Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II/Maentwrog (Isaf)

Oddi ar Wicidestun
Llenyrch Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II

gan Robert Owen, Pennal

Llanfrothen
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Maentwrog
ar Wicipedia




MAENTWROG ISAF.

Mae yr hanes am Maentwrog Isaf yn gyfyngedig i'r ugain mlynedd diweddaf, yn gymaint nad oes hyny yn llawn er pan adeiladwyd y capel. Mae y symudiadau gyda chrefydd yn yr ardal yn flaenorol i hyny i'w cael mewn cysylltiad â Maentwrog Uchaf. Buwyd am flynyddoedd meithion yn methu cael tir i adeiladu yn y pentref, ac o ganlyniad yr oedd y bobl oddiyma ac o waelod yr ardal, trwy yr holl amser, yn gorfod myned i addoli i'r capel uchaf. Effeithiodd hyny yn naturiol i beri gwanychdod i achos y Methodistiaid yn Maentwrog. Bu yr Annibynwyr yn fwy ffortunus. Yr oedd ganddynt hwy eglwys wedi ei sefydlu yn Mhenyglanau er tua dechreu y ganrif bresenol. Ac yn 1810, adeiladwyd capel Glanywern ar ochr y ffordd o Drawsfynydd i Faentwrog. Yn 1840, trwy offerynoliaeth Mr. a Mrs. Lloyd, Tanybwlch Hotel, "cafwyd lle i wneyd capel newydd yn ymyl y pentref, a galwyd ef Gilgal." Yr oedd ac y mae y capel hwn yn fanteisiol iawn i bobl y pentref.

Y symudiad cyntaf a wnaethpwyd yn effeithiol gan y Methodistiaid tuag at adeiladu capel yn ngwaelod yr ardal ydoedd yn nechreu y flwyddyn 1872. Yn Nghofnodion Cyfarfod Misol y Bontddu, mis Mawrth y flwyddyn hono, ceir y sylw canlynol,-"Llawenychai y cyfarfod wrth ddeall fod drws o'r diwedd wedi agor i gael tir i adeiladu capel arno yn Maentwrog, a phasiwyd penderfyniad yn arwyddo fod y cyfarfod hwn yn dymuno rhoddi bob cefnogaeth i'r cyfeillion yn Maentwrog i sicrhau y tir yn ddioedi." Eto, yn Nghyfarfod Misol Mai yr un flwyddyn, gwnaed penderfyniad drachefn, "Dodwyd gerbron y cyfarfod stad bresenol pethau yn eu perthynas a'r capel newydd a fwriedir ei adeiladu yn Maentwrog, ac er nad oedd pobpeth ar hyn o bryd yn ymddangos yn galonogol, anogwyd hwynt i fyned ymlaen, a chaniatawyd i'r Parch. Elias Jones i fyned o amgylch ein holl gynulleidfaoedd i gasglu tuag at gynorthwyo cyfeillion y lle i ddwyn y draul." Cafwyd y tir i adeiladu gan Mr. Oakeley, Tanybwlch, ar brydles o haner can' mlynedd, ac am 1p. o ardreth flynyddol. Y nifer all eistedd yn y capel yw 176. Aeth y draul o adeiladu yn 701p. 2s, 8c.. O'r swm hwn, casglodd y Parch. Elias Jones, yr hwn oedd y pryd hwnw yn weinidog yn Maentwrog, 200p. yn eglwysi y sir. Adgyweiriwyd rhyw gymaint ar y capel yn fuan ar ol ei adeiladu, fel yr oedd ar ddiwedd 1880, y swm o 841p. 10s.. wedi ei dreulio rhwng yr adeiladu a'r adgyweirio. Mae y capel hwn bellach yn dra chyfleus i bobl y pentref a gwaelodl yr ardal, ac y mae eisoes wedi bod yn fendith fawr i'r lle. Yr hyn a feddylir wrth "nad oedd pobpeth yn galonogol" yn y penderfyniad uchod ydyw, fod hyd y brydles mor fer, ond yr oedd yn dda ei chael yn yr hyd hwnw.

Aethpwyd i'r capel newydd i addoli yn mis Medi, 1873. Yn Nghyfarfod Misol Brynerug, Hydref y flwyddyn hono, gwnaed y penodiad canlynol,-"Rhoddwyd hysbysrwydd fod capel newydd Maentwrog yn awr wedi ei orphen, a'u bod wedi. dechreu addoli ynddo. Penodwyd i fyned yno i'w sefydlu yn eglwys ar eu penau eu hunain, y Parchn. N. Cynhafal Jones, y Penrhyn, a Mr. R. Griffith, Ffestiniog." Eu rhif ar eu mynediad i'r capel ydoedd, gwrandawyr, 92; cymunwyr, 50; Ysgol Sul, 60. Bu y ddau gapel an ddwy flynedd yn un daith. Yn Hydref, 1875, yr ydym yn cael y penderfyniad canlynol yn cael ei wneuthur,-" Hysbyswyd o Maentwrog a Ffestiniog eu bod wedi penderfynu gwneyd rhaniad ar y teithiau, sef rhoddi y Babell gyda Maentwrog Uchaf, a Llenyrch gyda Maentwrog Isaf. Caniatawyd i'r rhaniad yma. gymeryd lle, gan fod Ffestiniog mor garedig a chynorthwyo y Babell i dalu am un bregeth bob Sabbath, ac anogwyd y Cyfeisteddfod Arianol i roddi 28. 6c. y Sabbath i gynorthwyo Llenyrch yn ol eu cais." Pan adeiladwyd Engedi, Ffestiniog, tynwyd y Babell oddiwrth y trefniad hwn, ac mae y tri lle eto yn un daith, sef Maentwrog Uchaf, Llenyrch, a Maentwrog Isaf, a cheir ynddi yn fynych ddau bregethwr.

Un blaenor a ddaeth i lawr gyda'r eglwys o Maentwrog Uchaf i'r capel isaf, sef Mr. Griffith Pritchard, yr hwn sydd yn awr yn flaenor yn Gorphwysfa. Y rhai cyntaf a ddewiswyd ato ef, ac a dderbyniwyd yn aelodau o'r Cyfarfod Misol, Mawrth, 1874, oeddynt Mri. Richard G. Pritchard, John Richards, Shop Isaf, a J. Parry Jones. Symudodd Mr. R. G. Pritchard i Gorphwysfa, Penrhyndeudraeth, ac y mae yn flaenor yno. Symudodd Mr. Jno. Richards Lanbedr,—ceir sylw arno yno. Symudodd Mr. J. Parry Jones i Blaenau Ffestiniog, ac y mae yn awr yn adnabyddus fel blaenor gweithgar yn Garegddu. Ar ol y brodyr hyn, etholwyd Mr. David Roberts, Glan'rafon, i'r swydd. Gwnaed dewisiad hefyd yn yr eglwys hon ar Mr. John Morgan, yr hwn yn awr sydd yn flaenor yn y Pant. Yn Tachwedd, 1886, etholwyd Mri. John Davies, Lodge; David Roberts, Tanybwlch; Edward Jones, Mill; Edward Kyffin, Shop; a Thomas Roberts, Shop Isaf. A hwy eu pump ydyw y blaenoriaid presenol.

Bu y Parch. Elias Jones yn weinidog yr eglwys o'i chychwyniad hyd nes y symudodd oddiyma i Sir Drefaldwyn. Wedi hyny, rhoddwyd galwad i'r Parch. G. Ceidiog Roberts, a bu yntau yma o Mehefin, 1877, hyd Rhagfyr, 1889, pryd y symudodd i Lanllyfni. Mae yr eglwys hon, ynghyd a Llenyrch, wedi ymgymeryd a'u rhan yn mhryniad tŷ i'r gweinidog. Y rhif ar ddechreu y flwyddyn 1890,—Gwrandawyr, 90; cymunwyr, 65; Ysgol Sul, 72.

Nodiadau[golygu]