Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II/Maentwrog (Uchaf)

Oddi ar Wicidestun
Eden Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II

gan Robert Owen, Pennal

Llenyrch
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Maentwrog
ar Wicipedia




MAENTWROG (UCHAF).

Dyma yr eglwys agosaf i Bandy-y-Ddwyryd, lle y planwyd hedyn cyntaf Methodistiaeth yn Ngorllewin Meirionydd. Yn y drydedd benod, rhoddwyd hanes lled fanwl am y digwyddiadau o berthynas i gychwyniad cyntaf crefydd yn y gymydogaeth, hyd farwolaeth Lowri Williams, yr hyn a gymerodd le yn y flwyddyn 1778. Gan i'r hedyn gwreiddiol ddisgyn yn y fro hon, gallesid disgwyl cael ffrwyth toreithiog a didor. Ond fel arall y digwyddodd. Y mae bwlch o fwy na deng mlynedd ar hugain heb i ddim o hanes crefydd yn y gymydogaeth gael ei gofnodi. Nid ydym yn cael ond y nesaf peth i ddim i'w groniclo hyd nes yr adeiladwyd y capel yn 1810, ac nid yw y defnyddiau wedi hyny ond hynod o brinion. Ymdaenodd dylanwad "teulu yr arch" yn fwy dros y cymydogaethau cylchynol, gan adael Maentwrog am flynyddau meithion heb na phroffwyd na phroffwydes o bwys yn cyfodi ar ol marwolaeth Lowri Williams. I wneyd yr hanes i fyny mor gyfan ag y gellir, nis oes genym, gan hyny, ond lloffa ychydig yma ac ychydig acw.

Yn Tafarn-y-trip, ar derfyn plwyf Maentwrog, yn 1784, y ganwyd y Parch. Richard Jones, o'r Bala. Dywed ef, mewn bywgraffiad byr am dano ei hun, nad oedd ei rieni yn nyddiau ei febyd yn grefyddol, a'u bod yn byw mewn cymydogaeth dywyll iawn." Gallwn gasglu oddiwrth ei sylw, nad oedd yn y gymydogaeth ond ychydig o fanteision crefyddol, na dim cyfle i ymuno â chrefyddwyr. Dywed hefyd yn mhellach, yr hyn a rydd radd o oleuni ar amgylchiadau yr amseroedd,- "Yn yr haf y flwyddyn 1790, anfonodd Mr. Charles, o'r Bala, ŵr duwiol i'r gymydogaeth [Hugh Evans, o'r Sarnau, ger y Bala] i gadw ysgol râd Gymreig, yr hon a gedwid mewn tŷ lled wael, a elwid Tŷ'nyfedwen. Ac anfonodd fy rhieni ryw nifer o'u plant i'r ysgol, ac yn un o'r nifer yr oeddwn inau, y pryd hwnw rhwng pump a chwech mlwydd oed." Eto, "Calanmai y flwyddyn 1796, rhoddwyd fi yn egwyddorwas i ddysgu'r gelfyddyd o wneuthur dillad. Ac yn y blynyddoedd hyn torodd diwygiad grymus iawn allan gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Ffestiniog, Maentwrog, a Thrawsfynydd, a byddai gorfoledd mawr gan y bobl. Byddai odfa y boreu yn gyffredin yn Ffestiniog, a dau o'r gloch mewn tŷ a elwir Garth Gwyn, plwyf Maentwrog, a byddai yr holl bobl yn neidio a llemain, ac yn canu a bloeddio ar hyd yr holl ffordd, o'r naill le i'r llall, a minau yn cael pleser mawr yn eu canlyn ac yn gwrando arnynt, ac hefyd yn gwrando ar y pregethwr, os bloeddiai ei oreu, ac onite ni fyddai o fawr werth yn fy ngolwg." Mae y crybwyllion hyn yn cyfateb i'r ffaith a geir mewn hanesiaeth, sef, fod diwygiad grymus mewn amryw o ardaloedd Cymru, yn ystod blynyddoedd olaf y ganrif ddiweddaf. Yr ydym yn gweled, hefyd, oddiwrth y dyfyniad, mai yn Garth Gwyn y cynhelid y moddion crefyddol yn Maentwrog y pryd hwn.

Ysgrifenodd y Parch. Elias Jones hanes dechreuad Ysgol Sabbothol Maentwrog a'i changhenau, ac argraffwyd ef gyda'r Adroddiad am 1873. Cafodd yntau y defnyddiau gan mwyaf gan Mrs. Laura Jones, Tanygraig, Blaenau Ffestiniog, gwraig grefyddol wedi ei magu mewn cysylltiad â'r achos yn Maentwrog. A'r wybodaeth a gasglwyd y flwyddyn hono yw bron yr oll sydd yn aros o helyntion crefydd yr ardal, ar ol yr amser dechreuol, hyd ddiwedd yr haner cyntaf o'r ganrif bresenol. Dywed yr hanes hwnw,"Yr ysgol gyntaf y mae unrhyw fanylion am ei hanes yn aros yw, yr un a sefydlwyd yn Tynant, cartref John Francis, rywbryd yn nechreu y ganrif bresenol. Y personau oeddynt yn cymeryd y rhan fwyaf blaenllaw gyda hi oeddynt, Humphrey Jones, Gwylan; John Richard, a'i frawd Griffith Richard, Tyddynygareg; Edward Jones, Gellilydan, ynghyd a theulu y tŷ. Nifer yr ysgol yn y lle hwn ydoedd o 30 i 40. Yn 1810, adeiladwyd capel uchaf Maentwrog, a symudwyd yr ysgol yno; ac ychwanegwyd at y brodyr a enwyd, Owen Evans, Llechwedd-y-Coed; Meredith Jones, Maentwrog; a William Roberts, Factory." Rywbryd tua 1820, daeth nifer liosocach i fynychu yr ysgol, a dechreuodd diwygiad yn ei dygiad ymlaen, trwy amcanu egluro a deall yr hyn a ddarllenid, oblegid cyn hyny yr hyn yr amcenid ato, bron yn gwbl, oedd dysgu darllen. Ffurfiwyd math o glwb, i'r diben o brynu llyfrau, y rhai a fenthycid i'r ysgolheigion ar gylch. Yn eu plith prynwyd esboniad, a byddai raid gofalu am i'r esboniad gael ei ddychwelyd i'r ysgol erbyn y Sabbath, a dyna lle y byddai ar y bwrdd i ymofyn âg ef os digwyddai i ddadl gyfodi yn rhai o'r dosbarthiadau. Nid oedd ond un dyn ieuanc yn proffesu crefydd yn perthyn i'r ysgol; a chan nad oedd yr hen frodyr ond darllenwyr hynod o wael, os yn wir y medrent ddarllen o gwbl, trefnwyd i'r athrawon nad oeddynt yn proffesu, ddarllen ar ddechreu yr ysgol, ac i'r crefyddwyr weddio. Ymgymerodd yr athrawon, meddir, â'r gwaith hwn yn ewyllysgar, "Ac i brofi nad oedd y gwaith yn faich arnynt, dewisent yn y cyffredin benod lled faith, mor faith fel y gorfodid yr hen frawd Griffith Richard, wrth alw un o'r brodyr anllythyrenog i fyned i weddi, i roddi gorchymyn awgrymiadol, Dos dipyn i weddi yn fyr heb ganu.'" Hysbysir i ddau frawd arall fod o wasanaeth i'r ysgol y tymor hwn, sef Edward Edwards, Pandy, ac Owen Willlams, Gyfynys. Nifer yr ysgol yn 1873 oedd 108.

Oddeutu 1818, sefydlwyd cangen ysgol yn y Dduallt. Am yr ysgol hon y rhed yr hanes,-"Wedi bod yn crwydro e gegin gefn Glanyrafon i Dafarn Trip, Bryn Arthur, Efail Tanybwlch, &c., a gwneyd llawer o ddaioni ymhob lle, dywedai William Ellis nad oedd neb wedi bod ar ei golled o roddi llety i'r ysgol; i bob un o'r teuluoedd y bu ynddynt yn yr ardal hon dderbyn bendithion tymorol ac ysbrydol trwy ei chroesawu, oblegid i gadw fod ar rai i fywyd tragwyddol yn yr holl deuluoedd. Wrth wrando arno yn adrodd hyn, gofynodd un iddo, os oedd yn meddwl fod ———— yn y nefoedd. 'Oh ydyw, yn sicr ddigon, fy machgen i,' meddai yntau; 'welaist ti erioed lai o deimlad da at Iesu Grist a'i achos raid gael i fyn'd i'r nefoedd.'" Sefydlwyd cangen ysgol, hefyd, yn Tyddynygareg, Mehefin 23ain, 1867, yr hon a rifai o 40 i 45. Bu teulu y tŷ hwn yn garedig iawn iddi.

Adeiladwyd y capel cyntaf yn 1810, a thalwyd am y tir 50p. Yr oedd tŷ ac ystabl wrth ei dalcen, yn ol yr hen ddull. Yn yr un flwyddyn, sef 1810, yr adeiladodd yr Annibynwyr gapel Glanywern, "ar ochr y ffordd o Drawsfynydd i Faentwrog, yn y cyfwng rhwng Penyglanau a Phenlan." Deuddeng mlynedd yn flaenorol yr oeddynt hwythau wedi ymffurfio yn eglwys o wyth enaid yn y gymydogaeth, Yr oll a wyddis am ddyled capel cyntaf y Methodistiaid ydyw fod 40p. yn aros heb ei dalu yn 1850. Ac er lleied ydoedd, ceir y penderfyniad canlynol yn cael ei basio yn Nghyfarfod Misol Tachwedd, 1854, "Rhoddwyd caniatad i William Ellis i ddyfod trwy yr eglwysi i gasglu tuag at ddyled capel Maentwrog." Yn 1864, helaethwyd y capel, trwy estyn ei ffrynt yn nes at y ffordd. Ymddengys i'r oes hon mai yr unig gymhwysder i leoliad y capel hwn ydoedd, ei fod wedi ei adeiladu ar ochr y ffordd fawr. Nid oedd yn agos i unman, ond ymhell oddiwrth bron bob preswylfod dynol. syndod ydyw i drigolion y pentref barhau i ddringo i fyny iddo trwy yr holl flynyddoedd. Erys yr hen adeilad ar ei draed eto yn gofgolofn o ffyddlondeb y preswylwyr yn cyrchu iddo bellder ffordd o bob cyfeiriad. Yn 1878, adeiladwyd capel newydd, yn uwch i fyny yn yr ardal, ac yn fwy yn nghanol y boblogaeth. Cafwyd tir i adeiladu yn feddiant gan Mr. Ellis Humphreys, ar delerau tra rhesymol, a chyflwynodd y Cyfarfod Misol ddiolchgarwch iddo am ei garedigrwydd Cristionogol. Yn ol Adroddiad Meddianau y Cyfundeb, gall 188 eistedd yn y capel hwn; y draul i'w adeiladu 774p. 12s. 9c. Yn 1889, prynodd y tair eglwys sydd yn perthyn i'r daith, mewn undeb a'u gilydd, dŷ i'r gweinidog, i fyw ynddo, yr hwn sydd mewn lle hynod o gyfleus.

Yn y Garth Gwyn, fel y crybwyllwyd, y cynhelid y moddion cyn adeiladu y capel cyntaf, ac yr oedd Ffestiniog a Thrawsfynydd gyda'r lle hwn y pryd hyny yn gwneyd i fyny un daith. Yn 1816 y daith oedd, Wern, Penrhyn, a Maentwrog. Bu am dymor maith wedi hyny gyda Ffestiniog, a thrachefn am ychydig gyda Llanfrothen. Y mae yn awr gyda Llenyrch a Maentwrog Isaf, a dau bregethwr y rhan fynychaf yn y daith y Sabbath.

Y mae gofal Rhagluniaeth wedi bod yn fawr am lety i bregethwyr y Methodistiaid yn Sir Feirionydd. Pan fyddai y drws yn cau mewn un man, agorai yn annisgwyliadwy mewn man arall. Felly yn Maentwrog. Y Garth Gwyn oedd lloches yr achos yn agos i gan' mlynedd yn ol. Wedi hyny, bu cartref y pregethwyr yn hir yn Tynant, lle yr oedd John Francis yn byw. Tŷ y capel hefyd fu yn gartref iddynt o dro i dro. Ac amryw eraill a ddangosasant yr un caredigrwydd. Llety dedwydd y fforddolion yn awr er's blynyddoedd ydyw Bryntwrog, gyda Mrs. Jones, a'i mab Mr. W. E. Jones.

Rhoddir yma restr o'r swyddogion mor gyflawn ag y gallwyd ei chael, ond digon tebyg fod ynddi fylchau. Methwyd a chael dim hanes o'r lle. Y blaenoriaid cyntaf oeddynt, Griffith Richard, a John Richard, Tyddynygareg. Yr oedd y ddau yn dda allan yn y byd. Rhoddasant eu dylanwad o blaid yr Ysgol Sabbothol ar y cychwyn cyntaf. Griffith Richard oedd yr arolygwr; meddai ar fesur o dalent, ac ystyrid ef yn ŵr sicr iawn. Dau eraill o flaenoriaid yn yr amser boreuol oeddynt Edward Jones, Gellilydan, a William Richard, Penrhiw. Yn mis Mai 1842, derbyniwyd Edward Edwards, Pandy, yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel blaenor. Bu ef dros ryw dymor wedi hyny yn myned i'r addoliad i Drawsfynydd. Yn Nghyfarfod Misol Mai 1851, derbyniwyd Owen Humphreys ac Evan Roberts yn flaenoriaid. Parhaodd y ddau i flaenori gyda'u gilydd yn hir. Yr oedd yr hen flaenor hynod William Ellis wedi dysgu pobl Maentwrog i siarad yn ddistaw, ac wedi gosod llawer o'i ddelw ar yr eglwys, fel mai distawrwydd mawr fyddai gan amlaf yn teyrnasu yn yr hen gapel. Dull arafaidd a distaw oedd gan y ddau frawd hyn. Ar ol gwasanaethu ei swydd yn ddiwyd a ffyddlawn am ugain mlynedd, bu Owen Humphreys farw yn mis Mai 1871. Dangosodd Evan Roberts ffyddlondeb yn ol y gallu a roddwyd iddo yntau, ac ymhen rhyw gymaint o amser ar ol marwolaeth ei gyd-flaenor, symudodd oddiyma i Danygrisiau.

Ganwyd William Ellis yn Bronturnor, yr ochr orllewinol i bentref Maentwrog, yn y flwyddyn 1789, a bu farw yn yr un lle yn 1855, yn 66 mlwydd oed. Treuliodd yr ugain mlynedd cyntaf o'i oes yn ddigrefydd, ac yn hollol estronol i foddion gras. Pan o gylch ugain oed, anfonwyd ef gan ei feistr— gwasanaethu yr oedd ar y pryd—ar neges i Drawsfynydd, ac yno yn ddamweiniol, aeth i wrando John Elias yn pregethu, ar ganol dydd gwaith, lle yr argyhoeddwyd ef. Aeth trwy gwrs o helyntion blinion yn ystod ei argyhoeddiad, yn gymaint felly ag y bu agos iddo golli ei synwyr a rhoddi terfyn ar ei einioes. Penderfynodd gynyg ei hun i eglwys y Methodistiaid yn Maentwrog, ond gan mor ddrwg yr oedd yn gweled ei hun, ofnai na chai mo'i dderbyn. Digwyddodd daro ar y Parch. Daniel Evans, Harlech, a gofynai iddo, "Os na bydd y cyfeillion yn foddlawn i mi ddyfod i'r seiat, gofynwch iddynt a wnant hwy weddio droswyf." Bu mewn cyfyngder mawr dros gryn amser pan yn myned trwy fwlch yr argyhoeddiad, ond manteisiodd lawer ar y cyfyngder, gan iddo fod yn foddion i loewi ei grefydd, ac i flaenllymu ei athrylith. Un o'r pethau hynod yn ei hanes ydyw ei dröedigaeth.

Nid oes wybodaeth pa bryd y dewiswyd William Ellis yn flaenor. A'r tebyg ydyw na bu dewisiad arno o gwbl, ond iddo, fel llawer o flaenoriaid y cyfnod hwnw, ddechreu gweithio gyda'r achos nes cael ei hun yn flaenor yn ddiarwybod. Dechreuodd weithio felly yn fuan ar ol 1815. Arferai ef ei hun ddweyd na ddewiswyd mo hono yn rheolaidd erioed gan yr eglwys. Tra yr oedd Dr. Parry, Bala, yn pregethu yn Maentwrog, ar ryw brydnhawn Sabbath, traethai W. Ellis am ei galon ddrwg, ac nas gallai byth anghofio yr olwg a gawsai arni yn Nhrawsfynydd. Gwrandawai Dr. Parry arno, ac o'r diwedd gofynodd iddo,—

"Os ydych yn ddyn mor ddrwg, pa fodd y dewiswyd chwi yn flaenor?"

"Ddewiswyd erioed mo honof fi yn flaenor, Parry bach," ebai yntau.

"Wel, sut yr aethoch chwi i'r swydd?" gofynai y gweinidog.

"O, mi ddeudaf i chwi yn union deg. Rhyw bobl bach pur ddiniwed sydd yma, a minau yn gryn stwffiwr." Ni ystyrid mo hono gan neb yn stwffiwr; ei ffordd ef ei hun o siarad oedd hyn. Tyfodd yn naturiol i fod yn flaenor o enwogrwydd mawr. Yr oedd yn siaradwr a dynai sylw yn fwy nag odid neb o'r urdd yn ei oes. Perthynai iddo wreiddioldeb, a ffraethineb, a duwioldeb neillduol o arbenig. Rhoddid y lle mwyaf cyhoeddus iddo ymhob cynulliad, o'r Ysgol Sabbothol hyd y Gymdeithasfa, a byddai ar rai adegau yn y cynulliadau hyny yn hyawdl tuhwnt i ddisgrifiad. Canlynai enwogion y Cyfundeb yn fynych yn eu teithiau, a dechreuai yr odfeuon o'u blaen. Gwnaeth lawer o sylwadau ffraeth a tharawiadol yn ei oes, y rhai a gofir yn hir ar hyd a lled y wlad. Ond cuddiad ei gryfder ydoedd, "Ei dduwioldeb, ei athrylith, a'i hynawsedd." Diffyg mawr ynddo i flaenori ydoedd diffyg prydlondeb. Yr oedd tuedd i ymdroi ac ymlusgo ynddo gyda phob peth, y byd a chrefydd yr un ffunud. Gofynai Mr. Humphreys unwaith mewn Cyfarfod Misol, wrth holi am yr achos yn Maentwrog,—"A ydych yn dyfod i'r cyfarfodydd yn lled brydlon yma, William Ellis?" "Wel, Mr. Humphreys bach," atebai yntau, "yr ydym yn myned o bob cyfarfod gyda'n gilydd yn daclus." Ond er y ffaeleddau hyn a berthynent iddo, ystyrid ef yn un o flaenoriaid hynotaf ei oes. Ysgrifenwyd hanes ei fywyd pan y Parch. Griffith Williams, Talsarnau, mewn llyfr bychan a elwir "[[Yr Hynod William Ellis]]."

JOHN JONES, BRYNTWROG.

Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol Mawrth laf, 1869. Bu farw Ionawr 26ain, 1881. Yr oedd yn adnabyddus i gylch eang o gyfeillion fel brodor o'r ardal, a pherchid ef yn fawr ar gyfrif ei liaws rhagoriaethau. Yr oedd yn ŵr tawel a heddychlon, ac o gymeriad dilychwin. Arno ef y gorphwysai y rhan drymaf o'r gwaith yn y Capel Uchaf am flynyddoedd, ac yr oedd ei golli yn golled drom. Mae ei fab ar ei ol wedi dechreu dwyn yr iau er yn ieuanc.

DAVID HUGHES.

Bu yntau yn ŵr ffyddlon yn ol ei amgylchiadau. Syrthiodd llawer o'r baich ar ei ysgwyddau yntau cyn diwedd ei oes, ac ymgymerodd âg ef yn ewyllysgar. Mawr fyddai y boddhad wrth ei weled yn mwynhau moddion gras, ac yn gofalu am amgylchiadau yr eglwys. Daeth ei yrfa i derfyniad yn lled. annisgwyliadwy ar ddiwedd 1885, tra nad oedd ond cymbarol ieuanc.

Neillduwyd Mr. Evan Nanney Evans yn flaenor yma Medi, 1861, symudodd i Gaernarfon; Mr. Griffith Pritchard, Mawrth, 1869,—symudodd gyda'r eglwys i'r Capel Isaf; Mr. Richard Davies, Mawrth, 1874,—symudodd i Harlech. Bu y tri yn weithgar yma yn ystod tymor eu harosiad. Y blaenoriaid yn awr ydynt, Mri. W. E. Jones, Evan Roberts, Edward Williams, Daniel Jones, John B. Williams, David Davies.

Yma y dechreuodd y Parch. David Williams, Coedybleiddiau, bregethu, yn fuan ar ol 1836. Ymfudodd i America, a diweddodd ei oes ychydig flynyddau yn ol yn Sir Drefaldwyn. Yma hefyd, yn niwedd y flwyddyn 1847, y dechreuodd Mr. David Davies, wedi hyny o'r Rhiw, a thrachefn o Gorris, bregethu.

Bu y Parch. Elias Jones yn weinidog rheolaidd yr eglwys, o 1869 i 1876. Y Parch. G. C. Roberts, o Mehefin, 1877, i Rhagfyr, 1889.

Nifer y gwrandawyr, 154; cymunwyr, 72; Ysgol Sul, 110.

Nodiadau[golygu]