Neidio i'r cynnwys

Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Davies, Edward

Oddi ar Wicidestun
Breese, Edward Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Davies, Morris

DAVIES, EDWARD (1819-1894).—A aned ym Mrithdir Mawr, y Pennant, yn Eifionnydd. Yr oedd yn gyfoed â'r Parch. Thomas Ellis, Llanystumdwy. Dechreuodd bregethu'n gynnar. Yn y flwyddyn 1857 symudodd i Borthmadog i gadw masnachdy. Ymaelododd yn y Garth, a chymerodd ran flaenllaw yn ffurfiad eglwys y Tabernacl. Bu'n ffyddlon a gweithgar yno, ac i grefydd y cylch, tra fu buw. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy ac yn Gristion cywir. Yn Adroddiad eglwys y Tabernacl am 1894, dywed y Parch. J. J. Roberts am dano:—"Yr hwn a fuasai mewn undeb â'r achos o'i gychwyniad cyntaf, ac a gymerodd ran amlwg ac effeithiol yn ei holl symudiadau. Un o'r dynion mwyaf duwiol, tangnefeddus, a charuaidd, a adwaenasom erioed; ac y mae ein colled a'n hiraeth am dano yn fawr iawn." Bu farw Rhagfyr 11eg, 1894, a chladdwyd ef ym mynwent gyhoeddus Porthmadog. Yr oedd yn 75 mlwydd oed.

Nodiadau

[golygu]