Hanes Niwbwrch/Sefyllfa ddaearyddol Niwbwrch
← Rhagarweiniad | Hanes Niwbwrch gan Owen Williamson |
Yr enwau wrth ba rai yr adnabyddid Niwbwrch → |
1. SEFYLLFA DDAEARYDDOL NIWBWRCH,
Mae rhai pobl wedi bod yn ceisio lleihau yr enwogrwydd dyledus i Niwbwrch ar gyfrif ei sefyllfa gynt fel un o brif lysoedd neu drefi Môn, a hynny oherwydd ei chyflwr presennol, ac, fel y tybia rhai, oherwydd dinodedd y lle y saif; ac am hynny teflir llawer o amheuaeth ar ran beth bynnag o hanes Gwynedd o dan y tywysogion Cymreig.
Mae Beaumaris wedi bod yn enwog ers oesoedd lawer, ond nid fel Llys Cymreig. Yr oedd Ynys Môn bob amser yn agored i ymosodiadau y cenhedloedd o'r Gogledd, a'r Saeson mewn oesoedd mwy diweddar. Gororau Beaumaris a'r amgylchoedd oeddynt fannau gweinion Môn, ac yno y glaniai y gelynion yn aml ac yr ymsefydlent hefyd. Ychydig o son mewn cymhariaeth sydd am ymosodiadau o'r de-orllewin ; ond pan y digwyddai i ymosodwyr lanio yn Abermenai yr oedd amddiffyniad yr ynyswyr yn fwy llwyddiannus yno nag ynghyrrau eraill o'r ynys. Bu tywysogion Gwynedd yn anffortunus lawer tro, ond ymha gyflwr bynnag y byddent yr oedd y Monwysiaid bob amser yn deyrngarol.
Nid ydwyf am ddweyd fod tywysogion Gwynedd wedi sefydlu eu prif Lys yn Aberffraw am ei fod yn lle mwy diogel na rhyw le arall, ac felly ensynio eu bod yn rhy ofnus i ymsefydlu ym Meaumaris; ond hyn a ddywedaf, yr oedd y lle blaenaf yn fwy manteisiol o lawer fel sefyllfa i gadw Sir Fon mewn cymundeb a Siroedd Caernarfon a Meirionydd y rhai (ynghyd a Sir Fôn) a wnaent i fyny Dywysogaeth Gwynedd, tua mil o flynyddoedd yn ol.
Beaumaris oedd y lle mwyaf hwylus i'r brenhinoedd Seisnig ar ol goresgyniad Cymru, oblegid Ffordd Caer trwy siroedd Fflint a Dinbych i Deganwy a Beaumaris oedd ac ydyw prif-ffordd y Saeson i Fon. Ond pan oedd Meirionydd, Eifion, Lleyn, Arfon, a Môn yn cyfansoddi Gwynedd yr oedd prif-ffordd y tywysogion Cymreig yn rhedeg drwy Harlech a Chriccieth i Abermenai, ac yna wrth gwrs i Aberffraw. Os felly, yr oedd yn rhaid fod Niwbwrch, a saif yn y bwlch mwyaf cyfleus drwy y Gefnen Hir, yn lle i aros ar y ffordd i'r prif Lys yn Aberffraw.
Wrth ddarllen hanes Gruffydd ap Cynan ceir gweled fel y darfu i'r tywysog hwnnw fwy nag unwaith, pan yr ymdrechai adennill tywysogaeth Gwynedd, gymeryd Abermenai yn fan cynnull i'w lynges. Gan mai o'r Werddon y byddai bob tro yn cychwyn, yng Nghaergybi y buasai yn glanio pe buasai'r amgylchiadau y pryd hwnnw yn gyffelyb i'r hyn ydynt yn awr; ond yn Abermenai y tiriai yn wastad, a hynny am y rheswm y gallai gwyr o bob rhan o Wynedd gymeryd y brifffordd tuag yno.