Neidio i'r cynnwys

Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Evans, John

Oddi ar Wicidestun
Etheridge, John Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Evans, Robert

EVANS, JOHN (1752—1847).—Pregethwr ac ysgolfeistr, ydoedd frodor o Benrhiwgaled, Sir Aberteifi. Cafodd addysg dda ym more'i oes. Bu am gyfnod yn gyd—efrydydd â'r Parch. D. Peters, Caerfyrddin. Bu am gyfnod yn cadw ysgol Mr. Davies, Llanrhydowen, ac ystyrid ef yn well ysgolhaig na'r mwyafrif o'i frodyr. Pan yn 25 oed dechreuodd bregethu gyda'r Annibynwyr; ordeiniwyd ef ym Machynlleth, a bu'n pregethu llawer yn yr ardaloedd cylchynol,—yn Nhowyn, Pennal, Aberhosan, a Dinas Mawddwy. Dioddefodd lawer o erledigaethau yn y cyfnod hwnnw, a bu ei fywyd mewn enbydrwydd rai troion. Yn y flwyddyn 1794 symudodd i Carmel, Amlwch, a bu yno am un mlynedd ar hugain, yn pregethu ac yn cadw ysgol yno. Cafodd ergyd o'r parlys, ac yn 1825 symudodd at ei ferch, oedd yn briod â J. C. Paynter, swyddog y doll ym Mhorthmadog. Er i raddau'n fethedig, yr oedd ei sêl, ei wybodaeth, ei brofiad helaeth, a'i ffyddlondeb, yn gynhorthwy ac yn symbyliad mawr i'r Annibynwyr tra'n cychwyn eu hachos ym Mhorthmadog, lle y treuliodd y ddwy flynedd ar hugain olaf o'i fywyd. Bu farw ar y 7fed o Ragfyr, 1847, yn 95 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Capel Salem.—(Y Dysgedydd, 1870, tud. 84).

Nodiadau

[golygu]