Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II/Y Cyfarfod Misol 1785-1840

Oddi ar Wicidestun
Yr Ysgol Sabbothol yn Nosbarth y Dyffryn Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II

gan Robert Owen, Pennal

Y Cyfarfod Misol 1840-1890







~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

RHAN III.

Y CYFARFOD MISOL.

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~




RHAN III.

Y CYFARFOD MISOL. PENOD I.

BYR HANES AM Y CYFARFOD MISOL O YMUNIAD MR. CHARLES A'R CYFUNDEB YN Y FLWYDDYN 1785, HYD RANIAD Y SIR YN 1840.

CYNWYSIAD.—Amser ei ddechreuad—Hanes Lewis Morris yn dechreu pregethu—Sul y Cymundeb yn v Bala yn gwneyd y tro yn lle Cyfarfod Misol—Gosod blaenoriaid ar yr eglwysi—Mr. Charles a John Evans, y Bala, y ddau arweinydd cyntaf—John Roberts, Llangwm—Richard Jones, y Wern—John Peters, Trawsfynydd—Richard Jones, y Bala—Y dull o deithio i'r Cyfarfodydd Misol—Y gwaith a wnelid—Trefnlen y Cyfarfodydd Misol—Rhaniad y Sir.

 YMUNOL fuasai cael hanes Cyfarfod Misol Sir Feirionydd, ynghyd â'r gwyr enwog, yn bregethwyr a blaenoriaid, fu yn cymeryd rhan yn ei weithrediadau o'r dechreuad; ond a chaniatau fod y defnyddiau i'w cael, nis gellir o fewn terfynau y benod hon roddi ond ychydig o le i'r cyfryw hanes. Rhaid boddloni ar grybwyllion byr yn unig, o leiaf, hyd nes y deuwn at weithrediadau y Rhan Orllewinol. Nid mor hawdd ydyw nodi yr amser y dechreuwyd cynal Cyfarfodydd Misol y sir. Gellir bod yn lled sicr o hyn, modd bynag, nad oeddynt ond cynulliadau bychain iawn yma, fel yn siroedd eraill y Gogledd, hyd nes yr oedd wedi rhedeg yn agos i ddiwedd y ganrif ddiweddaf. Pa bryd bynag y cawsant eu sefydlu yn Meirionydd, yr adeg y dygwyd hwy i drefn ydoedd oddeutu yr amser yr ymunodd Mr. Charles A'r Methodistiaid, ac yr ymsefydlodd yn y Bala, sef yn y flwyddyn 1785. John Evans, y Bala, oedd y mwyaf deallus a synhwyrol, a'r mwyaf ei ddylanwad hefyd o'r tô cyntaf o bregethwyr y sir. Ond ni ystyrid mohono yn bregethwr poblogaidd; ni feddai ddawn gynhyrfus, na llais melodaidd i effeithio ar y tymherau, fel llawer o bregethwyr ei oes ef. Oblegid hyny, tybiai rhai o'i gymydogion unplyg a difeddwl-ddrwg, nad oedd wedi ei alw gan yr Arglwydd i'r gwaith, ac anfonasant genadwri ato i'w hysbysu mai doeth fyddai iddo roddi heibio bregethu. I hyn atebodd yntau, yn ei ddull ei hun, "Ho! mi glywaf; hwn a hwn," ebai, gan gyfarch y genad, "ewch chwithau yn ol atynt hwythau, a dywedwch wrthynt y pregethaf fi nes y gwelaf yma ryw un a fedro bregethu yn well na fi yn dechreu." "Yr oedd byn, debygid," ebai Methodistiaeth Cymru, "cyn bod Cyfarfod Misol yn y sir, a chyn dyfodiad Mr. Charles i fyw i'r Bala." Awgrymir yn y dyfyniad hwn fod dyfodiad Mr. Charles i'r Bala a sefydliad Cyfarfodydd Misol yn y Sir bron yn gyfamserol a'u gilydd. Nid oedd ond ychydig o angen am danynt yn flaenorol i'r adeg yma. Rhyw chwech neu saith oedd nifer yr eglwysi yn y rhan Orllewinol y flwyddyn yr ymunodd Mr. Charles â'r Methodistiaid; ac nid oedd o fewn yr un cylch ond un pregethwr, neu gynghorwr, sef Edward Roberts, Trawsfynydd. Ar ol hyn hefyd y dechreuwyd gosod blaenoriaid yn rheolaidd ar yr eglwysi. Felly, nid oedd ond ychydig o waith i'w wneuthur yn y Cyfarfodydd Misol. Ar yr un pryd, mae yn bosibl y cynhelid hwy ar raddfa fechan rai blynyddau yn flaenorol i'r adeg y cyfeirir ati.

Yn y flwyddyn 1791 y dechreuodd Lewis Morris bregethu. Cyfarfyddwn yn ei hanes ef â chyfeiriadau at y Cyfarfod Misol fel sefydliad oedd yn meddu tipyn o awdurdod cyn y flwyddyn hon. "Yr oeddwn," meddai, gan gyfeirio at y flwyddyn cyn iddo ddechreu pregethu, "er's peth amser wedi cael caniatad i fyned i'r Cyfarfod Misol, fel un oedd yn gofalu am achos yr Arglwydd yn fy ardal; ac yn lled fuan wedi i mi ddechreu cynghori, dywedodd un brawd yn y Cyfarfod Misol fy mod yn myned at y gwaith o bregethu. 'Na,' meddwn inau, 'nid pregethu y byddaf, ac nid wyf yn meddwl am fyned yn bregethwr; ac ni byddaf byth yn darllen testyn o'r Beibl yn flaenorol i'm cynghorion.' Gofynwyd i mi pa fodd y byddwn yn arfer gwneyd; ac atebais, y byddwn yn dweyd wrth y bobl eu bod wrth naturiaeth yn blant digofaint, ac nad oedd un llwybr i'w cadw ond trwy gredu yn y Crist a groeshoeliwyd ar Galfaria, a bod iawn gredu yn Nghrist yn dyfod â dynion i adael eu pechodau, ac i fyw yn dduwiol. 'Wel,' meddai y brodyr, 'pregethu yw hyna.' Am fy mod yn ieuanc mewn crefydd, ac wedi bod mor anwar a chyhoeddus yn myddin y diafol, yr oedd arnynt lawer o ofn rhoddi caniatad i mi i bregethu." Dechreuodd bregethu pan yn 31 oed, ymhen dwy flynedd wedi iddo ymuno â chrefydd. Ymddengys iddo gyfarfod â rhwystrau i ddechreu ar y gwaith oddiwrth y brodyr crefyddol, am y rheswm a nodir ganddo yn y dyfyniad uchod. Aeth i Ddolgellau i bregethu ar ryw nos Sabbath, ar gais hen frawd oedd yn blaenori yno, a chymerodd destyn y tro hwn, sef Act. ii 47. "Bu brodyr Dolgellau," ebai, "yn gefnogaethol i mi yn y Cyfarfod Misol ar ol yr odfa hon. Yr hynafgwr parchus, John Evans, o'r Bala, hefyd, a ddywedodd mewn Cyfarfod Misol, Y mae genyf fi fansi yn y dyn ieuanc [sef Lewis Morris], yr wyf yn meddwl fod yn ei galon wneyd drwg i deyrnas y tywyllwch; ac yr wyf yn credu y gwna efe hyny hefyd.' Cefais lawer o diriondeb a meithriniad hefyd gan yr enwog Mr. Charles, o'r un lle, a'i gyfeillach ostyngedig a sanctaidd a fu yn llawer o les i mi." Oddiwrth y cyfeiriadau uchod, yr ydym yn gweled fod y Cyfarfod Misol yn bod, ac yr ydym hefyd yn cael rhyw gip-olwg ar ei weithrediadau yn y flwyddyn 1790.

Y Bala oedd cartrefle Methodistiaid Sir Feirionydd dros dymor maith yn y dechreuad. "Yn y Bala," dywed y Parch. Jno. Hughes, "yr oedd yr holl bregethwyr a feddai y sir Yn byw, oddieithr un neu ddau, pan ychwanegwyd Mr. Charles at eu rhif." Fe fu Sul y Cymundeb unwaith yn y mis yno yn meddu at-dyniad mawr, lle y cyrchai tyrfaoedd o bob parth o'r sir, yn gystal ag o siroedd eraill, megis y cyrchai yr holl dywysogaeth cyn hyny i Langeitho. "Yno hefyd y deuai llawer un o lawer cyfeiriad i ymofyn am gyhoeddiadau y cynghorwyr, y rhai, hyd y gallent, a arosent adref ar Sul pen mis. Yn y modd yma yr oedd Sabbath y Cymundeb yn ateb dros ryw dymor yn lle Cyfarfod Misol i'r sir, neu yn lle Cymdeithasfa i Wynedd." Mewn cyfeiriad at yr amser hwn, dywed hen bregethwr yn mhellach, "Cedwid Cyfarfod Misol Sir Feirionydd yn y pen gorllewinol i'r sir yn unig. Yr oedd Mr. Charles yn cyfranu bod mis yn y Bala, ac ar y Sabbath hwnw byddai cyrchu yno o bob rhan o'r wlad, a'r cyfarfod hwn, sef cynulliad pen mis yn y Bala, oedd yn ateb diben Cyfarfod Misol i'r pen dwyreiniol o'r sir." Parhaodd yr arferiad yma, mae'n debyg, i raddau mwy neu lai, hyd amser ordeiniad cyntaf y gweinidogion, yn y flwyddyn 1811. Hysbysir i Gyfarfod Misol gael ei gynal mewn tafarndy unwaith yn Ffestiniog. Nid yw hyn o gwbl yn rhyfedd erbyn ystyried amgylchiadau yr amseroedd, sef prinder y cyfleusderau i gynal y cyfarfodydd, bychander nifer y capelau, a lleied oedd y gwaith oedd i'w wneyd ynddynt. Dywed Robert Jones, Rhoslan, y byddai amryw o Gyfarfodydd Misol Sir Gaernarfon, yn y cyfnod boreuol, yn cael eu cynal mewn tafarndai, oblegid yr un rhesymau. Deuai y pregethwyr ynghyd, ebai yr un gŵr, i drefnu eu cyhoeddiadau am y mis, ac ar ddiwedd y gwaith hwn pregethai un o honynt i ychydig nifer o wrandawyr.

Nid oedd yn Sir Feirionydd, yr amser y cyfeiriwn ato, neb wedi eu gosod yn flaenoriaid, neu yn ddiaconiaid, ar yr eglwysi, mewn trefn reolaidd. Y dynion a alwent am bregethu i'w tai a aent i geisio pregethwyr i unrhyw fan y gallent eu cael, a hwy fyddai yn cynal cyfarfodydd eglwysig yn eu tai. Gwelir oddiwrth y dyfyniad canlynol, o waith y Parch. J. Hughes, Liverpool, y modd a'r pryd y dechreuwyd cael pethau i drefn gyda hyn: "Ymhen rhyw gymaint o amser, dywedodd Mr. Charles mewn Cyfarfod Misol, fod y Testament Newydd yn datgan fod gan yr eglwysi lais i fod yn newisiad eu swyddogion, a bod cymwysderau y cyfryw swyddogion wedi eu gosod i lawr; mai nid swyddogion priodol oedd neb ond a ddewisid; nid y rhai a ddamweiniai fod, neu y rhai a ymwthiai iddi, oedd i fod yn henuriaid, ond y sawl a ddewisid, ac a elwid iddi, ac a osodid ynddi oddiar olwg ar eu bod yn blaenori yn y cymwysderau gofynol. Hyd yn hyn, yr oedd rhai dynion wedi eu harwain at y gwaith oherwydd angenrheidrwydd, ac wedi ymaflyd yn y gorchwyl am nad oedd neb arall a wnai, neu am nad oedd neb arall i wneyd. Yr oedd llawer o'r gwyr hyn yn ddynion rhagorol eu hysbryd, ac egniol eu diwydrwydd, mawr eu sel, a mawr eu ffyddlondeb; ond oherwydd eu galw trwy ras Duw o wasanaeth y diafol, pan. mewn oedran, ac heb erioed gael nemawr fanteision, yr oedd eu dawn a'u gwybodaeth yn fychan, ie, yr oedd rhai o honynt heb fedru darllen, ac felly dan anfantais fawr i allu cynyddu mewn gwybodaeth, i gyfateb i gynydd rhai eraill. Yr oeddynt, er hyny, yn effro a ffyddlawn iawn i wneuthur a allent, trwy fyned i'r cyrddau misol i ymofyn am bregethwyr i ddyfod i'w hardaloedd, ac ymhob modd yn ddyfal a gofalus yn ceisio hyrwyddo achos Duw ymlaen. Yn y Cyfarfod Misol y cyfeiriwn ato, penderfynwyd, yn ol cynygiad Mr. Charles, fod wlad i gael ei rhanu yn ddosbarthiadau; a bod i bregethwr gael ei anfon i bob un, i gynorthwyo yr eglwysi yn newisiad y swyddogion hyn. Angenrhaid oedd gwneuthur hyn, gan leied o sylw a wnaethai y cynulliadau eglwysig bychain ac ieuainc eto, ar gymwysderau henuriaid, neu ddiaconiaid. Yr oedd gwir angenrheidrwydd, gan hyny, am eu dysgu, a'u cyfarwyddo, mewn ysgogiad ag oedd mor hanfodol i lwyddiant a chysur y cymdeithasau. Cyfarwyddwyd y cenhadon hyn i ddysgu yr eglwysi i beidio dewis neb, heb o leiaf fedru darllen. Ac am y rhai ag oeddynt yn gweithredu yn ffyddlawn fel diaconiaid, er yn ddiffygiol mewn rhyw gymwysderau, bernid mai dewis cynorthwywyr iddynt a fyddai oreu, ac nid rhai yn eu lle, modd y cyflenwid, trwy y swyddogion newyddion, ddiffygion yr hen swyddogion. Wedi i'r dewisiad yn yr eglwysi fyned heibio, daeth y rhai a ddewisasid i'r Cyfarfod Misol er mwyn adchwilio eu cymwysderau, a'u cynghori a'u cyfarwyddo yn eu gwaith."—Methodistiaeth Cymru I., 574. Cymerodd yr hyn y cyfeirir ato le rywbryd ar ol y flwyddyn 1790, ac mae y drefn a fabwysiadwyd y pryd hwnw gyda dewis blaenoriaid, i fesur, yn cael ei dilyn hyd heddyw. Y ddau brif arweinydd gyda holl symudiadau crefyddol y sir, hyd ddydd eu marwolaeth oeddynt, Mr. Charles a John Evans, o'r Bala. Y flwyddyn yr ymunodd y cyntaf a'r Methodistiaid, sef yn 1785, y dywedodd yr hen barchedig Daniel Rowlands, Llangeitho, am dano-yntau ei hun o fewn pum' mlynedd i derfyn ei oes pan y gwnaeth y sylw—" Rhodd yr Arglwydd i'r Gogledd ydyw Mr. Charles." Cafodd Sir Feirionydd, yr hon sydd wedi bod yn enwog am ei harweinwyr mewn crefydd, y rhodd hon yn gyntaf ac yn benaf. Dyddiad ei farwolaeth ydyw Hydref 5ed, 1814. Bu yr Hybarch John Evans farw, mewn henaint teg, ymhen oddeutu tair blynedd ar ol Mr. Charles. Dywedir am dano ef iddo gyd-gerdded â thair oes o grefyddwyr, a'i fod "o flaen ei oes mewn craffder, gwybodaeth, "Bu y gŵr hwn yn sefyll yn dyst ffyddlawn o blaid y gwirionedd mewn athrawiaeth a disgyblaeth, ynghylch triugain mlynedd. Nid yn fynych y gwelir y cyffelyb." Mewn hen Ddyddiadur i Mr. Gabriel Davies, y Bala, ceir y sylwadau canlynol o eiddo John Evans, y rhai na fuont yn argraffedig a chyngor." o'r blaen,—"Hydref 1af, 1816, galwodd [yn nhŷ Mr. G. Davies] yr hen John Evans, oedran 95. Gofynodd a oeddwn yn myned i'r Association i Gaernarfon, a chyda mwy bywiogrwydd nag arferol, archodd i mi ddywedyd, na bo i lefarwyr fyned allan ar draws y wlad heb eu galw, a phan y delont, ddyfod bob yn un, ac nid bob yn ddau. Dywedodd fel hyn, Mae arnaf ofn fod pobl yn meddwl mai pregethu a gwrando yw gwir grefydd. Mae'r corff yn lliosog iawn, ac eisiau trefn a disgyblaeth.' Gofynais, pa fodd yr oedd adnabod y rhai yr oedd yr Arglwydd yn eu galw? Ateb, Tystiolaeth eu cymydogaeth gartrefol am eu buchedd."

Gŵr a ddaeth yn arweinydd crefydd yn y sir cyn symudiad Mr. Charles a John Evans, oedd y Parch. John Roberts, Llangwm. Adnabyddid ef yn nechreu ei oes fel John Roberts, Llanllyfni. Dechreuodd bregethu yr un adeg a Mr. Evan Richardson, Caernarfon, ac ystyrid ef yn un o ser disgleiriaf ei wlad yn ei ddydd. Efe ydoedd ysgrifenydd Cyfarfod Misol Sir Gaernarfon. Mae y cyfrifon a gadwodd o gasgliad capeli y sir hono, am ddeuddeng mlynedd, ac a gyhoeddwyd mewn cysylltiad a byr hanes o'i fywyd, yn Nghofiant ei fab, y Parch. Michael Roberts, Pwllheli, yn profi ei fod yn ŵr medrus a deheuig mewn dwyn ymlaen faterion amgylchiadol yr achos. Symudodd, trwy briodi, o Sir Gaernarfon i Langwm, yn Sir Feirionydd, yn y flwyddyn 1809. Ac am y pum' mlynedd ar hugain dilynol, efe oedd Ysgrifenydd Cyfarfod Misol Sir Feirionydd, hyd ei farwolaeth, Tachwedd 3, 1834. Dygir tystiolaeth i hyny gan y rhai sydd yn fyw yn awr, a phrofir yr un peth oddiwrth y ffaith fod ei enw i'w weled, yr holl gyfnod yma, ar y tocynau a roddid i'r blaenoriaid pan y derbynid hwy i swydd. Ond mae ei holl gofnodau, fel y mae gwaetha'r modd, wedi myned ar goll.

Y Parch, Richard Jones, y Wern, oedd wr o ddylanwad uwch na'r cyffredin yn y sir. Daeth yntau yma o Sir Gaernarfon, ar derfyn Diwygiad Beddgelert, ac ymhen rhyw bedair blynedd ar ddeg, sef yn mis Chwefror, 1833, cymerwyd ef oddiwrth ei waith at ei wobr. Yn ystod y tymor yna, efe oedd arweinydd ei frodyr, a'r trymaf o honynt ar bob pwnc o ddadl, ac mewn amgylchiadau o ddyryswch. Yr oedd yn alluog iawn fel ysgrifenwr a dadleuwr; cymerai yr ochr oleu ar bobpeth tra y byddai eraill yn ofnus a chwynfanus; safai yn gryf dros ddisgyblaeth eglwysig; cariai y cwbl o'i flaen pan fyddai wedi ei gynhyrfu a'i wresogi. Cymharai Mr. Charles ef i wagen fawr yn dyfod i mewn i'r dref yn llwythog o nwyddau i'r preswylwyr. Am dano fel pregethwr, dywed y Parch. Dr. O. Thomas: "Er holl afrwyddineb a hwyrdrymedd ei ddawn, tynai ddesgrifiadau mor fywiog a naturiol o'r amgylchiadau neu y digwyddiadau Ysgrythyrol a fyddent ganddo o dan sylw, nes eu gwneuthur yn hollol bresenol gerbron ei wrandawyr, a gwefreiddio eu meddyliau yn gwbl ganddynt; fel y gwelsom ef laweroedd o weithiau, yn cael buddugoliaeth mor deg, mor lwyr, ac mor gyffredinol, ar deimladau ei gynulleidfa ag un pregethwr a glywsom erioed."

Un o'r pregethwyr mwyaf cymeradwy yn yr un cyfnod ydoedd y Parch. John Peters, Trawsfynydd. Daeth ef i breswylio i'r rhan Orllewinol o'r sir, fel y ceir ei hanes ynglŷn âg eglwys Trawsfynydd, oddeutu deuddeng mlynedd cyn diwedd ei oes, a bu farw Ebrill 26, 1835. Yr oedd yn gymeradwy iawn ymysg lliaws ei frodyr, a'i weinidogaeth bob amser mor felus a diddanus, nes peri galar a cholled cyffredinol ar ei ol. Prawf o hyn oedd y sylw a wnaeth y Parch. Ebenezer Richards ar Green y Bala, ymhen ychydig ar ol ei farwolaeth. Yn ei bregeth coffai Mr. Richards am amryw bregethwyr oeddynt yn ddiweddar wedi eu cymeryd i'r orphwysfa o Sir Feirionydd, ac yn eu mysg dywedai ar dop ei lais, "a John Peters anwyl o Drawsfynydd."

Y Parch. Richard Jones, y Bala, oedd weinidog o gyraeddiadau amlwg a defnyddioldeb mawr yn ei ddydd. Yr oedd ef ar y cyntaf yn un o'r ysgolfeistriaid blaenaf a gyflogid gan Mr. Charles. Bu yn cadw ysgol yn Nhrawsfynydd, ac yn preswylio yno am bymtheng mlynedd. Yn 1829, symudodd ar gais y brcdyr, i fyw i'r Bala, ac yn y flwyddyn 1840 bu farw, pan nad oedd yn llawn 56 mlwydd oed. Cyfrifid ef yn un o'r colofnau gyda holl symudiadau yr achos yn y sir. "Nid yn fynych y gwelwyd neb llai ei frychau, ac amlach ei rinweddau." Meddai farn glir a doethineb y doeth; ceid ef hefyd yn ŵr o ymddiried ac o ymroddiad mwy na'r cyffredin. Cyn belled ag y gellir casglu oddiwrth amgylchiadau cydgyfarfyddol, efe a ddaeth yn ysgrifenydd y Cyfarfod Misol am y chwe' blynedd dilynol i farwolaeth John Roberts, Llangwm. Nid oes dim cofnodion i'w cael i brofi y ffaith, a methasom a chael tystiolaeth ar air i'w sicrhau, ond mae ei enw i'w weled yn fynych, lle y disgwylid cael enw ysgrifenydd y Cyfarfod Misol.

Y gwyr a nodwyd oeddynt brif arweinwyr y Cyfarfod Misol tra yr oedd yr holl sir yn un. Bu amryw bregethwyr heblaw hwy yn dra gwasanaethgar gyda gwaith yr Arglwydd yn ei holl ranau; rhai yn llai amlwg ac adnabyddus, eraill yn amlwg iawn yn y pulpud, ond heb fod mor flaenllaw gyda'r gwaith yn allanol. Yr oedd nifer o bregethwyr hefyd a breswylient yn y rhan Orllewinol, ac a fuont byw yn hir ar ol rhaniad y Cyfarfod Misol, wedi bod yn flaenllaw gyda'r gwaith cyn y rhaniad, am y rhai y gwneir coffhad yn mhellach ymlaen. Mae yr amgylchiadau dan ba rai y cynhelir y Cyfarfodydd Misol yn awr yn dra gwahanol i'r peth oeddynt driugain mlynedd yn ol. Pan oedd y ddau ben i'r sir yn un, cyrhaeddai y cylch o Aberdyfi i Gapel Curig ar y naill law, ac o Benrhyndeudraeth i Lanarmon Dyffryn Ceiriog ar y llaw arall. Clywsom yr hy barch flaenor, Mr. Owen Williams, Aberdyfi, yn dweyd iddo ef fyned yr holl ffordd oddicartref i Gyfarfod Misol Dolyddelen, yn y flwyddyn 1827, i ofyn am ganiatad i adeiladu y capel cyntaf erioed a adeiladwyd yn Aberdyfi. Bu raid iddo letya noson ar y ffordd yn ol a blaen; yn Nolgellau wrth fyn'd, ac yn Nhrawsfynydd wrth ddychwelyd. Yr oedd y gras o letygarwch yn uchel iawn yn y wlad y pryd hwnw, gan y byddai raid i lawer o bregethwyr a blaenoriaid gael llety noswaith ar eu ffordd i ac o'r Cyfarfod Misol, heblaw y teithio mawr a fyddai i bregethu yn Sabbothol ac wythnosol. Pe buasai yr hen bobl yn fyw i adrodd helyntion y myned a'r dyfod i'r cyfarfodydd crefyddol gynt, dyddorol dros ben i'r oes hon fuasai gwrando yr hanes. Ond y maent hwy oll wedi myned, felly rhaid boddloni ar a feddwn. Angenrhaid oedd i bob pregethwr, ac un blaenor o bob taith, o leiaf, os nad o bob eglwys, roddi eu presenoldeb yn y Cyfartod Misol, oblegid yr cedd galw enwau yn bod y pryd hwnw. Yn y Cyfarfod Misol y rhoddid yr holl gyhoeddiadau am y mis dilynol, ac os na ofelid am fod yn bresenol, faint bynag fyddai pellder y ffordd, boed hi wlaw neu hindda, prysurdeb cynhauaf neu amser holidays, byddai y teithiau yn weigion, a'r pregethwyr heb ddim gwaith y mis hwnw. A phan y digwyddai afiechyd neu amgylchiadau anorfod, arferai y pregethwyr anfon gair trwy lythyr at y Cymedrolwr, i hysbysu y frawdoliaeth trwyddo ef, pa Sabbothau a addawsid, a pha rai fyddent yn weigion yn eu dyddiaduron. Yn y dyddiau gynt yn arbenig, ystyrid cysondeb i ddilyn y Cyfarfodydd Misol o du y llefarwyr, ac o du y diaconiaid, yn arwydd o ddiogelwch eu credo, ac yn brawf o faint eu hawydd i wneuthur daioni. Yr henadur parchus a'r cofiadur rhagorol, Mr. Bleddyn Llwyd, Gyrddinan, Dolyddelen, a ddywed ei fod ef yn bresenol mewn Cyfarfod Misol yn Nhrawsfynydd cyn rhaniad y sir, pryd yr oedd siarad ar y mater hwn. Rywbryd yn ystod y cyfarfod, rhoddai John Griffith, Capel Curig, blaenor adnabyddus a dylanwadol yr amser hwnw, gynghorion i bawb, yn bregethwyr a blaenoriaid, i fod yn ffyddlon i ddilyn y Cyfarfodydd Misol, a'r pwysigrwydd o hyny. Ar ei ol, cyfododd yr hynod bregethwr, Owen William, Towyn, ar ei draed, a dywedodd, "Ni waeth i rai o honom heb ddyfod iddynt, nid oes neb yn gofyn pa beth ydym dda wedi i ni ddyfod." Ac aeth yn dipyn o ymdderu rhwng y ddau. O'r diwedd, cyfododd Lewis Jones, y Bala, i fyny i gyfryngu rhyngddynt mewn ysbryd addfwyn a hawddgar, a dywedai am yr angenrheidrwydd i ddilyn y cyfarfodydd, nid yn unig er rhoddi help i gario y gwaith ymlaen, ond hefyd i dderbyn lles a bendith, ac i loewi bob un ei grefydd ei hun, drwy gyffyrddiad â phethau mawr y deyrnas yn nghynulliad y brodyr ynghyd. Ond er ymgasglu ynghyd o eithafion pella'r sir i'r eithafion arall, ychydig iawn fyddai swm y gwaith allanol a wnelid gan y tadau. Ni osodid hwy o dan yr angenrheidrwydd i fyned trwy ond ychydig mewn cymhariaeth o waith amgylchiadol; y cyhoeddiadau, y casgliadau, a hanes yr achos,-dyna swm y gwaith. Yn Nyddiadur Mr. Gabriel Davies, y Bala, am y flwyddyn 1816, yr hwn y cyfeiriwyd ato amryw weithiau o'r blaen, ceir y rhaglen ganlynol a ddodid i'r llywydd ar ddechreu y cyfarfod, ac os nad ydym yn camgymeryd, yr un un fyddai y rhaglen trwy y flwyddyn round. Y rhai a ddywedant fod gormod o gasgliadau yn y cynulliadau misol yn y blynyddoedd hyn, a sylwant, ond odid, fod y mater hwn yn ail ar drefnlen y tadau, bedwar ugain mlynedd yn ol:—

GORCHWYL Y CYMEDROLWR YN Y CYFARFOD MISOL...

1. Darllen y cyhoeddiadau.

2. Casgliadau.

3. Sefydlu y Cyfarfod Misol nesaf.

4. Enwau'r Teithiau Sabbothol-a oes gobaith am eu llenwi y mis canlynol.

5. Galw enwau'r llefarwyr, i wybod pa le y byddont dros y mis.

6. Hanes yr Ysgolion Rhad, a'r rhai Sabbothol.

Yn y flwyddyn 1840 y rhanwyd y sir yn ddau Gyfarfod Misol. Nid oes dim cofnodion i'w cael yn mhellach yn ol na'r flwyddyn hon, yn y pen Dwyreiniol na'r pen Gorllewinol. Dichon eu bod yn llechu yn rhywle, mewn hen gistiau, yn yr hen deuluoedd. Ond methwyd a dyfod o hyd i ddim o honynt, er gwneuthur llawer o ymchwiliad, tros rai blynyddoedd, trwy yr oll o'r sir, ac er gwneuthur ymofynion yn gyhoeddus trwy y newyddiaduron. Y mae hyn yn rhyfedd hefyd, a cholled fawr ydyw fod y cwbl wedi ei golli. Gan fod y cofnodion yn ngholl, nid oes genym ddim o hanes y drafodaeth a arweiniodd i ranu y sir, na gwybodaeth am y rhesymau a ddygid o blaid ac yn erbyn y rhaniad. Ac er nad oes ond haner can mlynedd er pan gymerodd hyn le, anhawdd ydyw dibynu am sicrwydd ar gôf y rhai sydd yn awr yn fyw. Yr oedd y diweddar Mr. W. Mona Williams, Tanygrisiau, wedi ei dderbyn yn swyddog yn y sir flwyddyn cyn y rhaniad. Rhyw dri mis cyn ei farw, ysgrifenodd ef y nodiadau canlynol, "Am y Cyfarfod Misol yn Sir Feirionydd cyn y rhaniad, nid oes genyf fawr iawn o'r hanes. Yr wyf yn cofio dadl frwd yn Nghyfarfod Misol y Bala. Yr oedd Lewis Jones, y Bala, yn dadleu yn gryf dros y rhaniad, a Mr. Humphreys, y Dyffryn, yn llawn mor gryf dros beidio. Yr oedd Mr. Humphreys yn bryderus iawn rhag y buasai yr arweiniad yn dyfod yn fwy uniongyrchol ar ei ysgwyddau ef. Y gweinidogion fyddai yn cymeryd mwyaf o ran yn arweiniad y Cyfarfod Misol y pryd hwnw oeddynt,-y Parchn. Lewis Morris, Robert Griffith, Dolgellau; Daniel Evans, Harlech; Richard Humphreys, Robert Williams, Llanuwchllyn; Richard Jones a Lewis Jones, y Bala; a Dafydd Rolant. Yr oedd Dr. Edwards heb ddyfod fawr i'r golwg eto. Y blaenoriaid oeddynt, John Griffith, Capel Curig; Robert Ellis, Ty Mawr; William Jones, Rhiw-waedog; Hugh Thomas, Llanfihangel; a Richard Jones, Tanycastell."

Nodiadau[golygu]