Neidio i'r cynnwys

Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II/Nodiad

Oddi ar Wicidestun
Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II

gan Robert Owen, Pennal

Rhagymadrodd

NODIAD.— Daeth y Gyfrol Gyntaf o hanes yr eglwysi yn Ngorllewin Meirionydd allan o'r wasg ddwy flynedd yn ol, sef ar ddiwedd 1888. Y mae yn achos o foddlonrwydd na wnaethpwyd ond ychydig o gamgymeriadau mewn ffeithiau hanesyddol yn hono. Yr oedd y nesaf peth i anmhosibilrwydd i fod yn hollol gywir ar bob manylion, mewn hanes a gyrhaeddai dros gynifer o flynyddoedd. Buwyd yn amryfus mewn un peth neu ddau yn yr hanes am Dowyn. Dywedir yno am William Dafydd, un o'r blaenoriaid hynaf, ei fod yn honi perthynas â Catherine Williams, ysgogydd cyntaf y Methodistiaid yn y rhanau yma o'r wlad." gwirionedd ydyw, yr oedd William Dafydd yn fab i Catherine Williams. Anghofiwyd rhoddi enw John Vaughan, fel un a ddechreuodd bregethu yn Nhowyn. Cychwynodd ef ar ei flwyddyn brawf Awst, 1881. Yn yr hanes am Danygrisiau, dywedir mai "brodor o Bethesda, yn Arfon," ydoedd John Pierce, Ty'nllwyn. Yr hyn sydd gywir ydyw, symud o ardal Ffestiniog i Arfon a wnaeth, gan ddychwelyd yn ol, ac ymsefydlu yn Nhanygrisiau. Pe cyrhaeddasai gwybodaeth am unrhyw wall arall cyn cau yr hanes i fyny, gyda phob parodrwydd y buasid yn ei gywiro.