Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II/Garegddu
← Tabernacl | Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II gan Robert Owen, Pennal |
Engedi → |
GAREGDDU
Y crybwylliad cyntaf ar lyfrau y Cyfarfod Misol am yr achos yn y Garegddu, ydyw y penderfyniad canlynol a basiwyd yn Aberdyfi, Chwefror 7, 1870:—"Yn gymaint a bod arwyddion cynydd mawr mewn adeiladu yn Ffestiniog, rhwng y Rhiw a'r Tabernacl, barnai y cyfeillion yno yn ddoethineb iddynt sicrhau tir cyfleus i adeiladu capel yn y lle, a gofynent gydsyniad y Cyfarfod Misol i hyny. Rhoddwyd cydsyniad yn ebrwydd, ac amlygwyd llawenydd am fod hyn yn eu calon." Yn yr un Cyfarfod Misol penodwyd deuddeg o bersonau yn ymddiriedolwyr. Ond oherwydd rhyw amgylchiadau bu oediad ynglyn â symud ymlaen i sicrhau y tir. Trwy ymdrech y Parch. T. J. Wheldon, B.A., yn benaf, yr hwn a aeth at y tirfeddianydd yn bersonol, y llwyddwyd o'r diwedd i gael tir mewn man cyfleus, a dechreuwyd casglu yn effeithiol at y capel. Dyddiad y brydles ydyw 1876.
Derbyniwyd adroddiad oddiwrth y swyddogion, cynwys yr hwn ydyw yr hyn a ganlyn. Tua dechreu y flwyddyn 1871, teimlid anesmwythder yn meddyliau rhai brodyr yn y Tabernacl ynghylch y nifer mawr oedd yn esgeuluso yr Ysgol Sabbothol ar hyd y gymydogaeth, a dygwyd y mater i sylw yr athrawon ar ddiwedd yr ysgol, a phenderfynwyd sefydlu cangen ysgol yn nghymydogaeth Dolgaregddu. A'r Sabbath cyntaf o Ebrill, y flwyddyn hono, sefydlwyd hi yn nhŷ Mr. John Evans. Nid dyma y tro cyntaf i'r teulu hwn groesawu yr Ysgol Sabbothol, canys bu eu tŷ yn gartref i gangen ysgol arall, pan oeddynt yn byw yn Tainewyddion, Diphwys. Y brodyr a ymgymerasant a'i sefydlu oeddynt Mr. J. Parry Jones, gynt o Lanberis, a Mr. Richard Hughes, yn awr o Borthmadog. Ei rhif y Sabbath cyntaf oedd deg, ond cynyddodd yn gyflym hyd nes yr aeth y tŷ yn rhy fach i'w chynal. Yn nechreu y flwyddyn 1872, symudwyd hi i Ysgoldy Brytanaidd Dolgaregddu. Ei nifer pan yn symud oedd 48. Bu y symudiad yn foddion i ychwanegu llawer ati, oblegid cynyddodd yn fuan i 140. Dechreuwyd casglu tuag at adeiladu capel, ac yn mis Ebrill 1875, sefydlwyd Cymdeithas Arianol mewn cysylltiad â'r ysgol.
Ebrill, 1876, nodwyd cyfeillion o'r Tabernacl, mewn cysylltiad â brodyr oeddynt yn aelodau o'r Ysgol Sabbothol Dolgaregddu, yn Bwyllgor Adeiladu. Cafwyd addewidion at y capel o yn agos i 200p. Nid oedd y capel i gynwys mwy na 450, nac i gostio mwy na 1600p.; ond aeth y draul o'i adeiladu, gan ei fod yn un o'r adeiladau goreu a harddaf yn yr ardal, yn 2200p. Yn unol â'r gofal yr oedd eglwys y Tabernacl wedi ei gymeryd gyda'r achos newydd o'r cychwyn, rhoddasant 300p. tuag at adeiladu y capel. Rhoddodd eglwys y Rhiw, hefyd, 150p.; Bethesda, 33p., a Thanygrisiau ryw swm at yr un amcan. Ebrill 25, 1878, ffurfiwyd yr eglwys yn y capel newydd, pryd yr oedd yn bresenol, dros y Cyfarfod Misol, y Parchn. T. J. Wheldon, B.A., D. Roberts, Rhiw; a Mri. Evan Roberts, Rhiw, a John Hughes, Tabernacl. Ymunodd â'r eglwys o'r Tabernacl 117; o'r Rhiw 54; Tanygrisiau 2; Peniel 2; y cyfan yn 175; nifer yr ysgol 225. Y Sabbath canlynol, pregethwyd ynddo y tro cyntaf gan y Parch. T. J. Wheldon, B.A. Mai 6ed a'r 7fed, cynhaliwyd Cyfarfod Misol, yr hwn a ystyrid fel cyfarfod ei agoriad, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. Dr. Hughes, Liverpool; R. Roberts, Dolgellau; W. Jones, Trawsfynydd; D. Jones, Llanbedr; W. Jones, Penrhyn; a D. Davies, Abermaw. Costau adeiladu y capel, fel y rhoddwyd hwy mewn cysylltiad â hanes yr achos yn y cyfarfod hwn ydoedd 2500p. Y swm a dderbyniasid erbyn yr un adeg, 1061p., heblaw fod "dodrefn y cysegr" wedi eu rhoddi yn anrhegion gan amryw aelodau o'r Ysgol Sul. Dygwyd treuliau y Cyfarfod Misol hwn gan eglwys y Tabernacl.
Mr. J. Parry Jones, U.H., oedd yr unig flaenor a ddaeth gyda'r gangen eglwys o'r Tabernacl. Neillduwyd ef i'r swydd yno flwyddyn yn flaenorol. Dewiswyd Mr. W. Jones, Melbourne Terrace, i weithredu gydag ef y flwyddyn y sefydlwyd yr eglwys, a Chwefror 18, 1879, dewiswyd Mr. R. Rowland, U.H., N. & S. W. Bank (yn awr o Bwllheli), yn flaenor.
Rhoddodd yr eglwys alwad i'r Parch. D. Jones, Llanbedr. Tachwedd 4, 1880, cynhaliwyd cyfarfod ei groesawiad, pryd yr oedd yn bresenol swyddogion eglwysig yr ardal. Yn 1882, ymadawodd oddeutu 50, heblaw plant, i gapel Bowydd. A Mawrth 22, yr un flwyddyn, dewiswyd yn flaenoriaid, Mri. I. Watkins (yn awr o Griccieth), O. Williams, New Market Square; a W. Evans, Maenofferen. Yn 1883, adeiladwyd tŷ i'r gweinidog, a rhoddwyd darn newydd at y capel, yr hyn a gostiodd 1300p. Costiodd y capel a'r tŷ ynghyd oddeutu 4000p. Yn mis Ebrill, 1883, cafwyd ymweliad grymus oddiwrth yr Arglwydd, trwy weinidogaeth y diweddar Barch. Richard Owen, pryd y rhoddodd 70 eu hunain i fyny i Grist, ac yr ymunodd â'r eglwys yn Garegddu 32. Sabbath, Mawrth 23, 1884, ail agorwyd y capel, pryd y pregethwyd gan y Parchn. D. Jones, a Dr. Edwards, Bala, ac y gweinyddwyd yr Ordinhad o Swper yr Arglwydd am ddau o'r gloch. Hwn oedd y tro diweddaf i Dr. Edwards fod yn Mlaenau Ffestiniog. Cynyddodd yr eglwys yn ystod y flwyddyn hon 39.
Mehefin, 1885, penodwyd Mr. J. Parry Jones, U.H., yn arolygwr Ysgol y Plant, sydd yn ymgynull yn yr ystafell o dan y capel, yr hyn a barodd fywyd o'r newydd i'r ysgol hono. Ymgymerwyd â'r Safonau, dygwyd hi i well trefn, a llwyddwyd, i raddau pell, i roddi argraffiadau llednais a boneddigaidd ar feddyliau y plant. Penderfynwyd i'r casgliad ar ddydd diolchgarwch y flwyddyn hon fod at ddyled y capel, a chyrhaeddodd y swm o 37p. Yn 1886, cyrhaeddodd 40p.; yn 1887, 40p.; yn 1888, 60p. Cesglid yn yr ysgol bob Sabbath, heblaw hyn, gasgliad a gyrhaeddai y blynyddoedd a nodwyd o 75p. i 80p. Swm y ddyled ar ddiwedd 1889 ydoedd 1639p. 4s. 10c. Nifer y gwrandawyr, 636; cymunwyr, 357; Ysgol Sul, 432.
Nodiadau
[golygu]