrnod cyfan i draethu ar y pynciau canlynol-athrawiaethau crefydd, y Cyfarfodydd Ysgolion, yr holwyddori cyhoeddus, y ffordd fwyaf effeithiol i gyfranu addysg, y gwersi oddiwrth hanes cychwyniad yr Ysgol Sabbothol, y cysylltiad rhwng yr ysgol â moesau y wlad, ac âg addysg deuluaidd; a diameu na threuliwyd diwrnod yn y sir erioed gyda materion mwy pwysig. Cafwyd prawf fod y gwirioneddau yn cydio yn y siaradwyr, a'u bod hwythau, mewn canlyniad, yn cydio yn y gwrandawyr. Yr oedd rhai o'r areithiau yn cael eu nodweddu gan "feddyliau yn anadlu a geiriau yn llosgi." Byddai yr hen dadan yn cael eu meddianu gan sel angerddol gyda gwaith yr Arglwydd, Yr oedd y sel a amlygid y diwrnod hwnw yn Nolgellau, beth bynag arall ellid ddweyd am dano, yn sel yn tarddu oddiar wybodaeth, ac oddiar awyddfryd pur i wneuthur coffa am waith y tadau. Rhedai ysbrydiaeth lawer uwchlaw y cyffredin trwy yr oll o'r cyfarfodydd. Gwneid cyfeiriadau mynych at Mr. Charles, a Lewis William, Llanfachreth, fel y rhai fu yn offerynau penaf yn llaw yr Arglwydd i gychwyn yr Ysgol Sabbothol yn Sir Feirionydd, ac nid ychydig o help a roddai y coffhad am eu henwau hwy, i enyn mwy ar y sel a'r brwdfrydedd. Er nad oedd gorymdeithio cyhoeddus yn cymeryd lle y diwrnod hwnw fel yn y Cymanfaoedd a gynhaliwyd y mis dilynol, eto, cynyrchodd cyfarfodydd y Gynhadledd deimlad cryf a pharhaus o blaid yr Ysgol Sabbothol. A bydd yr hyn a wnaed drwyddi hi yn aros yn hwy na dim arall er coffhad am flwyddyn gofiadwy y Can'mlwyddiant.

Yn ystod gweithrediadau y dydd canwyd emynau allan o gasgliad oedd wedi ei ddarparu ar gyfer y gynhadledd, o dan arweiniad Mr. Humphrey Jones, arweinydd y canu yn nghapel Salem, Dolgellau. Chwareuwyd ar yr Harmonium, yn nghyfarfod y boreu, gan Mr. R. R. Williams, Tremhyfryd; yn nghyfarfod y prydnhawn, gan Miss Roberts, Frondirion; ac yn nghyfarfod yr hwyr, gan Mr. Hughie Jones, Plasucha. Trwy gyfarwyddyd, a than nawdd y Cyfarfod Misol cyhoeddwyd adroddiad cyflawn o weithrediadau y Gynhadledd, yn cynwys y papyrau a ddarllenwyd, a'r areithiau a draddodwyd, yn bamphlet arno ei hun, am y pris bychan o dair ceiniog. Y mae amryw ganoedd o hono eto ar law, heb eu gwerthu. Nid yw yn ormod dweyd fod mwy o wybodaeth fuddiol ynddo am waith yr Ysgol Sul, ac am agwedd pethau fel yr oeddynt yn y flwyddyn 1885, nag a geir yn unman arall, mewn can lleied o le. Ni ddylai yr un tŷ yn y sir fod hebddo.


Nodiadau[golygu]