Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II/Nancol
← Gwynfryn | Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II gan Robert Owen, Pennal |
Talsarnau → |
NANCOL.
Gelwir y lle hwn Cwm Nancol. Saif oddeutu dwy filldir yn uwch i fyny na phentref y Gwynfryn, rhwng hyny a Drws Ar Dudwy. Teneu ydyw poblogaeth yr ardal wedi bod, ac felly mae eto. Perthyn i'r Gwynfryn fel taith y mae y lle wedi bod o'r dechreu, er nad yw rhan o'r ardal ymhell iawn o ardal Dyffryn. Dechreuwyd yr achos yma trwy gadw Ysgol Sul mewn ffermdy o'r enw Hendrewaelod, yn y flwyddyn 1816. Edward Jones, Twllnant, a Robert Jones, Glanrhaiadr, oedd yn gofalu yn benaf am yr ysgol, ac yn aelodau yn eglwys y Dyffryn. Bu yn cael ei chynal wedi hyny am ysbaid yn Glanrhaiadr. Symudwyd hi yn ol drachefn i'r Hendrewaelod yn 1818, ac yno y bu dros ysbaid ugain mlynedd, hyd nes yr adeiladwyd y capel. Adeiladwyd capel Nancol yn y flwyddyn 1839. Rhoddwyd y tir yn feddiant gan Edward Jones, Hendrewaelod, am ddeg swllt. Heblaw efe, cymerodd y cyfeillion canlynol ran flaenllaw gyda'r capel, Griffith Williams, Glanrhaiadr; Evan Lloyd, Gareglwyd; Evan Jones, Twllnant; Rees Williams, Maesygarnedd; Moses Hughes, Llanmaria. Rhoddodd Morris Jones, Graig Isaf, arian yn ddilôg tuag at y capel. Yr oedd, yn ol y cyfrifon, 20p. o ddyled arno yn y flwyddyn 1850. Yr oedd y cyfeillion yn y cwm hwn mor awyddus i gael addoli yn y capel, fel y darfu iddynt gynal cyfarfod gweddi ynddo pan oedd y seiri coed ar ganol eu gwaith. John P. Jones, mab Edward Jones, Hendrewaelod, ddechreuodd y cyfarfod, a'r penill cyntaf a ganwyd ynddo oedd:—
"I dŷ yr Arglwydd pan ddywedant awn."
John Thomas, y Bala, a bregethodd gyntaf yn y capel. Moses Hughes, Llanmaria, brawd i'r Parch. Thomas Hughes, gynt o Fachynlleth, oedd y dechreuwr canu cyntaf. Bu Betti Ifan, Hendrewaelod, yn ofalus gyda'r achos bychan yn Nancol, byddai yn arwain y canu pan na byddai neb gwell yn bresenol. Yn 1844, medd ein hysbysydd, y sefydlwyd yr eglwys yno, nid trwy osodiad y Cyfarfod Misol, na thrwy ganiatad eglwys y Gwynfryn, ond trwy fyned a'r ordinhad o Swper yr Arglwydd i'w gweinyddu i Elizabeth Jones, yr hon gan henaint oedd yn methu mynychu moddion gras. Rhif yr aelodau eglwysig y pryd hwn oedd 16.
Hyd eithaf ein gwybodaeth, tri o frodyr fu yn flaenoriaid yn Nancol-Griffith Williams, Glanrhaiadr, Evan Jones, Twllnant, Evan Parry, Cefnuchaf. Y mwyaf hynod o'r tri, o leiaf, y mwyaf gwastad a ffyddlon ymhob peth, oedd Griffith Williams. Yr oedd yn hynod yn y cyfarfod eglwysig, fel gweddiwr, a chynghorwr doeth ac amserol. Dewiswyd ef yn flaenor gyda golwg ar Nancol, yn y flwyddyn 1841. Ofnus oedd ynghylch ei grefydd bersonol, ebai Daniel Evans, pan yn cael ei dderbyn i'r Cyfarfod Misol. Trwy ei ffyddlondeb, enillodd radd dda, a hyfder mawr yn y ffydd sydd yn Nghrist Iesu. Symudodd yn niwedd ei oes i fyw i'r Gwynfryn, ac nid yn fuan yr anghofir ei sylwadau synhwyrgall, a'i weddiau byrion a thaerion yno. Derbyniwyd Evan Parry yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel blaenor yn Nancol yn mis Mawrth, 1856. Yr oedd yn gymeriad ar ei ben ei hun. Yr oedd yn ŵr cadarn yn yr Ysgrythyrau, yn deall athrawiaethau crefydd yn dda, yn hoff o ymborthi ar fwyd cryf. Mwynhaodd lawer yn ei flynyddoedd olaf ar bregethau y Parchn. David Charles, Caerfyrddin, a Morgan Howells. Byddai yn bur llawdrwm ar y pregethwyr ieuainc, yn eithafol felly ar adegau. Anwastad y ceid ef o ran ei dymer a'i brofiad crefyddol. Byddai yn gyndyn ar brydiau i ddweyd dim yn y seiat, yn enwedig os trymaidd fyddai y cyfarfod, ond os yn ysgafn, byddai yntau ar uchelfanau y maes. Er hyny, rhoddai Evan Parry brofion ei fod yn ŵr yn dal cymdeithas â Duw, a byddai ei weddiau yn ffrwyth ei brofiad ei hun.
Ymhen amser, gwanychodd yr achos yn Nancol, a theimlid anhawsder i'w gario ymlaen fel eglwys ar ei phen ei hun. Y crybwylliad cyhoeddus cyntaf ydym yn gael ar hyn ydyw, fod brawd o'r eglwys yn rhoddi adroddiad yn Nghyfarfod Misol Mai 1864, o sefyllfa isel yr achos yn y lle, ac yn dymuno cael sylw y Cyfarfod Misol at hyny. Ar ol gwneyd ymchwiliad, y penderfyniad cyntaf y daeth y Cyfarfod Misol iddo oedd, eu cynghori i ffurfio undeb agosach â'r Gwynfryn, ac i ddyfod i lawr yno i gyfranogi o'r ordinhad o Swper yr Arglwydd. Ebrill, 1865, gwnaed sylw helaethach a mwy penderfynol o'r achos drachefn mewn cyfarfod yn y Dyffryn, a cheir y geiriau canlynol, mewn cysylltiad â'r cyfarfod hwnw. "Gwnaed sylw ar y perygl i leoedd bychain fyned yn eglwysi ar eu penau eu hunain, a thrwy hyny fod achos crefydd yn cael ei ddrygu." Yn Nghyfarfod Misol y Dyffryn, Chwefror 1867, wele y diwedd wedi dyfod. "Wedi gwrando adroddiad am agwedd yr achos yn Nancol, penderfynwyd na byddom mwyach yn cydnabod yr achos yn y lle bychan hwnw yn eglwys; ac os bydd y rhai sydd yn aelodau yno yn dewis bod yn aelodau gyda'r Methodistiaid, fod yn rhaid iddynt ymuno â rhyw eglwysi eraill, a phenodwyd y Farchn. D. Davies ac Edward Morgan i fyned yno i roddi y penderfyniad hwn gerbron y cyfeillion." Er mai bechan a gwywedig oedd yr eglwys, ymladdfa fawr a fu ei difodi. O'r pryd hwn allan, pa fodd bynag, nid ydyw Nancol yn bod fel eglwys, ond erys hyd heddyw yn rhan o eglwys y Gwynfryn, ac aiff y pregethwr o'r lle olaf i fyny yno i roddi pregeth bob prydnhawn Sabbath. Rai blynyddau yn ol, adnewyddwyd y capel, ac mae y cyfeillion crefyddol yma er's peth amser yn awr yn dangos graddau o adnewyddiad.
Nodiadau
[golygu]