Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II/Llanfrothen
← Maentwrog (Isaf) | Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II gan Robert Owen, Pennal |
Croesor → |
LLANFROTHEN (SILOAM).
Olrheinir dechreuad cyntaf yr achos yma i "deulu Arch Noah," sef teulu o wyth enaid a gyfarfyddent er ymffurfio yn gymdeithas eglwysig yn Pandy-y-Ddwyryd, yn y flwyddyn 1757. Yr oedd un o'r wyth yn dyfod o'r ardal hon. Rhoddir sail i dybio nad oedd yma ond un crefyddwr, onide paham na buasent yn myned gyda'u gilydd i Bandy-y-Ddwyryd. Ond byddai yr hen bobl yn arfer dweyd iddynt glywed rhai hynach na hwythau yn son am dri neu bedwar o grefyddwyr yn byw yma yr adeg a nodwyd. Dichon y byddai yr ychydig grefyddwyr oedd yn yr ardal yr adeg foreuol hon, yn myned i Penrhyndeudraeth, oblegid ffurfiwyd cymdeithas eglwysig yno oddeutu yr un adeg ag yn Pandy-y-Ddwyryd, neu o leiaf, yn fuan ar ol hyny. Byddai pregethu yn rhai o dai y gymydogaeth yn achlysurol er yn foreu; yn Ynysfor, lle yr oedd John Jones, hen bregethwr cyfrifol, yn byw; yn Hafotty, ffermdy yn agos i odreu y Moelwyn, ac yn Ogof-llochwyn. Dywedir fod maes yn y lle olaf a adnabyddir hyd heddyw wrth yr enw "Cae gwr dieithr," am mai yno yr arferid troi ceffylau y pregethwyr i bori. Trwy y rhan yma o'r gymydogaeth, fel y tybir, yr oedd tramwyfa yr efengylwyr ar eu ffordd o'r Deheudir tua Beddgelert a Chaernarfon. Arferid pregethu fel hyn yn achlysurol yn y gwahanol ffermdai am y tymor maith o driugain mlynedd cyn bod eglwys wedi ei ffurfio yn ardal Llanfrothen.
Yn y flwyddyn 1868, ysgrifenodd Mr. Evan Williams, Rhyd, hanes Ysgolion Sabbothol Llanfrothen a Chroesor, a chyhoeddwyd ef mewn cysylltiad â chyfrifon Ysgolion Dosbarth Ffestiniog y flwyddyn hono. Gan ei fod ef yn dal cysylltiad, trwy berthynas â hen deuluoedd yr ardal, ac yn ysgrifenu fwy nag ugain mlynedd yn ol, yr oedd ganddo fantais arbenig i gael llawer o fanylion nas gellir eu cael yn awr. Yn yr ardal hon, yn fwy nag un man, mae yr achos crefyddol wedi tyfu o'r Ysgol Sul, ac y mae hanes y naill yn gydblethedig a hanes y llall. Er gweled y modd y dechreuodd ac y cynyddodd yr achos, cesglir y prif ffeithiau o'r hanes crybwylledig hyd yr adeg y ffurfiwyd eglwys yma, ychydig o amser cyn ymsefydliad y Parch. Richard Jones, yn y Wern.
Yr hanes cyntaf am yr Ysgol Sul yn Llanfrothen ydyw, ei bod yn cael ei chynal yn yr Hafotty, yn agos i fynydd y Moelwyn, cartref yr hen Gristion selog, ac un o flaenoriaid cyntaf yr eglwys, William Lewis, a hyny mor foreu a'r flwyddyn 1796. Edrychid gyda llygaid drwgdybus ar y sefydliad gan yr ardalwyr yn gyffredin. Preswyliai yr enwog John Jones, o Ramoth, yn Hafotty y pryd hwn, am y mur a'r lle yr oedd yr ysgol. Siaradai lawer yn ei herbyn, nes creu rhagfarn tuag ati. Arferai ddweyd na fuasai ond yr un peth ganddo ef weled y bobl yn myned i'r maes gyda "chaib a rhaw" ar ddydd yr Arglwydd, a'u gweled yn cadw ysgol i ddysgu ar y dydd hwnw. William Lewis a Gwen Jones, Pen'rallt, oeddynt yr offerynau i sefydlu yr ysgol yn y lle hwn. Gan na byddai yr un crefyddwr ond hwy eu dau yn dyfod i'r ysgol, arferai un ei dechreu, a'r llall ei diweddu, bob yn ail. Yr oedd William Lewis yn ddarllenwr lled dda, yn hyddysg yn yr Ysgrythyrau, ac yn llawn sel gyda'r plant. Gwen Jones hefyd oedd wraig ddeallus yn ei dydd. Yr oedd hi yn ferch i'r hen bererin, John Pritchard, Hafod-y-mynydd, y diacon cyntaf fu yn Penrhyndeudraeth. Y nos y cynhelid yr ysgol, oherwydd rhyw resymau; ac weithiau cynhelid hi ar nosweithiau gwaith, a deuai llawer mwy iddi yr adegau hyny.
Cynhelid hi tua'r flwyddyn 1806 yn Brongamedd, preswylfod Morris Pritchard, wedi hyny o Penrhyndeudraeth. Gwr nodedig o ffyddlon oedd ef gyda dysgu y plant. Wedi myned yn hen, a cholli ei olwg, wylai yn hidl, am na allai fod gyda'i hoff waith. Gŵr arall cadarn yn yr Ysgrythyrau, ac yn ymroddgar gyda'r ysgol yr adeg yma, oedd Hugh Llwyd, Gyrddinen, Dolyddelen, yr hwn a ddaeth i fyw i Factory y Parc, a bu ei ddyfodiad yn fendith i'r ardal. Ymhen ychydig wedi hyny, bu yr ysgol yn cael ei chynal yn Ogof-llochwyn. A thros ryw dymor, yn y cyfwng hwn, buwyduyn methu cael lle i'w chynal yn y plwyf. Yn eu penbleth, a chan deimlo eu colled ar ol yr ysgol, aeth yr hen frodyr at offeiriad y plwyf, i ofyn caniatad i'w chynal yn eglwys y plwyf rhwng y gwasanaeth. Yr offeiriad yn garedig a ganiataodd eu dymuniad. Yr oedd yma ddigon o le i bawb, ac ymunodd amryw o'r rhai yn flaenorol a arferent fyned i'r Penrhyn. Yn eu plith yr oedd Robert Hughes, Brynllydan, un o'r rhai ffyddlonaf a mwyaf galluog yn yr ardal. Y pryd hwn y dygwyd Hyfforddwr Mr. Charles i sylw yr ysgol. Cyn bo hir, daeth i glustiau yr offeiriad eu bod yn gweddio yn yr eglwys heb y ffurf apwyntiedig, a rhoddodd rybudd iddynt ymadael yn uniongyrchol. Ond cyn i'r rhybudd gael ei roddi mewn gweithrediad, Huw Llwyd a ddywedai wrth un o'r brodyr, "Wyddost ti beth wnawn ni? Cymerwn y Common Prayer o'n blaen i weddio." Felly fu. Tawelodd hyn yr offeiriad, a chafodd y brodyr dawelwch i fyned ymlaen gyda'r gwaith. Bu yr ysgol yn y lle hwn hyd 1813.
Tua'r flwyddyn 1814, daeth i feddwl amaethwyr y gymydogaeth i gael ysgol ddyddiol yn yr ardal, ac i'r diben hwn, cafwyd caniatad i adgyweirio hen felin oedd yn agos i'r Wern, Bu y Parch. Thomas Hughes (gynt o Fachynlleth), pan yn llanc ieuanc, yn athraw yr ysgol hon am rai blynyddau. Yn fuan wedi dechreu yr ysgol ddyddiol yn y lle hwn, symudwyd yr Ysgol Sabbothol yno. A dyma hi o'r diwedd wedi dyfod i'r fan y dechreuwyd yr achos, ac y ffurfiwyd yr eglwys.
Adnabyddid yr achos, am yr ugain mlynedd dyfodol, wrth yr enw "Y Wern," neu "Felin y Wern." Hynod dlodaidd a llwydaidd yr olwg arni oedd yr hen Felin. Arferid cael llwyth o frwyn bob diwedd blwyddyn i wneyd i fyny yn lle planciau ar y llawr. Dywedir i'r Parch. John Jones, Talsarn, fod yma yn pregethu, ac iddo unwaith ddweyd yn ei weddi ar y dechreu, "Cofia, Arglwydd, yr ardal ddistadl hon." Digiodd un hen chwaer yn arw wrtho am alw yr ardal yn ddistadl. Coffheir am ddau neu dri o frodyr a fu yn dra amlwg gyda gwaith yr Arglwydd yn y lle y tymor hwn. Un oedd Evan Roberts, gŵr a ddaeth i'r Factory ar ymadawiad Huw Llwyd. Brodor oedd ef o Bentrefoelas, a thad i'r Dr. Roberts, Penygroes. Cawsai ef fanteision addysg, yr hyn oedd yn beth anghyffredin yr amseroedd hyny. Er nad oedd yn grefyddwr ar y pryd, ymgysegrodd i waith yr ysgol tra bu yn y gymydogaeth. Efe, fel y dywedir, oedd yr arolygwr cyntaf ar yr ysgol yn Llanfrothen. "Byddai yn gwneyd i'r rhai digrefydd ddarllen ar gylch ar ddechreu yr ysgol, ac un o'r brodyr crefyddol i weddio." Un arall oedd Robert Owen, wedi hyny y Parch. Robert Owen, Rhyl. Daeth i wasanaethu i'r ardal fel gwehydd. Derbyniodd yn helaeth o ysbryd Diwygiad Beddgelert tra bu yma, a bu yn weithiwr medrus gyda'r ysgol, a dywedir y byddai yn myned yn orfoledd yn aml. Gŵr tra ffyddlon arall oedd Griffith Thomas, Garreg isaf. Daeth i'r ardal i fod yn hwsmon gyda'r Parch. Richard Jones, Wern. Dyn effro iawn ydoedd; bu yn myned am flynyddau i Gwm Croesor, i gynorthwyo gyda'r ysgol, pryd nad oedd yn y Cwm yr un crefyddwr. Yn nechreu y flwyddyn 1819, sef y flwyddyn yr anfonwyd y cyfrifon gyntaf i'r Cyfarfod Ysgolion, rhifai yr ysgol hon 127.
Yn fuan wedi sefydlu yr ysgol yn Ysgoldy y Wern, dechreuwyd pregethu yn rheolaidd, a chynhelid cyfarfodydd gweddi, a chyfarfodydd eglwysig. Aelodau yn y Penrhyn oedd yr ychydig grefyddwyr a breswylient yn y fro yn flaenorol. Ac ar y cyntaf, anfonid dau frawd o'r Penrhyn yma i gynorthwyo i gynal y seiat. Gellir casglu yn lled sicr fod yr eglwys wedi ei ffurfio, a'r achos wedi ei sefydlu yn Ysgoldy y Wern yn weddol reolaidd tua'r flwyddyn 1815, oblegid yr ydym yn cael oddiwrth hen ddyddiadur Mr. Gabriel Davies, y Bala, mai y daith Sabbothol y flwyddyn ganlynol oedd, "Wern, Penrhyn, Maentwrog." Nis gallai nifer yr aelodau fod ond o ddeg i ddeuddeg. Yn nhŷ W. Lewis y cedwid y seiat, am fod yno rhy ychydig i fyned i'r capel, sef y Felin. Rhoddai gŵr a gwraig y Wern (cyn amser y Parch. Richard Jones) fwyd i'r pregethwyr. Cyn hir, dechreuodd y brodyr yn y Penrhyn oeri yn eu zel, a deuent yn anamlach i'r Wern, i gynorthwyo gyda'r cyfarfod eglwysig. Parodd hyn i'r ddiadell fechan lwfrhau, a phenderfynwyd mai ly peth doethaf iddynt oedd dychwelyd yn ol i'r Penrhyn, a bod yn aelodau yno fel cynt. Ond y noson wedi gwneyd y penderfyniad hwn, cafodd yr hen frawd William Lewis weledigaeth hynod gysurlawn. Gwelai yn ei freuddwyd ragolygon disglaer i'r eglwys yn y Felin. Cododd yu llawen gyda'r wawr dranoeth, ac aeth i Brynllydan i adrodd ei weledigaeth i Robert Hughes (ei gyd-flaenor). "Ro'wn ni mo'r goreu iddi eto, Robin,' meddai wrth Robert Hughes, 'gei di wel'd y daw gwawr ar ol hyn.' Effeithiodd hyn i'w tawelu i beidio dychwelyd i'r Penrhyn, a chyn pen hir, sylweddolwyd yn llwyr weledigaeth William Lewis yn niwygiad Beddgelert, sef y diwygiad a fu trwy y wlad yn y flwyddyn 1818."[1] Gan fod yr ardal hon yn taro ar ardal Beddgelert, cafodd brofi effeithiau yr ymweliad grymus hwnw yn un o'r manau cyntaf. Cynhelid cyfarfodydd brwd mewn lle o'r enw Talyrni, heb fod ymhell o derfynau y ddau blwyf. Un Sabbath, tra yr oedd ieuenctyd cymydogaeth Llanfrothen wedi ymgynull i fyned trwy y chwareuon arferedig yn y wlad, ebai un o'r chwareuwyr (Dafydd William, Caeglas, mab William Lewis), "Ddowch chwi i'r Llyrni, gael i ni gael eu gweled yn gorfoleddu?" Cyn diwedd y cyfarfod cafodd y gŵr hwn ei argyhoeddi, a bu yn Gristion gloew, ac yn weithiwr ffyddlon gyda chrefydd o hyny allan. Cyn hir ar ol hyn, yr oedd y Parch. Dafydd Rolant, y Bala, yn yr hen Felin yn pregethu pregeth "Y Milgi," a bu gorfoledd a helynt anghyffredin yn y lle. Canlyniad yr ymweliad hwn oddiwrth yr Arglwydd oedd i'r achos crefyddol dderbyn cyfnerthiad mawr, cadarnhawyd y brodyr oedd ychydig yn flaenorol yn ddigalon, a chynyddodd yr eglwys lawer yn ei rhif. Ni soniwyd am fyned yn ol i'r Penrhyn byth wedi hyn. Gwnaethpwyd pethau rhyfedd a grymus trwy yr efengyl, er argyhoeddi pechaduriaid ac adeiladu y saint, yn hen Ysgoldy diaddurn y Wern, ac yn yr "ardal ddistadl hon."
DYFODIAD Y PARCH. RICHARD JONES I FYW I'R WERN.
Yn mhoethder diwygiad Beddgelert, neu feallai yn agos i'w derfyn, sef yn y flwyddyn 1819, y symudodd y gŵr enwog hwn o Sir Gaernarfon, i fyw i'r Wern, Llanfrothen. Rhoddodd enwogrwydd ar y lle, ac fel Richard Jones, y Wern, yr adnabyddir ef hyd heddyw, er na bu ei arosiad yno ond ychydig dros ddeuddeng mlynedd. Yr oedd y Felin, y lle a wnaethid ryw bum' mlynedd yn flaenorol yn ysgoldy, yn ymyl ffermdy enwog y Wern. Llawenydd digymysg i'r frawdoliaeth egwan oedd dyfodiad y fath deulu i fyw yno. Siriolodd a chefnogodd pob peth yr achos ar unwaith. "Ei dŷ," ebai ei fywgraffydd, "dros yr amser y bu yn y Wern, oedd cartref yr achos crefyddol yn yr ardal." Trwy ei gysylltiad eang â'r Cyfundeb, bu yn foddion i gael prif enwogion De a Gogledd yno i bregethu. Ac oddiyma bu yntau yn teithio, tra yn nghyflawnder ei addfedrwydd, i'r Cyfarfod Misol a'r Cymanfaoedd, ac i'w deithiau trwy amrywiol siroedd Cymru. Yr oedd Sir Feirionydd wedi ei chyfoethogi yn fawr trwy ei ddyfodiad ef iddi i fyw. Tra yn aros yma yr ysgrifenodd ac y cyfansoddodd lawer o'i weithiau, ac yn eu plith ei lyfr rhagorol, "Drych y Dadleuwr." Dywedai rhyw hen chwaer pan ddaeth y llyfr hwn allan, "'Doedd ryfedd na ddeuai rhywbeth oddiwrtho, yr oedd yn yr hen lofft yna er's digon o amser." Afreidiol yw dweyd iddo adael argraff ddofn a pharhaol ar y gymydogaeth a'i thrigolion, er eu diwyllo a'u crefyddoli. Laweroedd o weithiau, yn nyddiau ein plentyndod, y gwelsom ein mam (yr hon oedd yn enedigol o Lanfrothen) a Llyfr Hymnau Richard Jones o'i blaen, ac yn hwmian canu ei benillion wrthi ei hun; a darfu ei syniadau uchel hi am dano, a'r mynych sylwadau a glywem yn ein cartref am ei ragoriaethau, ymysg y pethau cyntaf erioed a ddisgynodd ar ein clustiau, beri i ni feddwl nad oedd geiriau yn yr iaith Gymraeg mwy cysegredig na'r "Wern " a "Richard Jones." Ystyrid ef fel tad yr achos crefyddol yn hen Felin y Wern. Diwrnod du i Lanfrothen oedd diwrnod ei symudiad oddiyno. Hyny, modd bynag, a fu, a llawer a geid yn proffwydo, y byddai farw yr achos yn yr ardal wed'yn. Yn rhestr gweinidogion Sir Feirionydd am 1832, ceir ei enw fel Richard Jones, Talsarnau. Symudodd ef a'i deulu i fyw i Rhosigor, yn yr ardal hono, ac ymhen oddeutu wyth mis, sef Chwefror 26ain, 1833, bu farw. Y mae ei feddrod ef a'i briod i'w weled wrth dalcen dwyreiniol eglwys blwyfol Llanfrothen.
Dylid dweyd gair am y brodyr y Bedyddwyr. Cawsant hwy y fraint o ymsefydlu yn yr ardal hon lawer o flynyddoedd o flaen y Methodistiaid. Yr oedd ganddynt achos wedi ei ffurfio, a chapel wedi ei adeiladu, sef Ramoth, Brondanw, er y flwyddyn 1787. Bu gweinidog o'r enw David Hughes, gŵr o'r Deheudir, yn gweinidogaethu yma oddeutu y pryd hwn. Ar ei ol ef y daeth y Parch. John Richard Jones, yr hwn a adnabyddid fel yr enwog "Jones o Ramoth." Neillduwyd ef i'r gwaith Tachwedd 4ydd, 1789. Yr oedd yn bregethwr poblogaidd, yn fardd gwych, ac yn llenor da. Hynodid ef fel arweinydd y Bedyddwyr Albanaidd yn Nghymru. Tua diwedd 1801, galwyd cynhadledd o'r holl siroedd i Ramoth, i benderfynu y dadleuon oeddynt ar y pryd wedi codi yn yr enwad. Wedi yr ymraniad, llafuriodd John Jones yn ddiwyd gyda'i blaid hyd derfyn ei oes, a bu farw Mehefin 27ain, 1822, yn 56 mlwydd oed.[2] Ar gyfrif fod yr ardal yn wasgaredig, a'r boblogaeth yn deneu, ac oherwydd hefyd i'r Bedyddwyr gymeryd meddiant o'r lle, bu y Methodistiaid yn hir cyn enill llawer o nerth yma.
Oddeutu yr amser yr ymadawodd y Parch. Richard Jones o'r Wern, symudodd yr achos o'r hen ysgoldy i le a elwir y Ceunant, a'r lle y mae yr achos ynddo hyd heddyw. Adeiladwyd yma gapel, a galwyd ef wrth yr enw Siloam. Dyddiad y weithred am y capel hwn ydyw Rhagfyr, 1833. Cafwyd y tir gan deulu yr Hengwrt, gerllaw Dolgellau. Talwyd 150p. am dano. Wrth ystyried fod yn y lle dafarndy yn flaenorol, a bod y tir (premises) dipyn yn helaeth, nid yw y pris yn ymddangos yn uchel. Cynwysai y capel hwn eisteddleoedd i 100, ac adeiladwyd dau o dai mewn cysylltiad ag ef. Rhif yr Ysgol Sul pan y symudwyd hi yma oedd 144. Ni wyddis beth oedd cyfrifon eraill yr eglwys ar y pryd. Y blaenoriaid, sef Robert Hughes, Brynllydan; William Rowland, Garth Foel; ac Owen Pierce, oeddynt yn flaenllaw gydag adeiladu y capel hwn. Arosai dyled o 250p. ar y lle, heb ddim yn cael ei wneuthur tuag at ei chlirio trwy y blynyddau. Ymhen amser, helaethwyd y capel, trwy roddi un o'r tai ato, a thuag 1858 dechreuwyd casglu yn yr Ysgol Sul, ac yr oedd y cwbl wedi ei dalu cyn pen saith mlynedd. Prynwyd darn ychwanegol o dir yn 1865, am 12p. Adeiladwyd y capel hardd presenol, yr hwn sydd yn addurn i'r ardal, yn 1866, ac agorwyd ef yn Mehefin y flwyddyn hono, pryd y pregethwyd gan y Parchn. David Davies, Abermaw; Josuah Davies (Birkenhead y pryd hwnw); D. Saunders, D.D.; a Joseph Jones, Borth. Dengys y ffigyrau canlynol ffrwyth yr eglwys yn ei chasgliadau at capel y deng mlynedd ar hugain diweddaf,—
Dyled yr hen gapel | — £250 0s 0c |
Y capel presenol yn 1866 | — £1042 19s 10c |
Oriel (gallery) yn 1878 | — £547 1 7 |
Ysgoldy y Rhyd yn 1872 | — £190 0 0 |
— £2030 1 5 |
Nid oes o'r swm hwn heb ei dalu yn bresenol (1889) ond 150p. Yn y flwyddyn 1888, hefyd, adeiladwyd yma dŷ prydferth a chyfleus i'r gweinidog, ac y mae hyn yn gryfder mawr tuag at sefydlogrwydd a pharhad yr achos. Mae yr hen gapel, yn unol a chaniatad y Cyfarfod Misol, Mehefin, 1866, wedi ei droi yn dri o dai.
Ar ol bod yn daith dros ryw gymaint o amser yn y dechreu gyda'r Penrhyn a Maentwrog, y daith wedi hyny am flynyddau lawer oedd y Penrhyn a Llanfrothen. Am bedair neu bum mlynedd ar ol y diwygiad (1859), bu Llanfrothen a Maentwrog gyda'u gilydd. Ar ddechreu 1864, ymunodd y lle yn daith gyda Chroesor, fel y mae hyd yn bresenol.
Yn ychwanegol at y rhai a enwyd eisoes o ffyddloniaid cyntaf yr eglwys, ac heblaw y rhestr a geir eto o'r blaenoriaid, crybwyllir am eraill a fuont ffyddlon gyda'r achos yma Yn y Felin yr oedd Gwen Edmund yn un o'r rhai amlycaf. Dywedir mai Gwen Jones, Pen'rallt, a Sian Owen, Dinas (Pen'rallt wedi hyny), oedd y ddwy ffyddlonaf o'r chwiorydd. Yr oedd Sian Owen, a Sian Jones, y Llan,—dwy ferch ieuainc ar y pryd gyda'u gilydd ar y maes yn Sasiwn Caernarfon yn gorfoleddu ac yn neidio pan yr oedd Ebenezer Morris yn pregethu y bregeth ar "Y gwaed hwn a wna gymod dros yr enaid," a gorfeleddent yr holl ffordd nes cyraedd adref. Hugh Sion, y Morfa, oedd wr duwiol a ffyddlon. Dafydd Sion, Ysgoldy, tyddai yn goleu canhwyllau yn yr hen Felin, ac yn cadw yr amser yn y Ceunant hyd ei farwolaeth. Byddai yn nhŷ y capel fel y cloc, yn rhoddi y gorchymyn ar y fynyd briodol, "Mae yn amser dechreu." Pan yn dewis blaenoriaid rywbryd, ebai un chwaer, "Mae Dafydd Sion yn ffyddlon iawn, ac y mae yr Arglwydd gyda William Evan." David Williams, Rhyd, tad y brodyr sy'n flaenoriaid yn bresenol, a fu yn dra gwasanaethgar gyda chaniadaeth y cysegr am dymor maith, a bu yn arwain y canu am ddeugain mlynedd, ac yn ffyddlon iawn gyda rhanau eraill y gwaith. Bu Richard Jones, tad y Parch. W. R. Jones, Caergybi, yn arwain y canu o'i flaen; a bu ei fam yn cadw tŷ capel Siloam, ac wedi hyny yn cadw tŷ capel Tanygrisiau. Richard Jones, y Llan, hefyd a'i deulu a fuont yn ffyddlawn iawn i'r achos yma. Y blaenoriaid fuont feirw ydynt:—
WILLIAM LEWIS, HAFOTTY.
Crybwyllwyd am dano eisoes fel cychwynydd yr Ysgol Sul, a'r hwn nad oedd am ildio i roddi yr achos i fyny yn yr hen Felin. Efe oedd blaenor cyntaf yr eglwys. Yr oedd ganddo y llaw benaf hefyd mewn sefydlu yr eglwys. I'w ran ef y disgynodd y gwaith o fod yn gyhoeddwr cyntaf. Gŵr selog ac ymroddgar iawn ydoedd gyda holl ranau y gwaith.
ROBERT HUGHES, BRYNLLYDAN.
Efe oedd y nesaf at W. Lewis, a bu y ddau yn cyd-oesi am beth amser, ond bu R. Hughes fyw yn hir ar ol ei gyd-flaenor, a bu holl bwysau y gwaith arno am ysbaid maith. Daethai yma o Rydyclafdy. Yr oedd yn dad i Morris a William Hughes, Brynllydan. Rhagorai ef ar lawer yn ei amser, gan ei fod yn ddyn egwyddorol a gwybodus, yn meddu ar ddawn yn gystal a gwybodaeth, ac yr oedd yn llawn sel gyda chrefydd. Bu farw yn y flwyddyn 1849.
WILLIAM ROWLAND, GARTH FOEL.
Yr oedd ef yn dad i Manoah Williams, Croesor, ac yn daid i Miss Williams, y genhades i Sylhet. Dywed Alice Llwyd, Porthmadog, iddo ef ac Owen Pierce gael eu dewis yn flaenoriaid y noswaith y bu farw y Parch. Richard Jones, o'r Wern. Dyn plaen oedd W. Rowland, ac ymosodwr llym ar bob drwg. Nis gwyddom pa bryd y bu ef farw.
OWEN PIERCE.
Dyn gwybodus a chydwybodol; yn gymeriad gwreiddiol, ac yn meddu ar alluoedd cryfion. Ymunodd â chrefydd yn yr Hen Felin, yn amser Diwygiad Beddgelert. Yn lled fuan wedi ei ddewis yn flaenor yma, symudodd i Danygrisiau. Ceir ychwaneg o'i hanes yno.
JOHN WILLIAMS, BRYNGOLEU.
Teilynga ef goffhad helaethach nag unrhyw un o flaenoriaid yr eglwys hon. Yr oedd yn gymeriad ardderchog; meddai ddynoliaeth o'r fath oreu, a hono wedi ei sancteiddio gan yr Ysbryd Glân. Cyrhaeddodd barch a dylanwad mawr yn yr eglwys a'r gymydogaeth. Yn Bryngoleu, yn yr ardal hon, y ganwyd ac y magwyd ef, ac yno y treuliodd ei oes, oddieithr y pum' mlynedd olaf, pryd y symudodd i fyw yn nes i'r capel. Ni chafodd ei ddwyn i fyny yn yr eglwys, ond yr oedd yn wr ieuanc hynod o fucheddol, ac ymunodd â chrefydd pan oedd tua 30ain oed, ymhen blwyddyn wedi i'r eglwys ymsefydlu yn Siloam. Ymroddodd i weithio gyda chrefydd ar unwaith wedi iddo ymuno â'r eglwys. Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol yn Maentwrog, Mai laf, 1845, pryd yr oedd y Parch. Dr. Edwards, Bala, yn llywydd, a'r Parch. Daniel Evans yn ysgrifenydd. Yr oedd ef yn ddiamheuol yn un o'r blaenoriaid goreu a fu yn Sir Feirionydd erioed. Bu holl bwysau y gwaith yn Llanfrothen ar ei ysgwyddau am lawer o flynyddoedd. Yr oedd yn ŵr cadarn yn yr Ysgrythyrau, yn llawn sel ac ymroddiad gyda phob peth. Meddai ar ddoniau neillduol i gadw y cyfarfod eglwysig. Ymosodai yn llym ar bob pechod, ond dangosai gariad at y troseddwr. Yr oedd yn ddyn gwrol a phenderfynol, ac eto yn un o'r rhai addfwynaf y gellid eu cyfarfod. Gair a ddefnyddid am dano ydoedd, ei fod yn ŵr ystwythgryf. Am ei ffyddlondeb i'w gyfeillion ac i achos crefydd, gellir dweyd ei fod heb ei ail. Aberthodd lawer o'i amser mewn gwahanol ffyrdd i wasanaethu achos Mab Duw. Cerddodd lawer i gyfarfodydd. Byddai yn y Cyfarfod Misol blynyddol yn Nolgellau fel y cloc, ac wedi cerdded yno yr holl ffordd ar ei draed, a hyny trwy bob tywydd. Mor foddhaus ac mor rywiog ei dymer fyddai yn wastadol gyda phob peth. Er nad oedd yn hyawdl fel siaradwr, nis gwyddom am neb yn well type o flaenoriaid rhagorol yr oes o'r blaen na John Williams. Prawf o'r parch a enillodd yn ei eglwys a'i ardal ei hun oedd, y dysteb o werth 40p. a gyflwynwyd iddo pan ddechreuodd ei iechyd adfeilio, yn gydnabyddiaeth am ei lafur a'i ffyddlondeb. Bu farw mewn tangnefedd Mai 16eg, 1879, yn 74 mlwydd oed.
RICHARD THOMAS
a neillduwyd yn flaenor yr un adeg â John Williams, a bu gyda'r achos agos cyhyd ag yntau. Nis gellir dweyd fod llawer o hynodrwydd ynddo ef. Yr oedd yn gyson o ran ei fuchedd, ac yn bur ffyddlon o ran ei allu. Bu farw yn y flwyddyn 1877.
ROBERT ROBERTS, ERWFAWR.
Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol yn Nhraws- fynydd, Medi, 1861. Yr oedd yn dad i'r brodyr adnabyddus, Mri. Rees Roberts, Holland, a Meyrick Roberts, Bryneglwys, Abergynolwyn. Yr oedd yn ŵr ffyddlon gyda'r holl achos. Dyn gwyneb-agored a hollol ddidderbyn wyneb ydoedd. Gwasanaethodd ei swydd yn dda, a bu yntau farw yn y flwyddyn 1877.
DAVID GRIFFITH
a alwyd i'r swydd yn 1875. Bu yntau yn ffyddlawn, yn ol ei allu, gyda'r holl waith. Bu farw yn 1883, wedi gwasanaethu y swydd am wyth mlynedd.
Un arall a fu yn swyddog gweithgar yma am lawer o flynyddoedd ydyw Mr. H. Ll. Jones, sydd yn awr yn flaenor yn y Garth, Porthmadog. Dewiswyd ef i'r swydd yn y flwyddyn 1861. Gweithiodd yn egniol gyda'r achos yn Siloam am ugain mlynedd, hyd nes y symudodd oddiyma i fyw, a theg ydyw hysbysu iddo gyflawni ei swydd gyda medr a ffyddlondeb mawr.
Y blaenoriaid yn bresenol ydynt, Mri. O. D. Williams, yn y swydd er 1875; Morris Roberts, Evan D. Williams, a James Ephraim, eu tri yn y swydd er 1883.
Cyfododd tri a fagwyd yn yr eglwys hon yn bregethwyr. W. M. Evans, mab Edward Evans, Cefndreiniog. Aeth oddiyma yn llane ieuanc i'r cloddfeydd aur yn Awstralia. Wedi llwyddo i raddau gyda'r golud hwnw, ymroddodd i bregethu, a bu yn weinidog cymeradwy yn y wlad hono. Y mae, er's rhai blynyddau bellach, wedi ei symud i'r wlad sydd fil o weithiau yn gyfoethocach nag Awstralia. Un arall oedd William Jones, Bryngoleu, nai i'r blaenor rhagorol o'r un lle y crybwyllwyd am dano. Yr oedd ganddo ddawn neillduol i ddysgu ieuenctyd, a bu yn llafurus yn parotoi ei hun i'r weinidogaeth. Coleddid gobeithion uchel am dano, ond fe welodd yr Arglwydd yn dda ei gymeryd ato ei hun tra yr oedd yn parotoi at y gwaith. Bu farw oddeutu y flwyddyn 1856. Y trydydd ydyw y Parch. W. R. Jones, Caergybi, yntau hefyd yn nai i'r hen flaenor hybarch John Williams, Bryngoleu.
Bu y Parch. Owen Parry, yn awr o Lanidan, Sir Fon, yn weinidog yr eglwys hon o 1876 i 1878. Y Parch. T. E. Roberts, M.A., am yr un tymor ag y bu yn Nghroesor. Mae y Parch. D. O'Brien Owen wedi ymsefydlu yma yn awr, er y flwyddyn 1889. Rhif y gynulleidfa, 390; y cymunwyr, 187; yr Ysgol Sul. 241.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Yr Adroddiad am yr Ysgol Sabbothol, gan Mr. E. Williams.
- ↑ Ysgrif yn y Traethodydd, Medi, 1889, gan y Parch. E. Roberts, Dyffryn.