Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II/Engedi

Oddi ar Wicidestun
Garegddu Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II

gan Robert Owen, Pennal

Bowydd
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Blaenau Ffestiniog
ar Wicipedia




ENGEDI

Capel wedi ei adeiladu yn Llan, Ffestiniog, yn y flwyddyn 1880 ydyw Engedi, ac achos newydd wedi ei ffurfio ynddo y pryd hwnw. Ar ol y rhyfel rhwng Ffrainc a Germani, yn arbenig yn y blynyddoedd 1874—1881, daeth tymor o lwyddiant anghyffredin ar y fasnach lechau, ac mewn canlyniad, bu llawer o adeiladu tai yn Llan, Ffestiniog, megis manau eraill, a chynyddodd y boblogaeth yn fawr yn y cwr agosaf i'r rheilffordd. Y pryd hwn, adgyweiriwyd hen gapel Peniel, ond yn gymaint a'i fod yn lled lawn, ac yn anhawdd cael eisteddle ynddo, cododd awydd yn arbenig ymysg y bobl ieuainc am gael capel yn y rhan o'r gymydogaeth oedd yn myned ar gynydd. Teimlai yr hen frodyr yn gryf yn erbyn codi capel, fel ag i ranu yr eglwys yn Peniel, ond yr oedd y teimlad cyferbyniol yn cryfhau, ac o'r diwedd hwnw a orfyddodd. Wedi cryn lawer o ddadleu, cytunwyd iddo fod yn gapel i gynwys tua 500 i eistedd ynddo. Cymeradwywyd y cynlluniau-eiddo Mr. O. M. Roberts, Porthmadog, gan y Cyfarfod Misol. Gosodwyd y gwaith o adeiladu i Mr. W. Jones, Porthmadog, am oddeutu 2000p. Cynhaliwyd y moddion cyntaf ynddo, Sabbath, Mai 15, 1881. Y nos Lun ganlynol, pregethodd y Parch, Humphrey Williams y bregeth gyntaf ynddo, ac enwyd y capel yn Engedi. Bedyddiwyd hefyd ddau y noswaith hono. Sefydlwyd yr eglwys nos Lun, Mai 23. Daeth 160 o aelodau trosodd o Peniel, o'r rhai yr oedd dau yn flaenoriaid, sef Mri. Ellis Lloyd, a Robert Davies, Hafodfawr. Oherwydd pellder ffordd ac oedran y diweddaf, nis gallai ddyfod ond anaml i'r Llan, fel, yn ymarferol, ni feddai yr eglwys ond un swyddog adeg y symudiad. Bu y fam eglwys yn Peniel, modd bynag, yn garedig i gynorthwyo, hyd nes yr ychwanegwyd y nifer. Nos Iau, Gorphenaf 21, 1881, yn mhresenoldeb y Parch. T. J. Wheldon, B.A., a Mr. Robert Jones, Bethesda, fel cynrychiolwyr y Cyfarfod Misol, neillduwyd pedwar yn flaenoriaid, sef Mri. Owen Hughes, H. J. Hughes, Evan Richards, ac Owen Jones. Ymhen ychydig ddyddiau, ymgyfarfu y swyddogion, er gwneuthur trefniadau i gario y gwaith ymlaen. Dewiswyd Mr. O. Jones yn ysgrifenydd cyffredinol, i gasglu y cyhoeddiadau, ac i gyhoeddi y moddion: Mr. E. Richards yn drysorydd cyffredinol, ac amryw eraill i gyflawni gwahanol swyddau, yr hyn a gadarnhawyd gan yr eglwys. Medi, 1884, ychwanegwyd at nifer y swyddogion trwy ddewis Mr. Robert Jones, relieving officer, yn flaenor, yr hwn oedd wedi bod yn gwasanaethu y swydd yn y Dyffryn yn flaenorol. Cynhaliwyd cyfarfod pregethu, yr hwn a olygid yn gyfarfod agoriad y capel, y Sabbath cyntaf yn Hydref, 1881, a chafwyd gwasanaeth y Parchn. Dr. Edwards, Bala; Joseph Thomas, Carno; a J. Elias Hughes, M.A., Llanelwy.

Cyfrif argraffedig cyntaf yr eglwys, yr hwn a wnaed ar ddiwedd 1881, ydyw: gwrandawyr, 389; cymunwyr, 189; Ysgol Sul, 295. Ar ddiwedd 1884: gwrandawyr, 410; cymunwyr, 213; Ysgol Sul, 313. Ar ddiwedd 1889: gwrandawyr, 370; cymunwyr, 210: Ysgol Sul, 281. Y cyfrif a roddir dros fod y gynulleidfa yn llai ydyw, fod cryn nifer o symudiadau wedi cymeryd lle i'r Blaenau.

Mae yr eglwys wedi profi ei hun yn eglwys hynod o weithgar yn barod, ac un prawf o hyny ydyw yr ymdrech a wnaethpwyd ganddi i dalu dyled y capel. Yr oedd cytundeb wedi ei wneuthur yn Peniel, pan yn penderfynu adeiladu Engedi, ar fod y draul yn cael ei rhanu-2 ran o 5 i ddisgyn ar Peniel, a 3 rhan o 5 ar Engedi; ac hefyd fod llogau yr arian a geid ar log i'w talu yn ol yr un cyfartaledd. Mae y cyfeillion wedi bod yn ddiwyd yn casglu o'r dechreu, a'r flwyddyn ddiweddaf gwnaethpwyd ymdrech neillduol, fel y talwyd dros 300p., a chliriwyd yr holl arian oedd ar log trwy wasanaeth y Gymdeithas Arianol. Ac mae y ddyled ar ddiwedd y flwyddyn 1889 wedi ei thynu i lawr i 854p. 15s. 10c. Canfyddir ffrwyth yr eglwys yn y ffaith fod cyfanswm ei holl gasgliadau, yn ystod yr wyth mlynedd a haner cyntaf o'i hanes, yn cyraedd 2500p.

Daeth y brodyr yn fuan i deimlo en hangen am weinidog, a chyfododd yr ysbrydiaeth gyda hyn i ddechreu oddiwrth y bobl ieuainc. Nos Fercher, Tachwedd 29, 1882, cymerwyd llais yr eglwys yn y mater, pryd y caed fod y teimlad yn unfrydol o blaid y symudiad. Ymhen amser, buwyd mewn yındrafodaeth faith gyda brawd yn y weinidogaeth i ddyfod atynt. Ond wedi hir ddisgwyl, a chyfarfod â siomedigaeth, oerodd y teimlad. Wedi hyn, buwyd mewn rhyw gymaint o drafodaeth â swyddogion eglwys Peniel, gyda golwg ar i'r ddwy eglwys ymuno i gael gweinidog. Aeth y cais hwn drachefn yn fethiant. Ar ddechreu 1886, ail enynodd y sel, a rhoddwyd galwad unfrydol i'r Parch. John Williams, B.A., yr hwn oedd ar y pryd yn efrydydd yn Mhrifysgol Aberystwyth. Nos Lun, Medi 6ed, y flwyddyn hono, cynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad. Yr oedd yn bresenol, ac yn cymeryd rhan yn y cyfarfod, y Parch. Joseph Thomas, Carno, a Mr. Richard Humphreys, Llanbrynmair, dros Gyfarfod Misol Trefaldwyn Uchaf, a'r Parch. T. J. Wheldon, B.A., & Mr. Robert Jones, Bethesda, dros Gyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd, ynghyd âg amryw eraill o swyddogion eglwysig. Y mae Mr. Williams yn parhau eto mewn cysylltiad hapus a'r eglwys.

Ag ystyried ieuanged yw yr eglwys, y mae llawer iawn o gyfnewidiadau wedi cymeryd lle eisoes yn ei swyddogion hi. Y mae pedwar o'r blaenoriaid wedi eu symud oddiwrth eu gwaith at eu gwobr, am y rhai y gwneir sylwadau coffadwyiaethol ar y diwedd. Yn Mai, 1888, oherwydd cyfnewidiadau yn y chwarelau, bu raid i Mr. O. Jones symud i fyw i'r Blaenau. Ac yn niwedd 1889, symudodd Superintendent O. Hughes i fyw i gymydogaeth Dimel, gerllaw Corwen. Ba y ddau frawd hyn yn neillduol o weithgar, ac o wasanaeth mawr i'r eglwys yn ei mabandod; a phrawf o serch yr eglwys tuag atynt, a'i chymeradwyaeth o honynt ydoedd, ddarfod i'r frawdoliaeth gyflwyno anrhegion i'r naill a'r llall ar eu hymadawiad. Yn nechreu y flwyddyn 1888, galwyd tri o frodyr ieuainc yn flaenoriaid, sef Mri. H. Jones (yr hwn yw arweinydd y canu er sefydliad yr eglwys), T. R. Jones, Ysgol y Bwrdd, ac E. T. Richards. A hwy eu tri ydyw y swyddogion presenol. Er fod yr eglwys wedi cyfarfod â cholledion trymion, y mae eto yn arddangos llawer o arwyddion bywyd; ac y mae lle i gredu fod yr Arglwydd yn bendithio ei waith yn eu plith.

Y mae un pregethwr wedi cychwyn o'r eglwys, sef Mr. R. H. Evans, yr hwn sydd yn awr yn Athrofa y Bala, ac wedi ei dderbyn yn aelod o'r Cyfarfod Misol er's blwyddyn yn ol. Mae y Babell yn gangen o'r eglwys a'r gynulleidfa hon, le y ceir pregeth bob Sabbath er pan adeiladwyd Engedi. I fyny ac i lawr y mae yr achos wedi bod yno y blynyddoedd diweddaf, a llawer iawn o symudiadau wedi cymeryd lle. Cynhelir cyfarfod eglwysig yn yr wythnos, a chyfarfodydd eraill yn achlysurol. Ac yn bresenol, y mae un neu ddau o frodyr o Engedi yn myned yno i gynorthwyo gyda'r Ysgol Sabbothol.

SYLWADAU COFFADWRIAETHOL.

ELLIS LLWYD.

Genedigol oedd ef o Blwyf Llandecwyn. Treuliodd ei oes yn Ffestiniog, fel un o'i hardalwyr tawel a heddychol. Hysbysir am un ffaith ddyddorol yn ei hanes, sef mai ei briodas ef oedd y briodas ddirwestol gyntaf a gymerodd le yn Ffestiniog. Symudodd i Beniel yn 1854, lle y bu yn cadw tŷ capel am 14 mlynedd. Dewiswyd ef yn flaenor yn 1874, wedi bod yn gwneuthur gwaith blaenor am flynyddoedd yn flaenorol. Cymerodd ei le yn naturiol fel swyddog ar symudiad yr eglwys i Engedi. Bu farw Ionawr 29, 1883, yn 76 mlwydd oed. Un o hen bererinion Sion ydoedd, a'i grefydd yn gloewi at ddiwedd ei oes. Byddai ei sirioldeb yn fawr bob amser yn nhŷ y capel, a'i wrandawiad yn y cysegr yn astud a chalonogol.

H. J. HUGHES.

Ganwyd ef yn mhentref Beddgelert, yn Medi, 1845. Yr oedd yn fab i John Hughes, Oeddwr, blaenor adnabyddus yn Mheniel, Beddgelert. Pan yn 23 oed, priododd Gwen Jones, Glanwern, Talsarnau, ac aeth y ddau drosodd i America. Tra yno, bu yn wasanaethgar gyda'r achos yn Racine, ac anogwyd ef gan y brodyr i ddechreu pregethu, ond cyn i'r bwriad hwnw gael ei roddi mewn gweithrediad, gorfu iddo, oherwydd sefyllfa ei iechyd, ddychwelyd i Gymru. Ymsefydlodd, ar ei ddychweliad, yn Nhalsarnau, a dewiswyd ef yn flaenor yno yn 1872. Bu yn flaenor wedi hyny yn Nazareth, ac yn Gorphwysfa, Penrhyndeudraeth. Symudodd drachefn i fyw i Lan Ffestiniog, a galwyd ef yn un o flaenoriaid cyntaf Engedi. Ond cymerwyd ef yn glaf yn fuan, a gorphenodd ei yrfa yn Nhachwedd, 1882, yn 37 mlwydd oed. Yr oedd yn ŵr o farn addfed, cadarn yn y Gair a'r athrawiaeth, a galluog i gynghori ac arwain yn eglwys Dduw, a cholled fawr, i bob golwg ddynol, oedd ei golli.

ROBERT DAVIES, HAFODFAWR.

Fel un o'r hen frodorion, ac amaethwr cyfrifol, yr oedd yn wladwr a chymydog hawddgar; ei rodiad yn weddaidd, a'i gymdeithas yn llawn diddanwch. Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel blaenor yn Mheniel, yn Medi, 1864. Yr oedd yn un o'r ddau swyddog a symudodd gyda'r eglwys i Engedi. Yr oedd yn nodedig o ffyddlawn yn y Babell, a'r achos yn cael lle mawr ar ei feddwl bob amser. Ymroddodd gyda'r achos yno fel pe buasai yn achos iddo ei hun. Symudwyd yntau o fyd yr anialwch i'r orphwysfa, Ebrill, 1887.

EVAN RICHARDS, GLASFRYN.

Masnachwr parchus ydoedd ef wrth ei alwedigaeth, ac iddo air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Efe ydoedd ceidwad un o'r tai masnachol hynaf yn y plwyf: bu yn arhosol yn yr un lle bron ar hyd ei oes, ac yn hynod o lwyddianus, a gellir dweyd fod byd a chrefydd wedi eu huno yn hanes ei fywyd. Yr oedd o dymer naturiol siriol a charuaidd, ac elfenau cyfeillgarwch yn llinellau amlwg yn ei gymeriad. Bu am dros ddeugain mlynedd yn gwasanaethu yr Ysgol Sabbothol fel ysgrifenydd ac arolygwr, yn Llan Ffestiniog, a hyny gyda deheurwydd mawr, a phrofodd ei hun yn un o'r gweithwyr ffyddlonaf yn eglwys Peniel trwy yr holl flynyddoedd. Yr ydoedd yn ddibetrus yn un o'r cymeriadau hoffusaf a mwyaf gwerthfawr mewn cymdeithas. Y disgybl ffyddlonaf o'r ffyddloniaid, a gweithiwr distaw, diwyd, a diymffrost. Yn haeddianol iawn, dewiswyd ef yn un o'r pedwar blaenor cyntaf yn yr eglwys hon. Hunodd mewn tangnefedd heddychol, Medi 10, 1886, yn 68 mlwydd oed.

Nodiadau[golygu]