Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II/Harlech

Oddi ar Wicidestun
Ddyffryn Ardudwy yn flaenorol i'r flwyddyn 1785 Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II

gan Robert Owen, Pennal

Abermaw
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Harlech
ar Wicipedia



PENOD II.

HANES YR EGLWYSI.

Y CYNWYSIAD.—Harlech—Abermaw-Dyfryn—Gwynfryn—Nancol—Talsarnau-Llanbedr—Llanfair—Eglwys Saesneg Abermaw.

HARLECH

 ARLECH oedd y lle cyntaf yn Nosbarth y Dyffryn i gael y fraint o dderbyn yr efengyl drwy y Methodistiaid Calfinaidd, a'r person fu yn offerynol i ddwyn pregethu gyntaf i'r fro oedd Griffith Ellis, Pen'rallt. Lowri Williams, Pandy'rddwyryd, fu yn foddion ei dröedigaeth ef, am yr hyn y ceir hanes helaeth yn y drydedd benod. Cymerodd yr amgylchiad hwnw le rhwng 1755 a 1760. Enynodd y tân a gyneuwyd yn Mhandy'rddwyryd y blynyddoedd hyny, nes bod yn foddion i blanu amryw eglwysi yn amgylchoedd Ffestiniog. Daeth Griffith Ellis, hefyd, a'r gwreichion oddiyno i gymydogaeth Harlech. Ymhen rhyw gymaint o amser agorodd ei dŷ ei hun i gynal moddion ynddo, a gwnelai ymdrech mawr i gael pregethwyr i bregethu yn achlysurol yn yr ardaloedd o amgylch ei gartref. Ac am yr ysbaid o ugain mlynedd ymddengys ei fod yn unig yn y gorchwyl hwn. "Fe fu Griffith Ellis," ebe Methodistiaeth Cymru, yn fendith fawr yn ei ardal, ac nid yn unig yn ei ardal ei hun, ond yn y rhai cymydogaethol hefyd, ac y mae ei enw yn beraroglaidd hyd heddyw yn ei fro enedigol." Ceir ei hanes yn rhoddi yr hedyn i lawr yn nghymydogaeth Llanfair, ac yn dyfod a phregethwyr i bregethu y troion cyntaf i'r Dyffryn. Byddai yn myned can belled a Lleyn, yn Sir Gaernarfon, ymofyn cyhoeddiadau; a rhag i neb fod yn amheus o'i neges, prynai fuwch, neu ryw anifail arall, i ddyfod gartref gydag ef. "Cafodd y gwr hwn ei gymell, pan oedd yn aredig yn y maes, i fyned ugain milldir o ffordd i geisio gan bregethwr ddyfod y Sabbath canlynol i'w ardal i bregethu. Gollyngodd y wedd yn y fan, a chychwynodd i ffordd ar ei draed. Cafodd y pregethwr gartref, a chafodd ganddo, gan faint ei daerni, gydsynio t'i gais. Y Sabbath a ddaeth a'r pregethwr hefyd; ond nid oedd na chapel na chynulleidfa yn barod iddo. Eithr yr oedd rhyw nifer o bobl yn y llan; disgwyliwyd gan hyny am i'r bobl ddyfod allan, a safodd y pregethwr i fyny ar ryw dwmpath, yn agos i'r ffordd y dychwelent ar hyd-ddi i'w cartrefi i roddi gair o gyngor iddynt. Safodd llawer o honynt wrando, a dwysbigwyd rhai dan y bregeth hono, y rhai a fuont ffyddlon dros Dduw hyd ddiwedd eu hoes."[1] Wedi cael cyhoeddiad pregethwr i bregethu, byddai yn ddiwyd iawn yn myned o dŷ i dŷ i hysbysu i'w gymydogion yr amser y cedwid yr oedfa. Ac yr ydoedd mor gydwybodol ac uniawn yn ei amcan, fel na adawai lonydd i neb heb eu cymell i ddyfod i wrando. "Pan oedd pregeth i fod yn Mhen'rallt ryw dro, digwyddodd i Griffith gyfarfod â gweinidog y plwyf, a gofynodd iddo, yn niniweidrwydd ei galon, a ddeuai efe i wrando ar y gŵr a ddisgwylid? a chwanegai, 'Mai pregethwr da iawn ydoedd; gŵr tebyg i chwi, syr, ydyw—mae yn offeiriad.' Ond nacâd a gafodd oddiwrth y gŵr parchedig. Ryw dro ar ol hyn, cyfarfu â Griffith Ellis yn ffair Harlech; ac mewn anwydau drwg, cododd ei ffon ac a'i tarawodd, am ei wahodd i wrando y fath ysprêd. Ond er y sarhad hwn, Griffith Ellis oedd y parotaf o bawb i wneuthur cymwynas iddo."[2] Yr oedd Griffith Ellis, pa fodd bynag, yn y rhan hon o Sir Feirionydd, fel caniad y ceiliog yn dweyd fod y wawr ar dori. Y mae amryw grybwyllion yn cyfeirio at ei dŷ ef, sef y Tyddyndu, ac wedi hyny Pen'rallt, fel lle yr oedd eglwys wedi ei ffurfio, ac ychydig grefyddwyr yn ymgynull ar enw Crist, am lawer o flynyddoedd cyn bod yr un eglwys arall i'w chael yn y parthau hyn. "Yr oedd brawd a dwy chwaer yn arfer myned i wrando pregethu i Ben'rallt, gerllaw Harlech, sef i dŷ y Griffith Ellis y soniasom fwy nag unwaith am dano, ac wedi ymuno hefyd â'r gymdeithas eglwysig a ffurfiasid yno." Y personau cyntaf a ymunodd â chrefydd yn y Dyffryn oedd y brawd a'r ddwy chwaer hyn. Deuent yr holl ffordd o'r Dyffryn am mai yn Mhen'rallt eto y ceid yr unig gymdeithas eglwysig yn y cyffiniau. Wrth gymeryd i'r cyfrif amser tröedigaeth Griffith Ellis, ac nad oedd ond ieuanc ar y pryd, ynghyd a'r cyfeiriadau at ddechreuad yr achos mewn lleoedd eraill yn y cyffiniau, deuir i'r casgliad fod yr eglwys wedi ei ffurfio yn ei dŷ ef oddeutu y flwyddyn 1770, a hon oedd eglwys Harlech. Yr oedd yma bregethu achlysurol yn ddiameu cyn hyn. Oddeutu yr un adeg felly y dechreuwyd yma ag yn y Penrhyn, ond fe aeth y Penrhyn ymlaen yn fwy cyflym. Bedair blynedd ar ol hyn, sef yn 1774, yr ydym yn cael fod ysbryd erlidgar iawn yn meddianu preswylwyr Harlech, gan iddynt ymddwyn yn greulawn tuag at y fintai o grefyddwyr o Sir Gaernarfon a elai trwy y dref y flwyddyn hono, ar eu ffordd adref o Langeithio. "Tranoeth, ar ein taith tuag adref, fel yr oeddym yn dyfod trwy dref Harlech, cododd y trigolion fel un gŵr i'n hergydio â cherig, fel pe buasent yn tybio mai eu dyledswydd oedd ein llabyddio. Tarawsant rai yn eu penau nes oedd y gwaed yn llifo."[3] Cafodd un ergyd yn ei sawdl, fel y bu yn gloff am wythnosau. Yr oedd y Parch. Robert Jones, Rhoslan, yr hwn a ysgrifenai yr hanes, yn bresenol yn y fintai, ac yn un o'r rhai a dderbyniodd ergyd nes oedd y gwaed yn llifo. Trowyd Griffith Ellis o'r Tyddyndu am ei fod yn noddi y pregethwyr, ond arweiniodd Rhagluniaeth ef yn fuan i Ben'rallt yn yr un plwyf. Ac yma y bu cartref yr achos am 25 mlynedd, er fod y lle gryn bellder oddiwrth Harlech. Nid oes dim sicrwydd y cynhelid moddion yn y dref y tymor hwn, oddieithr yn achlysurol. Mae yr holl wybodaeth hefyd am yr achos yn ystod yr un tymor yn gymlethedig â theulu Pen'rallt, ac eithrio ryw ychydig iawn o bersonau.

Adeiladwyd y capel cyntaf yn Harlech yn y flwyddyn 1794. Dywedir fod careg a'r dyddiad hwn yn gerfiedig arni i'w gweled yn mur y capel, hyd yr adeg yr adeiladwyd ef yn ei ffurf bresenol, chwe' blynedd ar hugain yn ol. Nis gellir rhoddi bron ddim o hanes y capel cyntaf; yn unig hysbysir fod ei gynllun a'i ddiwyg allanol a mewnol yn dra chyntefig, a'i fod wedi ei adeiladu yn yr un llecyn a'r capel presenol. Yr oedd ymlyniad yr hen batriarch o Ben'rallt yn naturiol wrth ei gartref, ac yr ydoedd yn tynu mewn oedran pan adeiladwyd y capel yn y dref. Yr oedd yr achos, modd bynag, yn cael ei adnabod fel "Achos Harlech," o leiaf, chwe' blynedd cyn adeiladu y capel. Y mae gweithred gyfreithiol ar gael, wedi ei dyddio yn y flwyddyn 1788, trwy yr hon y cyflwynai Henry Owen, Penycerig, 60p. yn rhodd tuag at ddwyn traul yr achos yn Harlech. Yr Henry Owen hwn oedd y person y cyfeirir ato yn y benod flaenorol, sef yr hwn yr aeth gŵr Uwchglan i achwyn arno at ei feistr tir, ac i geisio cael ei ffarm oddiarno, oherwydd ei fod wedi myned i berthyn i'r Methodus. Mae ei feddrod i'w weled wrth ochr hen eglwys Llandanwg, ar fin y môr, ac yn gerfiedig ar y gareg, "Henry Owen, 1801." Efe oedd un o gymwynaswyr cyntaf y Methodistiaid yn y parthau hyn, ac yn ddiameu yn un o flaenoriaid cyntaf Harlech. Ymddiriedolwyr y weithred grybwylledig oeddynt bump o nifer, sef y Parchn. Thomas Charles a Dafydd Cadwaladr, Bala; Mri. Henry Roberts, Uwchlaw'r coed; Robert Jones, Harlech; ac Edward Griffith, Tyddyndu. Ceir hysbysrwydd yn llyfrau y Cyfarfod Misol fod y tir y safai y capel cyntaf arno wedi ei brynu yn Mehefin, 1823, am 60p. Y tebygrwydd ydyw mai i brynu y tir hwn yn feddiant yr aeth yr arian a nodir yn y weithred uchod, oblegid meddai yr ymddiriedolwyr hawl i ddefnyddio y llôg a chorff yr hawl fel y gwelent hwy yn oreu. Hysbysir hefyd am dir wedi ei ganiatau yn 1849 gan Robert Jones, a bod pedwar ar ddeg o ymddiriedolwyr wedi eu nodi y flwyddyn hono, ond ni roddir hysbysrwydd am ddim wedi ei dalu am dano.

Ymhen ychydig dros ddeugain mlynedd wedi adeiladu y tro cyntaf, sef oddeutu 1837, adeiladwyd y capel yr ail waith. Ac yn 1864, adeiladwyd ef y drydedd waith, i'r ffurf y mae ynddo yn bresenol. Fel hyn y dywed y penderfyniad a basiwyd yn Ebrill y flwyddyn hono,-"Cyflwynwyd cynlluniau y capel. newydd a fwriedir ei adeiladu yn Harlech gerbron y cyfarfod, ac amlygwyd cymeradwyaeth o honynt. Barnent y byddai y draul tua 350p., ac yr oedd yr addewidion eisoes yn cyraedd tros 150p." Yn 1879, rhoddwyd oriel ar y capel. Yn Adroddiad ar Feddianau y Cyfundeb am 1882 ceir yr hysbysrwydd canlynol. Y nifer all eistedd yn y capel, 365; treuliwyd ar adeiladu ac adgyweirio o ddechreu 1873 i ddiwedd 1880, 420p.; swm y ddyled yn nechreu 1881, 820p.; gwerth y capel a'r eiddo perthynol iddo, 1200p. Y mae, neu yr oedd amryw o dai yn perthyn i'r capel hwn. Y ddyled ar ddiwedd 1889 yw 575p.

Y mae llai o ffeithiau hanesyddol yn perthyn i'r eglwys hon nag odid i un o'r hen eglwysi. Er iddi gael y fantais i gychwyn o flaen holl eglwysi Gorllewin Meirionydd, oddieithr y Penrhyn a Maentwrog, ni bu ei chynydd yn gyfatebol i'w breintiau boreuol. Ymddengys fod dau reswm, o leiaf, i'w roddi dros hyn. Yn un peth, fe'i cadwyd yn rhy hir yn Mhen'rallt, lle megis o'r neilldu oddiwrth y boblogaeth, oddeutu dwy filldir oddiwrth dref Harlech. Y rheswm amlwg arall ydyw, ddarfod i'r Bedyddwyr wneuthur cryn gynydd yn y dref yn niwedd y ganrif ddiweddaf a dechreu yr un bresenol. Oddeutu yr un adeg, mae'n wir, y cyfodwyd y capel cyntaf ganddynt hwy ag y cyfodwyd capel cyntaf y Methodistiaid. Ond cafodd y Bedyddwyr ŵr galluog a dysgedig yn weinidog, yn mherson y Parch. J. R. Jones, o Ramoth, yr hwn a ymsefydlodd yn eu plith tua'r flwyddyn 1790. Gwnaeth llafur gŵr o'i fath ef ei ôl ar y wlad; crynhödd y bobl o'i amgylch, fel y gwenyn yn crynhoi o amgylch y cwch. Tra nad oedd gan y Methodistiaid yr adeg hono yr un gweinidog na phregethwr i lafurio yn sefydlog yn y ihan yma o'r wlad.

Y crybwylliad cyntaf am yr Ysgol Sabbothol yn y dref hon ydyw, iddi gael ei dechreu o gylch y flwyddyn 1792; ond dywedir y byddai yr hen batriarch crybwylledig o Ben'rallt yn arfer myned ar hyd a lled yr ardal i ddysgu adnodau i'r trigolion, flynyddau cyn rhoddi cychwyniad i'r sefydliad yn Nghymru. Robert Jones, yr hwn oedd frawd i'r adnabyddus John Jones, o'r Gwynfryn, oedd yn cymeryd gofal y bobl mewn oed, ar gychwyniad yr ysgol, a Morris Griffith, Llwynhwleyn, oedd y cyntaf i ddysgu y plant; er y dywedir nas gallai yr olaf ddarllen gair ei hun, eto bu o wasanaeth mawr i'r sefydliad. Mr. Rees Roberts, yr hwn a roddodd grynhodeb o hanes yr ysgolion yn Ngwyl y Can'mlwyddiant, 1885, a ddywed mai un anfantais fawr i gynydd yr ysgol yn Harlech yn mlynyddoedd ei mebyd oedd, fod y Bedyddwyr Sandimanaidd yn blaid gref yn y dref, a barnent hwy, yn gydwybodol mae'n ddiameu, fod ymgasglu ynghyd ar y Sabbath i ddysgu darllen yn sarhad ar y pedwerydd gorchymyn, ac yn groes i sancteiddrwydd dydd yr Arglwydd. Ond daeth y brodyr o'r enwad hwnw yn raddol i weled mai sefydliad daionus a buddiol ydyw yr Ysgol Sabbothol, a bellach er's blynyddoedd, rhoddant hwythau, fel yr enwadau eraill, eu gwyneb o'i phlaid.

Ceir cipolwg ar agwedd yr achos crefyddol yma o gylch y flwyddyn 1840, mewn cysylltiad â gŵr a ymfudodd o'r ardal i America, sef y Parch. David Pugh, Rock Hill, Wisconsin. Ganwyd ef mewn tyddyn gerllaw Harlech yn 1821. Yr oedd ei rieni yn grefyddol, a'i fam yn cael ei rhestru ymhlith y merched duwiolaf. Bu ef ar fedr myned i Athrofa y Bala, ond oherwydd ei fod wedi priodi, ymfudodd i America yn 1846. Mr. T. Lloyd Wiliams, Racine, a rydd yr hanes canlynol: "Yn nyddiau fy ieuenctid, yn fy ardal enedigol, sef Dyffryn Ardudwy, yr oedd enw David Pugh, ieuengaf, Morfa, Harlech, yn enw adnabyddus iawn, am y rheswm fod ei weithgarwch ymhlaid cerddoriaeth a'r Ysgol Sabbothol yn cael ei deimlo drwy y rhandir hono o Sir Feirionydd, sef o afon y Traeth Bach i afon y Mawddwy. Byddai ef ar y blaen. gyda'r holl symudiadau daionus hyn, mewn areithio a hyrwyddo eu llwyddiant. Yn moreu oes David Pugh gwan oedd yr achos, ac ychydig oedd nifer y Methodistiaid yn Harlech, am fod y Bedyddwyr Ysgotaidd, neu fel eu gelwid hwy yno, Bedyddwyr Jones Ramoth,' wedi meddianu bron yr holl boblogaeth; ond bu ef yn offerynol i sefydlu un neu ddwy o Ysgolion Sabbothol mewn lleoedd anghysbell, a gwyr pawb o'i gydnabod pa mor ddebeuig a ffyddlawn y bu dros ei oes gyda y rhan hon o waith yr Arglwydd." Bu y gŵr hwn yn ddiacon yn gyntaf yn America, ac wedi hyny daeth yn bregethwr. Bu farw yn ddiweddar mewn cymeradwyaeth mawr.

Mae y gweddill o hanes yr eglwys, gan mwyaf, yn gysylltiedig â'r personau a fu yn swyddogion ynddi. Griffith Ellis, yr hwn y soniwyd am ei enw amryw weithiau eisoes, sydd yn cymeryd y blaen ar ben y rhestr. Nid yn unig fe fu ef yn offerynol i blanu yr eglwys, ond bu hefyd yn swcwr ac yn nerth iddi am hir amser yn ei mabandod. Prin y cyferfydd un â neb o blith hen grefyddwyr ein gwlad a ddangosodd gymaint o ysbryd cenhadol, a gwir ymroddiad didwyll ac unplyg er iachawdwriaeth ei gymydogion, ag a wnaeth y gŵr hwn. Arferai godi yn foreu ar y Sabbothau, a myned allan at dai ei gymydogion i'w rhybuddio o'u perygl ysbrydol, ac i'w gwahodd i ddyfod i foddion gras ac i ddarllen y Beibl. Rhanai adnodau o dŷ i dŷ, gan anog y teuluoedd i'w dysgu. Ymddiddanai â phawb ymron am yr angenrheidrwydd o gael grym crefydd; ac unwaith anturiodd roddi cyngor i offeiriad y plwyf, ond costiodd hyn gryn ofid iddo, gan i'r gŵr eglwysig roddi dyrnod iddo yn ochr ei ben, am ei ryfyg yn meiddio ei ddysgu ef. Yr oedd Catrin ei wraig yn wrthwynebol iawn i'w gŵr ar y dechreu. "Mi a'i clywais yn dweyd," ebe un a'i hadwaenai, "y byddai weithiau yn cael ei lenwi â braw, rhag i'r Arglwydd ei tharo yn farw oherwydd ei gelyniaeth." Ond daeth hi cyn hir i gydweled ac i gydweithredu â'i gŵr, ac i fod yn ymgeledd i bregethwyr ar eu dyfodiad i'r gymydogaeth. Dengys yr hanesyn hynod a ganlyn gydwybodolrwydd a didwylledd Griffith Ellis:—

"Yr oedd wedi ofni, wrth weled fod Mr. Charles yn tewychu ac yn myned yn fwy corffol, nad oedd yn arfer gwyliadwriaeth ddigonol arno ei hun mewn bwyta ac yfed; ac o ganlyniad y byddai yn debyg o golli ei ddefnyddioldeb. Daeth yr adnod 1 Cor. ix. 27, yn rymus i'w gof, Ond yr wyf fi yn cosbi fy nghorff ac yn ei ddwyn yn gaeth, rhag i mi mewn un modd, wedi i mi bregethu i eraill, fod fy hun yn anghymeradwy.' Tybiodd yn ddilai mai cenadwri ydoedd cynwysiad yr adnod a roddid iddo i'w thraethu wrth Mr. Charles. Penderfynodd ufuddhau i'r hyn a dybiai yn alwad arno oddiwrth Dduw, a chychwynodd i'w daith. Cyrhaeddodd y Bala, ugain milldir o ffordd o leiaf, a chafodd y gŵr parchedig yn ei dŷ; ond erbyn cyraedd yno, llaesodd ei feddwl gymaint fel nad oedd ffrwyth ynddo i adrodd ei neges. Ar ol swper, aeth i orphwys am y nos, gan lawn fwriadu traddodi ei genadwri yn y boreu. Ond erbyn y boreu, yr oedd yn wanach nag o'r blaen; ac nid oedd dim i'w wneyd ond dychwelyd adref heb gwblhau ei neges. Cychwynodd tuag adref, ond pan oedd tua haner y ffordd, aeth mor anesmwyth arno, fel un a fuasai anffyddlawn i'r ymddiried a roddasid ynddo, fel na allai fyned yn mhellach. Dychwelodd i'r Bala drachefn, a thraethodd ei genadwri. Derbyniodd Mr. Charles hi gyda hynawsedd, a diolchodd i'r hen ŵr yn wresog a diffuant am ei ffyddlondeb."—Methodistiaeth Cymru, I. 527.

Yr oedd G. Ellis yn hen wr pan y gwnaeth y daith hon i'r Bala. Bu farw, fel y dergys ei gareg fedd yn mynwent Llanfair, Mawrth 30, 1808, yn 74 oed.

Edward Griffith, o'r Tyddyndu, oedd ŵr blaenllaw gyda'r achos yn Harlech y tymor cyntaf, ac yn ol pob tebyg yn un o flaenoriaid yr eglwys. Bu farw Medi 16, 1799, yn 44 oed. Dau eraill a enwir fel blaenoriaid yr un amser ag ef, neu yn fuan ar ei oeddynt Morris Griffith, Llwynhwleyn, a Morris Jones, Fronheulog. Robert Jones, Tŷ Capel, hefyd, yr hwn y crybwyllwyd am dano fel cychwynydd yr Ysgol Sul, oedd yn flaenor y tymor hwn.

EVAN THOMAS, PEN'RALLT

Mab-yn-nghyfraith ydoedd ef i Griffith Ellis; cyrhaeddodd yntau hefyd enwogrwydd fel blaenor. Galwyd ef i'r swydd gan eglwys Harlech, yn y flwyddyn 1826, ac ar ei ysgwyddau ef y gorphwysai bron holl waith yr eglwys am ysbaid o ugain mlynedd. Bu farw Ionawr 18, 1845, yn 75 mlwydd oed. Y Parch. Richard Jones, y Wern, a ddywedai wrth ymddiddan âg ef mewn Cyfarfod Misol yn Harlech,-"Byddai yn dda i'r eglwysi, ie, gwyn eu byd, pe byddai holl flaenoriaid Cymru yn debyg iddo. Er ei fod yn ymddangos yn farwaidd a digalon, er hyny, pa bryd bynag y delwyf fi yma, yma y bydd yntau fel y cloc. Gwelwyd llawer blaenor yn meddu dawn ffraeth, a'r achos o dan warth, ond am Evan Thomas, gwan ac ofnus oedd ddeng mlynedd yn ol, a bu llawer cyngrair yn uffern am ei gael i lawr, eto sefyll y mae heddyw."

JOHN LLOYD, ERW-WEN.

Amaethwr cyfrifol, a blaenor o radd dda yn ei amser. Cafodd argyhoeddiad pur amlwg yn amser y Diwygiad Dirwestol, ac ymunodd â chrefydd y pryd hwnw. Etholwyd ef yn flaenor, a daeth yn aelod o'r Cyfarfod Misol yn 1840. Bu farw Tachwedd 16, 1858, yn 68 mlwydd oed. Yr oedd yn ŵr o gyrhaeddiadau pur eang, yn feddianol ar ddawn helaeth, ac wedi trysori i'w gof lawer o hanesyddiaeth gwladol ac Ysgrythyrol. Safai yn uchel yn ei ardal fel gwladwr, ac yr oedd ar y blaen gyda'r Ysgol Sabbothol, ac fel blaenor eglwysig.

HARRY WILLIAM.

Genedigol oedd ef o Sir Gaernarfon. Bu yn gwasanaethu gyda'r Parch. Richard Jones, o'r Wern. Yr oedd yn Gristion ac yn dduwinydd da. Yr oedd yn gyd-flaenor â John Lloyd, Erw-wen.

EDWARD OWEN A GRIFFITH LEWIS.

Derbyniwyd y ddau yn aelodau o'r Cyfarfod Misol, Rhagfyr, 1845. "Holwyd hwy am eu profiadau, eu hegwyddorion, ynghyd a'u teimladau gyda golwg ar eu galwad i'r swydd. Cafwyd hwy yn glir am eu colledigaeth, ond yn ofnus am eu hawl yn Nghrist, a'r iachawdwriaeth sydd ynddo." Yr oedd G. Lewis yn ŵr wedi cael gras mewn modd amlwg iawn. Ymadawodd â'r byd yn y flwyddyn 1852. Bu pwysau y gwaith ar Edward Owen am flynyddoedd lawer. Yr oedd yn ŵr didwyll a chywir, a gwnaeth ei ran yn ffyddlon gyd a theyrnas yr Arglwydd Iesu. Symudodd i ardal y Gwynfryn, a neillduwyd ef yn flaenor yno. Bu farw Ebrill 24, 1878, yn 79 oed.

Yn Nghyfarfod Misol Trawsfynydd, Medi 1861, derbyniwyd pedwar yn flaenoriaid yn Harlech,-Mri. Rees Roberts, Owen Roberts, John Lloyd, a H. H. Hughes. Mai, 1867, Mr. Ellis Lloyd, yr hwn sydd yn awr yn flaenor yn Llanfair. Bu Owen Hughes, Morfa, ac yn ddiweddarach, Hugh Owen, Lasynys, yn gwasanaethu y swydd yma-symudodd y ddau o'r ardal. Mawrth, 1873, derbyniwyd William Williams a Robert Davies, a Mawrth, ymhen y flwyddyn, Mr. Edw. Griffith. Bu W. Williams farw yn nechreu 1877.

Y blaenoriaid yn bresenol ydynt-Mri. Daniel Jones, Edward Griffith, Richard Davies, Robert Davies, William Humphreys.

Bu y pregethwr mwyn, y Parch. Daniel Evans, yn byw yn Harlech am o gylch 25 mlynedd. Daeth i drigianu i Benycerig trwy ei briodas. Bu yn cadw ysgol ddyddiol yn y dref, a gwnaeth lawer o ddaioni trwy hyny, yn gystal ag i achos crefydd yn gyffredinol. Treuliodd yr ugain mlynedd olaf o'i oes yn Mhenrhyndeudraeth. Yn awr y mae y Parch. Richard Evans yn gweinidogaethu yma, trwy alwad rheolaidd yr eglwys, er y flwyddyn 1871.

Y daith Sabbath yn 1816 oedd, "Talsarnau, Harlech, a'r Gwynfryn." Bu wedi hyny yn hir gyda Thalsarnau yn unig. Mae yn awr, er y flwyddyn 1866, yn daith gyda Llanfair. Oherwydd yr anfanteision a grybwyllwyd yn flaenorol, araf fu cynydd yr achos yn Harlech. Mewn Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yma, yn Rhagfyr 1845, dywedir "mai tra gwywedig oedd yr olwg ar yr eglwys, ac mai golwg galed ac anystyriol oedd ar y gwrandawyr a ymgynullent yn y lle." Ond yn awr y mae gwedd fwy siriol ar bethau, a chynydd graddol wedi bod er amser diwygiad 1859. Cangen wedi ymneillduo oddiyma ydyw yr eglwys yn Llanfair. Cynhaliwyd yma un Gymdeithasfa Chwarterol, sef yn mis Ebrill, 1882. Pregethwyd ar hyd y dydd olaf yn y Castell. Swm holl dreuliadau ei dygiad ymlaen oedd 82p. 15s. 10c. Nifer presenol y gwrandawyr, 360; cymunwyr, 138; Ysgol Sul, 219.

Nodiadau[golygu]

  1. Methodistiaeth Cymru, I. 291.
  2. Methodistiaeth Cymru, III. 195.
  3. Cyf. I., tudalen 40.