Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II/Llenyrch
← Maentwrog (Uchaf) | Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II gan Robert Owen, Pennal |
Maentwrog (Isaf) → |
LLENYRCH
Ardal wledig, deneu ei phoblogaeth, ydyw Llenyrch, yn sefyll megis rhwng Talysarnau a Maentwrog, i fyny ar ben y bryniau, ar y dde wrth fyned o'r blaenaf i'r olaf. Terfyna rhan uchaf y gymydogaeth ar Pandy-y-Ddwyryd, ac yr oedd rhai o grefyddwyr cyntaf y wlad yn byw yma. Yn yr hen amser, i eglwys Llandecwyn yr elai y trigolion i addoli. Gwneir crybwylliad i Ysgol Sabbothol gael ei chynal mewn amser boreuol yn Tŷ'nypant, yn yr ardal hon,—y tŷ y bu y gwragedd duwiol yn cyfranogi o Swper yr Arglwydd gyda bara a dwfr ynddo. Tua'r flwyddyn 1830, buwyd yn ei chynal, dros amser byr, mewn annedd dy o'r enw Breichiau, yn yr hwn le flynyddoedd cyn hyny y bu "Mari y Fantell Wen" yn pregethu ei hathrawiaethau cyfeiliornus. Oddeutu 1840— 1845, buwyd yn cynal ysgol mewn lle a elwir Beudy Bach. Anenwadol ydoedd yn y ddau le hyn. Bu y Wesleyaid yn cadw Ysgol Sul wedi hyny yn y Tŷ Newydd, lle rhwng y capel a ffermdy Llenyrch. Ymhen amser, aethant hwy yn llai eu nifer, a rhoddasant yr ysgol i fyny. Yn y cyfwng hwn, daeth y Methodistiaid yn fwy lliosog, ac yn y flwyddyn 1856, yr ydym yn cael Ysgol Sabbothol yn ail ddechreu eto, a'r achos yn cael ei gychwyn yn y ffurf y mae ynddo yn awr. Y brawd ffyddlon Evan Roberts, un o flaenoriaid Maentwrog Uchaf, fu yn offerynol i ddechreu yr ysgol y tro hwn. Gwehydd ydoedd wrth ei alwedigaeth, ac yn ei awydd a'i sel i ddysgu plant i ddarllen, arferai gymeryd llyfr gydag ef wrth fyned o gwmpas y ffermydd i ddanfon adref y gwaith a fyddai wedi ei wau, a lle y cyfarfyddai â phlant, rhoddai wers iddynt. "Un diwrnod, pan yn ffermdy Llenyrch yn rhoddi gwers yn yr A. B. C. i'r plant, gofynodd gwraig y tŷ, sef Mrs. Gwen Evans, a ddeuai ef i'r gymydogaeth i gadw Ysgol Sabbothol, yn gymaint a bod yno lawer o blant yn codi i fyny heb fod dan unrhyw fath o addysg. I'r hyn y cydsyniodd; ac aed ar unwaith at ŵr y Tŷ Newydd, yr hwn oedd yn digwydd bod ar y pryd yn ymyl, i ofyn a geid dyfod i'w dy ef i'w chynal. A chafwyd atebiad cadarnhaol. Dechreuwyd ar y gwaith gyda sel ac ymroddiad, a llwyddwyd i gael oddeutu 35 o ysgolheigion."[1] Cafodd ei sylfaenydd, i'r hwn y perthynai llawer o wreiddioldeb, gynorthwy brodyr eraill, ac yn eu plith, yr hen gymeriad hynod Robert Richard, Hendregerig. Yr oedd ef yn llawn sel gyda'r gwaith bob amser. Byddai ei bresenoldeb yn y moddion, a'i ddull astud yn gwrando, ynghyd a'i sirioldeb a'i gynghorion, yn creu bywyd yn yr holl aelodau. Y prif arweinwyr yma oeddynt, Edmund Roberts, Penbrynpwlldu, a Richard Roberts, Nantpasgen Bach. Cafwyd cynorthwy hefyd gan y brodyr Richard Jones, Canycoed; Simon Roberts, Tŷ Newydd; John Evans, Llenyrch; Ellis Jones, yr Onen; a Morris Ellis, Nantpasgen. Yn yr haf arferid cynal cyfarfod gyda'r plant yn yr awyr agored o flaen y tŷ. Wrth weled y plant, a'u clywed yn ateb, gorchfygwyd teimladau yr hen frawd Robert Richard un Sabbath, a gofynai ar ganol y cyfarfod, "A oes dim adnod felly yn y Beibl, 'Bydd dyrnaid o fd ar y ddaear ymhen y mynyddoedd; ei ffrwyth a ysgwyd fel Libanus.' Beth ydi dy feddwl di o'r adnod yna Evan? Onid y plant yma sydd yn cael eu dysgu fel hyn yn yr Ysgrythyrau ar ben y mynyddoedd ydynt?" "Ie, fe," atebai Evan Roberts, "y boreu haua dy had, a'r prydnhawn nag atal dy law.' Dyna yda ni yn ei wneyd gyda'r plant yma." Diweddwyd y Sabbath hwnw mewn hwyl nefolaidd iawn.
Cynyddodd yr ysgol, a gwelid yn angenrheidiol cael ysgoldy i'w chynal. Cafwyd tir i adeiladu. Dyddiad y weithred ydyw Gorphenaf, 1861; ardreth flynyddol, haner coron. Ebrill y flwyddyn hono, penodwyd y personau canlynol yn ymddiriedolwyr y capel,-y Parchn. Edward Morgan, Robert Parry, William Davies, Griffith Williams, John Griffith (Dolgellau), Mri. Morris Jones, Cefngwyn; Owen Owen, Rhosigol; John Williams, Penrhyn; Owen Humphreys, ac Evan Roberts, Maentwrog; a John Williams, Siloam. Ac yn yr un Cyfarfod Misol, "Penderfynwyd fod eglwys Talsarnau i roddi arian yr eisteddleoedd tuag at dalu am yr ysgoldy uchod." Swyddogion eglwys Talsarnau, mewn cysylltiad â swyddogion Maentwrog Uchaf, ynghyd a'r brodyr John Evans a Richard Jones, o'r ardal hon, a fuont y prif offerynau i gael hyn o amgylch, a thrwy eu cynorthwy hwy, ynghyd a chasgliad a wnaed yn nosbarth ysgolion Ffestiniog, y llwyddwyd i gael y capel wedi talu am dano. Gan fod y gymydogaeth yn agos i'r canol rhwng Talsarnau a Maentwrog, teimlid anhawsder gyda golwg ar gael pregethu yn y capel. Yn Nghyfarfod Misol Medi, 1863, yr ydym yn cael y penderfyniad canlynol yn cael ei basio, "Fod Maentwrog a Thalsarnau i ganiatau odfa bob un, unwaith yn y mis, i gapel Llenyrch, a bod y rhai sydd yn aelodau yn Llenyrch i berthyn, fel cynt, i Dalsarnau a Maentwrog." Medi, 1865, caniatawyd i'r aelodau eglwysig a fynychent y capel hwn gael cynal society yn wythnosol ; ond gan nad oeddynt eto wedi eu ffurfio yn eglwys, ymddiried wyd dygiad ymlaen y cyfarfod eglwysig i swyddogion eglwysi Talsarnau a Maentwrog, a bod iddynt yn eu tro ofalu am fod yn bresenol yn ei gynal.
Oherwydd fod y gofal am yr achos wedi ei osod ar y cyd, rhwng eglwysi Talsarnau a Maentwrog, digon helbulus fyddai hi ar y brodyr a'r chwiorydd crefyddol yma y blynyddoedd hyn, gan y byddent yn fynych rhwng dau yn syrthio yn fyr o gael cynorthwy gan neb. Gan hyny, dygasant ymlaen eu cais am gael bod yn eglwys reolaidd arnynt eu hunain. Ac yn Nghyfarfod Misol y Tabernacl, Rhagfyr, 1866, yr ydym yn cael eu hachos yn cael ei drafod eto,-"Bu sylw ar y gynulleidfa fechan sydd yn arfer addoli yn Llenyrch, gyda golwg ar ganiatau iddynt gael eu gwneyd yn eglwys reolaidd. Yr oedd y cyfarfod hwn yn ystyried fod sefydlu achosion bychain iawn yn eglwysi rheolaidd yn dra niweidiol yn y cyffredin; ond fe farnwyd fod neillduolrwydd amgylchiadau yr achos bychan yn lle hwn yn peri mai doethach ydoedd cydsynio i'w sefydlu yn eglwys, a phenodwyd y Parchn. Robert Parry a Grffiith Williams i fyned yno gyda golwg ar hyn. Penderfynwyd hefyd i'r lle fod mewn cysylltiad â Maentwrog fel taith Sabbothol." Ac o hyny allan, er fod gan Talsarnau law arbenig, os nad y llaw benaf, i gychwyn yr achos yn Llenyrch, gyda Maentwrog y mae wedi bod fel taith, a dau o'r gloch y mae y bregeth yma bob Sabbath. Rhoddir tipyn o brawf ar nerth corfforol y pregethwr, gan y rhaid tynu i fyny, ar draws ceunant rhamantus, a bydd yn dechreu ar y weinidogaeth y prydnhawn, yn dra mynych, naill ai wedi chwysu, neu wedi colli ei wynt, neu wedi cael ei guro gan y ddrycin. Ond mae y bobl yn siriol a ffyddlon iawn, ac yn y cyffredin dilynir yma yr arfer Fethodistaidd dda o anfon anifail i gyrchu y pregethwr. Y flwyddyn gyntaf ar ol sefydlu yr eglwys, sef ar ddiwedd 1867, rhifai y gwrandawyr 84; yr Ysgol Sul, 50; y cymunwyr, 29. Gwnaed ychydig o adgyweiriad a chyfnewidiadau ynglyn â'r capel tuag 1869.
Y ddau flaenor cyntaf a ddewiswyd-a hyny yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ol sefydlu yr eglwys-oeddynt Richard Jones, Canycoed, a Rowland Edwards, Tynewydd. Derbyniwyd y naill yn aelod o'r Cyfarfod Misol, Mehefin, a'r llall Medi, 1867. Ymadawodd Rowland Edwards ymhen ychydig o'r ardal y mae yn awr yn flaenor yn eglwys Bowydd. Bu Richard Jones yn flaenor hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Mawrth 17eg, 1881, yn 72 oed. Gwasanaethodd y swydd yn hynod o ffyddlon. Yr oedd gyda'r achos o'i gychwyniad cyntaf; bu trymder y gwaith yn pwyso ar ei ysgwyddau, gan mai efe oedd unig flaenor yr eglwys dros amryw flynyddau. Rhoddai ei bresenoldeb yn fynych yn y Cyfarfodydd Misol, a gwnaeth ei ran yn ganmoladwy tra parhaodd ei oes. Yn nechreu 1877, dewiswyd Edward Evans, Llenyrch, i'r swydd; ond ymhen tua phum' mlynedd, symudodd i drigianu i ardal y Gwynfryn, ac y mae yn awr yn flaenor yno.
Y blaenoriaid yn bresenol ydynt, Mri. Evan Jones, Canycoed, er y flwyddyn 1881; William Evans, Llenyrch, ac Ellis Jones Ellis, er 1889.
Y mae yn deilwng o goffhad fod teulu caredig Llenyrch Farm wedi bod yn dra chymwynasgar i'r achos o'i gychwyniad cyntaf.
Rhif y gwrandawyr yn awr ydyw 35; Ysgol Sul, 26; cymunwyr, 28.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Adroddiad yr Ysgolion Sabbothol 1873, gan y Parch. Elias Jones, Talsarnau.