Neidio i'r cynnwys

Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Davies, Morris

Oddi ar Wicidestun
Davies, Edward Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Ellis, Wil

DAVIES, MORRIS (1796—1876).—Ysgolfeistr, llenor, a bardd. Brodor o Fallwyd ym Meirion. Bu'n cadw ysgol yn Llanfyllin; a dechreuodd bregethu. Yn 1836 rhoddodd swydd ysgolfeistr i fyny, gan fyned i swyddfa cyfreithiwr; a bu'n dilyn hynny am ysbaid ym Mhwll heli a Phorthmadog. Yn 1844 ymgymerodd a chadw Ysgol Pont Ynys Galch. Parhaodd hynny hyd y flwyddyn 1849, pryd y symudodd i Fangor, i fod yn ysgrifennydd masnachol, ac wedi hynny yn glerc yn swyddfa Mr. Lloyd Jones, cyfreithiwr. Bu farw ar y 10fed o Fedi, 1876, yn 80 mlwydd oed. Am dano, tra ym Mhorthmadog, dywed Mr. Job Thomas:—Gellir dywedyd am dano tra yma ei fod yn un a berchid gan bawb. Yr ydoedd yn hynod o lafurus gyda'r ieuengtyd, yn eu hegwyddori, a'u dysgu i ganu. Cyfansoddodd lawer o donau a phennillion dirwestol. Ym mynwent Capel y Garth, Porthmadog, y claddwyd ei fam; ac yr wyf yn meddwl yn sicr mai hi oedd yr ail a gladdwyd yn y fynwent, lle y mae ei beddfaen, ac englyn o waith Mr. Davies arno. A ganlyn yw yr hyn sydd ar y garreg fedd:—

Coffadwriaeth am

MARY MORRIS, Brongamlan, Mallwyd,

Gweddw Richard Morris, gynt o Bennant igi, yn yr un plwyf.

Bu farw yn y dref hon Medi 4ydd, 1847, yn 77 mlwydd oed.

Duwiol oedd, un dawel iawn,—o rodiad
Diw'radwydd ac uniawn;
Cyfyd yr Iesu cyfiawn
Ei llwch i ddedwyddwch llawn.


Bu am yr ysbaid y bu yn dyfod i Dremadog yn ddechreuwr canu yn y capel, ac yn gyfaill mawr i'r Parch. John Jones. Byddai raid iddo gymeryd rhan bob amser yng ngwaith y Society; gwnai hynny yn wylaidd iawn, ond bob amser i bwrpas. Wedi adeiladu capel y Garth, Porthmadog, symudodd yno; ac yno y gwnaed ef yn flaenor, yn yr hon swydd y bu yn ddefnyddiol iawn, nes ymadael oddi yno i Fangor."—(Traethodydd, 1877, tud. 217 a 359: Cerddorion Cymreig (M. O. Jones); Llenyddiaeth Gymreig Ashton, tud. 219 a 526; Y Gwyddoniadur, &c.).

Nodiadau

[golygu]